Diwygio'r pecyn cymorth ar gyfer gwella ymddygiad gwrth-gymdeithasol

Cyhoeddwyd 24/09/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

24 Medi 2013 Mae gan Gymru hanes o ddefnyddio Gorchmynion Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (ASBOs) pan fetha popeth arall, o'i gymharu â'r agwedd a gymerir yn Lloegr. Yng Nghymru, mae'r cyd-destun polisi ar gyfer mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol – yn enwedig aflonyddwch gan ieuenctid – wedi bod yn rhagweithiol, gan ganolbwyntio ar hawliau, ar leihau risg, ar wyriadau ac ar geisio cyfyngu'r broblem; agwedd wahanol i honno yn Lloegr lle mae tuedd i fod yn fwy seiliedig ar risg. Cafodd Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona Llywodraeth y DU ei gyflwyno yn Nhŷ'r Cyffredin ar 9 Mai 2013. Mae yn y cyfnod Pwyllgor ar hyn o bryd. Un o amcanion polisi Llywodraeth y DU ar gyfer y Bil yw creu pwerau newydd i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol - er mwyn symleiddio'r broses.  Mae'r Bil yn gwneud darpariaethau ar gyfer crynhoi'r 19 gorchymyn presennol yn chwe gorchymyn newydd ar gyfer ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac mae'n rhoi'r gallu i ddioddefwyr sicrhau bod camau'n cael eu cymryd. Mae'r Bil yn ganlyniad i broses hir o drafod ac ymgynghori gan Lywodraeth y DU.  Mae Tabl 1 isod yn rhoi crynodeb o resymoli dulliau i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a gynigir yn y Bil: Welsh Ar hyn o bryd mae nifer fawr o ffyrdd o ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, a hynny drwy gyfrwng mwy na deg Deddf Seneddol. Mae rhai o'r dulliau hyn, fel ASBOs, yn bwerau eithaf eang i roi cyfyngiadau ar gyflawnwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol. Cafodd eraill eu cynllunio i ymdrin â phroblemau penodol iawn.  Mae hyn yn arbennig o wir am y dulliau a gyflwynwyd i ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol amgylcheddol, fel sbwriel neu graffiti. Mae rhai o'r gwelliannau i ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ymwneud ag unigolion a rhai - fel gorchmynion gwasgaru neu orchmynion llidiartu - yn ymwneud ag ardaloedd lle bu problemau. Ar 10 Gorffennaf 2013, gofynnodd Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad Cenedlaethol  i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, Lesley Griffiths AC, am oblygiadau'r Bil hwn i agenda polisi a phenderfyniadau Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn benodol y gwaith sydd wedi'i wneud mewn partneriaeth â'r heddlu i sicrhau nad yw plant a phobl ifanc yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n achosi aflonyddwch neu drallod. Ddydd Mawrth 24 Medi  2013, bydd Aelodau'r Cynulliad yn trafod y darpariaethau yn y Bil yn y Cyfarfod Llawn, ochr yn ochr â thri newid arfaethedig arall yn y Bil, mewn perthynas ag adfer perchnogaeth tai annedd, rheolaethau ar gyllid cyfalaf a chŵn peryglus. Erthygl gan Sarah Hatherley