Ffermydd Solar yng Nghymru - mapiau newydd ar gael
Cyhoeddwyd 11/12/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau
11 Rhagfyr 2015
Erthygl gan Graham Winter a David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae'r map isod yn dangos dosbarthiad y ffermydd / parciau solar yng Nghymru sy'n weithredol neu'n cael eu hadeiladu ym mis Hydref 2015.
Ffermydd solar sy'n gweithredu yng Nghymru (Hydref 2015). Data gan Cronfa Ddata Cynllunio Ynni Adnewyddadwy.
Dyma fersiwn ddiweddaraf y map a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2015 ac mae'n dangos cynnydd sylweddol yn nifer y prosiectau sy'n weithredol ers yn gynharach eleni. Mae'r data wedi dod o Gronfa Ddata Cynllunio Ynni Adnewyddadwy DECC.
Fel gyda fersiwn blaenorol y map, gellir gweld bod datblygiadau ffermydd solar wedi bod yn fwy niferus hyd yn hyn yn y de a'r gorllewin. Mae'r ail fap isod yn dangos y prosiectau solar sydd wedi cael caniatâd cynllunio ond sydd heb gael eu hadeiladu eto, a hefyd y prosiectau lle mae cais cynllunio wedi'i gyflwyno ond nad oes penderfyniad wedi'i wneud eto. Mae'n awgrymu y gallai fod cynnydd yn nifer y ffermydd solar yn y gogledd, yn ogystal â rhagor o brosiectau yn y de a'r gorllewin.
Ffermydd solar yn y system gynllunio yng Nghymru (Hydref 2015). Data gan Cronfa Ddata Cynllunio Ynni Adnewyddadwy.
Ni wyddwn sawl un o'r prosiectau solar sydd yn y system gynllunio ar hyn o bryd a fydd yn cael eu hadeiladu. Mae Llywodraeth y DU wedi gostwng ac, mewn rhai achosion, wedi atal cymorthdaliadau ar gyfer prosiectau solar mwy o faint. Daeth y Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy i ben ar gyfer PV solar ar raddfa fawr (> 5 Megawat) ar 1 Ebrill 2015. O 2015 ymlaen, ni fydd ffermydd solar bellach yn gymwys ar gyfer Cynllun Taliad Sylfaenol y Polisi Amaethyddol Cyffredin, gan nad gweithgarwch amaethyddol yw’r prif weithgarwch ar y tir. Bydd cyllid yn parhau ar gael ar gyfer gosodiadau ar raddfa lai (<5MW) drwy'r cynllun Tariffau Cyflenwi Trydan. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU wedi bod yn ymgynghori ar adolygiad o'r Tariffau Cyflenwi Trydan ac os caiff ei gadarnhau, bydd yn lleihau'r tariff a fydd yn cael ei dalu am drydan a gynhyrchir gan gynlluniau solar rhwng 1 a 5 MW i 1.03 ceiniog/kWh, i lawr o 4.28 ceiniog/kWh.
View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg