Yr Alban sydd fel arfer yn cael y clod am fod â’r fframwaith cyfreithiol cryfaf yn y byd ar gyfer amddiffyn pobl rhag digartrefedd.
Fodd bynnag, Cymru oedd y genedl gyntaf yn y byd i greu dyletswydd atal statudol i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cynorthwyo unrhyw un sydd mewn perygl o golli ei gartref. At hynny, mae Papur Gwyn newydd, sy’n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, yn amlinellu cynigion ychwanegol sydd â’r nod o wireddu uchelgais Llywodraeth Cymru i sicrhau bod achosion o ddigartrefedd yn brin, yn fyrhoedlog ac nad ydynt yn ailddigwydd.
Mae'r Papur Gwyn hwn yn cyflwyno nifer o ddiwygiadau a wnaed eisoes yn yr Alban, gan gynnwys diddymu’r prawf 'angen blaenoriaethol'. Mae’r prawf hwn yn lleihau faint o help y gall rhywun ei gael oni bai ei fod yn dod o dan rai categorïau penodol, fel bod yn gyfrifol am blant neu fod yn ddigartref ac ar y stryd.
Mae'r Papur Gwyn yn cynnig cryfhau’r ddyletswydd atal bresennol yng Nghymru a hefyd rhoi terfyn ar y prawf 'digartrefedd bwriadol'. Mae'r prawf hwn yn lleihau faint o help y gall rhywun ei gael os bernir ei fod wedi gwneud rhywbeth yn fwriadol i achosi iddo golli ei gartref.
Mae hefyd yn amlinellu cyfres o ddyletswyddau cyfreithiol newydd ar ystod eang o gyrff, gan gynnwys y GIG, gwasanaethau cymdeithasol a chymdeithasau tai, gan gydnabod mai asiantaethau eraill y tu allan i’r system ddigartrefedd sy’n aml â rôl allweddol i ddatrys digartrefedd.
At ei gilydd, mae’r newidiadau deddfwriaethol arfaethedig yn 'arwain y byd', yn ôl Crisis, sef yr elusen a hwylusodd yr adolygiad y mae'r Papur Gwyn yn seiliedig arno.
'Dedfryd o garchar ddi-ddiwedd'
Ym mis Awst 2022, rhoddodd Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, y dasg o ddwyn ynghyd Banel Adolygu Arbenigol i Crisis, gyda’r aelodau’n dod o bob rhan o’r sector tai yng Nghymru, i wneud argymhellion ar ddiwygio deddfwriaethol i roi diwedd ar ddigartrefedd.
Cafodd gwaith y Panel ei lywio gan gyfraniadau mwy na 300 o bobl a oedd wedi cael profiad uniongyrchol o system ddigartrefedd Cymru. Dywedodd y panel:
It was clear that homelessness is traumatic in and of itself, but that our stretched services and systems can sometimes further compound this trauma. Many people told us that various systems presented blockers to getting the support they needed or were ill-equipped to respond to their individual circumstances. Others told us that systems were hard to navigate and left them feeling as though they were in a “never-ending prison sentence”, unsure as to when they could settle into a home and move on in their lives.
Mae'r Papur Gwyn wedi cadw’n weddol agos at argymhellion y Panel Adolygu Arbenigol, gan gynnig:
- cynyddu'r diffiniad o 'dan fygythiad o ddigartrefedd' o 56 diwrnod i chwe mis i annog camau ataliol cynharach;
- diddymu’r prawf angen blaenoriaethol, gan gynnwys 'cyfnod paratoi wedi'i ddiffinio'n glir' i helpu awdurdodau lleol i baratoi;
- diddymu’r prawf digartrefedd bwriadol;
- creu prawf ‘camddefnyddio bwriadol’ newydd i atal rhywun sydd wedi camddefnyddio’r system ddigartrefedd yn fwriadol i gael mantais wrth wneud cais am dai cymdeithasol rhag cael ei flaenoriaethu;
- ychwanegu grwpiau eraill o bobl at y rhestr o eithriadau i'r prawf cysylltiadau lleol, i ganiatáu ar gyfer cysylltiadau â chymunedau nad ydynt yn gysylltiadau teuluol ac i roi rhagor o bwyslais ar y rhesymau pam na all rhywun ddychwelyd i’w awdurdod cartref;
- creu dyletswyddau newydd ar gyrff ehangach, gan gynnwys byrddau iechyd lleol, adrannau gwasanaethau cymdeithasol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, i nodi pobl sydd mewn perygl o ddigartrefedd a’u cyfeirio at gymorth, i gymryd camau i liniaru’r risg o ddigartrefedd ac i gydweithio ag awdurdodau lleol;
- gwella safonau ar gyfer llety dros dro a llety sefydlog;
- cynyddu dyraniadau tai cymdeithasol i aelwydydd digartref; a
- chryfhau hawliau pobl â phrofiad o fod mewn gofal i gael gymorth mewn ymateb i ddigartrefedd, yn unol ag argymhellion gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
Fodd bynnag, mae rhai meysydd lle mae Llywodraeth Cymru wedi dilyn trywydd gwahanol i’r Panel Adolygu Arbenigol. Er enghraifft:
- argymhellodd y Panel Arbenigol y dylai fod dyletswydd ar landlordiaid preifat i gyfeirio at wasanaeth digartrefedd awdurdod lleol pan fyddant yn cyflwyno hysbysiad ynghylch cymryd meddiant – nid yw Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd y cam hwn yn cael ei gynnwys yn y Bil ond dywedodd ‘ei bod yn fwy priodol iddo gael ei ystyried fel rhan o adolygiad parhaus o Rhentu Doeth Cymru ac fel rhan o waith datblygu polisi a wneir ar yr un pryd mewn perthynas â thai digonol, rhenti teg a fforddiadwyedd’;
- argymhellodd y Panel y dylai ysgolion fod ymhlith y cyrff sy’n destun y ddyletswydd i nodi ac chyfeirio – dywedodd y Papur Gwyn y byddai’r cynnig hwn yn destun profion pellach, yng ngoleuni’r ymrwymiadau diweddar gan Lywodraeth Cymru i leihau’r llwyth gwaith a biwrocratiaeth y disgwylir i staff ysgol ei ysgwyddo.
Arbedion tymor hir
Mae’r Papur Gwyn wedi’i gyhoeddi yn ystod cyfnod hynod heriol, gyda 11,185 o bobl mewn llety dros dro, gan gynnwys 996 o blant dibynnol dan 16 oed mewn llety gwely a brecwast a gwestai.
Mae’r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd, sy’n cynghori’r Gweinidog ar bolisi digartrefedd, yn ddiweddar wedi nodi’r 'cyd-destun anodd ar gyfer gwasanaethau digartrefedd, wedi'i waethygu gan bwysau costau byw.'
Mewn dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 18 Hydref, bu Aelodau o’r Senedd yn trafod datrysiadau posibl, gan gynnwys yr angen i gynyddu nifer y tai fforddiadwy sydd ar gael a'r angen i ariannu gwasanaethau cymorth yn ddigonol sy’n helpu pobl i gadw eu cartrefi.
Pwysleisiodd y Panel Adolygu Arbenigol na fyddai newid y gyfraith ar ei ben ei hun yn arwain at roi diwedd ar ddigartrefedd:
Although changes to the law certainly set clear baseline standards, these standards will not be consistently met without sufficient investment in the required resources, including revenue funding for support services, staffing capacity, and housing supply.
Hefyd, gwnaeth Llywodraeth Cymru gydnabod y 'bydd angen buddsoddiad sylweddol i roi'r diwygiadau ar waith'. Bydd yn rhaid aros i weld faint o fuddsoddiad sydd ei angen: dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd fersiynau'r dyfodol o'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft yn darparu mwy o fanylion, ond dywedodd hefyd fod angen cyfrif costau ymlaen llaw yn erbyn y potensial ar gyfer arbedion.
Gan ddefnyddio gwaith ymchwil gan PricewaterhouseCoopers, mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif y sicrheir arbedion blynyddol yn y tymor hwy o rhwng £32 miliwn a £212 miliwn mewn perthynas â phobl sy'n ddigartref mewn llety dros dro ac, yn seiliedig ar yr arbediad cyfartalog sy'n gysylltiedig ag atal digartrefedd, arbediad posibl ychwanegol o tua £100 miliwn.
Y camau nesaf
Bydd Bil yn dilyn y Papur Gwyn yn ystod tymor y Senedd hon. Er nad yw’r union amserlen wedi’i chyhoeddi, mae’r bwlch o bum niwrnod rhwng cyhoeddi adroddiad y Panel Adolygu Arbenigol a’r Papur Gwyn yn awgrymu bod Llywodraeth Cymru yn gweithio yn ôl amserlen dynn.
Yn y cyfamser, mae Llywodraeth yr Alban yn bwrw ymlaen â'i chynigion ei hun i greu dyletswyddau atal statudol. P’un ai Cymru ynteu’r Alban sy’n ennill y wobr am ‘arwain y byd’ o ran deddfwriaeth ym maes digartrefedd, mae’n siŵr y bydd y ddwy wlad yn parhau i rannu gwersi â’i gilydd ac â chenhedloedd eraill sy’n ceisio rhoi diwedd ar ddigartrefedd.
Cofiwch wylio Senedd.tv ddydd Iau i glywed y Gweinidog Newid Hinsawdd yn rhoi tystiolaeth ar dai i’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.
Erthygl gan Jennie Bibbings, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru