Edrych yn ôl ar interniaeth Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol yn y Gwasanaeth Ymchwil

Cyhoeddwyd 16/01/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

16 Ionawr 2017 Erthygl gan Eleanor Warren-Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Llun o'r Pierhead a'r Senedd ym Mae Caerdydd Interniaethau polisi ar gyfer myfyrwyr PhD Mae Cynllun Interniaethau Polisi y Cyngor Ymchwil yn rhoi cyfle i fyfyrwyr PhD a ariennir gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol i weithio mewn sefydliadau polisi hynod ddylanwadol am dri mis. Penderfynais wneud cais am fod gen i gryn ddiddordeb mewn gwaith ymchwil cymhwysol a gwaith ymchwil sy'n berthnasol i bolisi a dewisais leoliad seneddol, er bod sefydliadau nad ydynt yn rhai seneddol yn cymryd rhan yn y cynllun hefyd. Ar ôl paratoi fy nghais, fy ngwaith enghreifftiol, a mynd i gyfweliad yn Llundain, cefais gynnig lleoliad gyda thîm yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth yng Ngwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Nid oeddwn yn siŵr beth i'w ddisgwyl ar yr interniaeth, ond roeddwn wedi siarad â myfyrwyr a oedd eisoes wedi cwblhau interniaeth o'r fath, ac roeddwn yn gwybod ers y cyfweliad y byddwn yn rhan o bob agwedd ar waith y tîm ymchwil. Rhan o'r tîm Cefais wythnos gyntaf lawn wrth ddilyn yr amserlen gynefino brysur, a chefais gyflwyniad trylwyr i waith y Cynulliad a'r Gwasanaeth Ymchwil. Gan nad oeddwn wedi gweithio mewn lleoliad seneddol o'r blaen, roedd hyn yn hynod o werthfawr, a dysgais am hanes datganoli yng Nghymru, strwythur y Cynulliad, a rôl y Pwyllgorau wrth graffu ar Lywodraeth Cymru. Dysgais hefyd am y rôl ganolog y mae'r Gwasanaeth Ymchwil yn ei chwarae wrth ddarparu gwaith ymchwil rhagweithiol o safon uchel yn ôl y galw i Aelodau'r Cynulliad, sy'n cael ei ddefnyddio ar bob lefel o'u gwaith. Roedd pawb yn y Gwasanaeth Ymchwil a'r adrannau eraill yn groesawgar iawn, a gwnaeth tîm ymchwil yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth ymdrech fawr i sicrhau y gallwn ymgartrefu'n gyflym yn rhan o'r tîm. Mathau amrywiol o waith Yn fras, mae gwaith tîm ymchwil yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth yn cynnwys: ymateb i ymholiadau gan Aelodau'r Cynulliad; cefnogi gwaith y Pwyllgorau (Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn fy achos i); a pharatoi sesiynau briffio rhagweithiol, crynodebau o Ddeddfau a Biliau, a chofnodion blog. Roeddwn yn gallu cyfrannu at bob math o waith yn ystod y tri mis gyda'r gwasanaeth. Es i amrywiaeth o ddigwyddiadau hefyd, gan gynnwys Fforwm EC-UK a derbyniadau cyrff anllywodraethol. Gall ymholiadau godi yn sgil cwestiynau etholwyr i Aelodau'r Cynulliad, fel rhan o'r broses o graffu ar Lywodraeth Cymru, neu feysydd ymchwil cyffredinol Aelodau'r Cynulliad. Ymatebais i amrywiaeth eang o ymholiadau, o filoedd o eiriau mewn papurau briffio yn trafod newid hinsawdd mewn gwledydd datblygol a chynllunio trafnidiaeth ranbarthol, i grynodebau byrrach o ddeddfwriaeth berthnasol ar hawliau tramwy neu reoli coed. Roeddwn yn bresennol mewn nifer o sesiynau'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, gan roi cipolwg i mi ar sut y mae'r pwyllgor yn gweithio. Paratois waith ymchwil i gefnogi ymchwiliadau i ddyfodol polisïau amaethyddol a datblygu gwledig yng Nghymru, a'r dull gweithredu o ran dileu twbercwlosis mewn gwartheg yng Nghymru. Mae blog y Gwasanaeth Ymchwil, "Pigion", yn cyhoeddi erthyglau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â gwaith y Cynulliad, er enghraifft cyn i ddatganiadau gweinidogol gael eu gwneud, neu ar bynciau sydd o ddiddordeb ehangach i'r Cynulliad, ac mae'n un o lwyfannau allweddol y Gwasanaeth Ymchwil. Ysgrifennais ddau gofnod blog yn ystod fy interniaeth, ar ddyfodol gwasanaethau bysiau a'r diwydiant bwyd a diod. Cefais gyfle hefyd i ysgrifennu pedwar cyhoeddiad rhagweithiol ar y cyd ag aelod parhaol o'r tîm ymchwil. Mae un o'r rhain, sef papur briffio am broses newydd ar gyfer ceisiadau cynllunio, eisoes ar gael ar-lein ac yn cael ei ddefnyddio gan randdeiliaid. Caiff tri phapur briffio arall eu cyhoeddi ar ôl i'r interniaeth ddod i ben, yn trafod y diwydiant bwyd a diod a choetiroedd a choedwigaeth yng Nghymru. Er mwyn creu'r deunyddiau hyn, roedd yn rhaid gweithio mewn ffyrdd newydd o gymharu â fy ngwaith ymchwil PhD. Roedd yn rhaid bod yn ddiduedd, yn gywir ac yn drylwyr wrth greu'r holl ddeunyddiau, ac fe ddatblygais fy arddull ysgrifennu yn sgil sylwadau golygyddol fy nghydweithwyr. Bûm yn cydweithio â staff cymorth Aelodau'r Cynulliad a'r adran gyfreithiol; yn archwilio ac yn dadansoddi dogfennau polisi Llywodraeth Cymru, datganiadau gweinidogol a gwaith y pwyllgorau; yn gwneud ceisiadau am wybodaeth gan randdeiliaid perthnasol ac yn coladu'r wybodaeth honno; a gofynnais am wybodaeth gan Lywodraeth Cymru. Rhagori ar ddisgwyliadau Gan edrych yn ôl ar fy mhrofiad yn gweithio gyda'r Gwasanaeth Ymchwil, rwyf wedi dysgu llawer am ddefnyddio tystiolaeth mewn prosesau seneddol ac wrth lunio polisïau, ac wrth weithio mewn amgylchedd sector cyhoeddus. Rwy'n teimlo fy mod mewn sefyllfa llawer gwell i ddeall y broses o lunio polisïau, a fydd yn amhrisiadwy ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol. Roedd gweithio mewn tîm agos wrth gyflawni gwaith ymchwil yn brofiad newydd i mi hefyd, a chefais gymryd rhan mewn ystod llawer ehangach o waith na'r hyn yr oeddwn wedi ei ddisgwyl. Yn ogystal â hyn i gyd, cefais gyfle i brofi bywyd yn ne Cymru a dinas fywiog Caerdydd! Roedd y profiad yn hollol gadarnhaol, a byddwn yn annog unrhyw fyfyriwr PhD sydd â diddordeb mewn Interniaeth Polisi i ystyried gwneud hynny gyda Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.