Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n ymgynghori ar ei pholisi drafft ar gyfer echdynnu petrolewm yng Nghymru. Y cynnig yw
na fydd yn cyflwyno unrhyw drwyddedau petrolewm newydd yng Nghymru, nac yn cefnogi ceisiadau am drwyddedau petrolewm yn sgil hollti hydrolig.
Gan fod pwerau trwyddedu petrolewm newydd wedi cael eu datganoli i Gymru o dan Ddeddf Cymru 2017, mae'r cynigion yn golygu na chaiff ceisiadau am drwyddedau petrolewm na thrwyddedau ffracio newydd eu cefnogi. Yr unig eithriadau i safbwynt Llywodraeth Cymru yw lle mae angen adfer olew neu nwy ar gyfer diogelwch cloddfeydd neu at ddibenion ymchwil wyddonol.
Mae'r ymgynghoriad, sydd ar agor tan 25 Medi, yn gofyn am farn ynghylch y polisi drafft ar echdynnu petrolewm yng Nghymru a'r dystiolaeth sydd wedi'i lywio.
Beth yw petrolewm?
Caiff petrolewm ei ddiffinio yn adran 1 o Ddeddf Petrolewm 1998 fel
any mineral oil or relative hydrocarbon and natural gas existing in its natural condition in strata; [this] does not include coal or bituminous shales or other stratified deposits from which oil can be extracted by destructive distillation.
Gall petrolewm fod yn gonfensiynol, lle mae'r nwy a/neu'r olew yn cael eu dal dan bwysau mewn cronfeydd tanddaearol, neu'n anghonfensiynol, sy'n cyfeirio at olew a nwy naturiol sy'n cael eu dal mewn creigiau tanddaearol dwfn. Mae'r mathau o nwy anghonfensiynol yng Nghymru yn cynnwys nwy siâl, methan gwely glo, methan mewn cloddfeydd sydd wedi'u gadael, a methan mewn pyllau glo.
Mae petrolewm anghonfensiynol yn anoddach ei gyrraedd ac felly mae'r technegau echdynnu yn fwy cymhleth, ac yn gofyn am brosesau ychwanegol i ryddhau'r petrolewm o'r ddaear. Er enghraifft, caiff nwy siâl ei echdynnu o'r graig gan ddefnyddio technegau hollti hydrolig, h.y. 'ffracio'. Mae ein papur ymchwil ynghylch nwy anghonfensiynol yn edrych ar hyn yn fanylach.
Pa ffynonellau petrolewm sy'n bodoli yng Nghymru?
Er bod gan Gymru hanes hir o echdynnu glo, prin fu'r datblygiadau petrolewm hyd yn hyn. Nid oes llawer o ddata ar gael ynghylch maint a lleoliad cronfeydd petrolewm yng Nghymru, ond cynhaliodd Arolwg Daearegol Prydain astudiaeth o adnodd nwy anghonfesiynol posibl yng Nghymru (PDF, 2.96MB) yn 2013.
Mae adroddiad Arolwg Daearegol Prydain yn nodi bod petrolewm ar ffurf methan gwely glo yn bresennol mewn gwythiennau glo yng ngogledd-ddwyrain a de Cymru. Er bod nwy siâl yn llai cyffredin yng Nghymru na methan gwely glo, mae yna nifer o orwelion siâl y mae potensial i'w datblygu.
Pa bwerau newydd sy'n cael eu datganoli?
Er bod pwerau ynghylch nwy yn gyffredinol yn cael eu cadw yn Senedd y DU o dan Ddeddf Cymru 2017, mae yna eithriadau yn achos petrolewm, gan gynnwys rhoi a rheoleiddio trwyddedau i chwilio am betrolewm, tyllu amdano a'i echdynnu.
O fis Hydref 2018, bydd Gweinidogion Cymru yn cymryd cyfrifoldeb oddi wrth Awdurdod Olew a Nwy y DU (OGA) am drwyddedu petrolewm ar y tir, gyda'r ffin trwyddedu ar y tir hefyd yn cynnwys dyfroedd aberoedd y glannau.
Yng ngoleuni'r pwerau newydd hyn, polisi arfaethedig Llywodraeth Cymru yw na fydd yn cyflwyno unrhyw drwyddedau petrolewm newydd yng Nghymru, nac yn cefnogi ceisiadau am drwyddedau petrolewm yn sgil hollti hydrolig.
Beth am y trwyddedau presennol?
Er y byddai'r polisi newydd arfaethedig yn golygu na fydd trwyddedau newydd yn cael eu rhoi, ceir pedair ar ddeg o Drwyddedau Archwilio a Datblygu Petrolewm (PEDL) yng Nghymru, a dyfarnwyd y trwyddedau olaf yn 2008. Er bod PEDL yn rhoi hawliau unigryw i chwilio betrolewm, tyllu amdano a'i echdynnu mewn ardal benodedig, mae'n amodol ac nid yw yn ei hun yn rhoi awdurdod i ddrilio neu gychwyn unrhyw weithrediadau eraill heb gymeradwyaeth bellach. O fis Hydref 2018, bydd yn ofynnol i unrhyw drwyddedai presennol yng Nghymru sy'n dymuno arfer ei hawliau PEDL wneud cais i Weinidogion Cymru am y caniatâd neu'r gymeradwyaeth berthnasol.
Yn achos PEDLs presennol, mae Llywodraeth Cymru yn nodi y byddai unrhyw gais yn cael ei ystyried yng ngoleuni ei hymrwymiadau dadgarboneiddio a'r ffordd y caiff polisïau cynllunio a phetrolewm Llywodraeth Cymru eu cymhwyso yn unol â'r gyfraith.
A yw ffracio yng Nghymru eisoes wedi'i wahardd?
Er bod dogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru yn trafod ystod o ffynonellau petrolewm, echdynnu nwy siâl drwy ffracio, a esbonnir yn fanylach yn y blog hwn, sy’n cael sylw rheolaidd yn y penawdau ac sydd wedi bod yn destun dadl gan Aelodau'r Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn.
Fel y nodwyd yn y cyfryngau, mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau yn y gorffennol drwy'r system gynllunio i atal ffracio yng Nghymru. Ym mis Mawrth 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gyfarwyddyd Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysu) (Nwyeiddio Glo Tanddaearol) (Cymru) 2016 ochr yn ochr â llythyr ''Annwyl Brif Swyddogion Cynllunio'. Mae’r llythyr yn cyflwyno proses sy’n golygu y byddai unrhyw geisiadau cynllunio i awdurdodau lleol sy'n gysylltiedig â nwyeiddio glo yn yr haenau yn cael eu cyfeirio i Weinidogion Cymru, lle mae awdurdodau cynllunio lleol yn bwriadu eu cymeradwyo.
Fodd bynnag, nid oedd y gwaharddiad hwn yn berthnasol i waith archwilio, a rhoddwyd caniatâd i rai ceisiadau, fel ym Mro Morgannwg a Wrecsam. Hefyd cwestiynwyd ai'r gwaharddiad hwn ar ffracio oedd y ffordd gywir o wneud pethau, gyda rhai'n dadlau y byddai'n well defnyddio nwy o'r DU yn hytrach na dibynnu ar fewnforio.
Mynegwyd pryderon hefyd y gallai Llywodraeth Cymru fod yn agored i her gyfreithiol, a chwestiynodd rhai a oedd y gwaharddiad hwn o fewn pwerau'r llywodraeth ar y pryd. Mae Deddf Cymru 2017 yn golygu bod bellach gan Lywodraeth Cymru y pwerau i wahardd ffracio a dulliau eraill o echdynnu petrolewm.
Pa dystiolaeth a ddefnyddiwyd i lywio'r polisi?
Ynghyd â'r ymgynghoriad, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi nifer o adroddiadau ac astudiaethau ymchwil sy'n ymchwilio i effeithiau cadarnhaol a negyddol posibl echdynnu petrolewm yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ystyried canfyddiadau'r astudiaethau hyn yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 er mwyn penderfynu:
a yw diwydiant echdynnu petrolewm domestig yn y dyfodol, yn cyflenwi cartrefi a busnesau yng Nghymru, yn gydnaws â'r egwyddorion sy'n sail i'r [Deddfau].
Effeithiau amgylcheddol
Oherwydd bod datblygiadau echdynnu petrolewm wedi digwydd ar raddfa fechan yng Nghymru hyd yn hyn, ychydig iawn o dystiolaeth sydd o effaith bosibl y diwydiant ar dirwedd ac amgylchedd Cymru. Fodd bynnag, nododd adroddiad gan y Ganolfan Ymchwil Geoamgylcheddol ym Mhrifysgol Caerdydd (PDF, 2.87MB) nifer o risgiau amgylcheddol, gan gynnwys:
- Defnyddio symiau mawr o ddŵr, a allai effeithio ar y dŵr sydd ar gael i bobl a'r amgylchedd;
- Risgiau i ddŵr daear, oherwydd hylifau hollti hydrolig yn gollwng neu sylweddau'n toddi o'r creigiau cynhenid;
- Sylweddau'n toddi a deunyddiau naturiol o greigiau y mae angen eu gwaredu'n briodol;
- Allyriadau a rheoli gwastraff o waith drilio, hollti hydrolig, ffaglu a gweithrediadau eraill ar safleoedd;
- Rhyddhau methan, sy'n nwy tŷ gwydr, a llygryddion eraill i'r awyr; a
- Dŵr llygredig neu'r ddaear o weithrediadau ar yr wyneb.
Effeithiau economaidd
Ers datganoli pwerau newydd i Gymru, mae cwestiynau wedi codi ynghylch pa fanteision economaidd y gallai echdynnu petrolewm eu cynnig. Wrth ystyried yr effeithiau economaidd posibl, mae adroddiad a luniwyd gan Brifysgol Caerdydd (PDF, 420KB) yn dod i'r casgliad bod yr effeithiau:
annhebygol o fod o raddfa a natur a fydd yn achosi unrhyw effeithiau economaidd trawsnewidiol ar gyfer y rhanbarth yn y tymor hwy.
Nid yw'n syndod bod gan nifer o gwmnïau ynni farn wahanol ar hyn. Wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Dethol Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin fel rhan o'i ymchwiliad ynghylch Cynhyrchu Ynni yng Nghymru, dywedodd y cwmni ynni Coastal Oil and Gas wrth y Pwyllgor fod swm anferthol o nwy yn ne Cymru. O ran potensial diwydiant echdynnu petrolewm ar draws y DU, ychwanegodd y byddai degau o filoedd o swyddi yn cael eu creu mewn senario nwy siâl sylweddol.
Yn ogystal â'r manteision economaidd posibl drwy greu cyfleoedd cyflogaeth, mae echdynnu petrolewm yn ddarostyngedig i drethiant. Er mai Trysorlys Llywodraeth y DU a fydd yn talu hyn o hyd, mae'r rheini sy'n dal trwyddedau ar gyfer echdynnu petrolewm hefyd yn ddarostyngedig i dalu cyfraddau rhent a ffioedd gweinyddol, a fydd yn daladwy i Lywodraeth Cymru o fis Hydref 2018.
Effeithiau ar iechyd
Y casgliadau sy'n deillio o'r dystiolaeth a ystyriwyd yw y gallai'r risgiau posibl i iechyd y cyhoedd o ddod i gysylltiad â'r allyriadau sy'n gysylltiedig ag echdynnu nwy anghonfensiynol fod yn isel os caiff y gweithrediadau eu rhedeg a'u rheoleiddio'n briodol.
Fodd bynnag, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn pwysleisio (PDF, 210KB) ei bod yn bwysig cydnabod y bylchau yn y sylfaen dystiolaeth sydd ar gael a bod angen mwy o wybodaeth.
Effeithiau trafnidiaeth
Mae’r dystiolaeth yn nodi (PDF, 2MB) nad yw'r symudiadau trafnidiaeth ychwanegol sy'n gysylltiedig ag echdynnu petrolewm yn debygol o fod yn sylweddol ar raddfa genedlaethol, ond y byddai angen gwaith pellach i ddeall yr effeithiau ar gymunedau lleol.
Mae'r dystiolaeth hefyd yn awgrymu y gallai nifer y symudiadau traffig fod yn fwy ar gyfer echdynnu methan gwely glo, sy'n fwy cyffredin yng Nghymru na ffynonellau eraill o betrolewm.
Barn Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn dod i'r casgliad o'r dystiolaeth nad yw manteision echdynnu petrolewm yn ddigon mawr i orbwyso'i hymrwymiad i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
Mae'n dod i'r casgliad bod risgiau parhaus i'r amgylchedd ac iechyd, yn rhannol oherwydd diffyg tystiolaeth benodol, a budd economaidd cyfyngedig i Gymru, yn sgil cefnogi echdynnu petrolewm.
Beth yw’r camau nesaf?
Yn dilyn yr ymarfer ymgynghori, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud cyhoeddiad cyn diwedd 2018 ynghylch ei pholisi ar gyfer echdynnu petrolewm yn y dyfodol. Os caiff y polisi drafft o beidio â chaniatáu i unrhyw drwyddedau petrolewm newydd yng Nghymru ei ddatblygu, mae Llywodraeth Cymru o'r farn y bydd:
yn cymryd cam bach ond pwysig tuag at ddyfodol di-garbon yng Nghymru.
Erthygl gan Francesca Howorth, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru