Diwygio’r Cynulliad – datblygiadau yn y dyfodol

Cyhoeddwyd 02/02/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

Ddydd Mercher 7 Chwefror, bydd y Cynulliad yn trafod cynnig ynghylch Ymgynghoriad ar Ddiwygio’r Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn. Mae’r cynnig wedi’i osod ar ran Comisiwn y Cynulliad gan Elin Jones AC, y Llywydd. Mae’n nodi:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:Siambr y Senedd

  1. Yn nodi adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad.
  2. Yn cymeradwyo penderfyniad Comisiwn y Cynulliad i ymgynghori ynghylch cynigion y Panel a diwygiadau eraill yn ymwneud ag etholiadau, yr etholfraint a threfniadau mewnol y gellir eu rhoi ar waith o ganlyniad i Ddeddf Cymru 2017

Mae UKIP hefyd wedi cyflwyno cynnig sy’n nodi fel a ganlyn: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

  1. Yn nodi Adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, ‘Senedd sy’n gweithio i Gymru’.
  2. Yn credu: a) ar hyn o bryd, na ddylai fod unrhyw gynnydd yn nifer aelodau etholedig y Cynulliad; a b) bod yn rhaid i etholwyr nodi eu caniatâd ar gyfer unrhyw gynnydd yn nifer yr aelodau etholedig yn y dyfodol drwy refferendwm.

Deddf Cymru 2017

Mae Deddf Cymru 2017 yn diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 i roi cymhwysedd i’r Cynulliad dros ystod o’i drefniadau mewnol, sefydliadol a gweithredol. Mae’r rhain yn cynnwys materion fel rheolau o ran anghymhwyso rhag bod yn Aelod o’r Cynulliad, gweinyddiaeth etholiadau a’r pŵer i newid enw’r sefydliad. Mae Comisiwn y Cynulliad wedi trafod ystod o faterion yn ymwneud â sut y gall y Cynulliad ddefnyddio’r pwerau newydd hyn i ddiwygio, a gwnaeth y Llywydd ymdrin â’r materion hyn mewn datganiad ym mis Mehefin 2017.

Y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad

Cafodd y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad ei benodi gan y Llywydd a Chomisiwn y Cynulliad ym mis Chwefror 2017, ac roedd yn gyfrifol am:

  • wneud argymhellion ar nifer yr Aelodau sydd ei angen ar y Cynulliad;
  • y system etholiadol fwyaf addas,
  • a’r oedran pleidleisio isaf ar gyfer etholiadau’r Cynulliad.

Gofynnwyd i’r panel gyflwyno adroddiad erbyn yr hydref 2017, ac i wneud argymhellion y gellid eu gweithredu mewn pryd ar gyfer etholiad y Cynulliad yn 2021. Cafodd ei gadeirio gan yr Athro Laura McAllister o Brifysgol Caerdydd. Ym mis Rhagfyr 2017, cyhoeddodd y Panel ei adroddiad, Senedd sy’n Gweithio i Gymru.

Mae’r argymhellion allweddol yn cynnwys y canlynol:

  • Dylid cynyddu maint y Cynulliad i 80 Aelod fan lleiaf, ac yn ddelfrydol i 90 Aelod, i sicrhau bod gan y senedd a etholir yn 2021 ddigon o gapasiti i gyflawni ei chyfrifoldebau o ran craffu ar bolisi, deddfwriaeth a chyllid, ac y gall yr Aelodau hefyd gyflawni eu rolau cynrychiadol, ymgyrchu, gwleidyddol, a rolau eraill.
  • Dylai’r Bwrdd Taliadau a Chomisiwn y Cynulliad ystyried sut y dylai cyfanswm y cymorth staffio, y gwasanaethau a’r adnoddau ariannol a ddarperir i’r Aelodau gael ei addasu pe byddai’r Cynulliad yn fwy o faint, fel bod y gost o weithredu ein hargymhellion yn cael ei chadw i’r lleiafswm eithaf.
  • Rhaid i’r Cynulliad ffrwyno’i hun yn y ffordd y mae’n gwneud defnydd o unrhyw gynnydd ym maint y sefydliad—er enghraifft mewn perthynas â nifer a maint y pwyllgorau, penodi deiliaid swyddi, ac uchafswm maint Llywodraeth Cymru—i sicrhau bod y manteision posibl ar gyfer ansawdd a swm y gwaith craffu yn cael eu gwireddu a bod costau ychwanegol yn cael eu cadw i’r lleiafswm eithaf.
  • Os caiff ei argymhellion ar ymyriadau deddfwriaethol i gefnogi ac annog amrywiaeth o ran cynrychiolaeth eu gweithredu, dylai’r Cynulliad gael ei ethol ar sail system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy o 2021 ymlaen. Fodd bynnag, oni chaiff yr argymhellion hyn eu gweithredu, dylai’r Cynulliad gael ei ethol ar sail system etholiadol Rhestr Hyblyg o 2021 ymlaen.
  • Ni ddylai etholaethau aml-aelod y Cynulliad y mae system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy neu Restr Hyblyg yn seiliedig arnynt ethol dim llai na phedwar Aelod ac yn ddelfrydol dim mwy na chwe Aelod.
  • Dylid ethol Cynulliad o 89 neu 90 Aelod ar sail 20 etholaeth y Cynulliad.
  • Dylai cwota rhywedd gael ei integreiddio i’r system etholiadol a sefydlir ar gyfer 2021. Oni fydd hyn yn digwydd, mae’r adroddiad yn awgrymu fod disgwyl i’r pleidiau gwleidyddol fynd ati i sicrhau bod eu prosesau o ddethol ymgeiswyr yn cefnogi ac yn annog senedd i Gymru sy’n gytbwys o ran y rhywiau. Dylai hyn gynnwys bod y pleidiau yn mynd ati o’u gwirfodd i fabwysiadu’r cwotâu perthnasol.
  • Dylai fod ymgeiswyr yn gallu sefyll i’w hethol ar sail trefniadau tryloyw ar gyfer rhannu swyddi.
  • Dylai’r oedran pleidleisio isaf ar gyfer etholiadau’r Cynulliad gael ei ostwng i 16 oed o etholiad 2021 ymlaen. Dylai hyn gynnwys addysg addas ynghylch dinasyddiaeth a gwleidyddiaeth a chodi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd.
  • Cyhoeddodd y Llywydd ddatganiad ar 12 Rhagfyr 2017, gan nodi:
Mae adroddiad y Panel yn gwneud achos cryf dros ddiwygio maint y Cynulliad mewn pryd ar gyfer etholiad 2021, os yw’r sefydliad hwn am gyflawni ei swyddogaethau craffu a chynrychioliadol ar ran pobl Cymru yn y cyfnod gwleidyddol, economaidd a chyfansoddiadol heriol hwn.
Gwn nad oes modd gwahanu materion cyfansoddiadol sylfaenol o’r natur hon oddi wrth wirioneddau gwleidyddol y sefyllfa o ran democratiaeth gynrychiadol yng Nghymru. Er mwyn cyflawni newid, mae angen inni adeiladu consensws gwleidyddol eang yn y sefydliad hwn a’r tu allan. I’r perwyl hwn, rwyf wedi bod yn cydweithio’n agos â’r holl bleidiau gwleidyddol a gynrychiolir yn y Cynulliad ac rwy’n ddiolchgar iddynt oll am ymgysylltu mor gadarnhaol ac adeiladol. Mae’r Grŵp Cyfeirio Gwleidyddol, yr wyf yn ei gadeirio, wedi bod yn gweithredu fel cyfrwng cyfathrebu i’r Panel Arbenigol. Bydd ei rôl gynghori yn parhau ond rhaid i’r cam nesaf o ddiwygio hefyd gynnwys ymgysylltiad llawer ehangach, gyda holl Aelodau’r Cynulliad, gyda chymdeithas ddinesig a gwleidyddol ac, yn anad dim, gyda phobl Cymru. I’r perwyl hwnnw, cytunodd y Comisiwn a minnau y byddwn yn ymgynghori’n eang yn gynnar yn 2018 ar sut y dylid bwrw ymlaen ag argymhellion y Panel a’r rhaglen ddiwygio ehangach.

Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu gwella’i wefan, ac mae ganddo ddiddordeb mawr yn eich barn chi. A fyddech cystal â chymryd rhan yn yr arolwg byr hwn.