Cofeb efydd o Dylan Thomas yn eistedd mewn cwrt â blociau, yn gwisgo masg wyneb, gyda adeiladau brics a choed yn y cefndir.

Cofeb efydd o Dylan Thomas yn eistedd mewn cwrt â blociau, yn gwisgo masg wyneb, gyda adeiladau brics a choed yn y cefndir.

Dysgu o COVID-19: A yw Cymru'n barod ar gyfer yr argyfwng nesaf?

Cyhoeddwyd 16/03/2026

Datgelodd y pandemig COVID-19 ddiffygion dwfn yn y ffordd y mae Cymru'n cynllunio ar gyfer argyfyngau ac yn ymateb iddynt. Daeth Adroddiad Modiwl 1 Ymchwiliad COVID-19 y DU, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2024, i'r casgliad bod systemau Cymru ar gyfer sicrhau gwydnwch yn aneffeithlon a chymhleth yn ddiangen, ac mae’r adroddiad yn cynnwys deg argymhelliad ar gyfer diwygiadau yn y maes hwn.

Ers hynny, mae'r Senedd wedi bod yn archwilio i ba raddau y mae argymhellion Modiwl 1 wedi’u gweithredu. Ym mis Mawrth 2025, cyhoeddodd Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru adroddiad a oedd yn tynnu sylw at feysydd lle nad oedd Ymchwiliad y DU yn ymdrin yn llawn ag amgylchiadau penodol Cymru. Ar ôl i’r Pwyllgor Diben Arbennig gael ei ddiddymu ym mis Hydref 2025, aeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ati i fwrw ymlaen â’r gwaith yn y maes hwn, gan graffu ar ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad Modiwl 1 a'i pharatoadau ar gyfer argyfyngau yn y dyfodol. Caiff adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 18 Mawrth.

Mae'r erthygl hon yn archwilio rhai o'r materion allweddol sydd wedi dod i'r amlwg.

System megis 'labyrinth'

Y feirniadaeth ganolog o drefniadau sifil wrth gefn Cymru a wnaed gan Ymchwiliad y DU oedd cymhlethdod y trefniadau hyn. Roedd cael gormod o endidau, cyfrifoldebau sy'n gorgyffwrdd a llinellau atebolrwydd aneglur yn golygu bod y system yn ei chael hi'n anodd gweithredu'n effeithiol. Gwnaed sylwadau tebyg gan Archwilio Cymru mor bell yn ôl â 2012, ond dim ond ychydig a wnaed cyn y pandemig i symleiddio'r trefniadau hyn.

Roedd ymatebwyr brys a roddodd dystiolaeth i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn cydnabod bod rhywfaint o gymhlethdod yn anochel o ystyried yr ystod o gyrff y Llywodraeth, asiantaethau a sefydliadau partner sy’n gysylltiedig ag ymateb i ddigwyddiadau mawr. Yr hyn sydd bwysicaf, yn eu barn nhw, yw cael llinellau atebolrwydd clir o fewn y system honno.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio symleiddio'r strwythurau hyn ers y pandemig. Mae Fframwaith Gwydnwch Cymru 2025 yn nodi trefniadau llywodraethu diwygiedig, gan gynnwys ailgyfansoddi Fforwm Gwydnwch Cymru, sef y corff o dan gadeiryddiaeth y Prif Weinidog sy'n dwyn ynghyd uwch arweinwyr i gydlynu dull gweithredu Cymru wrth baratoi ar gyfer argyfyngau.

Cafodd y strwythurau diwygiedig hyn eu profi mewn ymateb i 31 o ddigwyddiadau go iawn yn 2025. Mae'r Prif Weinidog wedi tynnu sylw at ddiffyg aflonyddwch cymharol i’r cyhoedd yn ystod y digwyddiadau hynny fel tystiolaeth bod y strwythur diwygiedig yn gweithio.

Mesur beth sy'n gweithio

Thema a gododd dro ar ôl tro yn y dystiolaeth a gafwyd gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus oedd yr anhawster o wybod a yw trefniadau diwygiedig Cymru yn cyflawni canlyniadau gwell mewn gwirionedd. Mae'r asesiad presennol yn ymddangos yn ansoddol i raddau helaeth, gan ddibynnu ar adrodd ar wersi a ddysgwyd ac adborth goddrychol gan gymuned yr ymatebwyr brys.

Mewn mannau eraill, mae Llywodraethau eraill wedi datblygu dulliau mwy gwrthrychol o fesur a gwerthuso parodrwydd. Er enghraifft, mae’r Rhaglen Parodrwydd ac Ymateb i Argyfwng yng Nghanada yn olrhain dangosyddion meintiol—megis canran yr amcanion sy’n rhan o’r ymarfer a gyflawnwyd a'r argymhellion a weithredwyd yn dilyn digwyddiadau—tra yn yr Unol Daleithiau mae Adroddiadau Parodrwydd Cenedlaethol blynyddol yn mynd ati i asesu perfformiad yn erbyn targedau craidd o ran gallu. Yn Nhalaith Victoria yn Awstralia, mae Arolygydd Cyffredinol Rheoli Argyfyngau yn cynnal gwerthusiadau o drefniadau rheoli argyfyngau'r dalaith ar draws y system yn ei chyfanrwydd.

Mae adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu dull gweithredu tebyg, gan gyhoeddi dangosyddion perfformiad mesuradwy ac adrodd arnynt yn flynyddol, yn ogystal â chyflwyno mecanwaith adolygu annibynnol.

Ymarfer Pegasus

Roedd Ymchwiliad y DU yn feirniadol o ymarferion cyn pandemig, gan nodi eu bod yn “fiwrocrataidd ac aneffeithiol,” ac yn canolbwyntio mwy ar broses nag ar ddysgu gwersi. Roedd Ymarfer Pegasus, ymarfer o barodrwydd ar gyfer pandemig a gynhaliwyd ledled y DU yn yr hydref 2025, yn ymgais i symud i ffwrdd o'r patrwm hwnnw.

Fodd bynnag, cafwyd ystod o safbwyntiau cymysg gan dystion o ran a yw’r ymarfer wedi cyflawni'r nod hwnnw ai peidio. Nododd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod yr ymarfer wedi “newid y gêm,” ond mynegodd tystion eraill bryderon ynghylch bylchau yng nghwmpas y gwaith cysylltiedig, gan gynnwys diffyg senarios cyfansawdd o ran risg (megis pandemig yn cyd-fynd â llifogydd difrifol neu fethiant cyfleustodau dros gyfnod estynedig) ynghyd â chyfranogiad cyfyngedig gan y sector gofal cymdeithasol a'r sector gwirfoddol.

Mae cymal o’r ymarfer sy'n canolbwyntio ar adfer ar ôl pandemig wedi'i amserlennu ar gyfer y gwanwyn, gyda'r canfyddiadau i'w cyhoeddi yn fuan wedyn. Pan gaiff y canfyddiadau hyn eu cyhoeddi, byddant yn dangos a yw Ymarfer Pegasus wedi arwain at newid go iawn, neu a yw patrymau'r gorffennol wedi’u hailadrodd.

Y sector gwirfoddol: adnodd sy'n cael ei dan-ddefnyddio

Clywodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus fod sefydliadau gwirfoddol yn chwarae rhan hanfodol yn y broses o gysylltu gwasanaethau statudol gyda chymunedau, darparu cymorth ymarferol a chael mynediad at rwydweithiau y mae asiantaethau'r Llywodraeth yn ei chael hi'n anodd eu cyrraedd. Yn ystod argyfyngau, gallant hefyd weithredu fel negeswyr dibynadwy, gan gyrraedd grwpiau sy'n llai tebygol o ymgysylltu â chyfathrebiadau ffurfiol, a hynny mewn iaith a fformatau sy'n adlewyrchu profiadau'r cymunedau hynny.

Fodd bynnag, tra bod Ymchwiliad y DU wedi nodi bod y sector gwirfoddol yng Nghymru wedi'i wreiddio'n ddyfnach yn y gwaith o gynllunio ar gyfer argyfyngau nag mewn gwledydd eraill yn y DU, mae'n ymddangos nad ydym yn manteisio ar y capasiti hwnnw yn llawn. Dywedodd y Groes Goch Brydeinig wrth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyheddus nad oedd yn gallu helpu pobl yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd diweddar yn Sir Fynwy oherwydd nad oedd yr asiantaethau statudol yn rhannu’r data perthnasol. Yn yr un modd, eglurodd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru nad oes mecanwaith sefydlog ar waith i ddyrannu arian yn gyflym trwy bartneriaid gwirfoddol dibynadwy yn ystod argyfyngau. Hefyd, nododd Race Coucil Cymru nad oedd unrhyw un wedi cysylltu â nhw ynghylch cynlluniau gwydnwch ers y pandemig, er gwaethaf effaith anghymesur COVID-19 ar gymunedau ethnig leiafrifol.

Nid yw'r pryderon hyn yn newydd. Cafodd materion tebyg eu codi gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn ystod y Bumed Senedd ac maent yn parhau heb eu datrys. Ar yr un pryd, mae'r sector yn wynebu pwysau ariannol sylweddol, gyda sawl sefydliad yn dweud wrth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y byddai llai o gapasiti ganddynt i ymateb i argyfwng mawr heddiw nag yn 2020.

Effeithiau anghyfartal

Roedd effeithiau’r pandemig yn hynod anghyfartal. Roedd oedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd a statws economaidd-gymdeithasol i gyd yn cyfrannu at debygolrwydd person o ddioddef salwch difrifol neu at y tebygolrwydd y byddent yn marw, ac roedd y mesurau iechyd cyhoeddus a gyflwynwyd mewn ymateb i’r pandemig yn effeithio'n anghymesur ar grwpiau penodol, gan waethygu anghydraddoldebau presennol.

Yn aml, roedd y canllawiau swyddogol yn anwybyddu realiti ymarferol a phrofiadau amrywiol y boblogaeth. Hefyd, nid oedd gan Gymru fframwaith annibynnol ei hun ar gyfer asesu risg cyn y pandemig, gan ddibynnu'n llwyr ar ddadansoddiad ar lefel y DU nad oedd yn ystyried amgylchiadau penodol poblogaeth Cymru—rhywbeth a nodwyd gan Ymchwiliad y DU fel diffyg sylfaenol. Roedd bylchau parhaus yn y data ar gydraddoldeb, yn enwedig ynghylch ethnigrwydd, yn dwysáu’r problemau hyn.

Roedd yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau yn gweld y methiannau hyn fel symptom o wendid dyfnach yn y ffordd y caiff polisi iechyd ei gynllunio a'i weithredu:

Health policy is largely socially blind. It doesn't take into account, to a large degree, the different socioeconomic characteristics of different people. Therefore, you have a one-size-fits-all policy, which means that, actually, people who have got more challenging socioeconomic conditions are implicitly disadvantaged.

Ers i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ddechrau ar ei waith, mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cymryd camau gorfodi ffurfiol yn erbyn Llywodraeth Cymru ar ffurf cytundeb cyfreithiol Adran 23, ar ôl canfod methiannau cyson i gydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.

Mae adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn ymateb i'r methiannau systemig hyn drwy alw am ymgorffori asesiadau bregusrwydd yn y gwaith o gynllunio ar gyfer argyfyngau sifil, ac am gynnwys yn ffurfiol y sefydliadau sy'n cynrychioli grwpiau sydd â nodweddion gwarchodedig mewn cyfathrebiadau brys o'r cychwyn cyntaf.

Beth sy'n dod nesaf?

Cyhoeddodd Ymchwiliad y DU ei Adroddiad Modiwl 2 ym mis Tachwedd 2025, gan ganolbwyntio ar y broses o wneud penderfyniadau craidd a llywodraethu gwleidyddol, gyda Modiwl 2B yn archwilio’r profiad yng Nghymru yn benodol. Canfu’r Ymchwiliad wendidau yn ymateb cynnar Llywodraeth Cymru i'r pandemig, gan wneud 19 o argymhellion sy'n berthnasol ar draws y pedair gwlad. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • diwygio’r strwythurau ar gyfer gwneud penderfyniadau brys;
  • gwella cydgysylltu rhynglywodraethol;
  • ehangu cyfranogiad yn y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau; a
  • chryfhau gwaith craffu seneddol ar bwerau brys.

Disgwylir i bum adroddiad ychwanegol gael eu cyhoeddi yn ystod 2026, a thri arall yn ystod hanner cyntaf 2027. Mae adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn argymell bod y Senedd nesaf yn blaenoriaethu’r gwaith o graffu ar bob modiwl sy'n weddill, gan sicrhau, wrth i waith Ymchwiliad y DU barhau, fod ei ganfyddiadau'n cael eu harchwilio'n briodol a'u troi’n gamau gweithredu yng Nghymru.

Erthygl gan John Hitchcock, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru