Goblygiadau Bil Dadreoleiddio y DU i Gymru
Cyhoeddwyd 17/10/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau
17 Hydref 2013
Cyhoeddwyd y Bil Dadreoleiddio Drafft ("y Bil Drafft") gan Swyddfa'r Cabinet ar 1 Gorffennaf 2013. Mae'r Bil Drafft yn diwygio neu'n diddymu 182 o ddarnau gwahanol o ddeddfwriaeth, gan ddileu'r hyn a elwir gan Lywodraeth DU yn "feichiau diangen" ar dri phrif grŵp, sef busnesau, unigolion a chymdeithas sifil, a chyrff cyhoeddus. Dywedodd y Gwir Anrhydeddus Ken Clarke QC AS:
"I am as strongly in favour of sensible regulation as the next man, but only where it is necessary to prevent wrongdoing and protect the public. In recent years a mountain of unnecessary legislation has been piled onto the statute book, usually introduced with the most worthy motives. This regulatory burden wastes time and money for hard-working people and ties honest businesses and public bodies in bureaucratic knots".
Cafodd y Cydbwyllgor ar y Bil Dadreoleiddio Drafft (“y Cydbwyllgor”), a gaiff ei gadeirio gan yr Arglwydd Rooker, ei sefydlu gan ddau Dŷ'r Senedd ar 17 Gorffennaf 2013 er mwyn gwneud gwaith craffu cyn deddfu ar y Bil Dadreoleiddio drafft a'r polisïau sy'n sail iddo. Mae'r Cydbwyllgor yn cynnwys chwe AS a chwe Arglwydd. Bydd yn casglu tystiolaeth ysgrifenedig a llafar ac yn gwneud argymhellion mewn adroddiad i'r ddau Dŷ. Mae'n ofynnol i'r Cydbwyllgor gwblhau ei adroddiad erbyn 16 Rhagfyr 2013. Mae'r Cydbwyllgor wedi gwahodd sefydliadau ac unigolion sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig fel rhan o'r ymchwiliad. Un o'r cwestiynau yw: Beth yw goblygiadau'r Bil i'r gweinyddiaethau datganoledig? Mae'r Cydbwyllgor hefyd wedi gofyn am farn y deddfwrfeydd datganoledig, ac mae wedi cytuno i ganiatáu i dystiolaeth ddod i law gan y Cynulliad Cenedlaethol erbyn 11 Hydref.
Yn ôl Llywodraeth y DU, byddai prif fanteision y Bil Drafft yn cynnwys: lleihau neu ddileu beichiau ar fusnesau a chymdeithas sifil a hwyluso twf; lleihau neu ddileu beichiau ar gyrff cyhoeddus, trethdalwyr neu unigolion; a, thacluso'r llyfr statud drwy ddiddymu deddfwriaeth nad yw'n ymarferol mwyach.
Ar 7 Hydref, trafododd Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad (“y Pwyllgor”) nodyn cyngor ar y Bil drafft gan y Gwasanaethau Cyfreithiol. Roedd yn nodi'r hyn a ganlyn:
"Mae'r Bil drafft yn cynnwys 65 o gymalau a 16 o Atodlenni. Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn ymdrin â chael gwared ar y gofynion sy'n gysylltiedig â phynciau penodol, sy'n gysylltiedig i raddau amrywiol â gwahanol rannau'r Deyrnas Unedig. Mewn perthynas â Chymru, mae nifer yn ymwneud â phynciau nad ydynt wedi'u datganoli, fel cyfraith cwmniau, methdaliad a morgludiant rhyngwladol. Mae rhai eraill yn effeithio ar ddeddfwriaeth sy'n gymwys i Loegr yn unig. Mae'r rheini sy'n effeithio ar gyfraith Cymru a Lloegr ynghylch pynciau fel tai a llywodraeth leol yn fwy arwyddocaol. Fodd bynnag, mae archwiliad rhagarweiniol o'r darpariaethau manwl hynny'n awgrymu y cymerwyd gofal i gyfyngu effaith y newidiadau hynny i Loegr yn unig; gweler, er enghraifft, gymalau 20 a 21 sy'n ymwneud â thai".
Fodd bynnag, tynnwyd sylw'r Pwyllgor at y ffaith bod y darpariaethau sy'n ymwneud â deddfwriaeth nad yw bellach o ddefnydd ymarferol (cymalau 50-57) yn peri pryder. Mae cymal 57(2) yn rhoi pŵer i Weinidogion y DU, drwy Orchymyn, ddiddymu deddfwriaeth mewn perthynas ag unrhyw ddarpariaeth a wneir mewn Deddf neu Fesur y Cynulliad Cenedlaethol, neu oddi tanynt, ond dim ond i'r graddau bod y diddymiad yn ddarpariaeth achlysurol, atodol, canlyniadol, trosiannol, dros dro neu arbedol. Fel y mae'r Bil ar hyn o bryd, byddai'n ofynnol cael cydsyniad Gweinidogion Cymru ond nid Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r un peth yn berthnasol i'r Alban a Gogledd Iwerddon ac mae Cymdeithas Cyfreithwyr yr Alban hefyd wedi mynegi pryder ynghylch hyn.
Mae'r Pwyllgor wedi ysgrifennu at gadeirydd y Cydbwyllgor yn nodi:
"Credwn yn gryf y byddai llawer mwy o gyfreithlondeb democrataidd pe bai'n ofynnol i Lywodraeth y DU gael cydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol, yn hytrach na Gweinidogion Cymru, cyn diddymu deddfwriaeth a wnaed gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu sy'n dod o fewn ei gymhwysedd".
Erthygl gan Alys Thomas.