Mae bwriad i gyflwyno cwricwlwm cwbl newydd, a bydd athrawon y presennol a’r dyfodol yn allweddol er mwyn iddo lwyddo. A all Llywodraeth newydd Cymru sicrhau bod yr athrawon yn barod am hyn?
Ym mis Chwefror 2015, canfu adolygiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru o'r cwricwlwm ysgol a'r trefniadau asesu nad yw’r rheini bellach yn diwallu anghenion plant a phobl ifanc Cymru. Dywedodd yr Athro Graham Donaldson, awdur yr adolygiad, fod 'y ddadl o blaid newid sylfaenol yn un rymus'. Yn wyneb ymdrechion parhaus i wella safonau ysgolion a'r ffaith nad yw perfformiad disgyblion Cymru cystal â'r disgwyl o'i gymharu â'u cyfoedion, derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhellion yr Athro Donaldson. Dyma gychwyn cyfnod newydd yn y broses o ddiwygio addysg yng Nghymru. Diwygiadau mewn tair rhan Ym mis Mawrth 2015, canfu adolygiad arall a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru fod y trefniadau i hyfforddi athrawon wedi cyrraedd trobwynt allweddol. Daeth yr adolygiad hwn i'r casgliad fod angen hyfforddiant ehangach er mwyn rhoi agenda Donaldson ar waith, gan 'roi i'r athrawon eu hunain y sgiliau, yr wybodaeth a'r awydd i arwain y newidiadau angenrheidiol'. O ganlyniad, nid yw cwricwlwm newydd i Gymru ond yn un rhan o'r hyn a alwodd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau blaenorol, yn broses ddiwygio mewn tair rhan. Y ddwy elfen arall yw datblygiad proffesiynol athrawon presennol a hyfforddiant cychwynnol darpar athrawon. Yng ngeiriau’r Gweinidog, mae'r rhain yn hanfodol er mwyn i’r gweithlu gyflawni'r broses o 'ail-greu cwricwlwm hollol newydd o'r gwaelod i fyny gydag athroniaeth wahanol yn sail iddo’. Cafwyd cefnogaeth drawsbleidiol gyffredinol i weledigaeth Donaldson ac i'r angen i ddiwygio'r gweithlu, sy'n golygu bod y mater hwn yn debygol o fod yn amlwg ar agenda'r Pumed Cynulliad waeth pwy sy'n ffurfio'r llywodraeth. Cwricwlwm newydd Mae'r cwricwlwm presennol wedi cael ei ddiwygio sawl gwaith ers ei sefydlu ym 1988, ond mae cynigion yr Athro Donaldson yn ei ailwampio'n sylfaenol. Dywedodd Llywodraeth ddiwethaf Cymru yn eglur nad mater o wneud mân waith trwsio yma ac acw mo hyn. Fel y dywedodd y Gweinidog blaenorol, 'mae'r hen system ar fin marw'. Roedd amserlen Llywodraeth flaenorol Cymru ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm newydd yn uchelgeisiol. Er y byddai gan ysgolion rywfaint o hyblygrwydd, gallai'r cwricwlwm newydd fod ar gael erbyn mis Medi 2018 gyda phob ysgol yn ei ddefnyddio o fis Medi 2021. Cafodd y cynigion gefnogaeth pob plaid wleidyddol yn y Pedwerydd Cynulliad, a chan fudiadau athrawon hefyd. Un cwestiwn allweddol yw sut ac i ba raddau y bydd y disgyblion eu hunain yn rhan o’r broes. Bydd gan weithwyr proffesiynol yn y maes gyfraniad enfawr i’w wneud at y gwaith o gynllunio a datblygu'r cwricwlwm.Nodweddion allweddol y cwricwlwm newydd
- Pedwar prif ddiben
- Chwe maes dysgu
- Llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol disgwyliedig gan bob athro
- Pum cam, mewn dilyniant o dair blynedd, yn lle'r cyfnodau allweddol.
Nodweddion allweddol y Fargen Newydd
- Hawl i ddatblygiad proffesiynol
- Pasport dysgu proffesiynol ar-lein
- Symud oddi wrth gyrsiau hyfforddi 'untro' i gyfeiriad datblygiad ar y cyd
- Donaldson, Yr Athro Graham, Dyfodol Llwyddiannus, Adolygiad annibynnol o'r cwricwlwm a threfniadau asesu yng Nghymru (2015)
- Furlong, yr Athro John, Addysgu Athrawon Yfory (2015)
- Llywodraeth Cymru, Cwricwlwm i Gymru - cwricwlwm am oes (2015)
- Y Gwasanaeth Ymchwil, Addysgu Athrawon Yfory – trobwynt allweddol (2015)
- Y Gwasanaeth Ymchwil, Adolygiad Donaldson: Beth nesaf (2015)