Mae gordewdra’n ffactor risg allweddol ar gyfer ystod eang o fathau o salwch cronig, gan gynnwys diabetes math 2, gorbwysedd, clefyd cardiofasgwlaidd (gan gynnwys strôc), a rhai canserau. Mae hefyd yn effeithio ar lesiant pobl, ansawdd eu bywyd, a’u gallu i weithio.
Mae gordewdra yn gymhleth a gall nifer o ffactorau ddylanwadu arno, gan gynnwys penderfynyddion economaidd, masnachol, cymdeithasol ac amgylcheddol sy'n rhychwantu adrannau'r llywodraeth.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awgrymu y dylai gordewdra gael ei drafod mewn ffordd sy’n osgoi’r dybiaeth ei fod yn digwydd o ganlyniad i fethiant neu wendid personol yn hytrach na chynnyrch yr amgylchedd sydd i raddau helaeth y tu allan i reolaeth uniongyrchol unigolyn.
Bydd adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar atal iechyd gwael - gordewdra yn cael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 21 Ionawr.
Mae'r erthygl hon yn edrych ar rai o'r ffactorau a all ddylanwadu ar ordewdra, a'r camau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd.
Cyfraddau gordewdra yng Nghymru
Yn ôl y ffigurau diweddaraf (2024-25), mae 62 y cant o oedolion 16 oed a hŷn yng Nghymru yn byw gyda gorbwysau neu ordewdra, yn seiliedig ar bwysau a thaldra hunangofnodedig.
Yng Nghymru, yn y flwyddyn academaidd 2023/24, roedd 13.7 y cant o blant 4-5 oed yn y dosbarth derbyn dros eu pwysau ac roedd 11.8 y cant yn byw gyda gordewdra.
Mae cyfraddau gorbwysau a gordewdra yn tueddu i fod yn uwch mewn ardaloedd mwy difreintiedig, sydd hefyd â lefelau is o ymddygiadau iach megis gweithgarwch corfforol a bwyta'n iach.
Stigma ac iechyd meddwl
Roedd llawer o'r dystiolaeth i’r Pwyllgor yn ymdrin â stigma sy'n gysylltiedig â phwysau, gan gynnwys y ffaith bod stigma a gwahaniaethu sy'n gysylltiedig â gordewdra yn gyffredin drwy’r gymdeithas a bod hyn yn gallu mennu ar barodrwydd rhywun i ymgysylltu â gwasanaethau gofal iechyd.
Yn ôl Seicolegwyr ledled Cymru ym maes Rheoli Pwysau (CWPWM):
“There remain many unhelpful, discriminatory and stigmatising narratives in society about people living with overweightness, including that they lack willpower or self-discipline. These narratives and stigmatizing language lead to blaming individuals and focusing on calories in/calories out, rather than looking at a holistic bio-psycho-social understanding and wider public health policies.”
At hynny, pwysleisiodd y grŵp fod angen dull mwy tosturiol ar gyfer rheoli pwysau mewn polisi ac ymgyrchoedd iechyd y cyhoedd ac ar draws gwasanaethau gofal iechyd.
Mae perthynas gymhleth, ddwyffordd rhwng iechyd meddwl a gorbwysau/gordewdra. Cyfeiriodd Iechyd Cyhoeddus Cymru at dystiolaeth sy'n awgrymu bod byw gyda gorbwysau neu ordewdra, gan gynnwys dod i gysylltiad â stigma o ran pwysau, yn gysylltiedig ag iechyd meddwl gwaeth. Ar yr un pryd, gall heriau iechyd meddwl effeithio ar ymddygiadau bwyta, gan fod bwyd yn gallu cael ei ddefnyddio i reoli emosiynau neu hwyliau, sy’n cynyddu'r risg o gymeriant egni gormodol a magu pwysau.
Mae cysylltiad hefyd rhwng gordewdra ac anhwylderau bwyta, gyda Beat yn nodi y gall pobl gael anhwylder bwyta beth bynnag fo eu pwysau. Awgrymodd y dylai llwybrau trin pwysau gynnwys sgrinio am anhwylderau bwyta, cysylltiadau sefydledig â gwasanaethau anhwylderau bwyta, a gwiriadau rheolaidd ar deimladau cleifion ynghylch bwyd.
Daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod angen dull sy’n ystyriol o drawma – sef dull sy’n ystyried yr hyn sydd wedi digwydd i unigolyn, yn hytrach na’r hyn sy'n ‘bod arno’ – mewn perthynas â gwasanaethau rheoli pwysau. Gallai cydweithrediad cryfach ar draws gwasanaethau rheoli pwysau, iechyd meddwl ac anhwylderau bwyta fod o fudd hefyd.
Penderfynyddion ehangach
Mae gordewdra yn cael ei lunio gan ystod o ffactorau cydgysylltiedig, gan gynnwys penderfynyddion cymdeithasol, yr amgylchedd bwyd, a lefelau gweithgarwch corfforol.
Mae penderfynyddion cymdeithasol, megis incwm, addysg, tai a chyfyngiadau amser, yn dylanwadu ar allu pobl i gael bwyd iach fforddiadwy ac i baratoi prydau cytbwys.
Mae'r amgylchedd bwyd hefyd yn chwarae rhan bwysig trwy lunio'r dewisiadau sydd ar gael i bobl yn eu bywydau bob dydd. Yng Nghymru, mae nifer y lleoedd cludfwyd wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae cysylltiad rhwng dwysedd uchel lleoedd cludfwyd ac ardaloedd o amddifadedd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno rheoliadau ar hyrwyddo a chyflwyno bwyd ynghyd â bwyta'n iach mewn ysgolion gyda'r nod o annog dewisiadau iachach.
Mae gweithgarwch corfforol yn cynnig nifer o fanteision ar gyfer llesiant corfforol a meddyliol. Fodd bynnag, gall rhwystrau fel cost, stigma a mynediad cyfyngedig at gyfleusterau atal pobl rhag bod yn egnïol.
Gwasanaethau triniaeth ar gyfer rheoli pwysau
Mae darpariaeth gwasanaethau rheoli pwysau Cymru yn cael eu datblygu, eu hariannu a'u darparu gan fyrddau iechyd lleol mewn ymateb i anghenion y boblogaeth leol.
Dywedodd CWPWM wrth y Pwyllgor fod gwasanaethau rheoli pwysau ledled Cymru yn amrywiol o ran cyfansoddiad timau ac o ran adnoddau oherwydd cyllid, gan arwain at annhegwch rhwng ardaloedd. Roedd amseroedd aros hir ar gyfer rhai gwasanaethau rheoli pwysau i oedolion ac nid oedd darpariaeth rheoli pwysau bwrpasol ar gyfer plant a phobl ifanc mewn rhai byrddau iechyd.
Cafodd meddyginiaethau colli pwysau eu codi yn ystod yr ymchwiliad yn sgil cynnydd diweddar yn y galw amdanynt. Mewn erthygl gan Ymchwil y Senedd, edrychwyd ar argaeledd y meddyginiaethau hyn yn GIG Cymru, ac amlinellwyd rhai o'r pryderon allweddol.
Strategaeth Llywodraeth Cymru
Pwysau Iach: Cymru Iach yw strategaeth hirdymor Llywodraeth Cymru i atal a lleihau gordewdra yng Nghymru, a hynny gyda chymorth cyfres o gynlluniau cyflawni.
Ar y cyfan, fe gafodd y Strategaeth ei chroesawu gan randdeiliaid, ond clywodd y Pwyllgor nad oedd wedi gwneud fawr o argraff ar lawr gwlad, heb arweinyddiaeth glir i yrru'r newidiadau angenrheidiol. Yn yr un modd, cafodd pryderon eu codi ynghylch tryloywder cynlluniau cyflawni blaenorol, gyda galwadau am i adroddiadau cynnydd rheolaidd gael eu cyhoeddi.
Gwnaeth strategaeth newydd Llywodraeth Cymru, Pwysau Iach: Cymru Iach cynllun cyflawni 2025 i 2027, ynghyd â'i hymateb i adroddiad y Pwyllgor, nodi camau gweithredu arfaethedig sy'n anelu at atal a lleihau gordewdra, gan gynnwys mesurau sy'n mynd i'r afael â materion a godwyd yn ystod yr ymchwiliad.
Mae Llywodraeth Cymru yn nodi bod y Cynllun Cyflawni newydd yn “nodi strwythurau llywodraethiant ac adrodd cryfach” ac y bydd fframwaith canlyniadau a mesur yn cael ei ddatblygu i fonitro cynnydd.
Beth fydd yn gwneud y gwahaniaeth?
Er mwyn sicrhau bod y Strategaeth a'r Cynllun Cyflawni yn cael eu heffaith arfaethedig, pwysleisiodd rhanddeiliaid fod rhaid wrth y canlynol:
- arweinyddiaeth gref ac atebolrwydd traws-sector clir;
- adroddiadau cynnydd rheolaidd yn ôl canlyniadau;
- mynediad teg at wasanaethau ledled Cymru sy'n canolbwyntio ar y unigolyn; a
- camau gweithredu parhaus ar y penderfynyddion ehangach sy'n llunio dewisiadau a chyfleoedd pobl.
Bydd camau gweithredu Llywodraeth Cymru yn y meysydd hyn yn bwysig ar gyfer gwella canlyniadau i bobl sy'n byw gyda gorbwysau a gordewdra ac ar gyfer lleihau cyfraddau gordewdra.
Erthygl gan Rebekah James, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru