Mae canlyniadau Etholiad Cyffredinol y DU wedi dod i law!
Yng Nghymru, y Blaid Lafur enillodd y nifer fwyaf o seddi, sef 27. Yna, daeth Plaid Cymru, gyda 4. Gwnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol ennill 1 sedd.
Mae ein herthygl yn crynhoi sut y pleidleisiodd pobl Cymru ac yn egluro rhai o’r newidiadau mawr a ddaeth yn sgil yr etholiad hwn.
Y canlyniadau yng Nghymru
Mae Cymru yn ethol 32 o Aelodau Seneddol i Senedd y DU. Mae’r siart a ganlyn yn dangos nifer y seddi a enillwyd gan bob plaid:
Ffynhonnell: BBC
Nid oes modd gwneud cymhariaeth uniongyrchol â nifer y seddi a enillwyd yn 2019, gan fod Cymru wedi ethol 40 o Aelodau Seneddol bryd hynny.
Cafwyd gostyngiad yn nifer yr Aelodau Seneddol ar ôl i’r Comisiwn Ffiniau i Gymru gynnal adolygiad o’r etholaethau seneddol, yn unol â’r gofyniad newydd i sicrhau bod maint yr etholaethau yn gyfartal (ac eithrio'r “etholaeth warchodedig”, sef Ynys Môn). Yr etholiad a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2024 oedd y tro cyntaf i’r etholaethau newydd hyn fod ar waith.
Mae'r map hwn yn dangos pa blaid enillodd bob etholaeth yng Nghymru.
Ffynhonnell: BBC
Cyfran y bleidlais
Mae cyfran y bleidlais yn cyfeirio at ganran cyfanswm y pleidleisiau y mae plaid yn ei chael. Mae’r siart hwn yn dangos cyfran pob plaid o’r bleidlais yng Nghymru, ac yn dangos y newidiadau ers etholiad cyffredinol 2019.
Ffynhonnell: BBC
Y ganran a bleidleisiodd
Roedd y ganran a bleidleisiodd yn yr etholiad hwn yn 56% yng Nghymru, o gymharu â 60% ar draws y DU. Mae'r siart a ganlyn yn dangos sut mae’r ffigurau hyn yn cymharu â’r ffigurau ar gyfer etholiadau blaenorol.
Ffynhonnell: Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin / Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin / BBC
Hwn oedd yr Etholiad Cyffredinol cyntaf yn y DU lle’r oedd gofyn i bleidleiswyr ddangos ID ffotograffig er mwyn cael pleidleisio. Mae ein herthygl ar yr etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn 2024 yn bwrw golwg ar y dadleuon parthed cyflwyno gofyniad ID pleidleisiwr a'i effaith bosibl ar y nifer sy'n pleidleisio.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Bydd Senedd y DU yn eistedd am y tro cyntaf ddydd Mawrth 9 Gorffennaf, pan fydd yr Aelodau Seneddol yn tyngu llw teyrngarwch neu’n rhoi cadarnhad difrifol, a hynny cyn ethol (neu ail-ethol) Llefarydd Tŷ’r Cyffredin.
Bydd Agoriad Swyddogol y Senedd yn cael ei gynnal ddydd Mercher 17 Gorffennaf – digwyddiad a fydd yn nodi dechrau ffurfiol y flwyddyn seneddol. Bydd Araith y Brenin yn nodi cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer sesiwn gyntaf y Senedd newydd.
Erthygl gan Adam Cooke, Josh Hayman, Joe Wilkes, ac Ahmed Ahmed, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru