Ar 18 Mawrth 2025 cyhoeddodd Llywodraeth y DU ddiwygiadau i fudd-daliadau iechyd ac anabledd. Cyhoeddwyd newidiadau pellach yn Natganiad y Gwanwyn.
Dywed Llywodraeth y DU fod y system les bresennol yn anghynaladwy yn ariannol ac mae diwygio yn ‘gwneud synnwyr moesol’. Drwy ei asesiad ei hun, amcangyfrifir y bydd 250,000 yn rhagor o bobl, gan gynnwys 50,000 o blant, yn cael eu gwthio i dlodi cymharol yng Nghymru a Lloegr o ganlyniad i’r diwygiadau.
Nid yw Llywodraeth y DU wedi darparu asesiad Cymreig ar wahân, ond mae pryderon y bydd Cymru yn cael ei heffeithio’n anghymesur gan y newidiadau. Bydd yr erthygl hon yn edrych ar yr effeithiau posibl ar bobl anabl yng Nghymru. Bydd hefyd yn edrych ar ymchwiliad Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd i beth arall y gellir ei wneud i gael gwared ar y rhwystrau i gyflogaeth a wynebir gan bobl anabl.
Beth yw'r newidiadau arfaethedig?
Mae papur gwyrdd Llywodraeth y DU yn nodi’r achos dros newid yr hyn y mae’n ei ddisgrifio fel y ‘system les sydd wedi torri’. Mae'n amlygu'r cynnydd mewn gwariant ar fudd-daliadau analluogrwydd ac anabledd ar gyfer oedolion o oedran gweithio y rhagwelir y bydd dros £70 biliwn ymhen pum mlynedd. Gydag un o bob 10 o bobl o oedran gweithio ym Mhrydain bellach yn hawlio o leiaf un math o fudd-dal iechyd neu anabledd, mae hefyd yn dadlau na ddylai unrhyw un gael ei drosglwyddo i fywyd ar fudd-daliadau dim ond oherwydd bod ganddynt gyflwr iechyd neu anabledd.
Mae’r newidiadau allweddol a gynigir yn y papur gwyrdd yn cynnwys:
- Cynyddu trothwy’r meini prawf cymhwyster anabledd sydd ei angen i ddyfarnu Taliadau Annibyniaeth Personol (PIP).
- Defnyddio derbyniad PIP fel y ffordd o gymhwyso ar gyfer yr ychwanegiad cysylltiedig ag iechyd mewn Credyd Cynhwysol, gan ddisodli'r Asesiad Gallu i Weithio (WCA) gydag un asesiad PIP.
- Cael gwared ar y taliadau atodol sy’n gysylltiedig ag elfen iechyd y Credyd Cynhwysol ar gyfer y rhai dan 22 oed.
- Rhewi elfen iechyd y Credyd Cynhwysol ar £97 yr wythnos ar gyfer hawliadau presennol tan 2030. Bydd hawlwyr newydd yn derbyn £50 yr wythnos.
- Cynyddu lwfans safonol y Credyd Cynhwysol ar gyfer hawliadau newydd a phresennol i £107 yr wythnos.
Roedd Datganiad y Gwanwyn yn ychwanegu toriadau pellach:
- Gostyngiad yn y swm y byddai Credyd Cynhwysol safonol yn ei godi, o £107 i £106 yr wythnos.
- Rhewi elfen iechyd y Credyd Cynhwysol ar gyfer hawlwyr newydd (mae eisoes wedi’i rewi ar gyfer pobl sy’n ei dderbyn ar hyn o bryd).
Ochr yn ochr â’r newidiadau hyn, mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi £1 biliwn mewn gwarant newydd o gymorth ar gyfer yr holl bobl anabl a phobl sydd â chyflyrau iechyd sy’n hawlio budd-daliadau diweithdra ac sydd eisiau cymorth i gael gwaith neu ddychwelyd i’r gwaith. Mae hefyd wedi ymrwymo i ddatganoli cyllid cymorth cyflogaeth nad yw’n dod o’r Ganolfan Byd Gwaith i Lywodraeth Cymru.
Beth yw’r goblygiadau i Gymru?
Mae'r asesiad effaith sy'n cyd-fynd â'r papur gwyrdd wedi'i baratoi ar sail Cymru a Lloegr. Mae’n amcangyfrif y bydd 3.2 miliwn o deuluoedd yn 2029/2030 a fydd yn colli £1,720 y flwyddyn ar gyfartaledd. Mae hefyd yn amcangyfrif y bydd 3.8 miliwn o deuluoedd yn ennill £420 y flwyddyn ar gyfartaledd.
Fodd bynnag, nid oes asesiad penodol o effaith y diwygiadau ar y rhai sy’n byw yng Nghymru. Cafodd y mater hwn ei godi gan y Prif Weinidog mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, Liz Kendall AS. Nid oedd yr ymateb yn cynnig unrhyw asesiad manwl pellach, ac eithrio tynnu sylw at y canlynol:
15% of working age people in Wales receive a disability or incapacity benefit – significantly higher than in England – and around a quarter are neither in work nor looking for work.
Dywed Sefydliad Bevan y bydd y cynlluniau yn cael effaith enfawr, sy’n peri pryder, ar 275,000 o bobl yng Nghymru sy’n cael Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) a 110,000 o bobl sy’n derbyn Credyd Cynhwysol ac sydd â Gallu Cyfyngedig ar gyfer Gweithgaredd Cysylltiedig â Gwaith.
Dywed Canolfan Llywodraethiant Cymru:
Because of the higher proportion of the working age population receiving PIP in Wales (11%, compared with 7% in England), we would expect the impact of these cuts to be particularly pronounced in Wales.
Mae amrywiad sylweddol hefyd yng Nghymru yn nifer y bobl sy’n hawlio PIP ac elfen iechyd y Credyd Cynhwysol fel y dangosir yn y tablau isod.
Ffigur 1: Canran y boblogaeth o oedran gweithio sy’n hawlio PIP ar gyfer pob awdurdod lleol a Chymru
Ffynhonnell: Taliad Annibyniaeth Personol: Achosion â Hawl o 2019, Stat-Xplore, yr Adran Gwaith a Phensiynau (data Medi 2024).
Ffigur 2: Canran y boblogaeth o oedran gweithio sy’n hawlio elfen iechyd y Credyd Cynhwysol ar gyfer pob awdurdod lleol a Chymru
Ffynhonnell: Pobl ar Gredyd Cynhwysol sydd â chyflwr iechyd neu anabledd sy’n cyfyngu ar eu gallu i weithio, Stat-Xplore, yr Adran Gwaith a Phensiynau (data Medi 2024).
Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru hefyd yn dweud mai ardaloedd fel Blaenau Gwent a Merthyr Tudful sydd â’r niferoedd uchaf o bobl yn derbyn PIP a thaliadau cyfartalog cymharol isel fesul person, sy’n debygol o weld yr effaith fwyaf. Lle mae dyfarniadau PIP yn isel gallai hyn olygu nad yw mwy o bobl yn bodloni’r meini prawf cymhwyster uwch. Rhoddir dadansoddiad o’r dyfarniad PIP cyfartalog fesul awdurdod lleol isod.
Ffigur 3: Y dyfarniad PIP ariannol cyfartalog fesul awdurdod lleol a Chymru
Ffynhonnell: Taliad Annibyniaeth Personol: Achosion â Hawl o 2019, Stat-Xplore, yr Adran Gwaith a Phensiynau (data Medi 2024).
Beth yw'r rhwystrau i gyflogaeth y mae pobl anabl yn eu hwynebu?
Mae Anabledd Cymru wedi mynegi pryderon y bydd y diwygiadau arfaethedig yn tynnu “arian allan o’r system ac oddi wrth gymorth i bobl anabl, heb unrhyw gynllun clir i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau ehangach a wynebir mewn cyflogaeth, byw’n annibynnol, addysg a thrafnidiaeth”.
Canfu ymchwiliad diweddar Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd i anabledd a chyflogaeth yng Nghymru fod pobl anabl yng Nghymru yn wynebu rhwystrau diangen i gyflogaeth.
Roedd y rhan fwyaf o dystiolaeth a ddaeth i law yn cyfeirio at rôl allweddol cyflogwyr. Dywedodd yr Athro Victoria Wass o Ysgol Fusnes Caerdydd fod gormod o bwyslais yn y gorffennol ar gymell pobl anabl i mewn i waith, a bod angen canolbwyntio sylw polisi o’r newydd ar yr hyn sy'n digwydd gyda'r cyflogwyr.
Roedd y rhai â phrofiad byw yn feirniadol o weithrediad cynlluniau cyflogaeth allweddol ledled y DU, gan gynnwys y cynllun Access to Work. Er bod hwn yn un o'r prif gyfryngau ar gyfer cefnogi pobl anabl i gael gwaith, mae pobl anabl ar hyn o bryd yn wynebu oedi hir cyn cael mynediad iddo.
Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n ystyried 9 argymhelliad y Pwyllgor. Gan ddisgrifio’r adroddiad fel un “rhyfeddol”, dywedodd y Prif Weinidog y dylid canolbwyntio ar “sut ydym ni'n cael pobl sy'n ysu i ddechrau gweithio i mewn i waith?”, a dywedodd y bydd cynllun hawliau pobl anabl yn cael ei gyhoeddi'n fuan.
Os oes unrhyw fater yn yr erthygl hon yn effeithio arnoch, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth, gan gynnwys cyngor a chymorth, yn y canllaw hwn, a gasglwyd gan Ymchwil y Senedd: |
Erthygl gan Claire Thomas a Peter Davies, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru