Ffigurau diweddaraf y farchnad lafur ar gyfer mis Mehefin 2022

Cyhoeddwyd 14/06/2022   |   Amser darllen munudau

A yw’r ystadegau swyddogol wedi dechrau adlewyrchu effaith y coronafeirws ar y farchnad lafur?

Bob mis, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn cyhoeddi amcangyfrifon o gyfraddau cyflogaeth a diweithdra. Mae'r amcangyfrifon hyn yn seiliedig ar wybodaeth a gesglir gan yr arolwg o'r llafurlu ar gyfer y tri mis blaenorol. Mae'r oedi amser i'r ffigurau hyn yn golygu bod y datganiad marchnad lafur diweddaraf a gyhoeddwyd ar 14 Mehefin 2022 yn rhoi gwybodaeth rhwng mis Chwefror 2022 a mis Ebrill 2022.

Daeth y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws i ben ar 30 Medi 2021 felly mae'r arolwg o’r llafurlu ym mis Chwefror wedi dechrau adlewyrchu effaith y coronafeirws ar y farchnad lafur.

Beth mae ffigurau diweddaraf yr arolwg o'r llafurlu yn ei ddangos?

Mae’r Arolwg o’r Llafurlu yn arolwg aelwydydd chwarterol o oddeutu 80,000 o oedolion. Gan y bu pobl ar ffyrlo o hyd yn ystod rhan o’r cyfnod adrodd diweddaraf (mis Medi 2021 i fis Tachwedd 2021), nid yw’r arolwg o’r llafurlu eto’n adlewyrchu effaith lawn y coronafeirws ar y farchnad lafur yng Nghymru.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn esbonio eu bod wedi gwneud newidiadau i’r arolwg o’r llafurlu:

Mae’r ymatebion i’r Arolwg o’r Llafurlu (LFS) wedi cael eu hail-bwysoli i boblogaethau newydd sydd wedi’u deillio drwy ddefnyddio cyfraddau twf o Wybodaeth Amser Real (RTI) Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, i ganiatáu ar gyfer tueddiadau gwahanol yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). Bydd yr ail-bwysoli yn rhoi amcangyfrifon gwell o'r cyfraddau a'r lefelau.

Rhwng mis Chwefror a mis Ebrill 2022 roedd y gyfradd diweithdra ymhlith pobl 16+ oed yng Nghymru yn 3.5 y cant, sy’n uwch na 3.0 y cant yn ystod y chwarter blaenorol (mis Tachwedd 2021 i fis Ionawr 2022). Mae hyn yn gynnydd o 7,000 o bobl ers y chwarter blaenorol i 53,000.

Prif ystadegau mis Chwefror 2022 i fis Ebrill 2022 o'u cymharu â'r chwarter blaenorol o fis Tachwedd 2021 i fis Ionawr 2022. Mae’r gyfradd diweithdra ymhlith pobl 16+ oed yn 3.5 y cant gyda 53,000 o bobl yn ddi-waith, sef cynnydd o 7,000 ers y chwarter blaenorol. Y gyfradd gyflogaeth 16-64 yw 74.0%. Cyflogwyd 1,469,000 o bobl 16+ oed, gostyngiad o 6,000 o'r chwarter blaenorol. Y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith pobl 16-64 oed yw 23.3 y cant gyda 444,000 yn economaidd anweithgar, cynnydd 2,000 ar y chwarter blaenorol.

Ffynhonnell: SYG, Regional labour market: Headline indicators for Wales

Mae’r gyfradd diweithdra yng Nghymru (3.5 y cant) yn uwch na Gogledd Iwerddon (2.6 y cant) a’r Alban (3.2 y cant) ond yn is na Lloegr (3.9 y cant).

Canran y bobl 16 oed neu’n hŷn sy'n ddi-waith, gwledydd y DU; Chwefror 2017 – Ebrill 2017 i Chwefror 2022 – Ebrill 2022.

graff llinell o gyfraddau diweithdra ymhlith pobl 16 oed a hŷn yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon  Mae pob un yn dangos gostyngiad cyffredinol, ac roedd y gyfradd yn llai na 4% yn 2019. Gwelwyd cynnydd mawr yn gyffredinol ers dechrau 2020. Nodir y ffigurau presennol uchod.

Ffynhonnell: SYG, Labour market in the regions of the UK: Mehefin 2022

Mae data o'r arolwg o’r llafurlu yn dangos y gyfradd ddiweithdra yn ôl rhyw ac oedran ar gyfer y 12 mis hyd at fis Rhagfyr 2021. Mae’r data diweddaraf yn dangos bod y cyfraddau diweithdra uchaf ymhlith dynion a merched yn y grŵp oedran 16-24. Yn y grwpiau oedran 16-24 a 50-64 mae’r gyfradd diweithdra yn uwch ymhlith dynion na merched.

Cyfradd ddiweithdra yn ôl oedran a rhyw yng Nghymru; 12 mis hyd at fis Rhagfyr 2021

Mae’r gyfradd diweithdra ymhlith dynion rhwng 16 a 24 yn 14.1 y cant, o’i gymharu â 10.1 y cant ymhlith merched. Mae’r gyfradd diweithdra ymhlith dynion 25-49 oed yn 3.2 y cant o’i gymharu â 3.3 y cant ymhlith merched. Mae’r gyfradd diweithdra ymhlith dynion 50-64 oed yn 2.8 y cant o’i gymharu â 2.6 y cant ymhlith merched.

