Er ei bod yn anghyfreithlon gwerthu fêps i unrhyw un o dan 18 oed, mae fêpio ymysg ieuenctid yng Nghymru wedi treblu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae pecynnu llachar, blas ffrwythau, a hysbysebion wedi'u targedu ar y cyfryngau cymdeithasol yn gwneud fêps yn fwyfwy deniadol - a normal - ymysg pobl ifanc.
Mae'r erthygl hon yn archwilio risgiau fêps ymysg ieuenctid ac yn archwilio sut mae'r Bil Tybaco a Fêps am fynd i'r afael â'r tueddiadau hyn a diogelu cenedlaethau'r dyfodol.
Beth mae'r dystiolaeth yn ei ddangos: risg iechyd fêpio
Mae fêpio yn peri risgiau iechyd sylweddol i blant a phobl ifanc. Mae'r rhan fwyaf o fêps yn cynnwys nicotin - sylwedd caethiwus iawn - a chymysgedd o gemegau gwenwynig. Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn rhybuddio bod fêpio yn beryglus i bobl ifanc yn eu harddegau, gyda nicotin yn gallu amharu ar ddatblygiad yr ymennydd a chynyddu'r risg o anhwylderau dysgu a gorbryder. Gall aerosolau fêps gynnwys sylweddau niweidiol fel fformaldehyd, acetaldehyd, metelau trwm, a chyfrwng blasu sy'n gysylltiedig â phroblemau ysgyfaint a’r galon.
Mae’r GIG hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod ymennydd ac ysgyfaint pobl ifanc sy'n datblygu yn arbennig o agored i niwed. Gall fêpio arwain at gaethiwed, newid mewn hwyliau, ac anhawster canolbwyntio. Mae'n rhybuddio y gall pobl ifanc sy'n fêpio brofi symptomau anadlol, fel gwichian, poen yn y frest, a pheswch cronig.
Porth i ysmygu
Mae fêpio yn cael ei gydnabod fwyfwy fel porth i smygu. Mae data ar y defnydd o fêps ym Mhrydain Fawr a gyhoeddwyd gan y grŵp ymgyrchu ASH yn awgrymu bod tua thraean o'r bobl ifanc yn eu harddegau sy'n fêpio yn troi at smygu yn y pen draw. Mae'n dweud nad yw llawer o bobl ifanc sy’n fêpio erioed wedi smygu tybaco, gan nodi bod fêpio yn dod yn borth mynediad newydd i ddefnyddio nicotin yn hytrach na chymorth rhoi'r gorau iddi. Mae'r defnydd o gynhyrchion fêpio anghyfreithlon neu heb eu rheoleiddio yn gwaethygu'r risgiau iechyd ymhellach.
Tueddiadau fêpio ymysg ieuenctid yng Nghymru
Mae data arolwg o'r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion yn dangos cynnydd sydyn mewn fêpio ymysg ieuenctid. Yn 2023, dywedodd 15.9% o fyfyrwyr Blwyddyn 11 yng Nghymru eu bod yn fêpio o leiaf yn wythnosol, ac roedd bron i hanner (45.4%) wedi rhoi cynnig arni. Roedd fêpio rheolaidd yn fwy cyffredin ymysg merched (8.6%) na bechgyn (5.1%), ac roedd llawer nad oeddynt erioed wedi smygu.
Negeseuon lleihau niwed: cadw’r ddysgl yn wastad
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydnabod bod fêpio yn llai niweidiol nag ysmygu, nid yw'n ddi-risg, yn enwedig i bobl ifanc. Er bod fêpio yn osgoi'r hylosgi sy'n cynhyrchu tar a charbon monocsid, gall y neges "llai niweidiol" gael ei chamddehongli gan bobl ifanc yn eu harddegau fel "diniwed."
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn pwysleisio na ddylai pobl nad ydynt yn smygu, yn enwedig pobl ifanc, fêpio o gwbl. Dywed, “Prin iawn yw'r dystiolaeth ynghylch yr effeithiau ar iechyd sy'n deillio o’r defnydd o dyfeisiau fêpio. Fodd bynnag, mae fêpio yn rhoi pobl ifanc mewn perygl o fod yn gaeth i nicotin, dibyniaeth sy'n effeithio ar eu haddysg, eu hymddygiad a'u bywyd bob dydd”.
Er mwyn mynd i'r afael â hyn, mae ymgyrchoedd iechyd cyhoeddus yn addasu eu negeseuon:
- Ar gyfer Smygwyr sy'n oedolion: Gall fêpio eich helpu i roi'r gorau i smygu ac mae'n llai niweidiol na pharhau i smygu.
- Ar gyfer pobl ifanc a phobl nad ydynt yn smygu: Nid yw fêpio yn ddiogel. Gall niweidio'ch ymennydd, eich ysgyfaint, ac arwain at gaethiwed - hyd yn oed os yw'n llai niweidiol na smygu.
Mesurau fêpio yn y Bil Tybaco a Fêps
Mae'r Bil Tybaco a Fêps ar gyfer y DU gyfan a chaiff ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru. Y mesur mwyaf uchel ei broffil ynddo yw'r gwaharddiad tybaco ar sail oedran, sy'n sicrhau na fydd tybaco’ fyth yn cael ei werthu’n gyfreithlon i unrhyw un a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009 (gweler ein herthygl flaenorol am fanylion).
Mae'r Bil yn cynnig ystod o fesurau gyda'r nod o leihau apêl, hygyrchedd, a gwelededd fêps i blant o dan 18 oed. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Cyfyngiadau ar hysbysebu, blasau, pecynnu a pheiriannau gwerthu i gyfyngu'r apêl i bobl ifanc.
- Creu parthau di-fêp, yn debyg i ardaloedd di-fwg, i leihau amlygiad a normaleiddio mewn mannau cyhoeddus.
- Pwerau i Safonau Masnach Cymru orfodi rheoliadau, gan gynnwys dyroddi hysbysiadau cosb benodedig.
- System drwyddedu manwerthwyr yn cwmpasu tybaco a chynhyrchion fêp.
- Cyfyngiadau ar sut a ble y gellir hyrwyddo fêps, gan gynnwys gwelededd ar-lein ac mewn siopau.
- Dirwyon yn y fan a'r lle am werthu i blant o dan 18 oed, a chryfhau gorfodi.
Ar wahân, cafodd gwaharddiad ar fêps tafladwy ei gyflwyno yng Nghymru ar 1 Mehefin 2025, i fynd i'r afael â phryderon amgylcheddol ac iechyd.
Gwaith Craffu yn y Senedd
Adolygodd Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y Senedd ddau Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (Memoranda) ar y Bil a chefnogodd y Senedd i roi cydsyniad. Gwnaeth nifer o argymhellion penodol:
- Negeseuon cliriach i bobl ifanc: gofynnodd y Pwyllgor i Lywodraeth Cymru (gan weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru) ddarparu canllawiau cliriach i blant a phobl ifanc am risgiau hirdymor fêpio a dibyniaeth ar nicotin, gan adleisio'r dystiolaeth y dylai pobl ifanc osgoi fêpio yn gyfan gwbl.
- Cymorth i bobl ifanc: anogodd Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau cymorth ar gael i bobl ifanc sydd eisoes yn gaeth i nicotin.
- Gorfodi: gofynnodd y Pwyllgor i Lywodraeth Cymru asesu'r mecanweithiau gorfodi sy'n cyd-fynd â'r Bil, i gadarnhau eu bod yn ddigonol ar gyfer rheoleiddio fêpio, ac i adrodd yn ôl ar ei chanfyddiadau.
- Eglurhad o bwerau dirprwyedig: gofynnodd i Lywodraeth Cymru egluro a yw'r pwerau dirprwyedig yng Nghymal 92, sy'n llywodraethu cynnwys a blasau fêps, yn berthnasol i Ysgrifennydd Gwladol y DU yn unig, neu a oes gan Weinidogion Cymru awdurdod o dan y Bil hefyd. Rhaid ymgynghori â Gweinidogion Cymru ar faterion o fewn cymhwysedd datganoledig, ond nid oes ganddynt bwerau uniongyrchol i reoleiddio blasau.
Gwahardd fêps yn llwyr
Mae Llywodraethau Cymru a'r DU yn cydnabod y gall fêpio helpu oedolion i roi'r gorau i smygu. Galwodd yr Athro Chris Whitty, fel cyn Brif Swyddog Meddygol y DU, y farchnata fêps i blant a phobl ifanc yn "hollol annerbyniol" a chymeradwyo'r Bil fel cam hanfodol tuag at genhedlaeth ddi-fwg a di-fêp.
Yn hytrach na gwahardd fêps yn llwyr, dywed Llywodraeth y DU ei bod yn dilyn dull cytbwys - y gall fêps, o'u cyfuno â chefnogaeth ymddygiadol, helpu smygwyr sy'n oedolion i roi'r gorau iddi, ond ni ddylai plant ac oedolion nad ydynt erioed wedi smygu fyth fêpio".
Mae hefyd yn ariannu rhaglen ymchwil 10 mlynedd gwerth £62 miliwn i ymchwilio i effeithiau iechyd hirdymor fêpio ar blant a phobl ifanc.
Edrych tua'r dyfodol
Mae Ysgrifennydd Iechyd Cymru, Jeremy Miles AS, wedi dweud fod gan y Bil "y potensial i drawsnewid ein perthynas â smygu yn radical trwy greu'r genhedlaeth wirioneddol ddi-fwg gyntaf".
Fodd bynnag, mae'r ansicrwydd parhaus ynghylch effaith lawn fêpio - yn enwedig ar bobl ifanc ac oedolion nad ydynt erioed wedi smygu - ynghyd ag argaeledd parhaus cynhyrchion fêps a blas arnynt a normaleiddio cynyddol fêpio ymysg pobl ifanc yn eu harddegau, yn awgrymu efallai y bydd angen mesurau ataliol pellach. Wrth i Gymru symud tuag at genhedlaeth ddi-fwg, mae'r her yn parhau: a ddylai Gweinidogion ystyried hefyd a ddylem nawr fod yn gweithio tuag at Gymru ddi-fêp?
Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.