- Bodloni gofynion rheoleiddio deddfwriaeth y Polisi Amaethyddol Cyffredin;
- Talu ffermwyr cyn gynted â phosibl o fewn y ffenestr dalu yn 2015;
- Symud pob hawliwr at gyfradd dalu gyffredin erbyn 2019;
- Darparu cymaint o amser â phosibl i ffermwyr addasu i'r system newydd;
- Lleihau'r aflonyddwch ariannol i'r diwydiant ffermio;
- Caniatáu i ffermwyr newydd yn y diwydiant ffermio hawlio taliadau; a
- Chydnabod efallai y bydd angen lefelau gwahanol o daliad ar wahanol fathau o ffermydd.
- Bydd Cymru yn derbyn €322 miliwn y flwyddyn mewn cymorth taliad uniongyrchol i ffermwyr erbyn 2019.
- Mae hyn gyfwerth ag 8.9 y cant o gyfran y DU o'r €25.1 biliwn dros gyfnod 2014-2020.
- Bydd Cymru yn derbyn €355 miliwn ychwanegol i gefnogi ei chynllun datblygu gwledig ar gyfer 2014-2020.
- Mae 16,958 o ffermwyr wedi cyflwyno cais i dderbyn taliad uniongyrchol a chymorth arall gan y Polisi Amaethyddol Cyffredin erbyn 9 Mehefin 2015.
- Amcangyfrifwyd yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru fod 80 i 90 y cant o incymau rhai ffermwyr yng Nghymru yn dod o gymorth taliad uniongyrchol o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin.
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru - amrywiol
Pam mae canlyniad yr ymgynghoriad yn bwysig? Ni waeth pa opsiwn a ddewisir, bydd newid i'r system dalu newydd yn golygu newid sylweddol i'r diwydiant ffermio yng Nghymru, gan fod y ffordd y mae'r system cynllun taliad sylfaenol yn gweithio yn penderfynu pa ffermwyr fydd yn cael y cymorth mwyaf. Bydd symud o'r model hanesyddol blaenorol o ddosbarthu taliadau uniongyrchol i opsiwn newydd, ni waeth beth yw'r dyluniad, yn golygu y bydd rhai ffermwyr yn cael llawer yn llai o gymorth na'r oeddent yn arfer ei gael a bydd ffermwyr eraill ar eu hennill. O ystyried lefelau cyfredol y cyfnewidioldeb ym marchnadoedd y byd, mae undebau amaethwyr wedi dadlau nad yw darparu sicrwydd i ffermwyr ynghylch faint o gymorth ariannol y gallant ddisgwyl ei gael dros y saith mlynedd nesaf erioed wedi bod mor bwysig. Mewn ymateb i alwad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i randdeiliaid nodi eu blaenoriaethau allweddol ar gyfer y diwydiant ffermio ar gyfer y 12 mis nesaf, nododd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU) Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) y gwaith o weinyddu'r Polisi Amaethyddol Cyffredin a thaliadau uniongyrchol i ffermwyr fel y flaenoriaeth allweddol. Gallwch ddarllen am eu blaenoriaethau eraill a blaenoriaethau rhanddeiliaid eraill ar wefan y Pwyllgor. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg