Y terfyn amser ar gyfer cofrestru i bleidleisio yn etholiad y Senedd ym mis Mai yw hanner nos ar 20 Ebrill 2026.
Mae'r erthygl hon yn nodi pwy all bleidleisio yn etholiadau'r Senedd, sut i gofrestru, a beth i'w ddisgwyl ar ddiwrnod y bleidlais.
Pwy all bleidleisio?
I bleidleisio mewn un o etholiadau’r Senedd, rhaid i chi fodloni’r meini prawf a ganlyn ar ddiwrnod y bleidlais ei hun (yn yr achos hwn, 7 Mai 2026):
- rhaid eich bod wedi cofrestru ar y gofrestr etholwyr llywodraeth leol mewn un o etholaethau’r Senedd (mae gwybodaeth isod am sut i wneud hyn);
- rhaid i chi fod yn ddinesydd o'r DU, yn ddinesydd o’r Gymanwlad, yn ddinesydd o Weriniaeth Iwerddon, yn ddinesydd o'r UE, neu’n ddinesydd tramor cymwys (h.y. dinesydd o wlad arall sydd â chaniatâd i ddod i mewn i'r DU neu aros yma, neu nad oes angen caniatâd o'r fath arnoch);
- rhaid i chi fod yn 16 oed neu hŷn; a
- rhaid i chi beidio â bod yn destun unrhyw anghymhwyster cyfreithiol ar eich hawl i bleidleisio (e.e. nid oes gan garcharorion sydd wedi cael eu heuogfarnu yr hawl i bleidleisio).
Mae'r gofynion hyn wedi'u nodi yn adran 2 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, fel y'i diwygiwyd.
Pleidleisiau yn 16 oed – yr ail gynnig
Dyma ail etholiad y Senedd lle caiff y rhai sy’n 16 oed neu’n hŷn bleidleisio. Cafodd y newid hwn ei gyflwyno drwy Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020.
Roedd gostwng yr oedran pleidleisio yn un o argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, a gyhoeddodd ei adroddiad yn 2017. Dywedodd y panel, pe bai'r oedran pleidleisio yn cael ei ostwng, y dylai Comisiwn y Senedd gydweithio â Llywodraeth Cymru, y Comisiwn Etholiadol, pleidiau gwleidyddol, ac eraill:
…i gefnogi ac annog pobl ifanc i arfer eu hawl i bleidleisio, yn bwysicaf oll drwy ddarparu addysg dinasyddiaeth a gwleidyddiaeth a chodi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd…
Dywedodd adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru fod etholiad y Senedd y 2021 yn gamgychwyniad o ran pleidleisiau yn 16 oed, yn bennaf oherwydd effaith pandemig COVID. Awgrymodd y dylid trin yr etholiad sydd ar ddod fel cyfle i ddechrau o’r newydd:
It is vital that the 2026 election is treated as a fresh start for votes-at-16, particularly in terms of the promotion of a coordinated education programme to ensure that potential benefits for political participation of votes-at-16 are maximised.
Mae gwaith ar y gweill sydd â’r nod o gynyddu cyfranogiad yn yr etholiad hwn, yn enwedig ymhlith pobl ifanc. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £400,000 y flwyddyn at ddibenion gwella ymgysylltiad a’r broses ddemocrataidd. Mae Comisiwn y Senedd wedi bod yn cydweithio â Chomisiynydd Plant Cymru a'r Comisiwn Etholiadol i gydlynu gweithgarwch sydd â'r nod o helpu pobl ifanc i deimlo'n fwy hyderus am yr etholiad. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys cynhyrchu adnoddau addysgol, fel cynlluniau ar gyfer gwersi mewn ysgolion.
Ym mis Ionawr 2026, cynhaliodd tîm addysg Comisiwn y Senedd 107 o sesiynau gyda disgyblion ysgol sy'n gymwys i bleidleisio. Mae’r tîm yn hysbysebu ar wahanol lwyfannau digidol er mwyn ceisio cyrraedd unigolion a allai fod yn pleidleisio am y tro cyntaf. Ar ben hynny, mae gan y Comisiwn hwb pwrpasol ar gyfer yr etholiad, a gwefan sy'n darparu gwybodaeth am ei waith ym maes addysg ac ymgysylltu â phobl ifanc.
Sut y gallaf i gofrestru?
Mae cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau’r Senedd yn syml.
I gofrestru ar-lein, ewch i wefan Llywodraeth y DU a nodwch eich manylion. Bydd hyn hefyd yn sicrhau eich bod wedi cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol (h.y. cynghorau; bydd unrhyw un sydd wedi cofrestru ar y gofrestr etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru hefyd ar y gofrestr i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd).
Os ydych yn gymwys, byddwch hefyd yn cael eich ychwanegu at y gofrestr ar gyfer etholiadau Senedd y DU. Mae rhagor o wybodaeth am bwy sy’n gymwys i bleidleisio mewn gwahanol etholiadau ar gael yma..
Mae hefyd yn bosibl cofrestru i bleidleisio gan ddefnyddio ffurflen bapur, os yw'n well gennych wneud hynny.
Gallwch gofrestru i bleidleisio pan ydych yn 14 oed, ond dim ond os ydych yn 16 oed, o leiaf, ar ddiwrnod yr etholiad y byddwch yn gallu pleidleisio yn yr etholiad.
Yn ogystal, bydd angen i chi fod yn preswylio yng Nghymru. Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi cyhoeddi canllawiau ynghylch yr hyn sy’n cyfrif fel 'preswylio'. Er enghraifft, mae’n debygol y bydd gan fyfyrwyr yr hawl i gofrestru i bleidleisio yn y cyfeiriad lle maent yn byw yn ystod y tymor, a'r cyfeiriad lle maent yn byw am weddill y flwyddyn. Hyd yn oed os ydych chi wedi cofrestru i bleidleisio mewn dwy etholaeth yng Nghymru, dim ond unwaith y gallwch chi bleidleisio mewn etholiad y Senedd.
Mae gwybodaeth am y broses o gofrestru'n ddienw (e.e. oherwydd pryderon diogelwch) ar gael yma.
Os nad ydych yn siŵr a ydych eisoes wedi cofrestru, dylech gysylltu â'ch swyddfa gofrestru etholiadol leol i gael cadarnhad.
Rhaid ichi gofrestru i bleidleisio erbyn canol nos ar 20 Ebrill 2026 i allu pleidleisio yn etholiad y Senedd sydd ar ddod.
Pleidleisio drwy’r post a thrwy ddirprwy
Yn ogystal â phleidleisio mewn gorsaf bleidleisio, gallwch gofrestru i bleidleisio drwy'r post, neu alluogi rhywun i bleidleisio ar eich rhan fel dirprwy.
Rhaid ichi gofrestru i bleidleisio erbyn canol nos ar 20 Ebrill 2026 i wneud cais i bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy yn etholiad y Senedd ym mis Mai.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i bleidleisio drwy’r post yw 21 Ebrill 2026, erbyn 17.00.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy yw 28 Ebrill 2026, erbyn 17.00.
I wneud cais i bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy mewn un o etholiadau’r Senedd, bydd angen i chi argraffu, llenwi a phostio'r ffurflen berthnasol i'ch swyddfa gofrestru etholiadol leol. Nid yw'n bosibl gwneud cais ar-lein i bleidleisio drwy'r post na thrwy ddirprwy mewn un o etholiadau’r Senedd.
Os yw eich papur pleidleisio drwy’r post yn cael ei golli neu ei ddifetha ac mae angen un newydd arnoch, neu os oes angen i chi wneud cais brys i bleidleisio drwy ddirprwy, y terfyn amser ar gyfer gwneud hyn yw 17.00 ar ddiwrnod y bleidlais.
Os ydych yn ei gadael hi'n rhy hwyr i ddychwelyd eich papur pleidleisio drwy'r post, gallwch fynd â'r papur pleidleisio i'ch gorsaf bleidleisio erbyn 10pm ar ddiwrnod y bleidlais, neu i'ch swyddfa gofrestru etholiadol leol cyn iddo gau.
Beth i'w ddisgwyl ar ddiwrnod y bleidlais
Bydd y gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 07:00 a 22:00 ar 7 Mai 2026.
Wrth bleidleisio yn yr etholiad, byddwch yn bwrw un bleidlais, naill ai dros blaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol. Gallwch weld enghraifft o bapur pleidleisio yma.
Nid oes angen i chi fynd â dogfen adnabod i'r orsaf bleidleisio ar gyfer etholiadau'r Senedd.
Bydd y broses o gyfri’r pleidleisiau yn digwydd ar y diwrnod ar ôl yr etholiad. Byddwn yn diweddaru ein hafan ar gyfer yr etholiad, gan gynnwys dadansoddiad o'r canlyniadau, cyn gynted ag y bo modd.
Mae'r Comisiwn Etholiadol hefyd yn darparu gwybodaeth am gofrestru a phleidleisio.
Darparu'r wybodaeth ddiweddaraf
Mae ein prosiect Etholiad 26 yn cynnwys adnoddau defnyddiol sy'n ymwneud â'r etholiad, gan gynnwys gwybodaeth am fesurau hygyrchedd sy’n gysylltiedig â’r etholiad ac amserlen sy’n nodi’r dyddiadau allweddol. Byddwn yn diweddaru’r wybodaeth hon yn y cyfnod cyn yr etholiad ac ar ôl iddo ddigwydd.
Erthygl gan Adam Cooke, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru