Dyma lun o ddisgybl ysgol yn defnyddio ffôn clyfar

Dyma lun o ddisgybl ysgol yn defnyddio ffôn clyfar

Ffonau clyfar mewn ysgolion: offeryn defnyddiol neu ymyriad niweidiol?

Cyhoeddwyd 09/05/2025   |   Amser darllen munudau

Mae ffonau symudol yn rhan gynyddol o fywydau plant a phobl ifanc ac mae llawer o drafod ynghylch i ba raddau y mae hyn yn gadarnhaol neu'n negyddol. Ar 29 Ebrill 2025, pasiodd y Ffindir ddeddfwriaeth yn cyfyngu ar y defnydd o ffonau a dyfeisiau symudol eraill yn ystod y diwrnod ysgol oherwydd ofnau am eu heffaith ar lesiant a dysgu myfyrwyr.

Ddydd Mawrth 13 Mai, bydd Aelodau o'r Senedd yn trafod adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar ddeiseb yn galw am wahardd ffonau clyfar mewn ysgolion yng Nghymru, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.

Faint o blant sydd â ffonau ac yn mynd â nhw i'r ysgol?

Ym mis Hydref 2024, canfu arolwg ciplun gan Gomisiynydd Plant Cymru bod 62% o blant ysgol gynradd yng Nghymru yn berchen ar ffôn clyfar a bod 77% yn mynd ag ef i'r ysgol. Mewn ysgolion uwchradd, cododd hyn i 97% o ddysgwyr â ffonau clyfar a 94% yn dweud eu bod yn mynd â nhw i'r ysgol. O ystyried yr ystadegau hyn, bu llawer o alwadau am ganllawiau cryfach gan y llywodraeth ar sut y dylai ysgolion ymateb. Yn 2023, adroddodd UNESCO bod bron i un o bob pedair gwlad yn fyd-eang wedi cyflwyno gwaharddiadau ar ffôn symudol mewn ysgolion. Mae un o bob saith gwlad yn gwahardd ffonau symudol mewn ysgolion o dan y gyfraith.

Beth yw'r problemau o ran cael ffonau clyfar mewn ystafelloedd dosbarth?

Iechyd meddwl a llesiant

Canfu adroddiad yn 2019 gan Brif Swyddogion Meddygol y DU gysylltiad rhwng gweithgareddau sgrin ac iechyd meddwl gwael. Fodd bynnag, nid oedd yr ymchwil yn gallu profi perthynas achosol. Yn dilyn hyn, ym mis Tachwedd 2024, lansiodd Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg Llywodraeth y DU brosiect ymchwil sy'n anelu at roi hwb i'r sylfaen dystiolaeth o amgylch niwed ar-lein. Bydd cam cyntaf y prosiect yn archwilio pa ddulliau fydd orau i helpu'r llywodraeth i ddeall effaith y defnydd o ffonau clyfar a chyfryngau cymdeithasol ar iechyd a datblygiad plant a phobl ifanc.

Y llynedd, clywodd adroddiad gan Bwyllgor Addysg Senedd y DU dystiolaeth yn awgrymu bod amser sgrin yn cael effaith negyddol ar y cyfan ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Clywodd y pwyllgor fod plant a phobl ifanc mewn perygl o ddod ar draws niwed ar-lein wrth ddefnyddio sgriniau. Mae hyn yn cynnwys seiberfwlio, hiliaeth, cam-drin a chasineb yn erbyn merched, pornograffi, a deunydd yn hyrwyddo trais a hunan-niwed. Croesawodd y Pwyllgor y penderfyniad i weithredu gwaharddiad llymach o ran ffonau symudol mewn ysgolion yn Lloegr. Daeth i'r casgliad ei bod yn amlwg y gall gwaharddiad gael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a chanlyniadau addysgol plant.

Effaith ar gyrhaeddiad addysgol

Clywodd y Pwyllgor Addysg yn San Steffan hefyd fod ffonau clyfar a chyfrifiaduron yn tarfu ar ddysgu disgyblion gartref ac yn yr ystafell ddosbarth. Canfu'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygu Economaidd (OECD), bod 65% ar gyfartaledd, o bobl ifanc 15 oed, ar draws gwledydd yr OECD yn dweud bod y defnydd o ddyfeisiau digidol, gan gynnwys ffonau, wedi tynnu eu sylw mewn o leiaf rai dosbarthiadau mathemateg gyda 59% o ddisgyblion yn dweud bod defnydd disgyblion eraill o ddyfeisiau digidol wedi tynnu eu sylw

Awgrymodd yr adroddiad hefyd fod data o'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) yn dangos cysylltiad amlwg rhwng defnyddio dyfeisiau digidol mewn ysgolion a deilliannau dysgu. Fodd bynnag, canfu ymchwilwyr yng Ngholeg y Brenin, Llundain, pan oedd rheolaeth ar gyfer rhyw, dosbarth cymdeithasol ac ymddygiad yn yr ysgol, fod data PISA yn dangos bod myfyrwyr mewn ysgolion gyda gwaharddiadau ar ffonau mewn gwirionedd wedi arwain at gyflawniad is ar draws eu sgoriau prawf PISA na’r rhai mewn ysgolion oedd yn caniatáu defnyddio ffonau. Daethant i’r casgliad y dylid ymchwilio i'r berthynas rhwng ystod o newidynnau – nid dim ond tynnu sylw myfyrwyr – wrth ystyried gwahardd ffonau symudol i gefnogi llunwyr polisi wrth benderfynu gweithredu gwaharddiadau ffonau mewn ysgolion.

Ymddygiad disgyblion

Mae adroddiad ymchwil yn 2023 gan Lywodraeth yr Alban ar ymddygiad disgyblion yn dangos mai’r defnydd camdriniol o ffonau symudol a thechnolegau digidol yw un o'r ymddygiadau aflonyddgar difrifol a oedd i’w weld amlaf gan staff ysgolion uwchradd.

A oes unrhyw ddefnydd cadarnhaol o ffonau clyfar mewn ysgolion?

Clywodd adroddiad Pwyllgor Addysg Senedd y DU dystiolaeth yn amlinellu rhai manteision cadarnhaol i ddefnyddio dyfeisiau digidol. Dywedodd yr NSPCC wrtho fod manteision sylweddol o fod ar-lein i blant LHDTC+. Roedd y rhain yn cynnwys y cyfle i greu cymunedau a chanfod cefnogaeth gan eraill a allai fod yn mynd drwy brofiadau tebyg. Dywedon nhw hefyd fod y defnydd o sgriniau wedi arwain at leihad mewn teimladau o unigrwydd mewn rhai plant a helpu i gynnal a meithrin cyfeillgarwch drwy gyfryngau cymdeithasol neu gemau ar-lein.

Canfu arolwg ciplun y Comisiynydd Plant bod 45% o ddisgyblion ysgol uwchradd yn defnyddio eu ffôn clyfar yn yr ysgol ar gyfer gwaith ysgol a dysgu, a dywedodd 61% o ddysgwyr ysgol gynradd a aeth â'u ffonau i'r ysgol ei fod wedi eu helpu i deimlo'n ddiogel, yn ogystal ag anfon negeseuon at deulu a ffrindiau,

Beth sy'n digwydd yng Nghymru?

Mewn ymateb i Gwestiwn Llafar ar 12 Tachwedd 2024, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle AS, fod pob ysgol ar hyn o bryd yn gallu gwahardd ffonau symudol os ydyn nhw'n dymuno. Dywedodd hefyd fod polisïau ar ddefnyddio ffôn symudol o fewn y diwrnod ysgol yn fater i ysgolion a chyrff llywodraethu fynd i'r afael â nhw.

Mae’r defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion wedi’i gynnwys yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru ‘Dulliau Ymarferol o Reoli Ymddygiad yn yr Ystafell Ddosbarth‘ (2012) Yn ôl arolwg y Comisiynydd Plant, roedd gan 68% o'r ymatebion o ysgolion cynradd gyfyngiadau tra bod 91% o ddysgwyr mewn ysgolion uwchradd yn yr arolwg yn dweud nad oeddent yn cael defnyddio eu ffonau yn y dosbarth.

Beth sy'n digwydd yng ngweddill y DU?

Ym mis Chwefror 2024, cyhoeddodd yr Adran Addysg yn Lloegr ganllawiau anstatudol ar ffonuau symudol mewn ysgolion.. Mae hyn yn datgan y dylai ysgolion ddatblygu polisi ffonau symudol sy'n gwahardd defnyddio ffonau symudol a thechnoleg glyfar arall trwy gydol y diwrnod ysgol, gan gynnwys yn ystod gwersi, yr amser rhwng gwersi, amser egwyl ac amser cinio. Fodd bynnag, awgrymodd hefyd y dylai ysgolion ganiatáu hyblygrwydd yn dibynnu ar amgylchiadau unigol y disgyblion.

Ym mis Awst 2024, cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban ganllawiau ar ffonau symudol yn ysgolion yr Alban gan ddiweddaru cyngor blaenorol a gyhoeddwyd yn 2013. Daeth y ddogfen newydd i'r casgliad nad oedd gwaharddiad cenedlaethol yn briodol nac yn ymarferol. Dywedodd y gallai ysgolion a chynghorau gyflwyno cyfyngiadau os dymunant.

Cyhoeddodd Adran Addysg Gogledd Iwerddon ganllawiau yn y maes hwn ym mis Medi 2024. Mae hyn yn datgan y dylai ysgolion ddatblygu a gweithredu dull o ran defnydd disgyblion o ffonau symudol sy'n gweddu orau i’w cyd-destun ysgol a chyfnod eu haddysg. Fodd bynnag, argymhellodd hefyd y dylai ysgolion gymryd camau i gyfyngu ar y defnydd o ffôn symudol at ddefnydd personol disgyblion trwy gydol y diwrnod ysgol, gan gynnwys pan nad ydynt yn y dosbarth.

A wnaeth y Pwyllgor Deisebau argymell gwaharddiad ar ffonau?

Clywodd Pwyllgor Deisebau'r Senedd amrywiaeth o dystiolaeth gan ddysgwyr a staff addysgu yn ogystal â gweithwyr addysg ac iechyd proffesiynol. Ynghyd â'r agweddau negyddol ar ddefnyddio ffôn clyfar, clywodd y Pwyllgor fod plant a phobl ifanc, yn gwerthfawrogi gallu cysylltu â theulu a bod meddu ar ffôn yn gwneud i ddysgwyr deimlo'n ddiogel.

Teimlad y Pwyllgor oedd fod y dystiolaeth y gall ffonau clyfar achosi mwy o niwed na manteision i blant yn gymhellol ac yn peri pryder.  Fodd bynnag, roedd o'r farn nad oedd y dystiolaeth a gasglodd yn cefnogi symud i waharddiad llwyr ar ffonau clyfar ym mhob ysgol yng Nghymru. Ond galwodd y Pwyllgor am ragor o gefnogaeth i ysgolion osod eu cyfyngiadau eu hunain.

Mae gwledydd ledled y byd yn ceisio mynd i’r afael â’r mater o ffonau clyfar mewn ysgolion. Caiff ei drafod ymhellach yng nghyd-destun Cymru yn ystod dadl y Senedd ddydd Mawrth 14 Mai. Gallwch wylio honno’n fyw ar Senedd TV a bydd trawsgrifiad ar gael tua 24 awr yn ddiweddarach.


Erthygl gan Sian Hughes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru