Rheolaeth y cynghorau
Mae nifer yr awdurdodau lleol o dan reolaeth pob plaid neu grŵp (hynny yw lle mae gan blaid neu grŵp fwyafrif o'r seddi), neu lle nad oes rheolaeth lawn yn dilyn yr etholiad wedi'u hamlinellu yn y tabl isod. (Sylwer: Caiff newidiadau i reolaeth lawn eu cymharu â chanlyniadau etholiadau lleol 2012 (2013 yn achos Ynys Môn) ac nid ydynt yn cyfrif am unrhyw isetholiad neu newidiadau posibl yn ymlyniad gwleidyddol cynghorwyr ers yr etholiad diwethaf. Mae'r Blaid Lafur yn cadw rheolaeth dros saith awdurdod lleol ledled Cymru, ond collodd reolaeth lawn ym Mlaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful*. Enillodd Plaid Cymru reolaeth ar Gwynedd (mae Plaid Cymru wedi rheoli'r cyngor ers 2015), ac enillodd y Ceidwadwyr reolaeth ar Sir Fynwy. Yn dilyn yr etholiad, yr Annibynwyr sydd bellach yn y mwyafrif ym Mlaenau Gwent a Merthyr Tudful*. Mae hyn yn ychwanegol i Sir Benfro, sydd yn parhau â mwyafrif annibynnol (yr un sefyllfa ag ar ôl etholiad 2012). Yn sgil etholiad 5 Mai 2017, mae 10 awdurdod lleol heb reolaeth lawn gan blaid na grŵp.Cynghorwyr
Y Blaid Lafur sydd â'r nifer uchaf o gynghorwyr yng Nghymru, gyda 472. O gymharu â 2012 mae hyn yn ostyngiad o 108 sedd cyngor. Bu colledion i Lafur mewn 18 awdurdod lleol, gan gynnwys Blaenau Gwent (-20), Rhondda Cynon Taf (-13) a Phen-y-bont ar Ogwr (-13). Bu enillion i'r Blaid Lafur yn Sir y Fflint (3) a (1) Phowys, a llwyddodd i gynnal ei sefyllfa, fel y oedd yn 2012, yng Ngheredigion a Chaerffili. Llwyddodd y Blaid Lafur hefyd i gadw rheolaeth lawn dros Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd, er iddi golli seddi ym mhob un. Cynghorwyr annibynnol yw tua chwarter yr holl gynghorwyr yng Nghymru, gyda 322 o seddi yn 2017. Mae nifer y cynghorwyr annibynnol wedi cynyddu mewn 13 awdurdod lleol o gymharu â 2012, a bu'r cynnydd mwyaf arwyddocaol ym Mlaenau Gwent (19), Merthyr Tydfil (9), Wrecsam (7) a Gwynedd (7). Collodd yr Annibynwyr 17 o gynghorwyr ym Mhowys, sy'n golygu nad oes ganddynt fwyafrif bellach, a bu gostyngiadau hefyd mewn wyth awdurdod lleol arall. Mae Plaid Cymru yn drydydd o ran y nifer fwyaf o seddi cyngor yng Nghymru, gyda 202 o aelodau etholedig yn 2017. Cynyddodd Plaid Cymru nifer ei haelodau etholedig o 33 o gymharu ag etholiad 2012. Bu'r cynnydd mwyaf yn Rhondda Cynon Taf (9), Sir Gaerfyrddin (8) a Chastell-nedd Port Talbot (7). Bu cynnydd i Blaid Cymru hefyd mewn 10 awdurdod lleol arall, a hi yw'r grŵp mwyaf bellach ar Gyngor Ynys Môn. Bu colledion i Blaid Cymru yng Nghaerffili, Conwy, Torfaen a Bro Morgannwg, gan golli dwy sedd ym mhob cyngor o gymharu ag etholiad 2012 (hefyd, collodd Blaid Cymru un sedd yn Sir y Fflint). Y Blaid Geidwadol enillodd y nifer fwyaf o seddi o gymharu â chanlyniad etholiad 2012, gan gynyddu nifer y cynghorwyr Ceidwadol o 104 yn 2012 i 184 yn 2017, a chynyddu eu haelodau mewn 12 awdurdod lleol. Bu'r cynnydd mwyaf arwyddocaol yng Nghaerdydd (13), Bro Morgannwg (12) a Phen-y-bont ar Ogwr (10). Yn Sir Ddinbych a Bro Morgannwg (dau gyngor heb reolaeth lawn) y Ceidwadwyr yw'r grŵp mwyaf erbyn hyn. Sir y Fflint yw'r unig awdurdod lleol lle bu gostyngiad yn nifer y cynghorwyr Ceidwadol (-2). Collodd y Democratiaid Rhyddfrydol 11 cynghorydd o gymharu â 2012 a bu gostyngiad yn nifer eu cynghorwyr mewn saith awdurdod lleol, sy'n golygu mai 62 cynghorydd sydd gan y blaid yng Nghymru erbyn hyn. Bu'r colledion mwyaf arwyddocaol i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn Abertawe a Chaerdydd (collodd bum sedd ar y ddau gyngor); collodd hefyd ddwy sedd yn Sir y Fflint, Wrecsam a Phen-y-bont ar Ogwr. Llwyddodd y Democratiaid Rhyddfrydol i ennill seddi mewn pedair ardal awdurdod lleol, gan gynnwys Powys (4), Ceredigion (1), Castell-nedd Port Talbot (1), a Chasnewydd (1). Er bod UKIP, wedi ennill dwy sedd ym Mro Morgannwg a Merthyr Tudful yn ystod etholiad 2012, ni enillodd unrhyw sedd yn 2017. Enillodd y Blaid Werdd un sedd yn 2017 ym Mhowys. Dyma sedd gyntaf y Blaid Werdd ar y cyngor. *Lluniwyd y wybodaeth hon yn union ar ôl yr etholiad ar 4 Mai 2017, ac felly nid yw’n cymryd i ystyriaeth wardiau lle cafodd etholiadau eu gohirio ac felly gallai’r canlyniadau newid. Mae'r etholiadau ar gyfer un ward ym Merthyr Tudful ac un ward yng Ngheredigion wedi cael eu gohirio tan 8 Mehefin 2017. Yn achos sedd Merthyr Tudful, mae tair sedd ar gael a phe byddai'r Blaid Lafur yn ennill y rhain, hi fyddai'r prif grŵp rheoli ar y cyngor. Mae'r wybodaeth hon wedi dod o wefan y BBC a chyhoeddiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru – Etholiadau Lleol 2012. Mae'r canlyniadau ar gyfer Torfaen yng nghanlyniadau'r BBC ar gyfer 2017 wedi cael eu cofnodi yn wahanol i rai Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chanlyniadau BBC 2012, gan arwain at wahaniaeth o un cynghorydd yng nghyfanswm y gostyngiad i Lafur.Erthygl gan Owen Holzinger a David Millet, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Etholiadau lleol 2017 – Canlyniadau (PDF, 410KB)