Llun o fenyw ifanc yn eistedd wrth ddesg yn ysgrifennu, gyda phobl eraill yn aneglur yn y cefndir.

Llun o fenyw ifanc yn eistedd wrth ddesg yn ysgrifennu, gyda phobl eraill yn aneglur yn y cefndir.

Diwygio prawf yng Nghymru: sefydlogrwydd yn gyntaf, datganoli yn ddiweddarach

Cyhoeddwyd 02/12/2025

Mae prawf yn chwarae rhan bwysig yn y system gyfiawnder. Mae’n caniatáu i bobl sydd wedi cyflawni troseddau wneud eu dedfrydau yn y gymuned o dan oruchwyliaeth, yn hytrach nag yn y carchar. Nod y dull hwn yw diogelu’r cyhoedd drwy reoli unrhyw risgiau y mae troseddwyr yn eu hachosi, wrth fynd i’r afael ag achosion sylfaenol troseddu.

Mae Swyddogion Prawf yn helpu unigolion i gael mynediad at wasanaethau fel tai, cyflogaeth a chymorth iechyd meddwl, gan eu helpu i ailadeiladu eu bywydau a lleihau’r risg o aildroseddu.

Yng Nghymru, mae llawer o’r gwasanaethau hyn - iechyd, tai a chamddefnyddio sylweddau - eisoes wedi’u datganoli, ac mae llawer yn dadlau bod hyn yn cryfhau’r achos dros integreiddio agosach ac, yn y pen draw, ddatganoli pwerau prawf. Mae’r erthygl hon yn trafod pam mae’r ddadl honno’n bwysig a pha opsiynau sydd ar gael.

Pam mae’r gwasanaeth dan bwysau

Er gwaethaf ei bwysigrwydd, mae prawf yng Nghymru a Lloegr wedi wynebu degawdau o anrhefn. Mae diwygio dro ar ôl tro wedi gadael y gwasanaeth yn fregus ac yn brwydro i gyflawni sefydlogrwydd.

Un o’r newidiadau mwyaf sylweddol oedd y rhaglen Trawsnewid Adsefydlu a gyflwynwyd yn 2014. Rhannodd y diwygio hwn brawf rhwng darparwyr cyhoeddus a phreifat, gyda Chwmnïau Adsefydlu Cymunedol dan arweiniad y sector preifat yn rheoli achosion risg isel a risg canolig o fis Chwefror 2015. Cafodd y model ei feirniadu’n eang am berfformiad gwael a’i ddatgymalu rhwng 2019 a mis Mehefin 2021, pan ailunwyd gwasanaethau o dan y Gwasanaeth Prawf.

Er bod llwythi achosion trwm wedi bod yn rhan bwysig o waith prawf ers amser maith, mae’r anrhefn a achoswyd gan y diwygiadau hyn wedi gwaethygu pwysau gweithredol ac yn parhau i effeithio ar allu’r gwasanaeth i gyflawni’n effeithiol. Mae cyfran sylweddol o ranbarthau yn ’Goch’ neu’n ’Oren’ ar gyfer perfformiad. Mae Arolygiaeth Prawf EF yn parhau i farnu bod angen gwella’r gwasanaeth.

Ffynhonnell: Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol

Mae’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol wedi rhybuddio bod ailstrwythuro dro ar ôl tro wedi tanseilio gwydnwch ac wedi gadael y gwasanaeth yn amharod am newid pellach. Amlygwyd y cyd-destun hwn yn ddiweddar gan yr Arglwydd Timpson, un o Weinidogion y DU (y Gweinidog Gwladol dros Garchardai, Prawf a Lleihau Aildroseddu), yn ystod ei gyfarfod â Phwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd, lle y pwysleisiodd bwysigrwydd sefydlogrwydd cyn mynd ar drywydd unrhyw newidiadau cyfansoddiadol mawr.

Safbwynt Llywodraeth y DU

Dywedodd yr Arglwydd Timpson wrth y Pwyllgor nad yw datganoli prawf i Gymru yn flaenoriaeth iddo ef tra bod y system gyfiawnder yn wynebu pwysau anferth. Dywedodd fod y Gwasanaeth Prawf wedi’i niweidio gan ddiwygio blaenorol, a bod rhaid ei sefydlogi cyn yr ystyrir newidiadau pellach.

Nid oedd yr Arglwydd Timpson yn diystyru datganoli, ond gwnaeth osgoi ymrwymo i amserlen. Yn lle hynny, awgrymodd weithio mewn partneriaeth—drwy gydgomisiynu a chytundebau ffurfiol—fel y llwybr a ffefrir, yn hytrach na throsglwyddo pwerau deddfwriaethol ar unwaith.

Mae’r dull hwn yn adlewyrchu’r model a ddefnyddir ym Manceinion Fwyaf, lle mae gan y Maer fwy o ddylanwad ymarferol ar brawf na Gweinidogion Cymru.

O dan Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, gall Manceinion Fwyaf gydgomisiynu gwasanaethau sy’n gysylltiedig â phrawf, fel cymorth tai neu raglenni triniaeth cyffuriau, wedi’u teilwra i anghenion lleol. Er enghraifft, os yw data’n dangos bod achosion niferus o aildroseddu yn gysylltiedig â digartrefedd, gall y Maer ariannu menter dai ochr yn ochr â gwasanaethau prawf. Mae’r hyblygrwydd hwn yn caniatáu i Fanceinion ymateb i flaenoriaethau lleol, er bod y gwasanaeth prawf craidd yn parhau i fod yn genedlaethol.

Mewn cyferbyniad, nid oes gan Weinidogion Cymru unrhyw bwerau ffurfiol dros brawf ar hyn o bryd. Ni allant osod cyllidebau, newid modelau gweithredu, na deddfu ar gyfer gwasanaeth prawf i Gymru. Mae eu dylanwad wedi’i gyfyngu i weithio mewn partneriaeth a mentrau ar y cyd. Mae’r diffyg cydbwysedd hwn—lle mae gan ddinas-ranbarth fwy o lais na chenedl ddatganoledig—wedi dod yn ganolbwynt yn y ddadl.

Safbwynt Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau ers amser maith ar gyfer rheolaeth ddeddfwriaethol a gweithredol lawn dros brawf. Dywedodd Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, wrth Bwyllgor y Senedd bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn paratoi ar gyfer hyn ers dros bedair blynedd ac yn mynnu bod cynnydd yn cael ei wneud. Fodd bynnag, mae hi’n cydnabod bod rhaid i newid fod yn raddol.

Ym mis Awst 2025, gwnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn cadarnhau trafodaethau gyda Shabana Mahmood AS, yr Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder ar y pryd, am adlinio cyfiawnder ieuenctid a Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar brawf—yn benodol “yn debyg i’r model sydd ar waith ym Manceinion Fwyaf.” Mae hyn yn awgrymu dull pragmatig: dechrau gyda threfniadau gweinyddol, wrth baratoi ar gyfer datganoli cyfansoddiadol. 

Opsiynau ar gyfer datganoli

Er mwyn ei helpu i baratoi, comisiynodd Llywodraeth Cymru Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i edrych ar opsiynau cyflawni ymarferol. Mae ei hadroddiad yn 2024, Adeiladu Gwasanaeth Prawf Cymreig, yn nodi tri llwybr:

  • Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a chydgomisiynu gwasanaethau penodol (fel ym Manceinion Fwyaf);
  • Trosglwyddo cyfrifoldeb gweithredol heb gymhwysedd deddfwriaethol, gan roi goruchwyliaeth weinyddol i Weinidogion Cymru ond dim pŵer deddfu; a
  • Chyfrifoldeb deddfwriaethol a gweithredol llawn, gan alluogi’r Senedd i greu gwasanaeth prawf Cymreig.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at fanteision datganoli: gwell integreiddio â gwasanaethau datganoledig, cyfleoedd i ailgynllunio modelau gweithredu ac amodau’r gweithlu, ac atebolrwydd cliriach. Mae hefyd yn nodi heriau fel cynllunio’r gweithlu, materion trawsffiniol, a rhyngweithio â gwasanaethau a gedwir yn ôl fel carchardai.

Mae’r Ganolfan Polisi Cyhoeddus yn nodi bod datganoli yn fodd i wella perfformiad prawf, ac nid yn ddiben ynddo’i hun. Mae’n dweud y gallai cysoni goruchwyliaeth ag iechyd, tai a gwasanaethau cymdeithasol y mae’r Senedd eisoes yn eu rheoli, fynd i’r afael ag anghenion o ran cyflawni troseddau (y ffactorau personol neu’r amgylchiadau sy’n ei gwneud yn fwy tebygol y bydd rhywun yn cyflawni trosedd) yn fwy effeithiol.

Ochr yn ochr â hyn, mae’r Grŵp Datblygu Prawf—rhwydwaith o academyddion ac ymarferwyr Cymreig—wedi cyhoeddi tystiolaeth gan ddadlau nad yw’r model presennol yn gweithio ac y gallai prawf sy’n gyson â Chymru wella diogelwch y cyhoedd a chanlyniadau adsefydlu.

Ble mae hyn yn gadael Cymru?

Byddai datganoli deddfwriaethol a gweithredol llawn yn gofyn am ddeddfwriaeth a chytundeb gwleidyddol y DU. Mae’r achos wedi’i wneud gan nifer o gomisiynau, gan gynnwys Comisiwn Thomas a’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, ond ymddengys mai amseriad yw’r prif rwystr.

Am y tro, mae Llywodraeth y DU yn ffafrio dull cynyddol, gan ddefnyddio Manceinion Fwyaf fel templed. Mae’n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn fodlon dechrau yno, wrth gadw’r drws ar agor i newid cyfansoddiadol llawn.

Mae prawf yng Nghymru ar groestoriad cyfiawnder a pholisi cymdeithasol. Mae ei ddyfodol yn dibynnu ar gydbwyso uchelgais â phragmatiaeth, ac am y tro mae’n ymddangos bod y ddwy lywodraeth yn cytuno mai dechrau gyda Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a chydgomisiynu yw’r cam ymarferol nesaf.

Bydd p’un a fydd y dull hwn yn paratoi’r ffordd ar gyfer datganoli llawn—neu’n datblygu’n gyfaddawd hirdymor sy’n gadael Cymru heb y pwerau y mae’n eu ceisio—yn dibynnu ar ewyllys wleidyddol a thystiolaeth bod integreiddio agosach yn gwella diogelwch y cyhoedd a chanlyniadau adsefydlu.

Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres sy’n archwilio agweddau allweddol ar gyfiawnder troseddol yng Nghymru, o’r setliad datganoli presennol a gweithio rhynglywodraethol i brawf, polisi cyfiawnder ieuenctid a phlismona.  

Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru