Cyhoeddwyd 25/11/2016
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
25 Tachwedd 2016
Erthygl gan Chloe Corbyn, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
Mae'r byd datblygedig yn symud oddi wrth ffynonellau ynni 'budr' a thuag at greu ynni mewn ffyrdd mwy amrywiol. Gyda chyfreithiau newydd a chytundebau rhyngwladol ar newid yn yr hinsawdd yn gefndir, sut y gall Cymru ymateb i'r her?
Mae cyfyngu ar newid yn yr hinsawdd drwy leihau'n sylweddol faint o garbon a gaiff ei ryddhau i'r atmosffer yn un o'r heriau mawr sy'n wynebu'r byd.
Y sector cyflenwi ynni yw un o'r allyrwyr nwyon tŷ gwydr mwyaf yng Nghymru. Os ydym am gyflawni ymrwymiadau rhyngwladol a domestig i leihau allyriadau (gweler yr erthygl ar newid yn yr hinsawdd), un ffordd o symud i’r cyfeiriad cywir yw ystyried sut y caiff ynni ei gynhyrchu, ei gyflenwi a'i drosglwyddo. Mae hyn yn elfen allweddol wrth fynd i'r afael â'r broblem driphlyg sy’n ein hwynebu, sef beth sy’n fforddiadwy, sicrhau cyflenwad digonol, a sut mae rhyddhau llai o garbon.
Cyd-destun Cymru
Mae
Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ymrwymo Cymru i allyrru 80 y cant yn llai o nwyon tŷ gwydr erbyn 2050. Roedd y
rhestr ddiweddaraf o nwyon tŷ gwydr yng Nghymru yn dangos bod cyflenwi ynni wedi cyfrannu 42% at gyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr 2013. Prif ffynonellau yr allyriadau oedd gorsafoedd pŵer (76%) a phurfeydd olew (16%).
Os yw Cymru am newid i ddyfodol ynni glanach, gwyrddach a chynaliadwy, mae’n rhaid i ynni adnewyddadwy fod yn fwy blaenllaw. Mae'r Bil Cymru arfaethedig yn debygol o roi rhagor o bwerau cydsynio i Lywodraeth Cymru ar brosiectau ynni. Ar adeg pan fo llawer o brosiectau ynni mawr ar y gorwel, a rhai ohonynt yn destun cryn ddadlau, gallai'r Pumed Cynulliad fod yn drobwynt yn ein hagweddau tuag at ddatblygiadau ynni.
Mater o gydbwysedd
Mae'r model ynni cyfredol yng Nghymru yn defnyddio cyfuniad o ffynonellau adnewyddadwy ac anadnewyddadwy. Nid yw dibynnu ar danwydd ffosil yn gynaliadwy yn y tymor hir, a bydd angen datblygu ffynonellau adnewyddadwy er mwyn cyrraedd
targedau Llywodraeth y DU a'r UE ar allyriadau nwyon tŷ gwydr, yn ogystal ag er mwyn sicrhau bod cyflenwad digonol o danwydd ar gael.
Mae gan Gymru adnoddau naturiol helaeth, gan gynnwys daearyddiaeth a thopograffeg sy'n addas ar gyfer amrywiaeth eang o dechnolegau ynni adnewyddadwy. Fodd bynnag, mae gwahanol safbwyntiau ynghylch i ba raddau y bydd angen denu mewnfuddsoddiad ar gyfer prosiectau ynni mwy yn y dyfodol, ynteu a fydd atebion lleol, ynghyd â chamau i arbed ynni, yn ddigon er mwyn i Gymru i gael y rhan fwyaf o’r ynni sydd ei angen arni.
Bydd angen i Lywodraeth newydd Cymru wneud ei safbwynt yn glir tuag at gefnogi ar y naill law brosiectau mawr fel datblygiadau niwclear newydd, morlynnoedd llanw, ffermydd gwynt, gwelliannau i'r grid a rhyngysylltyddion, ac ar y llaw arall gynlluniau lleol a chymunedol fel prosiectau micro-hydro, ynni biomas, ynni haul a gwynt.
Y fframwaith deddfwriaethol
Bydd sicrhau'r cyfuniad cywir o ynni yn y dyfodol yn allweddol i gyflawni’r ymrwymiadau ar newid yn yr hinsawdd a geir yn
Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, yn ogystal ag i gyflawni’r uchelgais ar gyfer datblygu cynaliadwy sydd yn
Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
O dan
Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, un newid pwysig yw cyflwyno categori newydd o ganiatâd cynllunio ar gyfer Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol. Yn y dyfodol, bydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu'n uniongyrchol ar geisiadau ar gyfer y datblygiadau hyn os ydynt yn brosiectau cynhyrchu ynni rhwng 10MW a 50MW. Yn sgil newidiadau cyfreithiol diweddar a wnaed yn Lloegr, gall Llywodraeth Cymru benderfynu ar bob cais sy’n ymwneud â ffermydd gwynt ar y tir, waeth beth yw ei faint.
Disgwylir y bydd y Bil Cymru arfaethedig yn rhoi pwerau i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniadau ar bob prosiect ynni mawr arall hyd at 350MW ar y tir ac ar y môr (Llywodraeth y DU sy’n penderfynu ar y rhain ar hyn o bryd).
Polisïau Llywodraeth ddiwethaf Cymru
Yn 2012, amlinellodd Llywodraeth ddiwethaf Cymru ei gweledigaeth ar gyfer ynni yn
Ynni Cymru: Newid carbon isel. Yn 2015, cyhoeddwyd
Twf Gwyrdd Cymru: Ynni Lleol, yn amlinellu agwedd y Llywodraeth at ynni lleol. Yn fwy diweddar, lansiodd Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol ar y pryd, y
Gwasanaeth Ynni Lleol. Nod y gwasanaeth hwn yw rhoi cymorth technegol ac ariannol i fentrau bach a chanolig, yn ogystal â mentrau cymdeithasol, i ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy.
Trawsnewid y sefyllfa ynni
Cynhaliodd Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Pedwerydd Cynulliad ddau ymchwiliad mawr yn ymwneud ag ynni. Roedd y cyntaf,
Polisi Ynni a Chynllunio yng Nghymru, yn ystyried sut mae trefniadau datganoli ar gyfer polisi ynni a chynllunio yn effeithio ar y gallu i gael y cyfuniad o ynni y mae Llywodraeth Cymru yn dymuno’i weld yn y dyfodol. Daeth y Pwyllgor i'r casgliad bod y sector ynni yn hanfodol bwysig i Gymru, a bod potensial enfawr ar gyfer datblygu ynni adnewyddadwy yma.
Roedd yr ail ymchwiliad,
Dyfodol Ynni Craffach i Gymru? yn adeiladu ar y gwaith hwn. Roedd ei argymhellion ar gyfer Llywodraeth newydd Cymru yn cynnwys y canlynol:
- mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos arweinyddiaeth, a dylai'r polisi helpu Cymru i gael ei holl ynni domestig o ffynonellau adnewyddadwy;
- dylid rhoi pwys ar arbed ynni, ar leihau'r galw, ac ar ddefnyddio rheoliadau adeiladu wrth annog newid;
- dylai Cymru achub ar gyfleoedd i ddylunio lleoedd mwy craff sy'n integreiddio seilwaith trafnidiaeth, ynni a chyfathrebu mewn ffyrdd arloesol, a hynny’n gwella lles ac yn lleihau allyriadau carbon;
- gallai gosod mesurau i arbed ynni yn y stoc dai bresennol wneud cyfraniad mawr, a bydd cynlluniau Llywodraeth Cymru fel Nyth ac Arbed yn allweddol;
- dylid sefydlu Cwmni Cyflenwi Ynni di-elw yng Nghymru; a
- dylid sicrhau bod polisïau cynllunio a’r broses o wneud penderfyniadau yn cyd-fynd â’r weledigaeth ar gyfer polisi ynni’r dyfodol. Mae angen i bolisïau cynllunio cenedlaethol a lleol hefyd annog gostyngiadau mewn allyriadau carbon.
Barn y Pwyllgor oedd fod pawb yng Nghymru yn rhannu'r cyfrifoldeb dros newid i ddyfodol ynni craffach. Tynnwyd sylw at y ffaith bod y fframwaith deddfwriaethol eisoes gennym er mwyn lleihau allyriadau carbon, annog cyflenwadau ynni lleol a chynyddu cyflenwadau ynni adnewyddadwy. Roedd y Pwyllgor o’r farn bod yn rhaid i Gymru, o fewn y polisi a'r fframwaith deddfwriaethol ffafriol hwn, a chyda hwb gan y Llywodraeth a phob sector arall, achub ar y cyfleoedd i newid ein hagwedd tuag at ynni unwaith ac am byth.
Ffynonellau allweddol