Dronau, robotiaid a lloerennau: dyfodol amaethyddiaeth Cymru?

Cyhoeddwyd 22/11/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 29/10/2020   |   Amser darllen munud

22 Tachwedd 2016 Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg [caption id="attachment_6504" align="alignnone" width="682"]Ffotograff o ddrôn a buwch Llun: o Flickr gan Lima Pix. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Ar 23 Tachwedd, bydd yr Aelodau'n trafod manteision defnyddio 'data mawr' mewn amaethyddiaeth. Mae'r blog hwn yn edrych ar beth yw data mawr a sut i'w defnyddio mewn amaethyddiaeth, yn arbennig yng nghyd-destun 'amaethyddiaeth fanwl', sef dull gwyddonol newydd o ffermio sy'n defnyddio llawer o ddata. Mae'r term 'data mawr' yn cyfeirio at setiau mawr o ddata sydd ar gael, yn aml yn ddistrwythur, o bosibl mewn amser real (y Swyddfa Ystadegau Gwladol). Mae'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) yn ariannu Rhwydwaith Data Mawr ar hyn o bryd sy'n edrych ar y ffordd y gellid defnyddio data mawr i weddnewid sefydliadau sector cyhoeddus a phreifat drwy gynyddu cynhyrchiant ac arloesedd. Data mawr ac amaethyddiaeth fanwl Ceir enghraifft mewn amaethyddiaeth o ddefnyddio data mawr i wella effeithlonrwydd. Mae casglu a defnyddio data mewn amaethyddiaeth fanwl yn ennill mwy o sylw gyda dyfodiad technolegau newydd. Disgwylir y bydd hyn yn ganolog yn y broses o wireddu data mawr mewn amaethyddiaeth. Mewn amaethyddiaeth fanwl, caiff data eu casglu o synwyryddion mewn meysydd ar elfennau newidiol fel ansawdd aer a phridd, tymheredd a lleithder. Gall delweddau lloeren a dronau robotig greu lluniau o gaeau i ddangos aeddfedrwydd cnydau. Mae canolfannau rheoli yn casglu ac yn prosesu data o'r fath mewn amser real i helpu ffermwyr i wneud penderfyniadau, er enghraifft mewn perthynas â phlannu, gwrteithio a chynaeafu cnydau. Gellir cyfuno data o'r fath â modelau darogan tywydd, a gall ymchwilwyr adeiladu modelau ac efelychiadau a all ragweld amodau yn y dyfodol a helpu ffermwyr i wneud penderfyniadau rhagweithiol. Mae tua 60% o ffermwyr y DU eisoes yn defnyddio rhyw fath o amaethyddiaeth fanwl ar eu ffermydd, ond gan fwyaf mae hyn yn golygu llywio tractor â lloeren. Mae modd cael llawer o fanteision o amaethyddiaeth fanwl drwy ddealltwriaeth well o ryngweithiadau amgylcheddol cymhleth a fydd yn gwella effeithlonrwydd ac yn annog arloesi. Mae llawer yn credu mai dyma fydd dyfodol amaethyddiaeth gynaliadwy; fodd bynnag mae sawl her wedi'u nodi.
  • Mae ffermwyr yn pryderu ynghylch natur gyfrinachol a chystadleuol y data am eu ffermydd a'u cynnyrch. Y pryder yw y gellid manteisio ar y data hyn i gamliwio prisiau bwyd. Mae angen sicrwydd ynglŷn â phwy sy'n berchen ar y data, a sut y cânt eu rhannu;
  • Mae defnyddio Rhyngrwyd y Pethau (IoT - system lle mae gwrthrychau yn gysylltiedig â rhwydwaith fel bod modd rhannu data) yn dibynnu ar gysylltiad band eang cyflym iawn o ansawdd, ac nid yw hyn ar gael mewn llawer o gymunedau gwledig o hyd. Nid yw 13% o ffermwyr y DU yn gallu cael mynediad dibynadwy i'r rhyngrwyd o hyd ac mae 60% o'r rheini sydd â chysylltiad yn cael cyflymder o 2Mbps yn unig, sy'n annigonol o ran ymdrin â'r mapiau llawn data y bydd dronau a synwyryddion yn eu creu;
  • Byddai angen newid diwylliant ymhlith ffermwyr i feistroli technoleg fwyfwy; bydd yn rhaid i ffermwyr reoli terabeitiau o wybodaeth.
  • Prin iawn yw'r gwyddonwyr 'data' neu bobl sy'n gwybod sut i greu a gweithredu'r algorithmau angenrheidiol ar gyfer dadansoddi symiau mawr o ddata;
  • Yn aml, ceir anghysondeb yng ngraddfa, manylder a chywirdeb y data a ddaw o wahanol ffynonellau. Gall yr anghysondeb hwn greu darlun gwallus o'r hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd mewn cae;
  • Mae angen rheoli ansawdd data mawr cyn ei ddefnyddio mewn algorithmau. Gall y gweithdrefnau rheoli ansawdd angenrheidiol fod yn llafurus; a
  • Gall y dehongliad o gynhyrchion a grëwyd gan algorithmau sy'n prosesu setiau data mawr fod yn oddrychol.
Strategaethau data mawr Llywodraethau Llywodraeth Cymru Yn ysbryd data mawr a rhannu data, mae cynllun data agored Llywodraeth Cymru yn gosod ei hymrwymiad i gyhoeddi a rhannu data sy'n ystyrlon a hygyrch, ac yn gallu cael eu hailddefnyddio. Mae Porth-Daear y Lle wedi cael ei ddatblygu fel partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r Lle yn ganolbwynt ar gyfer data a gwybodaeth ar amrywiaeth o bynciau, ond yn bennaf ynghylch yr amgylchedd. Mae'r Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol yn datblygu Atlas Cymru Fyw gyda chyfraniad gan Lywodraeth Cymru i gymryd lle'r Porth NBN o ran darparu data gofodol amgylcheddol Cymru i'r cyhoedd. Llywodraeth y DU Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth y DU wedi bod yn hyrwyddo arloesi amaeth-dechnoleg. Yn 2013, lansiodd ei strategaeth amaeth-dechnoleg gyda chyllideb o £160 miliwn i wneud y DU yn ganolfan fyd-enwog o ran arloesi mewn amaeth-dechnoleg. Atgyfnerthodd Llywodraeth y DU ei strategaeth mewn amaethyddiaeth yn 2014 gyda thechnoleg Rhyngrwyd y Pethau i helpu i gynyddu cynnyrch, gwella'r gallu i olrhain bwyd, a mynd i'r afael â heriau amgylcheddol drwy synwyryddion rhwydweithiol o bell, yn arbennig ar gyfer datblygu cnydau ac ymchwil enetig. Fel rhan o'i strategaeth data agored, yn 2015 cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei huchelgais i ryddhau 8,000 o setiau data y DU i'r cyhoedd dros y 12 mis canlynol. Dywedodd Defra:
bydd yn caniatáu i ffermwyr y DU ddefnyddio technegau arloesol i hybu effeithlonrwydd a chynhyrchiant, ac yn caniatáu gwaith monitro a rheoli gwell ar gyfer risgiau amgylcheddol.