Ffigurau newydd ar gyfer diweithdra ymhlith pobl ifanc, a phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant

Cyhoeddwyd 24/01/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/10/2020   |   Amser darllen munudau

24 Ionawr 2014 Erthygl gan Gareth Thomas, a Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Yn ddiweddar, cyhoeddwyd y ffigurau diweddaraf ar gyfer Cymru mewn perthynas â diweithdra ymhlith pobl ifanc, a phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Cafodd y data am ddiweithdra ymhlith pobl ifanc eu cyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar 22 Ionawr fel rhan o Ystadegau Rhanbarthol y Farchnad Lafur ar gyfer mis Ionawr 2014. O safbwynt y Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO) mae'r gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl ifanc yn golygu nifer pobl ILO ddi-waith fel canran o’r boblogaeth economaidd weithgar rhwng 16 a 24 oed.  Dyma'r prif ddull o fesur diweithdra ymhlith pobl ifanc.  Mae pobl ILO ddi-waith yn cynnwys y rhai sydd allan o waith ac eisiau swydd, sydd wedi bod yn chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf ac sydd ar gael i ddechrau gweithio yn y bythefnos nesaf; a'r rhai sydd allan o waith, sydd wedi dod o hyd i swydd ac sydd yn aros i ddechrau yn y bythefnos nesaf. Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 48,400 o bobl rhwng 16 a 24 oed yn ILO ddi-waith yng Nghymru rhwng mis Hydref 2012 a mis Medi 2013. 
  • Mae cyfradd ddiweithdra'r ILO yng Nghymru, yn achos pobl rhwng 16 a 24 oed, yn 22.5% ar hyn o bryd, sef yr uchaf o holl wledydd y DU.  Dengys Ffigur 1 mai dyna oedd y sefyllfa yn y pum mlynedd diwethaf hefyd, a bod cyfradd ddiweithdra'r ILO ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru 7.1 pwynt canran yn uwch na rhwng mis Hydref 2007 a mis Medi 2008 (dechreuodd y DU ar gyfnod o ddirwasgiad yn ail chwarter 2008, ac roedd mewn cyfnod o ddirwasgiad o drydydd chwarter 2008 ymlaen).
  • Fodd bynnag, dros y flwyddyn ddiwethaf, mae cyfradd ddiweithdra'r ILO ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru wedi gostwng 1.5 pwynt canran, sy'n fwy nag yn unrhyw wlad arall yn y DU. 
[caption id="attachment_888" align="alignnone" width="625"]Ffigur 1: Cyfraddau diweithdra'r ILO ar gyfer pobl rhwng 16 a 24 oed yng ngwledydd y DU Ffigur 1: Cyfraddau diweithdra'r ILO ar gyfer pobl rhwng 16 a 24 oed yng ngwledydd y DU[/caption] Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, NOMIS – Ystadegau Swyddogol y Farchnad Lafur Yn y cyfamser, ar 16 Ionawr 2014, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yr ystadegau chwarterol diweddaraf ar gyfer pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.Mae'r ystadegau hyn ychydig yn wahanol i'r ystadegau diweithdra ar gyfer pobl ifanc am y rhesymau canlynol:
  • Mae pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn cynnwys pobl ddi-waith yn ogystal â grwpiau eraill fel pobl sy'n economaidd anweithgar oherwydd salwch neu anabledd, neu bobl sy'n gofalu am aelodau o'u teulu.  Caiff cyfradd y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ei chyfrifo fel canran yr holl bobl rhwng 16 a 18 oed a rhwng 19 a 24 oed.
  • Caiff cyfradd ddiweithdra yr ILO ar gyfer pobl ifanc ei chyfrifo fel nifer y bobl rhwng 16 a 24 oed sy'n ILO ddi-waith fel canran o'r boblogaeth economaidd weithgar o fewn y grŵp oedran hwnnw (hynny yw, y rhai sydd mewn cyflogaeth neu'n ILO ddi-waith).
Daw'r ffigurau diweddaraf ar gyfer pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (APS).  Er eu bod yn seiliedig ar sampl llai na'r ffigurau cadarnach a gyhoeddir yn flynyddol gan Lywodraeth Cymru mewn Datganiad Ystadegol Cyntaf bob mis Gorffennaf, maent yn darparu data ystadegol mwy amserol. Mae'r ystadegau diweddaraf, sef ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben yn nhrydydd chwarter 2013, yn dangos gostyngiad yn nifer a chyfradd y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ac sydd yn y grwpiau oedran 16-18 a 19-24, o gymharu â'r flwyddyn a ddaeth i ben yn nhrydydd chwarter 2012.
  • Nid oedd 12,900 (11.9%) o bobl ifanc 16 i 18 oed mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn y flwyddyn a ddaeth i ben yn nhrydydd chwarter 2013.  Mae hyn yn cymharu â 14,400 (12.7%) yn y flwyddyn a ddaeth i ben yn nhrydydd chwarter 2012, a 14,600 (12.2%) yn y flwyddyn a ddaeth i ben yn nhrydydd chwarter 2008.
  • Nid oedd 51,300 (21.4%) o bobl ifanc 19 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn y flwyddyn a ddaeth i ben yn nhrydydd chwarter 2013.  Mae hyn yn cymharu â 56,800 (22.9%) yn y flwyddyn a ddaeth i ben yn nhrydydd chwarter 2012, a 40,600 (16.9%)  yn y flwyddyn a ddaeth i ben yn nhrydydd chwarter 2008.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan taw lleihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yw un o’i prif flaenoriaethau ac ym mis Hydref 2013 cyhoeddodd Cynllun gweithredu ar gyfer y Fframwaith Ymgysylltu a Dilyniant Ieuenctid. Os oes angen rhagor o wybodaeth, efallai y bydd y dogfennau canlynol o ddiddordeb: