Cyhoeddwyd 15/03/2016
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
15 Mawrth 2016
Erthygl gan Andrew Minnis, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
[caption id="attachment_4865" align="alignnone" width="682"]
Llun o Flickr gan Richardjo53. Trwydded Creative Commons[/caption]
Cymerodd gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ffordd liniaru'r M4 i'r de o Gasnewydd, rhwng cyffyrdd 23 a 29 o'r ffordd bresennol, gam arall ymlaen ar 10 Mawrth.
Cafodd nifer sylweddol o ddogfennau eu cyhoeddi yn nodi cam allweddol yn y broses o gynllunio a chyflawni.
Hefyd, cafodd deg o arddangosfeydd cyhoeddus eu cyhoeddi, lle y gall y cyhoedd weld gorchmynion drafft, gwybodaeth amgylcheddol ac adroddiadau a deunyddiau cysylltiedig eraill.
Mae'r erthygl hon yn esbonio beth sydd wedi'i gyhoeddi a beth sy'n digwydd nesaf.
Beth sydd wedi'i gyhoeddi?
Mae nifer eithaf sylweddol o ddogfennau wedi'u cyhoeddi mewn tri maes.
Gorchmynion Drafft a Thystysgrifau Statudol
Mae pedwar o orchmynion drafft wedi'u cyhoeddi gan ddefnyddio pwerau a roddwyd o dan
Ddeddf Priffyrdd 1980:
Disgwylir i ddwy ddogfen arall gael eu cyhoeddi ar 24 Mawrth 2016:
- Gorchymyn prynu gorfodol drafft yn rhoi pwerau i gaffael y tir sydd ei angen i adeiladu'r ffordd; a
- Thystysgrifau Adran 19, o dan adran 19 o Ddeddf Caffael Tir 1981, yn rhoi pwerau i ddisodli tir comin a rhandiroedd.
Datganiad amgylcheddol
Mae'r
Datganiad Amgylcheddol yn nodi asesiad Llywodraeth Cymru o'r prif effeithiau amgylcheddol y mae wedi eu nodi yn ystod y gwaith datblygu. Mae'n disgrifio sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu lliniaru effaith y ffordd.
Mae'r datganiad ei hun yn ddogfen enfawr. Fodd bynnag, mae'r
Datganiad Amgylcheddol – Crynodeb Annhechnegol yn rhoi fersiwn fwy hylaw o'r canfyddiadau. Yn benodol, mae'n crynhoi asesiadau amgylcheddol arbenigol gan ystyried yr effaith mewn meysydd fel:
- draenio ffyrdd a llifogydd;
- ansawdd aer;
- treftadaeth ddiwylliannol;
- tirwedd ac effaith weledol;
- ecoleg a chadwraeth natur;
- daeareg a phriddoedd;
- sŵn a dirgrynu; a'r
- effaith ar asedau cymunedol a phreifat.
Adroddiadau Cysylltiedig
Hefyd, mae ystod o adroddiadau cysylltiedig eraill bellach ar gael, gan gynnwys adroddiad yn asesu'r cynllun, adroddiad datblygu cynaliadwy, adroddiadau ar asesiad economaidd o'r cynllun ac adroddiad ar ragolygon o ran traffig.
Mae'r
adroddiad yn asesu'r cynllun yn rhoi trosolwg defnyddiol o'r hyn sy'n digwydd. Mae'n crynhoi agweddau allweddol ar y cynllun nad ydynt yn ymwneud â'r amgylchedd, gan gynnwys manylion am y llwybr, seilwaith cerdded a beicio, y cyffyrdd, pontydd a strwythurau eraill sydd eu hangen, a'r ffordd y mae'r cynllun yn effeithio ar gysylltedd drwy ffyrdd ymyl.
Mae tri deg pump o bontydd wedi'u cynllunio, gan gynnwys pont dros yr Afon Wysg / Dociau Casnewydd, yn ôl pob tebyg i geisio mynd i'r afael â phryderon gan Associated British Ports y byddai'r ffordd newydd yn cael effaith negyddol ar waith Porthladd Casnewydd.
Mae'r adroddiad hefyd yn dweud y byddai angen cyfanswm o tua 721 hectar o dir ar gyfer y cynllun, gan gynnwys tir sydd ei angen dros dro ar gyfer adeiladu'r ffordd. Dywedir bod y tir hwn yn cynnwys ardaloedd o ddiddordeb amgylcheddol a hanesyddol. Bydd yn rhaid dymchwel 12 o adeiladau preswyl er mwyn adeiladu'r ffordd, pump ohonynt eisoes yn eiddo i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys un adeilad rhestredig Gradd II.
Mae'r asesiad hefyd yn nodi'r effaith ar dagfeydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei disgwyl. Yn gyffredinol, disgwylir i gyfanswm y cerbydau sy'n trosglwyddo o'r M4 bresennol o amgylch Casnewydd Rhagwelir fod rhwng 45 y cant a 48 y cant (yn codi i 60 y cant drwy'r twnnel oherwydd bod llai o symudiadau lleol drwy'r twnnel). Disgwylir i lefel y cerbydau nwyddau trwm sy'n trosglwyddo wrth y twnnel fod tua 75 y cant.
A ydym yn gwybod mwy am y gost erbyn hyn?
Ydyn. Mae'r ddogfennaeth yn cynnwys amcangyfrifon cost. Er bod y Prif Weinidog
wedi dweud wrth y Cynulliad ar 12 Mai 2015 y byddai'r ffordd liniaru yn costio ymhell o dan £1 biliwn, mae'r dogfennau hyn yn awgrymu y bydd
cyfanswm y gost yn uwch.
Er mai'r gost adeiladu a amcangyfrifir yn yr asesiad yw £857 miliwn, mae'r amcangyfrif ar gyfer y prosiect sydd wedi'i gynnwys yn yr adroddiad yn asesu'r cynllun (hynny yw, gan gynnwys gwaith gan eraill, cost tir, iawndal a chostau risg y prosiect / optimistiaeth) yn dod i £1.093 biliwn. Mae'n werth nodi mai amcangyfrif ar gyfer y prosiect, heb gynnwys TAW a chwyddiant, yw'r ffigurau hyn.
Hefyd, mae'r
arfarniad economaidd (seasneg yn unig) yn nodi costau pellach o tua £38.19 miliwn, yn cynnwys costau o £16.19 miliwn ar gyfer ailgyflunio Cyffordd Caerllion, sydd y tu allan i gwmpas y prif gontract. Amcangyfrifir mai cyfanswm y gost ar gyfer gwerthusiad economaidd, felly, fydd £1.131 biliwn.
Mae'r asesiad yn ei gwneud yn glir y byddai'r prosiect yn cael ei ariannu drwy gyfuniad o fenthyciad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a chyllideb drafnidiaeth Llywodraeth Cymru. Mae'n rhagweld y bydd tri chwarter o gostau'r prosiect yn cael ei wario yn y gadwyn gyflenwi yng Nghymru, ac yn amcangyfrif mai'r gymhareb cost a budd fydd 2.83 (hynny yw, adennill £2.83 am bob £1 sy'n cael ei wario).
Beth sy'n digwydd nesaf?
Gwahoddir y cyhoedd i ymateb i Lywodraeth Cymru o ran y gorchmynion drafft a'r datganiad amgylcheddol erbyn 4 Mai 2016.
Yn dibynnu ar yr ymatebion hyn, bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu a ddylid cynnal
Ymchwiliad Lleol Cyhoeddus (seasneg yn unig) . Os ydynt yn gwneud hynny, mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd hyn yn digwydd yn yr hydref / gaeaf yn 2017. Wedyn, yn dilyn adroddiad yr arolygydd, bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu a ddylid bwrw ymlaen â'r cynllun.
Os byddant yn penderfynu bwrw ymlaen, a
heb unrhyw her gyfreithiol bellach (seasneg yn unig), disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau yn y gwanwyn yn 2018, gyda'r ffordd yn agor yn yr hydref yn 2021. Ar hyn o bryd, disgwylir i'r gwaith i droi llwybr yr M4 bresennol yn gefnffordd ddechrau dod i ben yn yr hydref yn 2022.
View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg