Ar 7 Mai 2026, bydd pleidleiswyr ledled Cymru yn mynd i'r gorsafoedd pleidleisio i ethol Aelodau newydd o'r Senedd.
Yn yr etholiad hwn, byddwn yn gweld rhai newidiadau sylweddol yn cael eu cyflwyno. Mae'r rhain yn cynnwys 16 etholaeth newydd i ethol cyfanswm o 96 Aelod, system bleidleisio newydd, a gofynion cymhwysedd newydd ar gyfer ymgeiswyr.
Mae Etholiad 26 yn cynnwys cyfres o erthyglau sy'n dwyn ynghyd wybodaeth bwysig am yr etholiad. Byddant yn esbonio beth fydd pobl yng Nghymru yn pleidleisio drosto, sut i bleidleisio a pha gymorth sydd ar gael, y newidiadau a gyflwynir yn yr etholiad hwn, a mwy.
Caiff y dudalen hon ei diweddaru yn y cyfnod cyn yr etholiad a bydd dadansoddiad o'r canlyniadau ar gael yn fuan wedyn.
Etholaethau newydd, system bleidleisio wahanol a rhagor o Aelodau. Dyma rai o’r prif newidiadau sy’n dod yn etholiad y Senedd ym mis Mai 2026.
Mae’r erthygl hon – y gyntaf yn ein cyfres ar yr etholiad sydd i ddod – yn edrych ar y newidiadau hyn yn fanylach.
Gall y ffordd y mae senedd yn trefnu ei busnes a'r rheolau ynghylch pwy all siarad neu bleidleisio ymddangos yn hynafaidd, ond gallant gael effaith fawr ar sut caiff llywodraeth ei dwyn i gyfrif.
Bydd y Senedd yn cynyddu mewn maint i 96 o Aelodau ar ôl yr etholiad nesaf. Mae Pwyllgor Senedd y Dyfodol wedi bod yn edrych ar sut y gallai Senedd fwy o faint wella gwaith craffu, cryfhau atebolrwydd ac ehangu cynrychiolaeth.
Mae’r etholaethau ar gyfer etholiad y Senedd nesaf wedi’u cadarnhau.
Bydd pleidleiswyr ym mhob un o’r 16 etholaeth newydd yn ethol 6 aelod drwy’r system cynrychiolaeth gyfrannol â rhestrau caeedig. Mae’r newidiadau’n rhan o ddiwygiadau ehangach i’r Senedd a gyflwynwyd gan Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024.
Mae’r erthygl hon yn cynnwys mapiau o’r etholaethau newydd, yn esbonio sut y cawsant eu dewis ac yn edrych ymlaen at yr hyn sy’n digwydd nesaf.
Etholaethau newydd ar gyfer etholiad y Senedd yn 2026 wedi’u cyhoeddi
Rydym wedi llunio rhestr o'r dyddiadau allweddol yn y cyfnod cyn ac ar ôl etholiad y Senedd sydd ar ddod.
Mae llawer o'r wybodaeth hon wedi'i nodi yng Ngorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025, a adwaenir fel y Gorchymyn Cynnal Etholiadau, Deddf Llywodraeth Cymru 2006, a chanllawiau’r Comisiwn Etholiadol.
Beth yw'r dyddiadau allweddol ar gyfer etholiad y Senedd 2026?
Bu galwadau ers tro i'r Senedd wneud yn well o ran adlewyrchu amrywiaeth y bobl y mae'n eu cynrychioli. Clywodd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd fod amrywiaeth ymhlith y rhai sy’n cael eu hethol 'yn gwella’r ffordd y mae deddfwrfeydd yn gweithredu ac yn cynrychioli eu cymunedau'. Mae perygl y bydd diffyg cynrychiolaeth yn allgáu rhai lleisiau o wleidyddiaeth.
Bydd yr erthygl hon yn archwilio rhai o'r mesurau diweddaraf a gyflwynwyd i annog grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i sefyll i'w hethol i'r Senedd ac i gael gwared ar rwystrau y gallent eu hwynebu.
Pwy sy'n siarad dros Gymru? Sut allai etholiad Senedd 2026 fod yn fwy cynrychioliadol?
Mae llawer wedi newid ers y tro diwethaf i Gymru bleidleisio ar gyfer etholiad y Senedd ym mis Mai 2021.
Mae ein herthygl gyntaf yn y gyfres hon yn rhoi trosolwg o rai o'r prif newidiadau sydd ar ddod yn 2026, gan gynnwys newidiadau i faint y Senedd a'r system etholiadol. Ond rydym hefyd wedi gweld llawer o newidiadau i'r deddfau a'r rheolau sy'n llywodraethu sut y bydd yr etholiad yn cael ei gynnal.
Yn yr erthygl hon, byddwn yn edrych ar y newidiadau hyn yn fanwl a’u hystyr ar gyfer ymgeiswyr, pleidiau gwleidyddol a chyfranogwyr eraill yn yr etholiad. Nod y newidiadau yw gwneud yr etholiadau'n fwy agored a hygyrch i'r cyhoedd ac amddiffyn pleidleiswyr ac ymgyrchwyr rhag cael eu bygwth.
Etholiad y Senedd 2026: Egluro’r rheolau, troseddau a therfynau gwario newydd
Erthygl gan Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.