Yr wythnos hon bydd Aelodau o’r Senedd yn trafod cynnig deddfwriaethol ar effaith gorlifoedd storm, a elwir hefyd yn Orlifoedd Carthffosiaeth Cyfunol (CSOs).
Cyflwynodd Deddf yr Amgylchedd 2021 ddarpariaethau a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i leihau gollyngiadau o orlifoedd storm. Cafodd gryn dipyn o sylw yn y cyfryngau. Fodd bynnag, mae’r darpariaethau’n gymwys i ymgymerwyr carthffosiaeth sy’n gweithredu yn Lloegr yn unig, ac nid oes dim darpariaethau cyfatebol mewn perthynas â Chymru.
Mae ein papur briffio ymchwil newydd yn edrych ar orlifoedd storm yng Nghymru; sut maen nhw'n cael eu rheoli, pa mor dda y deallir nhw, a sut maen nhw'n effeithio ar ansawdd dŵr.
Erthygl gan Lorna Scurlock, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru