Yn ddiweddar, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y byddai'n cyflwyno Bil Diogelwch Adeiladau cyn toriad yr haf.
Bydd ei gyflwyniad yn anelu at gyflawni ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i ddiwygio'r system bresennol o ddiogelwch adeiladau. Hefyd, bydd yn anelu at gyflawni addewid hirsefydlog gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r methiannau rheoleiddiol a gyfrannodd at y tân yn Nhŵr Grenfell ar 14 Mehefin 2017, a arweiniodd at farwolaeth 72 o bobl.
Mae'r erthygl hon yn trafod cefndir y diwygiadau arfaethedig, pa newidiadau sydd wedi'u rhoi ar waith hyd yn hyn, a'r hyn y gallem ei ddisgwyl gan y Bil sydd ar ddod.
Y cefndir
Yn sgil trychineb Tŵr Grenfell, comisiynodd Llywodraeth y DU adolygiad o reoliadau adeiladau a diogelwch tân i wneud argymhellion ar system reoleiddio yn y dyfodol.
Canfu adolygiad Hackitt, fel mae’n cael ei alw, nad oedd y system bresennol sy'n cwmpasu adeiladau uchel iawn a chymhleth yn addas i'r diben. Nododd nifer o fethiannau sylweddol, gan gynnwys y canlynol:
- Rolau a chyfrifoldebau aneglur ymhlith y rhai sy'n caffael, dylunio, adeiladu a chynnal a chadw adeiladau;
- Amwysedd neu anghysondeb mewn rheoliadau a chanllawiau;
- Prosesau gwan a chymhleth i yrru cydymffurfiaeth, yn ogystal â phrosesau gwael o ran cadw cofnodion a rheoli newid;
- Lefelau anghyson o gymhwysedd ar draws y sector;
- Cyfundrefn anhryloyw ac annigonol ar gyfer profi, labelu a marchnata cynhyrchion adeiladu; a
- System lle mae lleisiau preswylwyr yn aml yn mynd heb eu clywed.
Pwysleisiodd yr adolygiad yr angen am fframwaith rheoleiddio cydlynol sy'n gweithredu ar draws cylch bywyd cyfan adeilad. Argymhellodd gyfres o newidiadau a fyddai’n berthnasol yn fras yn ystod dau gam gwahanol:
- Yn ystod gwaith dylunio, adeiladu ac adnewyddu adeilad risg uchel. Roedd y newidiadau hyn yn canolbwyntio ar gyflwyno cyfrifoldebau ac atebolrwydd clir, a system fwy cadarn o oruchwylio.
- Tra bod yr adeilad wedi'i feddiannu. Roedd hyn yn cynnwys mesurau i sicrhau bod preswylwyr yn cael eu clywed, a bod risgiau diogelwch adeiladau a diogelwch tân yn cael eu rheoli'n rhagweithiol.
Ym mis Mai 2018, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i “ddiwygio’r system reoleiddio yn y ffordd radical, bellgyrhaeddol” y mae adolygiad Hackitt wedi galw amdani. Galwodd Grŵp Arbenigol ar Ddiogelwch Adeiladau ynghyd, a gyhoeddodd map ffordd ym mis Mawrth 2019, yn nodi sut i fwrw ymlaen â newidiadau yng Nghymru.
Ym mis Ionawr 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Papur Gwyn Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru yn nodi cynigion i ddiwygio diogelwch adeiladau.
Newidiadau i'r cam dylunio ac adeiladu
Mae llawer o'r newidiadau cyfreithiol a nodwyd yn y Papur Gwyn sy'n ymwneud â'r cam dylunio ac adeiladu eisoes wedi'u datblygu drwy Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 Llywodraeth y DU. Roedd Llywodraeth Cymru wedi dadlau bod y dull hwn yn caniatáu i ddiwygiadau gael eu deddfu cyn gynted â phosibl.
Mae rhai mesurau yn y Ddeddf honno, yn ymwneud yn bennaf â chofrestru a rheoleiddio'r proffesiwn rheoli adeiladu, eisoes wedi cael eu rhoi ar waith yng Nghymru. Bydd eraill yn cael eu cyflwyno yn ddiweddarach drwy is-ddeddfwriaeth.
Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad yn ddiweddar ar gam nesaf ei diwygiadau diogelwch adeiladau. O fewn yr ymgynghoriad hwnnw, mae'r fframwaith rheoleiddio arfaethedig ar gyfer y cam dylunio ac adeiladu yn cyd-fynd i raddau helaeth â’r dull a fabwysiadwyd yn Lloegr. Mae'r ymgynghoriad yn cynnig:
- cyflwyno cyfrifoldebau a chymwyseddau newydd ar gyfer deiliaid dyletswyddau
- ei gwneud yn ofynnol i ddeiliaid dyletswyddau gadw cofnod ‘Llinyn Aur' o wybodaeth adeiladu
- ei gwneud yn ofynnol i adeiladau risg uchel newydd fynd drwy dri phwynt 'Porth' yn ystod y camau cynllunio, rheoli adeiladau a chwblhau;
- sefydlu system orfodol i adrodd am ddigwyddiadau ar gyfer digwyddiadau a risgiau diogelwch adeiladau; a
- rhoi mwy o bwerau gorfodi i awdurdodau rheoli adeiladu.
Mae rhai meysydd lle mae dulliau yng Nghymru a Lloegr wedi amrywio. Mae Llywodraeth y DU wedi creu y Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladau, sef corff annibynnol newydd o fewn yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i oruchwylio'r drefn newydd a gweithredu fel yr awdurdod rheoli adeiladu ar gyfer adeiladau risg uwch. Yng Nghymru, rhaid i awdurdodau lleol oruchwylio unrhyw waith newydd ar adeiladau risg uwch yn awr. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi gosod ei diffiniad o adeiladau “risg uwch” sydd ychydig yn wahanol i’r un yn Lloegr.
Yn 2023, archwiliodd Archwilio Cymru sut roedd Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a'u partneriaid yn gweithredu gofynion Deddf Diogelwch Adeiladau 2022. Ar y pryd, daeth i'r casgliad nad oedd cyrff cyfrifol, yn enwedig awdurdodau lleol a gwasanaethau tân ac achub, “yn gallu cyflawni eu cyfrifoldebau’n effeithiol a sicrhau bod adeiladau yng Nghymru’n ddiogel”.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau mewn nifer o feysydd mewn ymateb i argymhellion gan Archwilio Cymru a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar y mater hwn.
Newidiadau i'r cyfnod meddiannaeth
Disgwylir i’r Bil gyflwyno cyfundrefn diogelwch adeiladau newydd a fydd yn cwmpasu meddiannaeth a rheolaeth barhaus o adeiladau preswyl amlfeddiannaeth. Disgwylir iddo greu rolau Person Atebol newydd, gyda chyfrifoldebau statudol i asesu a rheoli risgiau diogelwch adeiladau. Mae hefyd yn debygol o gyflwyno darpariaethau diogelwch tân newydd ar gyfer adeiladau preswyl, a gwneud darpariaeth i breswylwyr gael llais cryfach mewn materion diogelwch adeiladau.
Mae Propertymark wedi nodi bod cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gyfundrefn Diogelwch Adeiladau yn cynrychioli “dull gwahanol iawn i'r hyn a fabwysiadwyd yn Lloegr” mewn perthynas â’r cam meddiannaeth.
Un o'r gwahaniaethau allweddol yw cwmpas y gyfundrefn. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cadarnhau y bydd yn cwmpasu pob adeilad preswyl sydd â dau neu fwy o anheddau (gyda rhai eithriadau), waeth beth fo'u huchder. Bydd adeiladau'n cael eu rhannu'n wahanol gategorïau, gyda mwy o ofynion yn cael eu gosod ar Bersonau Atebol ar gyfer adeiladau mewn categori risg uwch. Yn ystod ymgynghoriad y Papur Gwyn, cytunodd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr â chwmpas arfaethedig y gyfundrefn, er bod rhai yn teimlo y gallai arwain at ofynion ar gyfer rhai adeiladau sy’n anghymesur â lefel y risg.
Mae gwahaniaeth arall rhwng Cymru a Lloegr yn ymwneud â rheoleiddio a gorfodi'r gyfundrefn. Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd awdurdodau lleol yn gyfrifol am reoleiddio'r gyfundrefn diogelwch adeiladau ar gyfer adeiladau sydd wedi'u meddiannu, gan gydweithio'n agos ag Awdurdodau Tân ac Achub. Yn Lloegr, mae'r gyfundrefn feddiannaeth yn cael ei rheoleiddio gan y Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladau.
Yn olaf, disgwylir i'r Bil gyflwyno darpariaethau diogelwch tân newydd. Yn ei hymateb i'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn, dywedodd Llywodraeth Cymru nad yw’r broses bresennol ar gyfer asesiadau risg tân mewn adeiladau preswyl yn addas i’r diben. Nododd y Papur Gwyn gynigion ar gyfer strwythur newydd ar gyfer yr asesiadau hyn, a gefnogwyd i raddau helaeth gan y rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Unwaith y caiff ei gyflwyno, bydd y Bil Diogelwch Adeiladau yn ddarostyngedig i broses ddeddfwriaethol arferol y Senedd.
Bydd Ymchwil y Senedd yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth ar dudalen adnoddau’r Bil wrth i'r Bil fynd drwy'r camau craffu.
Erthygl gan Gwennan Hardy, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru