Yn ôl tystiolaeth helaeth, gall mynediad at addysg a gofal plentyndod cynnar o ansawdd uchel wella datblygiad gwybyddol a chymdeithasol plant, a gall fod yn arbennig o fuddiol i blant llai breintiedig. Fodd bynnag, mae sawl adroddiad diweddar wedi codi pryderon sydd gan rieni a darparwyr gofal plant am agweddau ar y system addysg a gofal plentyndod cynnar yng Nghymru.
Cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd (y Pwyllgor) ar ofal plant ar 4 Rhagfyr, mae ein herthygl yn edrych ar y materion allweddol sy'n wynebu rhieni a darparwyr.
I gael manylion am y cynlluniau cymorth gofal plant sydd ar gael yng Nghymru, darllenwch ein harweiniad i’r hawl i ofal plant yn y blynyddoedd cynnar.
System “ddryslyd a thameidiog” heb “weledigaeth glir”
Ers nifer o flynyddoedd, mae'r Pwyllgor wedi galw am i gamau gael eu cymryd i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r system addysg a gofal plentyndod cynnar. Fodd bynnag, mae pryderon helaeth yn parhau ynghylch cymhlethdod y system, a sut mae hyn yn effeithio ar y nifer sy’n manteisio ar gynlluniau cymorth gofal plant Llywodraeth Cymru.
Mae Dr David Dallimore wedi disgrifio’r system addysg a gofal plentyndod cynnar yng Nghymru fel a ganlyn:
…this piecemeal funding approach, which is just really complicated for parents. We know that it makes it difficult for them to understand what they’re entitled to claim and what would be best for them financially.
Cafwyd galwadau am un system gyllido a phroses gwneud cais i fynd i’r afael â’r pryderon hyn. Roedd Natalie McDonald o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant am weld:
…a more universal funding system that's almost like a one-stop shop— as the child progresses you're able to access that.
Yn ôl y Pwyllgor, mae dull Llywodraeth Cymru o ymdrin ag addysg a gofal plentyndod cynnar yn “ddryslyd ac yn dameidiog, [heb] weledigaeth glir”. Galwodd ar Lywodraeth Cymru i atgyfnerthu'r gwahanol gynlluniau cymorth gofal plant, a symleiddio prosesau ymgeisio.
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Teulu Cymru, sy'n darparu gwybodaeth i deuluoedd ynghylch gofal plant a chymorth ariannol. Yn ddiweddar, dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i symleiddio ffrydiau cyllido gofal plant, a’i bod yn edrych ar addasrwydd a chymhlethdod y system gofal plant.
Teuluoedd yn wynebu costau gofal plant “uchel a chynyddol”.
Mae rhywun sy’n ennill cyflog cyfartalog yn y DU yn wynebu costau gofal plant sydd gyda’r uchaf yn y byd. Mae Oxfam Cymru yn dweud:
The childcare landscape in Wales is characterised by a high and escalating cost with limited financial support rendering it increasingly unaffordable and out of reach for many families.
Canfu Oxfam Cymru fod 92% o’r rhieni a gwarcheidwaid a ymatebodd i’w arolwg Cymru gyfan yn teimlo bod costau gofal plant yn rhy uchel o gymharu â’u hincwm. Nododd hefyd nad oedd gan 70% o rieni a gwarcheidwaid unrhyw incwm dros ben na chynilion ar ôl dyrannu incwm ar gyfer gofal plant.
Yn 2021, yn ei Chytundeb Cydweithrediad gyda Phlaid Cymru, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gyflwyno 12.5 awr yr wythnos o ddarpariaeth gofal plant Dechrau’n Deg i bob plentyn dwy oed. Dyma’r ehangiad mwyaf o ddarpariaeth gofal plant yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf.
Fis diwethaf, cadarnhaodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol fod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu pob awdurdod lleol i baratoi cynlluniau ehangu ar gyfer cyflwyno’n llawn y trydydd cam o dri i gyflawni ymrwymiad gofal plant Dechrau’n Deg i blant dwy oed ledled Cymru. Fodd bynnag, cydnabu’r Gweinidog fod y cyllid ychwanegol sydd ei angen i gyflawni hyn yn dibynnu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, a gyhoeddir yr wythnos nesaf.
Mae cynaliadwyedd yn bryder mawr i ddarparwyr gofal plant
Mae darparwyr gofal plant wedi dweud bod cynnal eu darpariaeth yn bryder mawr. Er i Lywodraeth Cymru wneud rhyddhad ardrethi busnes i ddarparwyr gofal plant yn barhaol yn ddiweddar, mae pryderon ehangach ynghylch ariannu’r sector, megis lefel y cyllid a ddarperir gan y llywodraeth. Ers mis Ebrill 2022, mae darparwyr yn cael £5 yr awr ar gyfer darpariaeth y Cynnig Gofal Plant, ac mae hyn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru. Mae darparwyr wedi wynebu pwysau ariannol sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, megis costau cynyddol o ran ynni, bwyd a staffio.
Canfu arolwg gan Blynyddoedd Cynnar Cymru fod 94% o ddarparwyr gofal plant yn dweud nad yw’r gyfradd ariannu bresennol ar gyfer Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru yn talu eu costau, gan alw am gyfradd fesul awr o £6-£8. Canfu’r arolwg hefyd, er bod 72% o ddarparwyr gofal plant yn hyderus y gallent gynnal y model presennol am flwyddyn, dim ond 20% oedd yn hyderus y gallent wneud hynny am ddwy flynedd.
Galwodd y Pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i roi sicrwydd i ddarparwyr fod cynnydd “mawr sylweddol sydd ei angen” yng nghyfradd fesul awr y Cynnig Gofal Plant ar y ffordd. Fodd bynnag, nid yw darparwyr yn gwybod o hyd faint y byddant yn ei gael fesul awr, ac ni fyddant yn cael gwybod tan rywbryd ar ôl i’r gyllideb ddrafft gael ei chyhoeddi yr wythnos nesaf. Galwodd y Pwyllgor hefyd am newid i adolygiadau blynyddol o’r gyfradd fesul awr. Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y bydd hyn yn digwydd o 2025-26.
Dywedodd Blynyddoedd Cynnar Cymru fod y gyfradd fesul awr a delir i ddarparwyr gofal plant yn allweddol i wneud cyflogaeth yn y sector gofal plant yn ystyriaeth ddeniadol, a lleihau trosiant staff. Roedd cyrff sy’n cynrychioli darparwyr gofal plant yn teimlo nad yw staff yn cael eu talu’n ddigonol ac nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi, ond ni all darparwyr fforddio talu cyflogau uwch.
Daeth y Pwyllgor i’r casgliad y dibynnwyd yn “rhy hir” ar ymroddiad gweithwyr gofal plant i’r swydd, a galwodd ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod darparwyr gofal plant yn cael digon o gyllid i dalu’r Cyflog Byw Gwirioneddol i'r holl staff a gyflogir yn y sector gofal plant.
Darparu gofal plant i bawb
Mae ymchwil ar gyfer Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru’n amlygu y gall buddsoddi mewn addysg a gofal plentyndod cynnar o safon “helpu i sicrhau tegwch” ar gyfer plant o gefndiroedd mwy difreintiedig. Mae’r Athro Mari Rege, pennaeth grŵp arbenigol Llywodraeth Norwy ar dlodi plant, wedi dweud:
…to give these children better opportunities to actually not end up as poor themselves when they grow up, I, at least, don't know about any more effective tool than early childhood education, to actually bring them in to childcare.
Fodd bynnag, mae pryderon bod dull Llywodraeth Cymru o ffocysu Gofal Plant Cynnig cymorth ar deuluoedd sy'n gweithio yn peri risg o ddwysáu'r anghydraddoldebau presennol a wynebir gan blant o deuluoedd nad ydynt yn gweithio. Mae Sefydliad Bevan wedi dweud bod y dull presennol yn peri risg o wreiddio anfantais ar oedran cynnar wrth i blant golli allan ar fanteision gofal plant o ansawdd uchel. Mae’r Pwyllgor o’r farn bod angen ehangu darpariaeth y Cynnig Gofal Plant i bob plentyn 3 a 4 oed yn y dyfodol i fynd i’r afael â hyn.
Mae plant ag anghenion ychwanegol a/neu anableddau yn wynebu heriau hirsefydlog o ran cael mynediad at ofal plant. Canfu Coram Family and Childcare mai dim ond 5% o awdurdodau lleol cymru sydd â darpariaeth gofal plant ddigonol ar gyfer plant ag anableddau.
Mae ein herthygl ar ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i fynediad at ofal plant ac addysg i blant anabl yn amlinellu sut mae hyn yn effeithio ar blant a theuluoedd.
Galwodd y Pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda phartneriaid i ddatblygu amserlenni realistig ar gyfer gwarantu y bydd plant ag anghenion ychwanegol yn gallu cael mynediad at ddarpariaeth gofal plant. Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi dweud ei bod yn “ymrwymedig i chwalu’r rhwystrau i alluogi pob plentyn a’u teuluoedd i gael y gofal plant sydd ei angen arnynt”.
Y camau nesaf
Gallwch wylio'r ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor ar Senedd.tv. A chofiwch gadw llygad am beth sy’n digwydd o ran gofal plant yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, sydd i’w gyhoeddi ar 10 Rhagfyr.
Article by Gareth Thomas, Senedd Research, Welsh Parliament