Ffeithiau a Ffigurau am Ffermio yng Nghymru

Cyhoeddwyd 26/09/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

26 Medi 2016 Erthygl gan Edward Armstrong, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Mae ffermio yng Nghymru yn rhannu rhai nodweddion tebyg â rhannau eraill o'r DU ond mae rhai nodweddion unigryw hefyd sydd yn cyfrif am faint a chymeriad y diwydiant. Mae'r nodweddion hyn wedi llunio a dylanwadu ar bolisi amaethyddol yng Nghymru ac maent yn debygol o fod yn bwysig wrth i'r sector a'r Llywodraeth ystyried polisïau yn y dyfodol a strategaethau i'r diwydiant wedi i'r DU adael yr UE. Rydym wedi cyhoeddi nodyn ymchwil ar y diwydiant ffermio yng Nghymru sy'n rhoi cymhariaeth fanwl o'r diwydiant â gwledydd eraill yn y DU. Mae'r blog hwn yn tynnu sylw at y tebygrwydd a'r gwahaniaethau allweddol a nodwyd yn y Nodyn Ymchwil. Beth yw effaith amaethyddiaeth ar gyflogaeth a gwerth ychwanegol gros yng Nghymru? Roedd tua 647,700 o bobl yn gweithio yn sector amaethyddol y DU yn 2015, ac roedd 9% ohonynt (58,300) yng Nghymru. Cyfran amaethyddiaeth o gyfanswm cyflogaeth ranbarthol yng Nghymru oedd 4.07%, a oedd yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol o 1.42%. Mae hyn yn dangos bod amaethyddiaeth yn gwneud cyfraniad mwy sylweddol at gyflogaeth yng Nghymru nag mewn rhannau eraill o'r DU. Mae gwerth ychwanegol gros ar brisiau sylfaenol yn mesur cyfraniad diwydiant neu sector at yr economi. Cyfran amaethyddiaeth o werth ychwanegol gros y DU oedd 0.61% yn 2014 a 0.71% yng Nghymru, sy'n dangos bod cyfraniad economaidd amaethyddiaeth yng Nghymru hefyd yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol. Beth yw'r incwm fferm cyfartalog yng Nghymru? Yr incwm fferm cyfartalog yw'r enillion i'r llafurlu di-dâl (ffermwyr, eu priod a phartneriaid) ac i'w holl gyfalaf a fuddsoddwyd yn y busnes fferm, gan gynnwys adeiladau a thir fferm. Yng Nghymru, yr incwm fferm cyfartalog yn 2014-15 oedd £29,000, sy'n llai nag yn Lloegr (£40,000) a'r DU (£35,000) yn ei chyfanrwydd. Yn ôl Rhagolygon o Lefelau Incwm Fferm 2015-16 (Saesneg yn unig), bu gostyngiad yn yr incwm fferm cyfartalog yng Nghymru i £24,500 o'i gymharu â 2014-15, sy'n adlewyrchu'r gostyngiad yn y prisiau a delir i ffermwyr am eu cynnyrch. Roedd hyn yn arbennig o wir yn y sector llaeth, lle gwelwyd gostyngiad o 40-45% yng Nghymru a Lloegr a gostyngiad o bron 80% yng Ngogledd Iwerddon. I gael rhagor o wybodaeth am y gostyngiad mewn incwm ffermydd, gweler ein cofnod blog blaenorol. Sut y defnyddir tir amaethyddol yng Nghymru? Yng Nghymru y ceir 10% (1.753 miliwn hectar) o'r arwynebedd amaethyddol a ddefnyddir yn y DU a 9% (2.1 miliwn hectar) o'r màs tir. Defnyddir tua 84% o'r arwynebedd tir ar gyfer amaethyddiaeth, sy'n fwy nag yn y gwledydd datganoledig eraill. Glaswelltir pori parhaol yw'r defnydd tir mwyaf o dipyn, gan gyfrif am fwy na 75% o'r arwynebedd a ddefnyddir, wedyn 14% ar gyfer tir cnydau a 10% ar gyfer tir pori garw cyffredin. Mae tua 80% o'r arwynebedd tir wedi'i ddynodi fel ardal lai ffafriol (ALFf), h.y. lle mae amodau cynhyrchu yn anodd, fel ardaloedd lle mae cyflwr y tir, yr hinsawdd a’r amgylchiadau tyfu yn wael. Faint o ddaliadau fferm sy'n bodoli? Yn ôl Agriculture in the UK 2015, roedd tua 214,500 o ddaliadau fferm yn y DU yn 2015, ac roedd 16.2% (34,800) ohonynt yng Nghymru. Maint cyfartalog daliadau yng Nghymru oedd 48 hectar, a oedd yn llai nag yn Lloegr (88 hectar) a'r Alban (107 hectar). Mae ffigur 1 yn dangos dadansoddiad manwl o ddaliadau fferm yn ôl math yng Nghymru. Mae pori gwartheg a defaid ar dir ALFf yn cyfrif am oddeutu 29% (10,805) o ddaliadau yng Nghymru, sy'n adlewyrchu pa mor bwysig yw glaswelltir pori ar dir ALFf. Ar y llaw arall, mae grawnfwydydd, cnydau cyffredinol a garddwriaeth yn cyfrif am 2.7% (972) o ddaliadau at ei gilydd, sy'n adlewyrchu'r arwynebedd cymharol fach sydd ar gael ar gyfer cnydau. Daliadau fferm yn ôl math yng Nghymru Ffynhonnell: Arolwg Amaethyddol Cymru mis Mehefin. Ffeithiau a Ffigurau Ffermio Cymru, 2016. Y casgliad Mae amaethyddiaeth yng Nghymru yn canolbwyntio'n helaeth ar bori da byw, yn enwedig defaid, ar dir ALFf ar ddaliadau fferm cymharol fach sy'n ennill lefelau incwm cymharol fach. Mae nifer o ffactorau'n dylanwadu ar batrwm ffermio yng Nghymru, a dyma rai o’r rhai pwysicaf:
  • Mae Cymru yn fwy mynyddig ac mae ganddi hinsawdd wlypach na llawer o'r DU, felly mae cyfran fawr o'r wlad yn cael ei chyfrif yn ALFf. Felly, mae'r tir yn fwy addas ar gyfer ffermio pori a da byw ac nid tyfu cnydau âr.
  • Mae'r ucheldiroedd helaeth yn fwy ffafriol tuag at ddefaid, yn enwedig defaid mynydd Cymreig gwydn.
  • Mae'r diwydiant llaeth a ffermio âr yn gyfyngedig i ardaloedd sy'n fwy cynhyrchiol o ran daearyddiaeth a hinsawdd. Mae'r rhain yn bennaf mewn ardaloedd tir isel yn y de-orllewin, y de-ddwyrain, y gogledd-ddwyrain, ardaloedd arfordirol a chymoedd afonydd.