TBC

TBC

Dyfodol gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd cyhoeddus

Cyhoeddwyd 03/05/2023   |   Amser darllen munud

Mae llyfrgelloedd cyhoeddus a chanolfannau hamdden yn cynnig lle i gyfarfod, gweithio, dysgu a chefnogi iechyd corfforol a meddyliol. Gall yr effaith pan mae'r gwasanaethau hyn yn cael eu tynnu'n ôl fod yn sylweddol, ac yn ôl Community Leisure UK, mae’n fygythiad gwirioneddol i iechyd a llesiant ein cymunedau.

Ers dros ddegawd, mae cynghorau wedi ei chael yn fwyfwy anodd cynnal eu gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd. Mewn ymdrech i ddiogelu ac ariannu gwasanaethau lleol craidd fel gofal cymdeithasol ac ysgolion, mae gwasanaethau dewisol eraill, fel diwylliant, hamdden a threftadaeth, wedi cael eu “gwasgu’n dynnach pan mae arian yn brin.” Mae data a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan CIPFA, yn dangos patrwm parhaus o wariant ar lyfrgelloedd cyhoeddus yn gostwng ledled Prydain, gan ddweud bod hyn yn parhau i ddirywio o flwyddyn i flwyddyn mewn gwariant ers 2018/19.

Mae cynghorau wedi archwilio gwahanol ffyrdd o ddarparu gwasanaethau, ond gyda'r pwysau presennol ar gyllidebau cynghorau, beth fydd dyfodol ein canolfannau hamdden a'n llyfrgelloedd? Mae Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd yn ystyried y cwestiwn hwn ar hyn o bryd. Yn yr erthygl hon rhown ystyriaeth i rai o'r dulliau y mae cynghorau’n eu gweithredu a'r materion sy'n eu hwynebu.

Oes gofyn i gynghorau ddarparu gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd?

Oes a nac oes... Mae Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964, yn gosod dyletswyddau cyfreithiol ar gynghorau i ddarparu gwasanaeth llyfrgell cynhwysfawr ac effeithlon. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau sicrhau stoc ddigonol ac argaeledd llyfrau, ac annog defnydd llawn o'r gwasanaeth llyfrgell. Fodd bynnag, nid yw'r Ddeddf yn diffinio beth yw gwasanaeth llyfrgell cynhwysfawr ac effeithlon, gan adael rhywfaint o le i gynghorau ei dehongli.

Mae Andrew Green, cyn-Lyfrgellydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi bod yn feirniadol o’r fframwaith deddfwriaethol presennol. Yn 2019 fe nododd nad oedd rhai cynghorau yn meddwl bod darparu gwasanaeth llyfrgell cyhoeddus yn rhwymedigaeth statudol, a disgrifiodd y Ddeddf fel un ddi-ddannedd. Mae tystiolaeth mae’r Pwyllgor wedi ei dderbyn hyd yn hyn yn awgrymu y gallai fod angen edrych ar gryfhau’r fframwaith ddeddfwriaethol i ryw raddau.

Nid yw dyletswyddau tebyg ar gynghorau i ddarparu gwasanaethau hamdden cyhoeddus yn bodoli, a chânt eu darparu yn hytrach yn ôl disgresiwn. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth oedd yn awgrymu ei bod yn werth edrych ar ddeddfu, gan osod dyletswydd ar lywodraethau cenedlaethol a lleol i gyhoeddi strategaeth iechyd a hamdden. Serch hynny, cwestiynodd Community Leisure UK ddiben deddfu ar gyfer hamdden cyhoeddus, gan nodi nad yw Deddf 1964 wedi amddiffyn gwasanaethau llyfrgell rhag cau.

Roedd UNSAIN Cymru’n glir beth ddylai fod yn flaenoriaeth, sef sicrhau cyllid digonol i gynghorau, gan osgoi’r angen i edrych ar ddeddfu i ddod â chynghorau i drefn ar hyn.

Pwy sy’n rhedeg y gwasanaethau llyfrgelloedd a hamdden?

Mae hanner holl gynghorau Cymru wedi allanoli rheolaeth eu gwasanaethau hamdden, a’u darpariaeth llyfrgelloedd, mewn rhai ardaloedd, i 'ymddiriedolaeth'.

Mae ymddiriedolaethau hamdden neu ddiwylliannol yn gweithredu cyfleusterau lleol ar sail nid-er-elw, gan ail-fuddsoddi arian a gynhyrchir i'r gwasanaethau a'r cyfleusterau y maent yn eu rheoli. Bydd ymddiriedolaethau yn ymgymryd â rheoli cyfleusterau yn seiliedig ar gontract gwasanaeth, gyda'r cyngor yn talu ffi rheoli flynyddol. Mae tystiolaeth ddiweddar yn awgrymu bod y ffioedd rheoli ar gyfer ymddiriedolaethau wedi aros yn wastad, neu wedi gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Fel elusennau neu gymdeithasau elusennol, mae ymddiriedolaethau yn elwa o gael gafael ar arian elusennol a grantiau, ynghyd â buddsoddiad cymdeithasol. Maen nhw hefyd yn elwa o ryddhad ardrethi annomestig, ac efallai nad ydynt yn talu unrhyw drethi busnes ar y cyfleusterau maen nhw'n eu rheoli. 

Mae cynghorau Gwynedd a Sir Ddinbych wedi sefydlu cwmnïau masnachu awdurdodau lleol (LATC) i redeg eu darpariaeth hamdden. Mae’r cwmnïau hyn yn gweithredu fel cwmnïau masnachol, ond yn parhau i fod yn eiddo llwyr i’r cyngor ac yn cael eu rheoli ganddo. Mae cwmnïau masnachu awdurdodau lleol yn elwa o fwy o hyblygrwydd ac ymreolaeth o'i gymharu â gwasanaethau a gaiff eu rheoli'n 'fewnol', ond nid oes ganddynt fantais statws elusen. Yn amodol ar y contract, efallai y bydd y cwmni’n gallu ail-fuddsoddi arian dros ben yn ôl mewn i ddarparu gwasanaethau, neu gallai fod yn ofynnol iddo ddychwelyd yr arian hwn i'r cyngor.

Mae wyth cyngor yng Nghymru yn parhau i redeg eu gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd eu hunain yn 'fewnol'. Bydd y nifer hwnnw'n cynyddu'n fuan wrth i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ddod â'i wasanaethau hamdden yn ôl i reolaeth y cyngor. Roedd gwasanaethau hamdden y sir wedi cael eu rheoli gan ymddiriedolaeth hamdden ers 2003.  

Er bod ymddiriedolaethau yn nodwedd sylweddol yn y sector hamdden yng Nghymru, nid yw'r newid i allanoli llyfrgelloedd a chyfleusterau diwylliannol cynghorau wedi symud ar yr un cyflymder. Yn hytrach, mae cynghorau ar y cyfan wedi ffafrio dal gafael ar y gwaith o reoli llyfrgelloedd. Er hynny, mae data wedi’u casglu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cais Rhyddid Gwybodaeth ym mis Ebrill 2022 yn dangos bod nifer y llyfrgelloedd cyhoeddus agored wedi gostwng ers dechrau'r 2000au. Mae'r data yn anghyflawn fodd bynnag, ac nid yw'n cynnwys llyfrgelloedd cymunedol nad ydynt yn cael eu cefnogi gan gynghorau.

"Ar ôl eu dadleoli, anaml iawn maen nhw'n cael eu dychwelyd i gymunedau"

Disgrifiodd Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen bwysigrwydd gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai. Dywedodd yr Ymddiriedolaeth bod colli cyfleusterau lleol yn cael effaith niweidiol, nid yn unig ar ddefnyddwyr unigol, ond ar yr amrywiaeth helaeth o grwpiau defnyddwyr yn y gymuned. 

Yn gynharach eleni adroddwyd bod hyd at 150 o byllau nofio yng Nghymru mewn perygl o gau oherwydd costau ynni, gan godi'r posibilrwydd o gau mewn rhai ardaloedd. Ysgrifennodd CLlLC at Ganghellor y Trysorlys ym mis Ionawr 2023 yn gofyn am eglurder ynglŷn â Chynllun Gostyngiad Biliau Ynni Llywodraeth y DU ar gyfer gwasanaethau cynghorau. Dywedodd fod costau ynni cynyddol yn gosod asedau cymunedol fel llyfrgelloedd, pyllau nofio a chanolfannau hamdden mewn "perygl dirfawr".

Ym mis Mawrth, dywedodd Aura Cymru, sy'n rhedeg cyfleusterau hamdden Cyngor Sir y Fflint, bod eu biliau ynni wedi tyfu dros £600,000 yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Heb gefnogaeth awdurdod lleol gyda'i gostau ynni, awgrymodd na allai fod wedi goroesi.  

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU gronfa o £63 miliwn yn ddiweddar i gefnogi pyllau nofio yn Lloegr, ond mae'n parhau’n aneglur a fydd Cymru'n cael unrhyw arian ychwanegol o ganlyniad.

Fframwaith i gefnogi a hyrwyddo gwasanaethau llyfrgell a hamdden

Mater i gynghorau yw darparu gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd lleol yn y pen draw, ond mae gan Weinidogion Cymru rôl dros arolygu a hyrwyddo gwella’r gwasanaeth llyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru ers dechrau datganoli. Yn ôl Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, mae fframwaith Llywodraeth Cymru, 'Llyfrgelloedd Cysylltiedig ac Uchelgeisiol', wedi helpu i ddiogelu llyfrgelloedd, ond mae angen diweddaru'r strategaeth bresennol.  

Er hynny, dywed Andrew Green, cyn-Lyfrgellydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 2019, er bod y fframwaith “safonau llyfrgelloedd cyhoeddus” wedi bod yn ddefnyddiol, nid ydynt wedi rhwystro dirywiad yn y gwasanaeth. Ategwyd y farn hon gan Ymddiriedolaeth Hamdden GLL, a ddyewdodd wrth y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai nad oedd y safonau llyfrgelloedd wedi rhwystro dirywiad mewn cyllidebau ar gyfer stoc lyfrau ledled Cymru.  

Nid oes dyletswydd gyfatebol ar Weinidogion Cymru i arolygu a hyrwyddo gwelliannau mewn gwasanaethau hamdden cyhoeddus ar hyn o bryd, er bod gan Lywodraeth Cymru sawl strategaeth i annog mwy i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden corfforol yn fwy cyffredinol.

Bydd Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn derbyn rhagor o dystiolaeth gan dystion, gan gynnwys llywodraeth leol, cyn clywed gan Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon yn ystod y tymor hwn. Bydd yn edrych ar ddarpariaeth gwasanaethau, heriau ariannol a gweithredol, modelau cyflenwi amgen ac arfer da, ymhlith pethau eraill. O hyn, gallai ddod yn gliriach pa gamau sydd eu hangen i gynnal y gwasanaethau hyn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Erthygl gan Osian Bowyer, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru