Effaith bwyd a diod mewn ysgolion ar ganlyniadau disgyblion

Cyhoeddwyd 13/05/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Ddydd Mercher, bydd Jenny Rathbone AC, Dai Lloyd AC a Joyce Watson AC yn arwain 'Dadl Aelodau' yn y Cyfarfod Llawn ynghylch yr effaith y gall ansawdd prydau ysgolion ei chael ar les, cyrhaeddiad ac ymddygiad cadarnhaol disgyblion.

Nod yr erthygl hon yw rhoi rhywfaint o wybodaeth gefndirol i helpu Aelodau’r Cynulliad i baratoi at y ddadl. Gallai fod o ddiddordeb i randdeiliaid hefyd.

Y sefyllfa o ran polisi a deddfwriaeth

Gellir gweld bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd cael bwyd iach a maethlon ar gyfer canlyniadau addysgol yn ei chanllaw ar y cynllun Brecwast am Ddim, sy'n nodi:

mae ymchwil yn awgrymu bod plant sy’n cael cyfle i fwyta brecwast iachus a maethlon cyn dechrau’u diwrnod yn yr ysgol yn fwy tebygol o gyflawni eu potensial addysgol llawn.

Cafodd y cynllun Brecwast am Ddim ei gyflwyno yn 2004, ac mae'n ceisio gwella iechyd a sgiliau canolbwyntio plant a helpu i godi safonau dysgu a chyrhaeddiad.

Pwysigrwydd bwyd iach a maethlon yw un o'r rhesymau pam bod rhai disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim (FSM) amser cinio er mwyn sicrhau na fyddant fel arall yn colli allan ar fanteision iechyd ac addysgol yn sgil cael pryd maethlon oherwydd diffyg fforddiadwyedd. Cafodd hyn ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru yn ei hymgynghoriad yn 2018 ar ddiwygio'r meini prawf i fod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim (PDF 732KB):

[Mae prydau ysgol am ddim] yn helpu i sicrhau bod gan blant cymwys fynediad i bryd maethlon, gyda’r nod o wella canlyniadau iechyd ac addysgol.

Yn ei Hasesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r ymgynghoriad (PDF 883KB), cyfeiriodd Llywodraeth Cymru at dystiolaeth anecdotaidd (PDF) a oedd yn dweud y gallai prydau ysgol iach helpu i wella cyrhaeddiad addysgol drwy wella ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth a helpu i wella perfformiad academaidd.

Mae Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion hyrwyddo bwyta ac yfed iach ymysg disgyblion mewn ysgolion a gynhelir.

Mae rheoliadau a wnaed o dan y Mesur, sef Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013, yn rhoi gofynion a safonau ynghylch yr holl fwyd a diod a weinir i ddisgyblion amser brecwast, egwyl bore, cinio, egwyl prynhawn a chlybiau ar ôl ysgolion ar draws y diwrnod ysgol cyfan mewn pob ysgol a gynhelir. Mae hyn yn berthnasol p'un a gaiff y bwyd/diod ei ddarparu gan yr awdurdod lleol, yn fewnol gan yr ysgol neu gan arlwywyr ar gontract. Mae'r rheoliadau hefyd yn gymwys i fwyd a diod a weinir mewn unrhyw le ar safle'r ysgol drwy gydol y diwrnod ysgol, gan gynnwys siop fwyd yn yr ysgol, peiriannau gwerthu bwyd, ardaloedd gweini y tu allan, ffreuturau a chaffis chweched dosbarth.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau statudol yn 2014 i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ar sut i gyflawni'r dyletswyddau hynny.

Ym mis Mawrth 2018, atebodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, Gwestiwn Ysgrifenedig y Cynulliad (WAQ76113) ar sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro cydymffurfiaeth â rheoliadau 2013 fel a ganlyn:

It is the responsibility of local authorities and governing bodies of maintained schools to satisfy themselves that they are complying with their duties under the Healthy Eating in Schools Regulations. However, during inspections Estyn will monitor compliance with the [regulations]. (…)

In addition the Welsh Local Government Association provides support to schools in ensuring their school meals meet the standards set out in these regulations. This support includes help with producing menus which comply with the food and nutritional standards within the healthy eating in schools regulations, and issuing compliance certificates to schools that provide the required evidence.

Adroddiad Comisiynydd Plant Cymru

Mae'r cynnig sy'n cael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn yn cyfeirio at adroddiad a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru ym mis Mawrth 2019, Siarter ar gyfer Newid: Amddiffyn Plant yng Nghymru rhag Effaith Tlodi (PDF). Mae'r adroddiad hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi 'Cynllun Cyflawni ar gyfer Tlodi Plant' sy'n nodi camau tymor byr i ganolig a fydd 'yn sbarduno newidiadau amlwg i fywydau plant a phobl ifanc sy’n byw mewn tlodi'. Mynediad at fwyd a diod yw un o'r meysydd y canolbwyntir arno yn yr adroddiad fel rhan o 'ddiwallu anghenion sylfaenol'.

Dywed y Comisiynydd Plant, yn y gwaith maes a wnaed ar gyfer ei hadroddiad, fod rhai athrawon wedi dweud bod rhai plant a phobl ifanc yn dod i'r ysgol yn llwglyd. Mae'r Comisiynydd yn tynnu sylw at broblem tlodi bwyd, gan gyfeirio at ganfyddiad y Sefydliad Bwyd (PDF) fod angen i 32% o aelwydydd yng Nghymru wario dros chwarter eu hincwm gwario ar ôl costau tai i ddiwallu eu hanghenion bwyd, sef ffigur sy'n uwch nag unrhyw wlad arall yn y DU.