Mae data diweithdra hefyd ar gael fesul etholaeth seneddol. Mae’r map isod yn dangos mai Gorllewin Abertawe oedd â’r gyfradd uchaf (11.3 y cant) a Pen-y-bont ar Ogwr oedd â’r gyfradd isaf (1.9 y cant) ar gyfer y 12 mis hyd at fis Rhagfyr 2021.

Map rhyngweithiol o gyfraddau diweithdra fesul etholaeth, ar gyfer y 12 mis hyd at fis Rhagfyr 2021.

Noder: Mae meintiau'r samplau ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed a'r Rhondda yn rhy fach i roi amcangyfrifon.

A oes data eraill y gallwn eu defnyddio i weld effaith y coronafeirws ar y farchnad lafur yng Nghymru?

Mae nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau yn cael eu cyhoeddi'n fisol ac maent yn fwy amserol. Fodd bynnag, gall pobl mewn gwaith hefyd fod yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol a gellid eu cynnwys yn y nifer sy'n hawlio budd-daliadau. Mae’r SYG yn nodi;

As part of the response to the pandemic, the rules about who can claim Universal Credit have changed, meaning an increased proportion of those claiming may actually still be in some kind of work. Because of these reasons, the change in the claimant count almost certainly ends up overstating any underlying change in unemployment.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd wedi bod yn gweithio gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi i greu amcangyfrifon o gyflogeion sy’n cael eu talu drwy'r cynllun Talu Wrth Ennill. Mae’r data a addaswyd yn dymhorol ar gyfer Talu Wrth Ennill ym mis Mai 2022 (1,299,622) yn dangos bod nifer y cyflogeion ar gyflogres yng Nghymru yn uwch na’r nifer ym mis Chwefror 2020. Bu cynnydd o 6,350 o gyflogeion ar gyflogres rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mai 2022.

Nifer yr hawlwyr - wedi'i haddasu'n dymhorol

Mae'r SYG yn cyhoeddi cyfres arbrofol sy'n cyfrif nifer y bobl sy'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith ynghyd â'r rhai sy'n hawlio Credyd Cynhwysol ac mae'n ofynnol iddynt geisio gwaith a bod ar gael i weithio. Mae hyn yn disodli nifer y bobl sy'n hawlio’r Lwfans Ceisio Gwaith fel prif ddangosydd nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau yn bennaf am eu bod yn ddi-waith. Mae'r data diweddaraf ar gyfer mis Mai 2022 yn dangos bod nifer yr hawlwyr yng Nghymru wedi cynyddu o 58,365 ym mis Mawrth 2020 i 119,865 ym mis Awst 2020, ac yna wedi lleihau i 65,347 ym mis Mai 2022.

Nifer yr hawlwyr yng Nghymru; mis Rhagfyr 2019 i fis Mai 2022

Mae'r data diweddaraf ar gyfer mis Mai 2022 yn dangos bod nifer yr hawlwyr yng Nghymru wedi cynyddu o 58,365 ym mis Mawrth 2020 i 119,865 ym mis Awst 2020, ac yna wedi lleihau i 65,347 ym mis Mai 2022.

Ffynhonnell, NOMIS, Nifer y bobl sy’n hawlio budd-dal SYG - addesir yn dymhorol

Nodiadau: O fis Mai 2013 ymlaen, ystyrir bod y ffigurau hyn yn ystadegau arbrofol. Dan y cynllun Credyd Cynhwysol, mae'n ofynnol i rychwant ehangach o hawlwyr geisio gwaith na chynllun y Lwfans Ceisio Gwaith. Wrth i Wasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol gael ei gyflwyno mewn ardaloedd penodol, mae’n debygol y bydd cynnydd yn nifer y bobl y cofnodir eu bod yn ei hawlio. Caiff y cyfraddau ar gyfer rhanbarthau a gwledydd o 2018 ymlaen eu cyfrifo drwy ddefnyddio trigolion 16-64 oed canol 2015.

Diffiniadau

Mae nifer y bobl ddi-waith yn y DU yn cynnwys pobl sy'n bodloni'r diffiniad o ddiweithdra a nodir gan y Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO). Mae'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol yn diffinio pobl ddi-waith fel:

  • y rhai heb swydd, sydd wedi bod wrthi'n chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf ac sydd ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf
  • y rhai allan o waith, sydd wedi dod o hyd i swydd ac yn aros i'w dechrau yn y pythefnos nesaf

Mae cyflogaeth yn mesur nifer y bobl 16 oed neu’n hŷn sydd mewn gwaith cyflogedig. Y prif fesur o gyflogaeth ar gyfer y DU yw'r gyfradd gyflogaeth ar gyfer y rhai rhwng 16 a 64 oed.

Y prif fesur o anweithgarwch yn y DU yw cyfradd y rhai rhwng 16 a 64 oed heb swydd nad ydynt wedi chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf a/neu nad ydynt ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf.


Erthygl gan Joe Wilkes a Helen Jones, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru