Dychwelyd i’r ysgol: addysg yn ystod COVID-19

Cyhoeddwyd 21/05/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

 

Mae’r erthygl hon yn rhan o’n casgliad 'Beth fydd nesaf? Materion o bwys i’r Chweched Senedd'.

Hyd yn oed cyn i gotiau disgyblion fynd nôl ar eu pegiau ysgol, mae pwysau eisoes ar y system addysg i gyflawni llawer mwy. Mae pryderon ynghylch sicrhau nad ydym yn stigmateiddio plant yn golygu bod siarad am ‘genhedlaeth goll’ sydd angen ‘dal i fyny’ eisoes yn annymunol. Ac eto, y realiti anochel yw bod misoedd o ddysgu wyneb yn wyneb wedi'u colli.

Mae ein dysgwyr wedi bod yn rhan o ‘ganlyniad anuniongyrchol’ y pandemig. Er bod mwy o gwestiynau nag atebion ar hyn o bryd, bydd angen ystyried yr atebion a'u rhoi ar waith yn ofalus yn ystod y Chweched Senedd.

Y sefyllfa cyn y pandemig

Gellir dadlau bod Cymru eisoes yn wynebu ymdrech fawr o ran sicrhau canlyniadau addysgol da i'w holl ddysgwyr. Ddegawd ar ôl i Lywodraeth Cymru ar y pryd gydnabod bod y system addysg wedi dangos ‘tystiolaeth o fethiant systemig’, roedd pawb yn dal eu gwynt ar adeg cyhoeddi canlyniadau PISA Cymru yn 2018.

Yn sgil cyllid ychwanegol, a chynllun gweithredu cenedlaethol i gyflawni newid, ystyriwyd bod y sgoriau PISA yn arwydd yr oedd mawr ei angen fod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud. Nid oedd gwahaniaeth ystadegol arwyddocaol bellach rhwng sgoriau Cymru a chyfartaledd yr OECD ym mhob un o’r tri phrif faes (darllen, mathemateg a gwyddoniaeth), er mai sgoriau Cymru oedd yr isaf o hyd ymhlith gwledydd y DU. Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, eu bod yn “gadarnhaol, ond nid perffaith”.

Sut wnaeth Cymru berfformio yn PISA 2018?

Ffynhonnell: Y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg, Cyflawniad disgyblion 15 mlwydd oed yng Nghymru: Adroddiad Cenedlaethol PISA 2018 (2019)

Mae gan y dysgwyr mwyaf difreintiedig heriau ychwanegol a all eu hatal rhag cyflawni eu potensial yn llawn. Er bod Llywodraeth flaenorol Cymru wedi buddsoddi £585 miliwn ers 2012 drwy'r Grant Datblygu Disgyblion (GDD), nid oedd y bwlch cyrhaeddiad yr oedd yn ceisio ei gau wedi culhau.  Gan amlaf, mae’r bylchau hyn yn mynd yn fwy wrth i ddysgwyr fynd yn hŷn. Mae gwahaniaeth amlwg rhwng plant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a'u cyfoedion yng Nghyfnod Allweddol 4, y ddwy flynedd lle mae dysgwyr fel arfer yn sefyll arholiadau TGAU ac arholiadau eraill.

Y bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim (cPYD) a’u cyfoedion

Ffynhonnell: StatsCymru

Y graddau y mae'r pandemig wedi effeithio ar ddysgwyr  

Mae plant a phobl ifanc eu hunain mewn sefyllfa dda i roi eu dyfarniad. Canfu Arolwg 2021 y Comisiynydd Plant o 20,000 o blant nad oedd 35 y cant yn teimlo'n hyderus am eu dysgu, o'i gymharu â 25 y cant ym mis Mai 2020. Roedd 63 y cant o bobl ifanc rhwng 12 a 18 oed yn poeni am syrthio ar ei hôl hi.

Mae adroddiadau di-rif yn nodi barn oedolion am sut y mae colli mwy na hanner blwyddyn o addysg 'wyneb yn wyneb' wedi effeithio ar ddysgwyr. Un o'r prif bryderon oedd yr amrywiadau o ran yr hyn y mae ysgolion wedi bod yn ei gyflwyno i ddisgyblion.

Mae rhestr hir o effeithiau posibl:

  • 'dysgu coll' sy'n golygu y gallai disgyblion danberfformio'n academaidd, a’r effaith ar eu rhagolygon tymor hir;
  • colli hyder yn y system arholiadau ac asesu;
  • gostyngiadau tymor hir o ran presenoldeb yn yr ysgol, ffactor y gwyddom sy'n allweddol i ganlyniadau addysgol;
  • anawsterau wrth symud rhwng blynyddoedd ysgol ac o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd.
  • heriau wrth ailennyn diddordeb dysgwyr a mynd i’r afael â chymhelliant isel;
  • naratif 'dal i fyny'  di-fudd ynglŷn â dysgu a gollwyd, sy’n rhoi baich seicolegol dianghenraid ar blant a phobl ifanc; ac
  • effaith negyddol ar allu a hyder dysgwyr i gyfathrebu yn Gymraeg lle nad ydynt wedi gallu gwneud hynny gartref.

Yn ogystal â'r materion addysgol amlwg hyn, mae effeithiau ehangach a ragwelir. Efallai y bydd dysgwyr presennol yn ennill llai, gydag un amcangyfrif yn nodi colled o hyd at £40,000 mewn oes.  Mae'r niwed i iechyd corfforol plant a mynychder uwch problemau iechyd meddwl, gan gynnwys gorbryder ac iselder, hefyd yn bryderon difrifol.

Mae effaith economaidd ehangach y pandemig hefyd yn debygol o gynyddu nifer y plant sy'n byw mewn teuluoedd ag incwm isel. Unwaith eto, rhagwelir mai’r dysgwyr mwyaf difreintiedig fydd yn dioddef fwyaf yn y tymor hwy. Er enghraifft, ym mis Mawrth 2021, canfu’r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant fod 35 y cant o deuluoedd incwm isel a ymatebodd i'w arolwg a gynhaliwyd ledled y DU yn dal i fod heb adnoddau hanfodol ar gyfer dysgu, gyda diffyg gliniaduron a dyfeisiau  gan amlaf. Clywodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Bumed Senedd fod ‘digon o dystiolaeth bod ‘gwahaniaethau trawiadol rhwng teuluoedd o ran eu gallu i gefnogi pobl ifanc yn eu dysgu: yr adnoddau sydd ganddyn nhw o’u cwmpas, y brwdfrydedd, yr ymgysylltu, yr ymrwymiad’.

Efallai y bydd gwaith i'w wneud hefyd i ailadeiladu cydberthnasau sydd wedi bod o dan straen sylweddol yn ystod y deuddeg mis diwethaf: y rhai rhwng undebau addysgu a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn y system addysg; rhwng rhieni / gofalwyr ac ysgolion; ac efallai, yn bwysicaf oll, ailsefydlu'r cydberthynas rhwng dysgwyr a'u hathrawon.

Atebion uniongyrchol ac yn y tymor hwy?

Dyma rai o'r atebion uniongyrchol sydd eisoes yn cael eu cynnig neu sydd i'w trafod: rhagor o gyllid, gan gynnwys 'Cyllid Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau'; mwy o athrawon a chynorthwywyr dysgu ar lawr gwlad; newid amseroedd tymhorau; a sefydlu ysgolion haf, clybiau gwyliau ac addysg yn y cartref.

Fodd bynnag, yn y tymor hwy, efallai y bydd mwy o gwestiynau nag atebion am y ffordd ymlaen, fel:

Newidiadau mawr i'w cyflawni: iechyd meddwl, y cwricwlwm ac anghenion dysgu ychwanegol

Mae dychweliad plant a phobl ifanc i’r ystafell ddosbarth wedi cael ei nodi fel cyfle hollbwysig i roi eu llesiant wrth wraidd addysg. Yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar lesiant, yn syml, mae plant sy'n iach yn feddyliol yn llawer mwy tebygol o ddysgu.

Yn dilyn pwysau gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Bumed Senedd a'i randdeiliaid, mae Cymru eisoes wedi cymryd camau sylweddol tuag at sefydlu 'Dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl’. Yr her yn ystod y Chweched Senedd fydd ei gyflawni.

Y tro posibl yn y cynffon yw, ar yr union adeg pan fydd y system addysg yn sicrhau bod plant yn dychwelyd i’r ysgol, bod yn rhaid iddi ymdopi â diwygiadau deddfwriaethol mawr. Mae hyn ar ffurf newidiadau sylweddol i gwricwlwm yr ysgol a chymorth i ddysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Efallai y bydd rhai yn dadlau mai dyma yw’r adeg ddelfrydol i gael newidiadau mor sylweddol. Os gall y system addysg weithredu'r tri diwygiad mawr hyn yn llwyddiannus, gellir dadlau bod Cymru wedi gwneud cryn dipyn o’r gwaith caib a rhaw er mwyn creu sylfaen lawer cadarnach i ymateb i’r heriau yn sgil COVID-19.

Mwy o gwestiynau nag atebion?

Ar hyn o bryd, efallai y bydd llawer mwy o gwestiynau nag atebion i'r system addysg. Mae'r byd y bydd dysgwyr yn symud iddo wedi newid am byth. Nid yn unig y mae’r pandemig wedi tarfu ar eu haddysg, mae hefyd yn golygu efallai y bydd y llwybrau y disgwylid iddynt eu dilyn i’r gweithle, neu i addysg bellach ac uwch, yn amhosibl eu hadnabod. Dim ond nawr mae'r sgiliau a'r doniau sydd eu hangen yn y 'normal newydd' yn dechrau cael eu nodi, ac maent yn debygol o fod yn wahanol i'r rhai yr oedd eu hangen cyn i’r pandemig ddechrau.  

Mae COVID-19 wedi cael effaith annileadwy ar y byd. Efallai mai'r cwestiwn mwyaf oll yw pa mor radical y dylai ymateb system addysg Cymru fod.

Erthygl gan Sian Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru