Cyhoeddwyd 11/02/2015
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un o bwys i lywodraeth leol yng Nghymru. Fe gafwyd penawdau rif y gwlith am ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus, am ad-drefnu awdurdodau, am uno gwirfoddol, am Bapurau Gwyn, am gomisiynau ac am Filiau. Mae’r cofnod blog hwn yn ceisio crynhoi mewn un man yr hyn sydd wedi bod yn digwydd, ac yn rhoi lincs i ddogfennau perthnasol.
Fe ellir disgrifio’r prif ddigwyddiadau yn y broses hyd yma fel a ganlyn:
Ebrill 2013:
Llywodraeth Cymru yn datgan ei bod yn sefydlu Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus (Comisiwn Williams). Am y tro cyntaf, mae Prif Weinidog Cymru yn cydnabod yn gyhoeddus y gallai ad-drefnu llywodraeth leol fod yn bosibilrwydd.
Ionawr 2014:
Comisiwn Williams yn cyhoeddi ei adroddiad, a hwnnw’n bwrw golwg eang ar sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu. Ymhlith y 62 argymhelliad, mae’r casgliad fod rhai awdurdodau lleol yn rhy fychan i berfformio’n effeithiol. O ganlyniad, mae’r Comisiwn yn argymell y dylai’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru gael eu huno i greu 10, 11 neu 12 uned.
Gorffennaf 2014: Llywodraeth Cymru yn ymateb i adroddiad Comisiwn Williams gyda chyfres o gynigion o dan y faner ‘Datganoli, Democratiaeth a Chyflawni’. Mae hyn yn cynnwys papur cyffredinol ynghylch
Gwella gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer pobl Cymru ac, yn fwy penodol,
Papur Gwyn ar Ddiwygio Llywodraeth Leol. Yn ôl y Papur Gwyn:
- Mae Llywodraeth Cymru yn ffafrio cael 12 awdurdod lleol, yn unol â’r opsiwn cyntaf a argymhellwyd gan Gomisiwn Williams. Byddai’r opsiwn hwn yn golygu y byddai Sir Gâr, Powys ac Abertawe yn aros fel y maent, a’r awdurdodau canlynol yn uno: Ynys Môn a Gwynedd; Conwy a Sir Ddinbych; Sir y Fflint a Wrecsam; Ceredigion a Sir Benfro; Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr; Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful; Caerdydd a Bro Morgannwg; Blaenau Gwent, Caerffili a Thorfaen; a Sir Fynwy a Chasnewydd.
- Gan nad oedd digon o amser i wneud y newidiadau hyn i gyd cyn etholiadau nesaf y Cynulliad ym mis Mai 2016, byddai Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi dau Fil ar wahân er mwyn bwrw ymlaen â’r broses.
- Byddai’r Bil cyntaf yn cael ei gyflwyno ym mis Ionawr 2015 ac yn galluogi awdurdodau lleol oedd am uno’n wirfoddol i wneud hynny’n gynnar. Byddai’r Bil hwn hefyd yn braenaru’r tir ar gyfer uno gweddill yr awdurdodau lleol (ond byddai’n rhaid aros am yr ail Fil tan i hynny ddigwydd).
- Byddai’r ail Fil hwn yn cael ei gyhoeddi ar ffurf ddrafft yn hydref 2015, a byddai’n cynnwys y prif gynlluniau ar gyfer uno awdurdodau. Fodd bynnag, ni fyddai’r Bil hwn yn cael ei gyflwyno’n ffurfiol gerbron y Cynulliad tan ar ôl etholiadau mis Mai 2016.
Medi 2014: Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi
Gwahoddiad i Brif Awdurdodau Lleol yng Nghymru gyflwyno cynigion ar gyfer uno gwirfoddol. Y ‘prospectws’ yw’r enw y mae’r Llywodraeth yn ei roi ar hwn, ac mae’n gwahodd awdurdodau lleol sy’n dymuno uno’n wirfoddol i gyflwyno datganiadau o ddiddordeb erbyn 28 Tachwedd 2014. Caiff tri chais o’r fath ei wneud maes o law, gan Sir Ddinbych a Chonwy; Blaenau Gwent a Thorfaen; a Phen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg.
Hydref 2014: Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi
Papur Gwyn ar y Comisiwn Staff i'r Gwasanaethau Cyhoeddus. Pwrpas y Comisiwn fydd edrych ar faterion sy’n ymwneud â staffio wrth i’r broses uno fynd rhagddi.
Tachwedd 2014:
Adroddiad gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (a gomisiynwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru) yn awgrymu y gallai’r costau pontio wrth uno awdurdodau lleol fod rhwng £160 miliwn a £268 miliwn. Dywedir y gallai’r arbedion blynyddol fod yn £65 miliwn ar ôl dwy neu dair blynedd.
Rhagfyr 2014: Llywodraeth Cymru yn
cyhoeddi'r ymatebion i’w Phapur Gwyn ym mis Gorffennaf 2014, gan gynnwys
dogfen grynodeb.
26 Ionawr 2015: Llywodraeth Cymru yn cyflwyno
Bil Llywodraeth Leol (Cymru) (h.y. y Bil cyntaf). Bydd y Bil hwn yn galluogi awdurdodau lleol sydd wedi cyflwyno ceisiadau llwyddiannus i uno’n wirfoddol, trwy reoliadau. Bydd y Bil hefyd yn caniatáu i waith paratoi fynd rhagddo er mwyn uno rhagor o awdurdodau, unwaith y bydd yr ardaloedd newydd ar gyfer llywodraeth leol wedi’u hamlinellu mewn ail Fil.
27 Ionawr 2015:
Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (Leighton Andrews AC) yn cyhoeddi ei fod wedi gwrthod y tri datganiad o ddiddordeb a ddaeth i law ar gyfer uno’n wirfoddol, ar y sail nad oedden nhw’n bodloni’r meini prawf yn y prospectws a gyhoeddwyd ym mis Medi 2014.
27 Ionawr 2015: Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Prif Weinidog ill dau’n
dweud wrth Gyfarfod Llawn y Cynulliad fod Llywodraeth Cymru yn dal i ffafrio’r strwythur 12 awdurdod a amlinellwyd yn adroddiad Comisiwn Williams. Ond dywed y Prif Weinidog hefyd nad yw’r map hwnnw yn ‘derfynol’. Mae’n gwahodd arweinwyr y pleidiau gwleidyddol eraill i gael trafodaethau ynghylch y map.
3 Chwefror 2015: Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Papur Gwyn pellach ar
Ddiwygio Llywodraeth Leol: Grym i Bobl Leol. Mae hwn yn cynnwys cynlluniau Llywodraeth Cymru i wneud rhagor o newidiadau i lywodraeth leol yng Nghymru – y tu hwnt i ddim ond uno awdurdodau. Yn eu plith mae camau i geisio lleihau cost llywodraeth leol; i gael cynrychiolaeth fwy amrywiol; i wella perfformiad; ac i roi llais cryfach i gymunedau ynghylch sut mae gwasanaethau lleol yn cael eu darparu.
5 Chwefror 2015: Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad yn
dechrau ar ei waith yn craffu ar
Fil Llywodraeth Leol (Cymru). Mae’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus yn cadarnhau gerbron y Pwyllgor y bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi map ar gyfer awdurdodau newydd cyn toriad yr haf, boed consensws gwleidyddol ar hynny neu beidio.
Bydd rhagor o gofnodion blog yn cael eu cyhoeddi maes o law, gan fwrw golwg fanylach ar y rhaglen uno ac ar gynlluniau ehangach Llywodraeth Cymru i ddiwygio llywodraeth leol.
Erthygl gan Rhys Iorwerth, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.