Estyn am y sêr: Rhwydwaith Seren a cheisiadau i brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt o Gymru

Cyhoeddwyd 06/07/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Rhwydwaith o ganolfannau rhanbarthol yw Seren a luniwyd i gefnogi pobl ifanc mwyaf galluog Cymru i gyflawni eu potensial academaidd a chael eu derbyn i brifysgolion blaenllaw, gan gynnwys Rhydychen a Chaergrawnt. Mae'r erthygl hon yn dilyn yr erthygl flaenorol am ymestyn disgyblion a allai gyflawni'n uchel yng Nghymru.

Prosiect Llysgennad Oxbridge

Ym mis Mai 2013, penodwyd Paul Murphy, cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn Llysgennad Oxbridge Llywodraeth Cymru, i ganfod pam y bu gostyngiad yn nifer y myfyrwyr a oedd yn gwneud cais i brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt a'r nifer a oedd yn cael eu derbyn yno.

Amcanion y prosiect oedd:

  • adolygu’r ymchwil a’r data a oedd ar gael ynghylch ceisiadau a derbyniadau i Oxbridge;
  • nodi’r rhwystrau sy’n atal myfyrwyr rhag dewis y prifysgolion hyn;
  • gwerthuso’r mentrau a’r rhaglenni sy’n annog myfyrwyr i ymgeisio am le yn Oxbridge.

Sefydlu canolfannau'r Rhwydwaith Seren

Ym mis Mehefin 2014, cyflwynodd Paul Murphy Adroddiad Terfynol Llysgennad Oxbridge Cymru i Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd. Prif argymhelliad yr adroddiad oedd sefydlu:

rhwydwaith genedlaethol o hybiau partneriaeth....sicrhau bod ysgolion a cholegau’n gallu dysgu oddi wrth ei gilydd, a rhannu adnoddau i gefnogi eu myfyrwyr mwyaf galluog yn academaidd.

Byddai'r canolfannau hyn yn sicrhau cysondeb yn y gefnogaeth i'r myfyrwyr sydd â'r potensial mwyaf ledled Cymru. Ynghyd ag ysgolion a cholegau, byddai disgwyl i brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt gyfrannu at y canolfannau hefyd. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad a sefydlwyd rhwydwaith Seren ym mis Ionawr 2015.

Roedd yr adroddiad yn cynnwys 15 argymhelliad arall, gan gynnwys:

  • Dylai Llywodraeth Cymru godi safonau TGAU, ac yn bwysicach fyth, safonau Safon Uwch Gyfrannol a Safon Uwch myfyrwyr Cymru;
  • Dylai Llywodraeth Cymru, ynghyd â Rhydychen a Chaergrawnt, a thrwy'r canolfannau, sicrhau mynediad i wybodaeth ddibynadwy a chywir i chwalu canfyddiadau anghywir ynghylch astudio yn Rhydychen a Chaergrawnt ac i godi ymwybyddiaeth am y cymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr o Gymru;
  • Dylai’r hybiau a'r prifysgolion lunio canllawiau ar rannu’r arferion gorau uwch-gwricwlaidd academaidd rhwng ysgolion, colegau a phrifysgolion;
  • Dylai’r prifysgolion wella’u hadborth i helpu athrawon yng Nghymru ddeall y profion derbyn a'r broses gyfweld.

Strwythur

Ar 15 Ionawr 2015, lansiwyd y tair canolfan cyntaf, a chawsant eu hehangu wedyn ledled Cymru. Ar ddechrau blwyddyn academaidd 2016/17, roedd 11 canolfan yng Nghymru, a oedd yn cefnogi dros 2,000 o fyfyrwyr. Bellach, mae gan bob myfyriwr cymwys yng Nghymru fynediad at ganolfan.

Mae pob canolfan yn bartneriaeth o ysgolion a cholegau Addysg Bellach, wedi ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru a rhai o brifysgolion blaenllaw'r DU, gan gynnwys Rhydychen, Caergrawnt, prifysgolion grŵp Russell ac Ymddiriedolaeth Sutton 30. Mae'r sefydliadau yn gweithio'n agos gyda'i gilydd i ddatblygu rhaglen gymorth ar gyfer pobl ifanc yn eu rhanbarth, a arweinir gan gydlynydd canolfan. Ni chaiff myfyrwyr wneud cais uniongyrchol i fod yn rhan o'r Rhwydwaith Seren. Rhaid iddynt gael eu henwebu gan athrawon, yn seiliedig ar eu canlyniadau TGAU. Ym mis Mawrth 2017, cyhoeddodd y Gweinidog Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ar y pryd brosiect newydd rhwng Coleg yr Iesu, Prifysgol Rhydychen a Rhwydwaith Seren. Bydd Coleg yr Iesu yn cynnal ysgol haf ddi-dâl i fyfyrwyr o Gymru ym mis Awst 2017, y rhaglen gyntaf o'i fath ar gyfer myfyrwyr o Gymru yn unig.

Nodau

Nod y Rhwydwaith Seren yw ysbrydoli myfyrwyr ynglŷn â’u dyheadau a rhoi cymorth i fyfyrwyr ac athrawon i sicrhau y gall pobl ifanc disgleiriaf Cymru gyrraedd eu potensial a chael eu derbyn i brifysgolion gorau'r DU. Er mwyn gwneud hyn, mae'r rhaglen yn anelu at:

  • Herio myfyrwyr i ymestyn eu gwybodaeth y tu hwnt i'r cwricwlwm Safon Uwch, drwy gynnal gweithdai ar bynciau penodol;
  • Cynnig cyngor ymarferol a chymorth ar wneud cais UCAS a pharatoi ar gyfer cyfweliadau ac asesiadau;
  • Cysylltu myfyrwyr â phrifysgolion gorau'r DU, gan roi gwybodaeth am gyrsiau, ysgolion haf a gweithdai;
  • Cefnogi ysgolion ac athrawon o ran darparu gwybodaeth, cyngor a gweithgareddau ar gyfer myfyrwyr disglair.

Y cyd-destun polisi

Mae'r angen i godi safonau, yn enwedig ymhlith y disgyblion mwyaf galluog a dawnus, yn un o nodau allweddol mentrau polisi Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Roedd adroddiad OECD, Improving Schools in Wales: An OECD Perspective (PDF 3.57 MB) (2014) yn gweld gwendid yn system addysg Cymru gan ddweud bod cyfran uchel a chynyddol o bobl ifanc sy'n tangyflawni a chyfran isel o bobl ifanc sy'n cyflawni'n dda. Fel yr esboniwyd yn ein herthygl flaenorol, er bod cyfran y disgyblion sy'n cael 5 neu ragor o raddau TGAU A* - C wedi cynyddu, mae'r gyfran sy'n cael 5 neu ragor o raddau A* neu A wedi gostwng. Amlygwyd hyn gan ganlyniadau PISA 2015 Cymru a oedd yn dangos bod perfformiad ar y lefelau uwch o hyfedredd yn is na chyfartaledd yr OECD, ac yn is na gwledydd eraill y DU. Mae'r adroddiad yn argymell bod angen gwneud mwy i ymestyn y disgyblion mwyaf galluog a thalentog. Amlygwyd y broblem hon yn Adroddiad Terfynol Llysgennad Oxbridge:

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar godi cyfartaledd lefelau cyrhaeddiad ysgolion a cholegau, gan roi pwyslais penodol ar lythrennedd a rhifedd. Er hynny, er mwyn sicrhau bod yr ysgolion a’r colegau hyn yn rhoi blaenoriaeth i gefnogi’r myfyrwyr sydd â’r gallu academaidd mwyaf, dylid ystyried sut i gydnabod llwyddiant o ran y graddau uchaf yn allanol, un ai drwy fandio [categoreiddio ysgolion] neu gloriannu perfformiad mewn ffyrdd eraill.

Dywedodd yr Ysgrifennydd y Cabinet wrth y fforwm trafod ar Y genhadaeth genedlaethol o ddiwygio addysg – busnes pawb, a gynhaliwyd gan Positif ar 9 Mai 2017, fod Llywodraeth Cymru yn mynd ati i edrych ar gynllun wedi'i dargedu i ymestyn y disgyblion mwyaf galluog a thalentog, yn cynnwys y Rhwydwaith Seren. Cyfeiriodd Kirsty Williams hefyd at lwyddiant y rhwydwaith yn ei datganiad ynghylch yr Ymgynghoriad ar Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol ar 20 Mehefin:

Mae ein rhaglen Seren, er enghraifft, yn rhoi enghraifft dda iawn o'r hyn y gellir ei gyflawni.

Cyrhaeddiad a cheisiadau Oxbridge

Yn ogystal â thrafod y broblem o lefelau isel o gyrhaeddiad uchel yn y system addysg yng Nghymru, nododd Adroddiad Terfynol Llysgennad Oxbridge Cymru nad yw myfyrwyr Cymru yn gwneud cystal ym mhroses dderbyn Rhydychen a Chaergrawnt, o gymharu â myfyrwyr eraill yn y DU. Mae'r ddogfen Cyrhaeddiad myfyrwyr Cymru a’r ymgeiswyr sy’n cael eu derbyn yn Rhydychen a Chaergrawnt: y dystiolaeth: Crynodeb gweithredol estynedig, rhan o Brosiect Llysgennad Oxbridge, yn cyfeirio at ffactorau posibl eraill y gallai bod yn werth casglu data a dadansoddiadau pellach amdanynt. Gallai'r rhain gynnwys: cymorth addysgol, yn nhermau addysgu, uchelgais, argaeledd pynciau a chyfuniadau pynciau, geirda UCAS; i ba raddau y mae'r unigolyn wedi paratoi, yn nhermau cymhelliant ac archwilio uwch-gwricwlaidd.

Mae Prifysgol Rhydychen yn cyhoeddi ystadegau derbyn, wedi eu rhannu rhwng astudiaethau israddedig ac ôl-raddedig, gan gynnwys ystadegau yn ôl rhanbarth. Mae'r tabl isod yn dangos bod cyfradd llwyddiant myfyrwyr israddedig yng Nghymru wedi cynyddu ers 2013 ac mai'r llwyddiant cyfartalog ers 2014 yw 19.5%.

Tabl 1: Ystadegau derbyn Prifysgol Rhydychen Mae Prifysgol Caergrawnt yn cyhoeddi ystadegau derbyn blynyddol ar gyfer astudiaethau israddedig, sydd hefyd yn cynnwys ystadegau yn ôl rhanbarth. Mae'r tabl isod yn dangos bod ceisiadau gan fyfyrwyr o Gymru rhwng 2013 a 2016 yn cynrychioli 1.6% o'r holl geisiadau i'r brifysgol. Gostyngodd y ganran o gynigion i fyfyrwyr o Gymru drwch blewyn, o 2.0% yn 2014 i 1.6% yn 2016. Cynyddodd y gyfradd lwyddiant gyffredinol o 19.6% yn 2013 i 26% yn 2014, ond gostyngodd i 20.7% yn 2016.

Tabl 2: Ystadegau derbyn Prifysgol Caergrawnt


Mae'r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y cymorth a ddarperir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i Laura Beth Davies ar gyfer ei hastudiaethau academaidd a'i hinterniaeth gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru, a'i galluogodd i gwblhau'r erthygl hon. Erthygl gan Laura Beth Davies, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Llun: o Lywodraeth Cymru Cefnogi Myfyrwyr Disgleiriaf Cymru (2017)

Tabl 1: Ystadegau Ceisiadau Prifysgol Rhydychen – Rhanbarthau'r DU

Tabl 2: Ffynhonnell: Prifysgol Caergrawnt

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Estyn am y sêr: Rhwydwaith Seren a cheisiadau i brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt o Gymru (PDF, 383KB)