Dywed y Comisiynydd Plant, mewn rhai achosion, fod disgyblion yn dweud nad oedd y lwfans prydau ysgol am ddim yn ddigon er mwyn prynu pryd o fwyd a diod a'u bod yn gorfod dewis rhyngddynt, neu rhwng cinio a byrbryd yn ystod amser egwyl.

Mae'r cynnig i'w drafod yn y Cyfarfod Llawn yn cyfeirio at Siarter ar gyfer Newid: Amddiffyn Plant yng Nghymru rhag Effaith Tlodi fel 'tystiolaeth sy'n peri pryder nad yw nifer sylweddol o ddisgyblion yn cael yr hawl a nodir yng nghanllawiau bwyta'n iach mewn ysgolion a gynhelir'.

Mae adroddiad y Comisiynydd Plant yn dweud bod un ysgol wedi penderfynu diffodd ei ffynhonnau dŵr, sy'n golygu bod yn rhaid i ddisgyblion wario £1 ar brynu dŵr, sy'n effeithiol felly ar eu gallu i brynu bwyd. Dywedodd y Comisiynydd Plant fod 'hyn yn destun pryder arbennig gan ei fod yn mynd yn groes i ganllawiau Llywodraeth Cymru'.

Mae adran 5 o Fesur 2009 yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau bod cyflenwad o ddŵr yfed ar gael, am ddim, ar safle unrhyw ysgol a gynhelir. Mae canllawiau statudol 2014 yn nodi bod 'rhaid sicrhau bod dŵr yfed ffres ar gael yn hwylus i ddisgyblion am ddim, yn enwedig yn ystod sesiynau brecwast ac amseroedd cinio'. Dywed hefyd y dylai ysgolion hyrwyddo bod dŵr ar gael gan gyfeirio at orsafoedd dŵr drwy'r ysgol gyfan.

Mynegodd Jenny Rathbone AC rai o'r pryderon yn adroddiad y Comisiynydd Plant, gan gynnwys y rhai sy'n yn ymwneud â darparu dŵr, yn ystod y drafodaeth ar y Datganiad Busnes yn y Cyfarfod Llawn ar 5 Mawrth 2019 (paragraffau 186-190).

‘Gwyliau llwglyd’

Mae adroddiad y Comisiynydd Plant hefyd yn tynnu sylw at 'wyliau llwglyd' gan ddweud:

Gall gwyliau ysgol fod yn gyfnod arbennig o anodd i deuluoedd sy’n gymwys i dderbyn Prydau Ysgol am ddim, gan fod rhaid iddyn nhw ddarparu rhywbeth yn lle’r pryd rheolaidd sy’n cael ei golli.

Yn 2017, treialodd Llywodraeth Cymru ei Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf (SHEP), a oedd yn rhaglen aml-asiantaeth i geisio gwella profiad gwyliau'r haf i blant o'r cymunedau mwyaf difreintiedig drwy roi bwyd iach iddyn nhw a'u helpu i gymryd rhan mewn gweithgareddau a hwyl yn yr awyr agored. Ei rhesymeg yw y gall plant mewn amgylchiadau difreintiedig fod yn fwy agored i ffactorau risg gan gynnwys deiet gwael a lefelau is o weithgarwch corfforol. Gallant hefyd syrthio y tu ôl i'w cyfoedion yn addysgol yn ystod gwyliau'r haf neu golli momentwm yn eu haddysg y maent wedi'i datblygu yn ystod y flwyddyn ysgol.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wrth Aelodau’r Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn ar 30 Ebrill 2019:

Fel y mae pob un ohonom yn gwybod, i rai o'n pobl ifanc a'n plant, gall gwyliau haf yr ysgol fod yn gyfnod anodd. Weithiau gall plant sy'n cael brecwast a chinio ysgol am ddim fynd heb y prydau hyn a mynd yn llwglyd yn ystod gwyliau'r ysgol. Dyna pam yr ydym yn ariannu y rhaglen gyfoethogi yn ystod gwyliau'r ysgol. Mae hon yn cyflawni deilliannau addysgol, cymdeithasol ac iechyd, yn ogystal â manteision maeth, ac rydym wedi cynyddu'r buddsoddiad hwn eto er mwyn i fwy fyth o blant gael budd o'r cynllun yr haf hwn.

Dywedodd y Gweinidog, ar ôl i'r rhaglen gael ei hymestyn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, y bydd SHEP yn digwydd mewn 21 o awdurdodau lleol yn haf 2019. Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru yn ystyried p'un a allai'r rhaglen gael ei hymestyn y tu hwnt i ysgolion i leoliadau eraill er mwyn mynd i'r afael â'r straen ariannol ar deuluoedd i dalu am ddarparu prydau bwyd i blant yn ystod y chwe wythnos yng ngwyliau'r haf.

Pwysau Iach: Cymru Iach

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori'n ddiweddar ar ei strategaeth ddrafft i atal a lleihau gordewdra, Pwysau Iach: Cymru Iach.

Yn ystod gwaith craffu'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar y strategaeth ddrafft, nid oedd rhanddeiliaid yn teimlo bod angen gwneud gwaith sylweddol ond roeddent yn credu bod angen monitro mwy ar y graddau yr oedd ysgolion yn gallu cydymffurfio â Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013. Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y Pwyllgor fod gwaith ar droed i ystyried diweddaru'r Rheoliadau 2013 mewn perthynas â chanllawiau cynnwys siwgr.

Sut i ddilyn y drafodaeth

Mae'r Ddadl Aelodau wedi'i threfnu ar gyfer dydd Mercher 15 Mai 2019 am tua 4.25pm. Darlledir y Cyfarfod Llawn ar Senedd TV a bydd trawsgrifiad ar gael ar wefan Cofnod Trafodion y Cynulliad.


Erthygl gan Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru