Economi Gogledd Cymru: Ystyriaethau Cymrodoriaeth Academaidd gyntaf Comisiwn y Cynulliad

Cyhoeddwyd 04/07/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mae Comisiwn y Cynulliad wedi sefydlu cynllun Cymrodoriaeth peilot newydd i alluogi academyddion sydd wedi cyrraedd lefel uwch yn eu gyrfa (wedi cael doethuriaeth) i dreulio amser yn y Cynulliad yn gweithio ar brosiect penodol a fydd o fudd i’r academydd ac i’r Cynulliad.

Amcan y prosiect Cymrodoriaeth Cyfnewid Gwybodaeth cyntaf yw ychwanegu at y sylfaen dystiolaeth bresennol sydd ar gael ar gyfer craffu ar ddull Llywodraeth Cymru o ddatblygu economi Gogledd Cymru yn y dyfodol. Ariennir y Gymrodoriaeth gan Brifysgol Bangor / Cyfrif Cyflymu Effaith y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC). Dr Alexandra Plows, o Brifysgol Bangor, sy’n cyflawni’r prosiect hwn, ac mae wedi nodi ei chanfyddiadau mewn adroddiad sydd ar gael ar wefan WISERD. Mae’r adroddiad wedi’i seilio ar waith ymchwil presennol Dr Plows, ar gyfweliadau â rhanddeiliaid ac ar waith ymchwil pen desg.

Heriau a chyfleoedd

Mae’r adroddiad yn dechrau drwy nodi nifer o heriau sy’n wynebu economi’r Gogledd, gan ganolbwyntio ar y ‘Mittelstand coll’, sef y diffyg cyflogwyr o faint canolig i fawr; diffyg seilwaith, gan gynnwys diffyg cysylltedd rhyng-ranbarthol; ansicrwydd economaidd sy’n gysylltiedig â gadael yr UE; diffyg swyddi o safon, a bylchau o ran sgiliau, gan gynnwys bylchau yn y ddarpariaeth hyfforddiant. Yna mae’r adroddiad yn nodi mentrau allweddol o ran datblygu, ac yn canolbwyntio ar y Fargen Twf ar gyfer Gogledd Cymru, gan gynnwys gwelliannau arfaethedig i’r seilwaith, gweithio mewn partneriaeth ar draws awdurdodau lleol, datblygu cysylltiadau trawsffiniol â gogledd orllewin Lloegr, a mewnfuddsoddi sylweddol / gwariant cyfalaf ar brosiectau uwch-dechnoleg, sy’n canolbwyntio ar dair Ardal Fenter y rhanbarth yn bennaf (sef gweithgynhyrchu yng Nglannau Dyfrdwy, ynni ar Ynys Môn a TGCh ac awyrofod yn Eryri). Mae’r adroddiad yn nodi’n eithaf manwl y gwaith cynllunio strategol a wneir gan randdeiliaid i sicrhau bod y cyflenwad yn cyfateb i’r galw; gan gynnwys mentrau sgiliau a mentrau hyfforddi sy’n gysylltiedig ag ynni uwch-dechnoleg a gweithgynhyrchu, ac ymdrechion ar y cyd i ddatblygu gallu’r gadwyn gyflenwi ar draws y rhanbarth. Mae rhanddeiliaid yn ceisio sicrhau bod "edau aur" yn bod o ran y gadwyn gyflenwi caffael, a fyddai’n galluogi busnesau a’r gweithlu lleol i gael budd uniongyrchol o gyfleoedd o ran galw sydd ar y gweill.

Yna mae’r adroddiad yn darparu nifer o feirniadaethau o rai o’r mentrau hyn, fel y nodwyd gan rai rhanddeiliaid mewn cyfweliadau. Yn benodol, beirniadwyd y pwyslais ar wella’r seilwaith yn y Fargen Twf ar gyfer Gogledd Cymru, gyda rhai a gafodd eu cyfweld yn gofyn yn y lle cyntaf, i ba raddau y byddai gwella cysylltedd rhwng gogledd ddwyrain Cymru a gogledd orllewin Cymru o fudd uniongyrchol i ardaloedd ymylol gogledd orllewin Cymru. Hefyd roedd y rhai a gyfwelwyd yn tynnu sylw at y posibilrwydd y gallai gwelliannau i’r seilwaith yn y gogledd ddwyrain brysuro’r dadleoli yng ngogledd orllewin Cymru, a’r posibilrwydd y gallai tarfu gael ei waethygu yn sgîl mentrau penodol, fel y mewnlifiad o weithwyr adeiladu ar gyfer Wylfa Newydd yn y dyfodol agos. Mae’r adroddiad hefyd yn nodi’r heriau o ran sicrhau bod y cyflenwad yn cyfateb i’r galw yng nghyd-destun yr ansicrwydd yn y farchnad; er enghraifft mae ymestyn llinellau amser ar gyfer darparu rhai prosiectau sy’n ateb y galw yn her sylweddol i ddarparwyr hyfforddiant ac i fusnesau lleol.

Mae adran olaf yr adroddiad yn amlinellu nifer o ddulliau amgen a chyflenwol i ddatblygu economi gogledd Cymru a awgrymwyd gan y rhai a gafodd eu cyfweld. Roedd eu pwyslais ar wella ansawdd swyddi o fewn y sectorau presennol, sy’n sail i farchnad lafur y rhanbarth. Y rhain yw; datblygu economi "frodorol gref" gan adeiladu ar gyfalaf cymdeithasol, cyfalaf diwylliannol a chyfalaf naturiol; datblygu gallu o fewn yr ‘economi sylfaenol’; datblygu’r economi ar lefel y gymuned; a chymorth wedi’i dargedu ar gyfer busnesau micro a hunangyflogaeth.

Dechrau sgwrs

Mae’r adroddiad yn nodi nifer o argymhellion a awgrymir neu bynciau ‘dechrau sgwrs’ mewn nifer o feysydd, gan gynnwys, bod angen agenda ‘gweithredu ymchwil’ wedi’i dargedu i fynd i’r afael â’r bylchau a nodwyd o ran tystiolaeth; pa mor bwysig yw sicrhau bod yr holl bolisïau a mentrau yn "addas ar gyfer yr ardaloedd ymylol"; pa mor fanteisiol yw cryfhau gallu rhanddeiliaid, sy’n ceisio sicrhau y gall telerau ac amodau caffael gyflawni pethau ar gyfer busnesau lleol a’r gweithlu lleol (gan gynnwys sicrhau swyddi o ansawdd); a bod angen ehangu aelodaeth a chylch gwaith partneriaethau presennol i fynd i’r afael â’r heriau economaidd sy’n wynebu’r rhanbarth.


Erthygl gan Ben Stokes, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a Dr Alexandra Plows, Cymrawd Ymchwil, Prifysgol Bangor.

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Economi Gogledd Cymru: Ystyriaethau Cymrodoriaeth Academaidd gyntaf Comisiwn y Cynulliad (PDF, 130KB)