Senedd Cymru

Senedd Cymru

Diwygio trethiant lleol: Y Senedd i ystyried gwelliannau i’r Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru)

Cyhoeddwyd 08/07/2024   |   Amser darllen munud

Dydd Mawrth 9 Gorffennaf, bydd y Senedd yn cael ei hail gyfle i ddiwygio’r Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru).

Mae’r Bil yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gynnal ailbrisiadau treth gyngor bob pum mlynedd ac yn cynyddu amlder ailbrisiadau at ddibenion ardrethi annomestig (ardrethi busnes). Mae hefyd yn dileu dyletswyddau ar awdurdodau lleol i gyhoeddi hysbysiadau treth gyngor mewn papurau newydd, a sbardunodd ymateb cryf gan rai darparwyr cyfryngau yng Nghymru.

Gwnaeth y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ystyried 45 o welliannau wedi’u cyflwyno i’r Bil ar 13 Mehefin 2024. O’r rheini, dim ond 8 a dderbyniwyd, ac roedd pob un ohonynt yn welliannau gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r erthygl hon yn crynhoi rhai o’r prif drafodaethau a gafwyd yn ystod y gwaith craffu yng Nghyfnod 2.

Ailbrisio’r Dreth Gyngor erbyn 2028

Bwriad ymgynghoriad Cyfnod 1 - Treth Gyngor Decach gan Lywodraeth Cymru oedd ailbrisio’r holl eiddo domestig ar 1 Ebrill 2025 gan ddefnyddio pwerau presennol. Cafodd y pwerau hyn eu defnyddio ddiwethaf gan Weinidogion Cymru i ailbrisio eiddo yn 2005. Ar hyn o bryd, nid oes gofyniad statudol i ddiweddaru prisiadau eiddo yn rheolaidd.

Byddai’r Bil, fel y’i cyflwynwyd, wedi sefydlu ailbrisiadau treth gyngor statudol o 2030, a phob pumed flwyddyn ar ôl hynny (yn 2035, 2040, 2045 etc). Fodd bynnag, roedd ymgynghoriad Cam 2 ar ddiwygiadau trethiant lleol, a gynhaliwyd rhwng mis Tachwedd 2023 a mis Chwefror 2024, yn tynnu sylw at wahaniaeth ym marn y cyhoedd am ba mor gyflym y mae’r trethiant hwn yn cael ei ddiwygio.

Ar 15 Mai, dywedodd Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet, wrth yr Aelodau, y byddai hyn nawr yn cael ei gyflwyno “dros amserlen arafach” er bod “awydd clir am ddiwygiadau”. O ganlyniad, rhoddwyd y gorau i’r ailbrisio ar gyfer 2025.

Cyflwynodd yr Ysgrifennydd Cabinet welliannau i’r Bil er mwyn galluogi cylchoedd ailbrisio treth gyngor statudol i ddechrau yn 2028. Roedd Luke Fletcher AS wedi cyflwyno gwelliant gan geisio gorfodi Gweinidogion Cymru i weithredu diwygiadau erbyn 1 Ebrill 2025, a siaradodd am ei siom na fyddai ailbrisio eiddo domestig yn mynd yn ei flaen fel y cynlluniwyd. Nododd ei bod yn gyfle i wneud rhywbeth eithaf chwyldroadol, ond roedd hefyd yn cydnabod ei bod yn rhy hwyr gweithredu ar ddiwygiadau yn 2025 erbyn hyn, a thynnodd y gwelliant yn ôl.

Refferenda ar gynnydd yn y dreth gyngor

Gan geisio ychwanegu darpariaethau newydd at y Bil, gwnaeth Peter Fox AS gyflwyno gwelliant a fyddai’n gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol i gynnal refferendwm pe bai’r dreth gyngor yn cynyddu 5 y cant. Dywedodd yr Aelod y byddai cynnal refferenda o’r fath yn cynyddu tryloywder ac atebolrwydd. Mae pwerau tebyg yn bodoli yn Lloegr, ond nid ydynt yn rhychwantu Cymru. Ar hyn o bryd, mae gan Weinidogion Cymru rai pwerau i gyfyngu ar gynnydd gormodol yng ngofynion cyllideb awdurdodau lleol, ond nid yw’r pwerau hyn erioed wedi cael eu defnyddio.

Roedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ystyried bod y gwelliant hwn yn wyriad sylweddol oddi wrth ddull Llywodraeth Cymru o ymdrin â lleoliaeth, gan awgrymu bod y pwerau ar gyfer refferenda lleol yn Lloegr wedi’u cyflwyno i gyfyngu ar atebolrwydd democrataidd llywodraeth leol. Gwrthodwyd y gwelliant.

Ceisio ‘gwerth am arian’ am hysbysiadau cyhoeddus

Yr adran o’r Bil a ddenodd sylw sylweddol yw’r ddyletswydd newydd ar awdurdodau lleol i gyhoeddi hysbysiadau treth gyngor ar-lein. Mae’r Bil hefyd yn dileu’r ddyletswydd bresennol i gyhoeddi’r hysbysiadau hynny mewn papurau newydd. Yn dilyn gwaith craffu cynharach ar y Bil, roedd y Pwyllgor yn cydnabod na fyddai adran 20 yn atal awdurdodau lleol rhag cyhoeddi hysbysiadau o’r fath mewn papurau newydd, ond o ystyried y pwysau ariannol presennol, y caiff awdurdodau lleol ddewis peidio â gwneud hynny er mwyn gwneud arbedion.

Cyflwynodd Peter Fox AS welliant er mwyn ceisio dileu’r cyfan o adran 20 o’r Bil. Mynegodd yr Aelod bryderon ynghylch mynediad yr henoed at wybodaeth, yn ogystal â sicrhau tryloywder ac atebolrwydd wrth wneud penderfyniadau ar lefel leol. Roedd Aelodau a oedd yn cefnogi’r gwelliant yn rhannu pryderon am effaith y darpariaethau ar ddarparwyr newyddion lleol. Dywedodd James Evans AS y gallai hyn niweidio hyfywedd nifer o ddarparwyr newyddion lleol ledled y wlad.

Pwysleisiodd yr Ysgrifennydd Cabinet y byddai holl dalwyr y dreth gyngor yn dal i gael gwybodaeth am y dreth gyngor fel rhan o’u bil blynyddol, ond bod y dyletswyddau presennol ar awdurdodau lleol yn arwain at ddull anhyblyg. Pwysleisiodd y Gweinidog nad yw adran 20 yn atal awdurdodau lleol rhag cyhoeddi hysbysiadau mewn papurau newydd, ond ei bod yn bwysig bod awdurdodau lleol yn sicrhau gwerth am arian. Gofynnodd yr Ysgrifennydd Cabinet i Aelodau’r Pwyllgor wrthsefyll y gwelliant.

Mae adran 20 yn aros yn y Bil.

Craffu manylach

Mae’r Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) yn gwneud llawer o bethau, ond mewn nifer o achosion, mae’n rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth (rheoliadau) ar draws ystod o faterion sy’n ymwneud â threthiant lleol. Mae hynny’n golygu na fydd manylion ynghylch yr hyn a allai ddigwydd mewn meysydd fel rhyddhad ardrethi annomestig, esemptiadau ar gyfer busnesau a disgowntiau’r dreth gyngor, ar gael nes y bydd yr is-ddeddfwriaeth honno’n cael ei gwneud.

Mynegodd rhanddeiliaid, yn ogystal ag Aelodau o’r Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn y Senedd bryderon ynghylch pwerau eang Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau yn y Bil.

Roedd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai wedi argymell yn ei adroddiad Cyfnod 1 ar y Bil fod Llywodraeth Cymru yn cynnwys gweithdrefnau cymeradwyo manylach ar gyfer rheoliadau drafft Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r ddeddfwriaeth hon. Byddai hyn yn rhoi’r amser priodol i bwyllgorau’r Senedd i wneud gwaith craffu, y tu hwnt i’r hyn a ddarperir ar hyn o bryd ar gyfer is-ddeddfwriaeth.

Cyflwynodd Peter Fox AS welliannau i’r perwyl hwn, a fyddai’n rhoi’r gweithdrefnau craffu manylach yr oedd y Pwyllgor wedi galw amdanynt mewn set benodol o reoliadau. Byddai hyn yn golygu y byddai rheoliadau penodol a osodir gan ddefnyddio pwerau yn y Bil hwn yn destun cyfnod o 60 diwrnod i wneud gwaith craffu yn hytrach na’r 30 diwrnod safonol. Fodd bynnag, nid oedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn credu bod hyn yn gymesur, gan nodi y gallai’r gwelliannau hyn roi trethdalwyr yng Nghymru dan anfantais drwy beri oedi wrth ddarparu cymorth newydd neu hyd yn oed atal cymorth newydd rhag cael ei ddarparu. Gwrthodwyd pob gwelliant sy’n ymwneud â gweithdrefnau cymeradwyo manylach.

Adolygiad o bwerau newydd

Yn ei adroddiad Cyfnod 1 ar y Bil, galwodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai am welliannau er mwyn sicrhau proses ar gyfer adolygu pwerau newydd yn y Bil, yn enwedig mewn perthynas â’r canlynol: pwerau i roi rhyddhad ardrethi annomestig neu ei dynnu’n ôl; pwerau ar gyfer pennu technegau osgoi artiffisial (mesurau a ddefnyddir gan rai i osgoi talu treth); a, pan fo newidiadau sylweddol i ddisgowntiau’r dreth gyngor yn cael ei wneud drwy reoliadau (megis newid, lleihau neu ddatgymhwyso disgowntiau presennol).

Yn ôl y Pwyllgor, dylai’r adolygiad gael ei gynnal cyn diwedd y Seithfed Senedd a dylai gynnwys:

  • asesiad gan Weinidogion Cymru o fecanweithiau deddfwriaethol amgen ar gyfer gwneud newidiadau i ddeddfwriaeth Cymru yng nghyd-destun rhyddhadau, esemptiadau, lluosyddion a darpariaethau gwrth-osgoi mewn perthynas ag ardrethu annomestig, a disgowntiau’r dreth gyngor; a
  • gofyniad i ymgynghori â’r Senedd.

Byddai gwelliannau a gyflwynwyd gan Peter Fox AS wedi gosod gofyniad o’r fath ar Weinidogion Cymru. Wrth ymateb i’r gwelliant, nododd yr Ysgrifennydd Cabinet fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn mewn egwyddor argymhelliad y Pwyllgor:

We will amend the explanatory memorandum after Stage 2 to include a commitment to undertake a post-implementation review of the operation and the impact of the legislation before the end of the seventh Senedd.

Gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet hefyd dynnu sylw at allu’r Senedd i wneud gwaith craffu ar ôl deddfu, pe bai’n dewis gwneud hynny. Galwodd yr Ysgrifennydd Cabinet ar gydweithwyr i wrthsefyll y gwelliannau, a gafodd eu gwrthod.

Gallwch ddilyn Cyfnod 3 o drafodion y Bil (09 Gorffennaf) ar Senedd.tv.


Erthygl gan Osian Bowyer, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru