Dyfodol bysiau a threnau

Cyhoeddwyd 13/01/2023   |   Amser darllen munud

Disgwylir llawer o newid dros y blynyddoedd nesaf i wasanaethau bysiau a threnau. Dywed y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith fod bysiau a threnau yn allweddol nid yn unig i gyrraedd targedau newid hinsawdd, ond i greu cymdeithas lle gall pobl gael mynediad hawdd at y gwasanaethau, yr addysg a’r gwaith sydd eu hangen arnynt.

Mae cyfeiriad polisi trafnidiaeth Llywodraeth Cymru yn glir. Cyflwynodd Strategaeth Drafnidiaeth Cymru hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy sy’n blaenoriaethu teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus dros gerbydau modur preifat. Canslodd y Prif Weinidog brosiect dadleuol ffordd liniaru’r M4, gydag atebion amgen yn canolbwyntio ar gyflwyno trafnidiaeth gyhoeddus yn lle hynny. Mae gwaith i ddatblygu tair system metro ar y gweill ac mae Llywodraeth Cymru wedi oedi ei chynlluniau ffyrdd newydd er mwyn adolygu a ddylid bwrw ymlaen â nhw.

Mae gan wasanaethau bysiau a threnau rôl enfawr i’w chwarae wrth gyrraedd targedau newid hinsawdd. Yn ddiweddar, cynhaliodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith ymchwiliad ar ddyfodol bysiau a threnau, a disgwylir i Aelodau drafod adroddiad y Pwyllgor ac ymateb Llywodraeth Cymru yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos nesaf.

Fel rhan o’i ymchwiliad, fe wnaeth y Pwyllgor hefyd waith craffu blynyddol ar Trafnidiaeth Cymru.

Cyfeiriad cynaliadwy i bolisi trafnidiaeth Cymru?

Mae Llywodraeth Cymru yn anelu at sicrhau bod 45% o deithiau yn cael eu gwneud drwy ddulliau cynaliadwy (trafnidiaeth gyhoeddus neu deithio llesol) erbyn 2040. Mae’n amcangyfrif bod 32% o deithiau’n cael eu gwneud fel hyn ar hyn o bryd.

Mae Cymru Sero Net yn anelu at ddisodli’r 50% o fysiau sy’n llygru fwyaf gan fflyd bysiau heb ddim allyriadau o bibellau mwg erbyn 2028. Mae hefyd yn ymrwymo i ddatgarboneiddio’r rhwydwaith rheilffyrdd – gan gyfeirio at “raglen gynhwysfawr” i gyflwyno trenau newydd, gan gynnwys tyniant trydan ar Linellau Craidd y Cymoedd.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyfaddef bod cyrraedd ei thargedau newid moddol a sero net yn her fawr.

Newid ymddygiad a’r galw

Roedd y rhai a roddodd dystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor yn unfrydol eu barn mai annog newid ymddygiad yw’r her allweddol sydd angen ei goresgyn.

Clywodd y Pwyllgor gan Transport Focus nad oedd cynaliadwyedd yn flaenoriaeth i bobl wrth feddwl am sut i wneud eu taith – roedd cost a chyfleustra yn bwysicach.

Roedd newidiadau sylfaenol i alw ac ymddygiad eisoes ar y gweill cyn Covid-19, gan gynnwys cynnydd mewn siopa ar-lein a gweithio o bell. Fodd bynnag arweiniodd y pandemig at leihad digynsail mewn defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus. Nid yw nifer y teithwyr wedi adfer yn llawn bron i dair blynedd yn ddiweddarach.

Mae adferiad yn gyfle i gyflymu cynlluniau i ddiwygio’r sector, nid yn unig i helpu i gyflawni datgarboneiddio ond i ailgynllunio gwasanaethau sy’n hanfodol i gynifer o bobl.

Tlodi trafnidiaeth

Mae mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus – yn enwedig teithio ar fysiau – yn hanfodol er mwyn mynd i’r afael ag amddifadedd cymdeithasol a symudedd. Yn ôl tystiolaeth gan Trafnidiaeth Cymru nid oes gan 13% o gartrefi Cymru fynediad at gar, ac mae gan 25% o ddefnyddwyr bysiau anabledd neu salwch hirdymor. Canfu gwaith ymchwil gan Brifysgol De Cymru mai’r ardaloedd mwyaf difreintiedig oedd wedi gweld y gostyngiad mwyaf mewn mynediad at wasanaethau yn sgil y pandemig.

Canfu adroddiad ar dlodi trafnidiaeth gan Sustrans Cymru fod pobl ar draws pob rhan o Gymru yn profi tlodi trafnidiaeth gyda gwasanaethau yn anfforddiadwy. Canfu hefyd fod tlodi trafnidiaeth yn cael effeithiau anghymesur ar rai grwpiau a bod gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus afreolaidd yn cael mwy o effaith ar y rhai sy’n byw mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru. Yn yr un modd, dywed Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru fod trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig yn anfynych, yn annigonol ac yn ddrutach nag mewn mannau eraill.

Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith yn pryderu bod y materion hyn yn gwaethygu yn sgil costau byw cynyddol. Mae adroddiad y Pwyllgor yn cyfeirio at gamau a gymerwyd mewn gwledydd Ewropeaidd eraill i fynd i’r afael â materion o’r fath, gan gynnwys mesurau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU i gapio tocynnau bws sengl ledled Lloegr (y tu allan i Lundain) ar £2 tan fis Mawrth 2023.

Yn ei phapur ar gostau byw, mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru “ddatblygu map llwybr i drafnidiaeth gyhoeddus am ddim, gan ddechrau gyda phobl ifanc”.

Fodd bynnag, awgrymodd yr Athro Graham Parkhurst i’r Pwyllgor na fyddai gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn rhad, neu hyd yn oed yn am ddim, yn datrys y broblem ynghylch canfyddiadau trafnidiaeth gyhoeddus. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ymgyrchu dros Drafnidiaeth Well fod negeseuon i osgoi trafnidiaeth gyhoeddus ar ddechrau’r pandemig yn cael effaith barhaus. Fodd bynnag, roedd canmol i ymgyrchoedd hysbysebu diweddar Trafnidiaeth Cymru.

Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno cynigion i fynd i’r afael â thlodi trafnidiaeth gan gynnwys tocynnau â chymhorthdal.

Ymatebodd Llywodraeth Cymru

There is a lot of interest in low fares initiatives from public bodies across the UK. Whilst we haven’t ruled out such a policy we must be realistic about the budgetary restrictions within which we must operate.

Diwygio bysiau a threnau

Rhagwelir y bydd llawer o newid i’r gwaith o lywodraethu bysiau a rheilffyrdd dros y blynyddoedd nesaf – cynlluniau sydd wedi’u cyflymu yn sgil y pandemig gyda gwasanaethau rheilffordd yn dod o dan reolaeth gyhoeddus uniongyrchol a mwy o waith partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau a ddatblygwyd drwy'r Cynllun Brys ar gyfer Bysiau.

Canfu ymchwiliad y Pwyllgor fod safbwyntiau cymysg ar gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio bysiau. Mae cyflwyno masnachfreinio yn ffurfio elfen allweddol o’r cynigion. Er gwaethaf cefnogaeth sylweddol i ddiwygio'r sector, clywodd y Pwyllgor farn bod y costau posibl o fasnachfreinio yn enfawr.

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi crynodeb o ymatebion i’w hymgynghoriad ar y Papur Gwyn, gyda mwyafrif yr ymatebion yn dangos cefnogaeth i’r cynigion, ac mae wrthi’n cwblhau ei chynlluniau.

Wrth edrych ar gynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer diwygio’r rheilffyrdd, mynegodd y Pwyllgor bryder ynghylch sylwadau a wnaed gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd nad yw’r corff newydd arfaethedig - Great British Railways - yn dangos llawer o arwydd ei fod yn drefniant cydweithredol.

Mae’r achos dros ddatganoli seilwaith rheilffyrdd unwaith eto wedi codi yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor. Mae dadleuon yn ymwneud â thanariannu seilwaith rheilffyrdd Cymru wedi cael eu hailadrodd droeon.

Dywedodd yr Athro Mark Barry wrth y Pwyllgor fod goresgyn materion o’r fath yn hanfodol er mwyn datblygu rhwydwaith trafnidiaeth integredig. Dywedodd

…the rail investment required provides the backbone services that, actually, a lot of our bus services will integrate with.

Ac os yw Cymru am ddatgarboneiddio, dywedodd fod angen iddi gael y pwerau hynny a mynediad at gyllid.

Mae’r Pwyllgor yn cytuno hyd nes y bydd materion yn ymwneud â seilwaith y rheilffyrdd wedi’u datrys, y bydd yn anodd i Lywodraeth Cymru gyrraedd ei thargedau sero net.

Edrych tua’r dyfodol

Mae’n amlwg y bydd llawer o newid yn y blynyddoedd i ddod i drafnidiaeth bysiau a threnau. Mae cyrraedd targedau newid moddol a sero net yn her gymhleth gyda sawl ffactor ar waith. Mae newid ymddygiadau cyhoeddus wrth i ni adfer o’r pandemig, costau byw cynyddol a chynlluniau ar gyfer diwygio’r sector gan lywodraethau ar ochr arall y trywydd gwleidyddol yn her enfawr.

Ond, yn syml, fel y nododd un ymatebydd i waith ymgysylltu â’r cyhoedd y Pwyllgor, os ydym am gyrraedd targedau newid moddol a datgarboneiddio “mae'n rhaid i chi wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn well na’r car”.


Erthygl gan Francesca Howorth, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru