The harm loneliness can cause, both physically and mentally, can be devastating to people of all ages - it is a serious public health concern which studies suggest can be as harmful as smoking 15 cigarettes a day (Holt-Lunstad a Smith, y cyfnodolyn PLOS Medicine)
Bydd Wythnos Iechyd Meddwl Plant 2023 yn cael ei chynnal yr wythnos hon, rhwng 6 a 12 Chwefror. Mae'n cael ei chynnal gan Place2Be, elusen iechyd meddwl plant sydd am godi ymwybyddiaeth ynghylch pwysigrwydd iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Mae tua pump plentyn ym mhob ystafell ddosbarth yn dioddef o broblem iechyd meddwl, ac mae llawer mwy ohonynt yn brwydro yn erbyn heriau fel bwlio neu brofedigaeth.
Thema iechyd meddwl eleni yw Gadewch i ni Gysylltu:
Let’s Connect is about making meaningful connections. People thrive in communities, and this connection is vital for our wellbeing. When we have healthy connections – to family, friends and others – this can support our mental health and our sense of wellbeing (Place2Be).
Siawns ei bod yn ymddangos yn rhyfedd bod elusen plant wedi canolbwyntio ar unigrwydd ac ynysigrwydd. Mae unigrwydd yn aml yn gysylltiedig â phobl hŷn (ac felly’n cael ei hystyried yn broblem sy’n ymwneud â heneiddio). Fodd bynnag, gall unrhyw un ddioddef o unigrwydd ac ynysigrwydd. Mae’r elusen iechyd meddwl Mind yn egluro nad yw unigrwydd, o reidrwydd, yn golygu bod ar eich pen eich hun. Mae’n nodi mai’r teimlad o unigedd ydyw, hyd yn oed ym mhresenoldeb eraill.
Mae'r erthygl hon yn archwilio pam y dewiswyd y thema 'Gadewch i ni Gysylltu’, a’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael ag unigrwydd ymhlith plant a phobl ifanc.
Unigrwydd fel problem gymdeithasol
Nid yw teimlo'n unig yn broblem iechyd meddwl ynddo'i hun, ond mae cysylltiad cryf rhwng y ddau beth. Mae Mind yn egluro y gall teimlo’n unig gael effaith negyddol ar iechyd meddwl plentyn neu berson ifanc. Mae'n cynyddu'r risg o iselder, gorbryder a phroblemau cysgu. Mae’n arwain at berygl y bydd pobl ifanc yn defnyddio dulliau ymdopi fel ysmygu, yfed yn ormodol neu gymryd cyffuriau. Gall hefyd arwain at batrymau bwyta anhrefnus a gordewdra.
Mae ymchwil gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn dangos bod oedolion iau, yn y cyfnod cyn y pandemig, yn fwy tebygol o deimlo’n unig na phobl mewn carfannau hŷn. Canfu'r ymchwil fod oddeutu 10 y cant o bobl rhwng 16 a 24 oed yn unig "bob amser neu yn aml" – y gyfran uchaf mewn unrhyw grŵp oedran. Roedd y gyfran hon fwy na thair gwaith yn fwy na’r gyfran ar gyfer pobl a oedd yn 65 oed neu’n hŷn.
Mae tua 11 y cant o blant rhwng 10 a 15 oed, 16 y cant o blant 12 oed a 13 y cant o bobl ifanc 18 oed yn unig “yn aml”.
Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi deunydd helaeth ynghylch 'Pwy sy'n unig yng Nghymru', ac wedi rhannu ei syniadau ar gyfer mynd i’r afael ag unigrwydd.
Mae darn arall o waith ymchwil wedi datgelu’r posibilrwydd bod plant a phobl ifanc, yn sgil y pandemig, yn fwy unig nag erioed (ac yn fwy unig nag unrhyw grŵp oedran arall). Mae costau byw hefyd yn debygol o effeithio ar lefelau unigrwydd. Heb os, mae diffyg arian yn effeithio ar allu person i gymryd rhan mewn gweithgareddau, ac yn cael effaith negyddol ar lesiant emosiynol plant a phobl ifanc.
Mynd i’r afael ag unigrwydd
Yn 2019, gwnaeth Llywodraeth Cymru addewid i ddarparu £1.4 miliwn er mwyn cefnogi ei strategaeth gyntaf erioed ar unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol. Mae’r strategaeth yn cynnwys gweledigaeth ar gyfer cefnogi pobl sy’n agored i unigrwydd. Ei nod yw creu diwylliant lle mae'n iawn dweud eich bod yn unig, heb stigma na chywilydd. Mae siarad yn fwy agored am unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol yn cael ei weld fel ateb posibl i’r broblem hon.
Mae'r strategaeth yn cydnabod bod plant a phobl ifanc mewn perygl. Mae'n dilyn dull gweithredu cyffredinol o ran hyrwyddo llesiant plant, drwy ledaenu negeseuon cyhoeddus a chynnal gweithgareddau mewn ysgolion i feithrin gwydnwch ymhlith unigolion (gweler Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion).
Mae pwysigrwydd perthnasoedd cryf wrth i blant a phobl ifanc symud drwy eu bywydau yn greiddiol i ddull ysgol gyfan Llywodraeth Cymru.. Efallai y bydd angen cymorth ychwanegol yn yr ysgol ar rai plant a phobl ifanc, ynghyd ag ymyriadau wedi’u targedu neu gymorth arbenigol. Yn gyffredinol, fodd bynnag, 'cysylltiadau cymdeithasol' – sef y cysylltiadau a wneir yn yr ysgol, drwy weithgareddau cymdeithasol a chlybiau, drwy wirfoddoli a threulio amser gyda'r teulu – yw ffocws gwaith ataliol Llywodraeth Cymru.
Gwnaed y pwynt hwn gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd yn ei adroddiad diweddar, Cysylltu'r dotiau'. Mae’n disgrifio perthnasoedd a chysylltiadau yn amodau allweddol sydd eu hangen ar i bobl ffynnu, gan ddweud bod perthnasoedd diogel a chefnogol gyda theuluoedd, ffrindiau a chymunedau yn darparu diogelwch, ystyr, pwrpas ac ymddiriedaeth.
Fel y nodwyd eisoes, mae’n amlwg bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc. Fodd bynnag, mae diffyg tystiolaeth ynghylch y ffyrdd mwyaf effeithiol o leihau unigrwydd ymhlith pobl ifanc. Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi nodi’r ffaith nad yw’n glir a yw ymyriadau’n cael yr effaith a ddymunir.
Yn ddiweddar, ymatebodd Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog, i gais gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd am ddiweddariad cynnydd ynghylch gwella iechyd meddwl plant. Roedd yr ymateb hwnnw’n brin o fanylion ar bob agwedd ar iechyd meddwl plant. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi dweud llawer o ddim am effaith benodol unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol ar blant a phobl ifanc. Mae’n bosibl y bydd hyn yn synnu rhai pobl, o ystyried perthnasedd y mater hwn i gyd-destun COVID-19, a phwysigrwydd cefnogi plant a phobl ifanc i ailsefydlu cysylltiadau cymdeithasol, fel rhan o ddull ehangach o feithrin gwydnwch a llesiant.
Cysylltu mewn ffyrdd iach ac ystyrlon
Mae’n werth nodi hefyd fod strategaeth Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at y cyfryngau cymdeithasol a’r rhyngrwyd fel pethau sydd “yn dda a drwg”. Mae’n cydnabod y gall cyfryngau cymdeithasol fod yn “llwybr sy’n arwain at fwlio, aflonyddu a phwysau cymdeithasol, a all achosi, neu gyfrannu at ymdeimlad plentyn o ynysigrwydd cymdeithasol ac unigrwydd”. Nid yw'r strategaeth yn darparu llawer o fanylion ynghylch mynd i’r afael ag effaith cyfryngau cymdeithasol ar iechyd meddwl a lles plant, y tu hwnt i gydnabod y peryglon sydd ynghlwm wrth seiberfwlio a throseddu.
Mae'r Sefydliad Iechyd Meddwl wedi nodi, er y gall pobl ifanc gael miloedd o ffrindiau ar-lein, gallant deimlo’n ynysig a theimlo fel nad oes ganddynt gefnogaeth. Siawns ei bod yn wir bod gan rai pobl ifanc nifer fawr o ffrindiau ond ychydig iawn o gwmni.
Dyna pam mae Place2Be yn dweud 'Gadewch i ni Gysylltu' yn ystod Wythnos Iechyd Meddwl Plant 2023.
Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru