Bydd trethi Cymreig yn rhoi rheolaeth i Gymru dros ei ffrydiau refeniw ei hun am y tro cyntaf ers datganoli. Sut fydd y grant bloc yn cael ei addasu i sicrhau bod Cymru'n cael ei chyfran deg o arian?
Sut mae Cymru yn cael ei hariannu ar hyn o bryd? Cyn mis Ebrill 2015, câi cyllideb Llywodraeth Cymru ei hariannu'n gyfan gwbl drwy grant bloc gan Lywodraeth y DU.![Barnett Formula Welsh-01](/researchblogfilescy/2016/05/barnett-formula-welsh-01.png?w=682)
Enghraifft
Pe byddai cynnydd o £100 miliwn yng ngwariant arfaethedig adran drafnidiaeth y DU (adran lle mae 73.1% o'i gweithgareddau wedi'i ddatganoli i Gymru), a 5.69% yw'r amcangyfrif o boblogaeth Cymru fel cyfran o boblogaeth Lloegr, byddai grant bloc Cymru yn cynyddu £4.16 miliwn.
£100 miliwn x 73.1% x 5.69%
Mae'r grant bloc yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio fformiwla Barnett, sef y dull y mae Trysorlys y DU yn ei ddefnyddio i addasu faint o arian a ddyrennir i Gymru. Mae hwn yn adlewyrchu newidiadau mewn lefelau gwariant yn Lloegr mewn meysydd sydd wedi eu datganoli i Gymru, gan ystyried poblogaeth Cymru o'i chymharu â Lloegr. Yn yr Adolygiad o Wariant ym mis Tachwedd 2015, cyhoeddodd Llywodraeth y DU derfyn ariannu isaf o 15%. Mae hyn yn golygu na fydd grant bloc Cymru yn gostwng yn is na 115% o'r gwariant cymharol y pen yn Lloegr. Daw'r terfyn ariannu isaf i ben ar ddiwedd y tymor seneddol yn 2020, gan greu ansicrwydd ynghylch y grant bloc yn y dyfodol. Pa effaith a geir ar lefelau ariannu yng Nghymru yn sgil datganoli trethi? Cafodd Llywodraeth Cymru ei ffynhonnell refeniw annibynnol gyntaf y tu allan i'r grant bloc yn sgil datganoli ardrethi annomestig (ardrethi busnes) ym mis Ebrill 2015. Gwnaed addasiad untro i'r grant bloc eisoes. Mae'r dreth gyngor hefyd wedi cael ei datganoli i awdurdodau lleol yng Nghymru. Bydd gan Lywodraeth nesaf Cymru ragor o ffynonellau refeniw sy'n annibynnol ar y grant bloc yn sgil cyflwyno'r Dreth Trafodion Tir a'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi ym mis Ebrill 2018. Mae Llywodraeth y DU hefyd yn bwriadu datganoli'r ardoll agregau a datganoli treth incwm yn rhannol, er bod yr amserlenni yn parhau i fod yn aneglur. Mae rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dangos y byddai Llywodraeth newydd Cymru yn rheoli 18.3% yn ychwanegol o gyfanswm ei chyllid erbyn 2019-20 (heb gynnwys ardrethi annomestig) os ydym yn tybio y caiff yr ardoll agregau a threth incwm eu datganoli yn y flwyddyn honno.![Barnett Formula Welsh-02](/researchblogfilescy/2016/05/barnett-formula-welsh-02.png?w=682)
- Canolfan Llywodraethiant Cymru, Income Tax and Wales: The Risks and Rewards of New Model Devolution (Saesneg yn unig) (2016)
- Y Comisiwn Annibynnol ar Ariannu a Chyllid i Gymru (Comisiwn Holtham), Fairness and Accountability: A New Funding Settlement for Wales (Saesneg yn unig) (2010)
- Y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (Comisiwn Silk), Grymuso a Chyfrifoldeb: Pwerau Ariannol i Gryfhau Cymru (2012)
- Llywodraeth Cymru, Dogfen Ymgynghori: Datganoli Trethi i Gymru - Treth Trafodiadau Tir (2015)
- Llywodraeth Cymru, Dogfen Ymgynghori: Treth Gwarediadau Tirlenwi (2015)
- Llywodraeth y DU, Spending Review and Autumn Statement 2015 (Saesneg yn unig) (2015)
- Y Gwasanaeth Ymchwil, Cyfres y Gyllideb 1: Ariannu datganoli yng Nghymru (2013)
- Y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, Devolved Taxes Forecast – March 2016 (Saesneg yn unig) (2016)