Gallai Aelod-wladwriaethau wynebu camau cyfreithiol os nad ydynt yn gweithredu i ddiogelu crynofeydd dŵr

Cyhoeddwyd 07/04/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

07 Ebrill 2015 Erthygl gan Harriet Howe, Gwasanaeth Ymchwil Cenedlaethol Cynulliad Cymru [caption id="attachment_2725" align="alignright" width="400"]Llun o ddŵr yn llifo Llun flickr gan Chris_Parfitt, wedi'i drwyddedu o dan Creative Commons[/caption] Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi rhybuddio Aelod-wladwriaethau, os nad ydynt yn gweithredu'r newidiadau sydd eu hangen i fodloni'r targedau a nodir yn y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, gallent wynebu camau cyfreithiol. Nododd adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2015 y gallai'r Comisiwn fynd ar drywydd achosion o dorri'r rheolau mewn perthynas ag Aelod-wladwriaethau os nad oes mwy yn cael ei wneud i weithredu strategaethau gyda'r nod o wella statws cemegol ac ecolegol eu crynofeydd dŵr. O dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, bydd gofyn i bob crynofa dŵr daear a phob crynofa dŵr wyneb, boed yn fewndirol neu'n arfordirol (hyd at bellter o 1 filltir forol), gael 'statws da' o leiaf erbyn diwedd 2015. I gael statws da, mae'n rhaid i grynofeydd dŵr fodloni cyfres o safonau cemegol ac ecolegol a bennir gan yr UE. Mae'r rhain yn cymryd i ystyriaeth ffactorau fel llygredd, planhigion, pysgod a phryfed, a thynnu dŵr. Gyda'r dyddiad cau yn 2015 yn dynesu, mae'r Comisiwn wedi mynegi pryder ynghylch disgwyliadau na fydd rhai Aelod-wladwriaethau yn bodloni'r targedau hyn, gan adrodd bod dros hanner crynofeydd dŵr wyneb yr UE yn annhebygol o gael "statws ecolegol da" erbyn diwedd 2015. Mae'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yn caniatáu eithriadau, lle mae'r rhwystrau economaidd, technegol neu naturiol y mae crynofeydd dŵr unigol yn eu hwynebu yn golygu bod bodloni targed 2015 yn anymarferol. Fodd bynnag, mae'r adroddiad yn ychwanegu bod cyfiawnhad Aelod-wladwriaethau dros nifer o'r eithriadau hyn wedi bod yn anfoddhaol. O dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, mae gwledydd yn gyfuniad o 'ardaloedd basn afon'. Mae'r term hwn yn cyfeirio at grŵp o ddalgylchoedd sy'n cynnwys crynofeydd dŵr wyneb a chrynofeydd dŵr daear. Mae'n ofynnol ar Aelod-wladwriaethau i wella cyflwr y crynofeydd dŵr hyn drwy Gynlluniau Rheoli Basnau Afonydd. Rhaid i'r cynlluniau hyn gynnwys mesurau sylfaenol gorfodol fel rheolaethau ar lygredd gwasgaredig a thynnu dŵr. Dylent hefyd gynnwys manylion am unrhyw fesurau ychwanegol y bydd eu hangen, o bosibl, i fodloni'r targedau 'statws da' a bennir yn y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Mae adroddiad y Comisiwn yn awgrymu bod Aelod-wladwriaethau ond wedi ystyried i ba raddau y bydd y strategaethau presennol yn eu Cynlluniau Rheoli Basn Afon yn eu galluogi i fodloni targedau'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, yn hytrach nag ystyried unrhyw gamau pellach y bydd angen eu cymryd. Nodir yn yr adroddiad:
Member States need to identify the most cost-effective combination of measures that are needed to fill in the gap between water’s current status and ‘good status’.
Mae gan Gymru dair ardal basn afon. Mae ardal Gorllewin Cymru yn ei chyfanrwydd wedi'i lleoli o fewn ffiniau Cymru, ac fe'i rheolir gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Mae ardaloedd Hafren a Dyfrdwy yn croesi'r ffin â Lloegr, ac fe'u rheolir gan Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyfoeth Naturiol Cymru yn y drefn honno. Cyhoeddwyd y Cynlluniau Rheoli Basn Afon diweddaraf ar gyfer y tair ardal hon yn 2010 (mewn perthynas â chrynofeydd dŵr daear) ac yn 2011 (mewn perthynas â chrynofeydd dŵr wyneb). Ar hyn o bryd, mae'r ddwy asiantaeth yn ymgynghori ar y broses o ddiweddaru'r Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd hyn, gyda'r nod o'u cyhoeddi ym mis Rhagfyr 2015. Yn 2012 dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru mai dim ond 37% o'r crynofeydd dŵr yng Nghymru sydd â 'statws ecolegol da'. Cynyddodd y ffigur hwn i 42% yn 2014. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi datgan ei fod yn disgwyl i 50% o'r crynofeydd dŵr yng Nghymru i gael 'statws ecolegol da' erbyn 2015. Ceir rhagor o wybodaeth yn yr hysbysiad hwylus newydd hwn a luniwyd gan y Gwasanaeth Ymchwil; Ansawdd Dŵr yng Nghymru View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg