Mae polisi dedfrydu yn llunio nid yn unig y system gyfiawnder ond hefyd bywydau unigolion (gan gynnwys dioddefwyr a’r rhai a euogfarnwyd), teuluoedd a chymunedau. Mae tystiolaeth ddiweddar wedi tynnu sylw at gyfyngiadau dedfrydau byr o garchar, sydd yn aml yn methu ag adsefydlu troseddwyr ac yn hytrach yn creu cylchoedd o aflonyddwch. Mae ymchwil yn dangos y gall y canlyniadau fod yn ddifrifol pan fydd rhywun yn cael ei garcharu am ychydig wythnosau neu fisoedd — colli tai, cyflogaeth a threfniadau gofal plant, gan effeithio ar blant, partneriaid, a rhwydweithiau cymdeithasol ehangach.
Mae ymchwil yn dangos yn gyson mai prin y mae cyfnodau byr yn y carchar yn lleihau aildroseddu ac y gall hyd yn oed ei gynyddu drwy ansefydlogi bywydau troseddwyr heb fynd i’r afael ag achosion sylfaenol fel caethiwed, problemau iechyd meddwl, neu dlodi.
Ar yr un pryd, mae dioddefwyr a’r cyhoedd yn disgwyl i’r system gyfiawnder adlewyrchu difrifoldeb troseddau a darparu atebolrwydd. Mae’r cyhoedd yn gofyn am ddedfrydu cymesur a systemau cymorth effeithiol.
Mae Bil Dedfrydu Llywodraeth y DU, a gyflwynwyd yn 2025, yn ceisio taro’r cydbwysedd hwn drwy leihau dibyniaeth ar ddedfrydau byr o garchar ac ehangu opsiynau cymunedol eraill.
Prif newidiadau yn y Bil Dedfrydu
Canfu Adolygiad Dedfrydu Annibynnol, a gomisiynwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, y gall opsiynau cymunedol eraill — pan fyddant yn cael eu gorfodi’n briodol — ddarparu cosb, adsefydlu, a diogelu’r cyhoedd yn fwy effeithiol na chyfnodau byr yn y carchar. Mae’r canfyddiadau hyn yn sail i dri newid mawr ym Mil Dedfrydu Llywodraeth y DU:
- Rhagdybiaeth yn erbyn cyfnodau byr yn y carchar: Yn gyffredinol, bydd llysoedd yn gohirio dedfrydau o garchar o 12 mis neu lai, gan roi opsiynau cymunedol eraill yn eu lle. Mae barnwyr yn cadw’r disgresiwn i osod dedfrydau o garchar mewn achosion eithriadol, er enghraifft pan fo risg ddifrifol o niwed neu dorri gorchmynion llys dro ar ôl tro. Yr egwyddor yw: dylid cadw’r carchar ar gyfer troseddau pan na fo unrhyw opsiwn arall yn gallu diogelu’r cyhoedd neu gynnal cyfiawnder.
- Cryfhau cosbau cymunedol: Bydd dedfrydau cymunedol yn dod yn fwy cadarn ac wedi’u teilwra’n well i amgylchiadau unigol, gan gynnwys gwaith di-dâl, monitro electronig, a rhaglenni triniaeth. Un o’r elfennau arloesol yw cyflwyno Llysoedd Goruchwylio Dwys—llysoedd arbenigol a fydd yn cyfuno goruchwylio barnwrol ag ymyriadau adsefydlu i wella cydymffurfiaeth a chanlyniadau.
- Cynnydd yn y carchar: Bydd y system newydd hon yn disodli’r model rhyddhau awtomatig blaenorol. O dan y Bil Dedfrydu, rhaid i garcharorion wneud o leiaf 33% o’u tymor cyn eu rhyddhau (neu 50% ar gyfer troseddau difrifol), ac mae rhyddhau cynnar yn cael ei ennill yn hytrach na’i warantu. Bydd cynnydd yn dibynnu ar ymddygiad da ac ymgysylltu â rhaglenni adsefydlu, sy’n golygu y gall ymddygiad gwael ohirio rhyddhau. Mae’r dull hwn yn ceisio cymell ymddygiad cadarnhaol a lleihau’r risg o aildroseddu ar ôl rhyddhau.
Pam mae hyn yn bwysig i Gymru
Nid yw polisi cyfiawnder troseddol wedi’i ddatganoli, felly mae’r diwygiadau hyn yn gymwys yng Nghymru. Mae hyn yn arwyddocaol oherwydd bod patrymau dedfrydu yng Nghymru yn adlewyrchu’r rhai yn Lloegr, ac y dibynnir yn drwm ar gyfnodau byr yn y carchar.
Er mai nod Bil Dedfrydu y DU yw rheoli dedfrydau byr o garchar, mae Llywodraeth Cymru eisiau mynd ymhellach—gan ddadlau y gallai system gyfiawnder wedi’i datganoli’n llawn leihau poblogaeth y carchardai yn sylweddol.
Mae ymchwil gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn dangos bod dedfrydau byr o garchar yn gyffredin yng Nghymru. Mae tua thri chwarter y menywod sy’n cael dedfryd o garchar ar unwaith yn cael dedfryd o chwe mis neu lai. Ar y cyfan, mae 68% o’r dedfrydau o garchar yng Nghymru am lai na 12 mis—yn uwch nag yn Lloegr. Mae’r dedfrydau byr hyn, ynghyd â chyfraddau uchel o remánd ac adalw, yn cyfrannu at drosiant cyflym ym mhoblogaeth y carchardai ac yn rhoi straen gweinyddol a gweithredol sylweddol ar y system.
Effaith ar fenywod
Mae menywod ond yn cynrychioli tua 4% o boblogaeth y carchardai yng Nghymru a Lloegr, ond mae dedfrydau byr yn effeithio’n anghymesur arnynt. Yn ôl Ffeil Ffeithiau 2024, cafodd 78% o’r menywod a gafodd ddedfryd o garchar yng Nghymru ddedfryd o 12 mis neu lai, a chafodd 24% ddedfryd o fis neu lai – cynnydd sylweddol ers y blynyddoedd blaenorol.
Yn flaenorol, mae adroddiad Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd wedi nodi sawl ffactor, yn seiliedig ar dystiolaeth rhanddeiliaid, sy’n gwneud y grŵp hwn yn arbennig o agored i niwed:
- Aflonyddwch ac snsefydlogrwydd: Canfuwyd bod menywod yn aml yn cael dedfrydau o fis neu lai am droseddau di-drais. Gall hyd yn oed cyfnodau byr yn y carchar arwain at ddigartrefedd a gwahanu teuluoedd, ynghyd â chanlyniadau dinistriol i blant.
- Niferoedd cynyddol: Mae achosion o garcharu menywod yng Nghymru wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
- Heriau systemig: Nid oes carchar penodol i fenywod yng Nghymru, sy’n gwanhau cysylltiadau teuluol ac yn cymhlethu ailsefydlu.
- Pryderon eraill: Mae menywod ethnig leiafrifol yn wynebu canlyniadau anghymesur, ac mae gan lawer o fenywod yn y carchar hanes o drawma neu maent yn famau. Mae’r ffactorau hyn yn gwaethygu’r niwed a achosir gan ddedfrydau byr.
Mae eiriolwyr yn dadlau y gallai lleihau dedfrydau byr o garchar o blaid opsiynau cymunedol eraill fod o fudd i fenywod—ond dim ond os yw gwasanaethau cymunedol yn cael eu hariannu’n briodol. Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a Phwyllgor Dethol Materion Cymreig Senedd y DU wedi galw am fuddsoddiad mewn canolfannau preswyl i fenywod fel rhan o’r dull hwn. Mae cynlluniau ar gyfer canolfan yn Abertawe yn parhau i fod yn ansicr, er gwaethaf caniatâd cynllunio a chefnogaeth drawsbleidiol.
Heriau a chyfleoedd
Mae llwyddiant y diwygiadau dedfrydu hyn yn debygol o ddibynnu ar sawl ffactor, gan gynnwys:
- Buddsoddiad: Er mwyn rheoli mwy o droseddwyr yn y gymuned, bydd angen adnoddau sylweddol—amcangyfrif o £35.3 miliwn yn flynyddol a 580 o staff prawf ychwanegol (Asesiad Effaith y Bil Dedfrydu).
- Hyder barnwrol: Rhaid i lysoedd hyderu bod dedfrydau cymunedol yn effeithiol ac yn orfodadwy. Heb yr hyder hwn, caiff barnwyr barhau i osod dedfrydau byr o garchar.
- Canfyddiad y cyhoedd: Rhaid i ddiwygiadau gydbwyso adsefydlu ag atebolrwydd er mwyn cynnal hyder yn y system gyfiawnder.
- Seilwaith: Mae tai, cymorth iechyd meddwl, a gwasanaethau caethiwed yn hanfodol. Hebddynt hwy, mae dedfrydau cymunedol mewn perygl o ddod yn ddrws troi yn hytrach na llwybr i adsefydlu.
Y Dyfarniad: Fydd Cymru’n gweld newid go iawn?
Mae arbenigwyr—gan gynnwys y Cyngor Dedfrydu a Criminal Justice Alliance (gyda chefnogaeth sefydliadau, fel Clinks a Chynghrair Howard)—yn pwysleisio bod gweithredu, adnoddau a gorfodi effeithiol yn hanfodol er mwyn i’r newidiadau hyn drosi i effaith ystyrlon.
Yng Nghymru, lle mae dedfrydau byr o garchar yn gyffredin, mae 68% o ddedfrydau o garchar o dan 12 mis — ystyrir bod dibynnu’n llai ar y carchar yn ffordd o dorri cylchoedd aildroseddu, lleddfu’r pwysau ar garchardai, a gwella canlyniadau i fenywod a grwpiau agored i niwed eraill.
Yn ei datganiad yn 2022, nododd Llywodraeth Cymru fod dedfrydau byr yn “wrthgynhyrchiol”, gan alw am ddull sy’n seiliedig ar hawliau, sy’n canolbwyntio ar atal, sy’n ailgyfeirio arbedion i iechyd meddwl, triniaeth am gaethiwed, a chymorth tai. Mae’r weledigaeth hon, a nodwyd gan Lywodraeth Cymru, yn fframio cyfiawnder fel rhan o gyfiawnder cymdeithasol, gan dynnu sylw at uchelgais Cymru i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol yn hytrach na chanolbwyntio ar addasu systemau dedfrydu.
Fodd bynnag, datgelodd sesiynau tystiolaeth diweddar gyda Phwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd wrthdaro rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar faterion cyfiawnder, gan gynnwys oedi wrth ddatganoli cyfiawnder ieuenctid a phrawf. Heb gydlynu rhynglywodraethol cryfach, dywedodd y Pwyllgor fod diwygiadau mewn perygl o gael eu tanseilio gan fylchau mewn cyfathrebu ac atebolrwydd.
Nid yw diwygio dedfrydu sydd ar ddod o dan y Bil Dedfrydu yn addasiad technegol yn unig—mae’n arwydd o ailfeddwl sylfaenol am sut mae cyfiawnder yn cael ei gyflawni. I Gymru, mae llawer yn y fantol.
|
Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres sy'n archwilio agweddau allweddol ar gyfiawnder troseddol yng Nghymru, gan gynnwys y setliad datganoli presennol, gweithio rhynglywodraethol, y gwasanaeth prawf, polisi cyfiawnder ieuenctid, a phlismona. |
Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru
Diogelu yn hytrach na chosbi? Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru