- bod 48.5 y cant o benodiadau cyhoeddus newydd yn fenywod; a
- bod 41 y cant o ymgeiswyr ar gyfer penodiadau cyhoeddus newydd yn fenywod.
Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2016
Cyhoeddwyd 08/03/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau
Erthygl gan Jonathan Baxter, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
[caption id="attachment_4839" align="alignright" width="300"] Llun o internationalwomensday.com[/caption]
Mae'n Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ar 8 Mawrth.
Cafodd Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ei sefydlu ddechrau'r ugeinfed ganrif. Daeth i fodolaeth yn dilyn cytundeb yng Nghynhadledd Ryngwladol Menywod sy'n Gweithio yn Copenhagen yn 1910. Roedd yr Unol Daleithiau wedi cynnal Diwrnod Cenedlaethol y Menywod yn flaenorol (mae bellach yn neilltuo mis Mawrth cyfan i ddathlu hanes menywod), ond ni wnaeth Awstria, Denmarc, yr Almaen a'r Swistir ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod tan 1911, o ganlyniad i'r fenter yn Copenhagen. Yna, fe ddilynodd gwledydd eraill eu harweiniad. Nid cyfrifoldeb llywodraeth neu sefydliad unigol yw Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae'n fudiad rhyngwladol.
Thema fyd-eang Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2016 yw Addewid Cydraddoldeb (Pledge for Parity). Y nod yw bod unigolion yn cymryd camau pendant i helpu i gyflawni cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn gynt. Gallai hyn ddigwydd drwy addo i helpu menywod a merched i gyflawni eu huchelgeisiau, herio rhagfarn a rhagfarn ddiarwybod, a galw am arweinyddiaeth gydradd rhwng y rhywiau.
Bydd rhai sefydliadau, gan gynnwys y Cenhedloedd Unedig, yn mabwysiadu eu thema eu hunain ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Eleni, mae'r Cenhedloedd Unedig wedi mabwysiadu'r thema "Planet 50-50 by 2030: Step It Up for Gender Equality". Nod y thema hon yw ystyried sut i gyflymu'r broses Agenda 2030 ar gyfer datblygu cynaliadwy. Ni wnaeth y Cenhedloedd Unedig ddechrau dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod tan y 1970au, ond y siarter a'i sefydlodd, a lofnodwyd yn 1945, oedd y cytundeb rhyngwladol cyntaf i gadarnhau'r egwyddor o gydraddoldeb rhwng menywod a dynion.
Nid yw Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ymwneud â thynnu sylw at yr anghydbwysedd sydd wedi'i gydnabod ym meysydd cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol yn unig, mae hefyd yn dathlu llwyddiannau menywod yn y meysydd hynny. Ar 9 Mawrth, bydd cyfle i Aelodau'r Cynulliad wneud addewidion cydraddoldeb, yn ogystal â dathlu llwyddiannau niferus menywod yng Nghymru wrth iddynt drafod Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2016. Bydd nifer o ddigwyddiadau yng Nghymru i nodi'r diwrnod, gan gynnwys digwyddiadau Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru yn Aberystwyth, Abertawe a Chaerdydd.
Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus
Cafodd Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ei sefydlu cyn bod gan unrhyw fenyw yng Nghymru'r hawl i bleidleisio. Bellach, o'r 60 Aelod Cynulliad yng Nghymru, mae 25 yn fenywod - sef 42 y cant. Yn 2003, Cynulliad Cenedlaethol Cymru oedd y ddeddfwrfa gyntaf yn y byd i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Rhwng 2006 a 2007 roedd mwy o fenywod na dynion yn Aelodau'r Cynulliad. Er bod cynrychiolaeth menywod yn y Cynulliad yn is nawr nag yr oedd yn y gorffennol, byddai Cymru yn dod yn rhif naw o ran y deddfwrfeydd mwyaf cytbwys o ran y rhywiau yn y byd pe bai'n wlad annibynnol, yn ôl yr Undeb Rhyngseneddol. Ar hyn o bryd, mae'r Deyrnas Unedig yn rhif 40 ar fynegai'r Undeb Rhyngseneddol, gydag ychydig o dan 30 y cant o Aelodau'r Senedd yn fenywod.
Gan ddatblygu enw da'r Cynulliad ar gyfer cydraddoldeb, mae'r Llywydd, y Fonesig Rosemary Butler AC, wedi arwain yr ymgyrch Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus drwy gydol y Pedwerydd Cynulliad i annog mwy o fenywod i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus. Mae ei gwaith wedi cael cydnabyddiaeth ryngwladol, gan arwain at wahoddiadau i ymweld â Senedd Gwlad yr Iâ, Senedd Canada, a seneddau rhanbarthol yn Ne Affrica a Lesotho i gyfnewid syniadau ac arferion gorau o ran cynrychiolaeth menywod.
Heriau sy'n wynebu menywod yng Nghymru
Mae rhaglenni a chynlluniau niferus wedi'u cynnal i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru. Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru a'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn amlinellu'r camau y mae Llywodraeth bresennol Cymru wedi'u cymryd i fynd i'r afael â'r mater hwn.
O ran cynrychiolaeth menywod mewn bywyd cyhoeddus, mae'r Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys ymrwymiadau penodol i ddarparu cronfa fwy gynrychioliadol o'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ac yn ceisio cyflwyno cwotâu o ran y rhywiau, tebyg i Norwy, ar gyfer penodiadau i gyrff cyhoeddus. Cyhoeddwyd galwad am dystiolaeth yn ddiweddar ynghylch penodiadau i fyrddau yn y sector cyhoeddus gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, ac mae crynodeb o'r canfyddiadau bellach ar gael.
Mae Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2014-15 Llywodraeth Cymru yn rhoi manylion ar y cynnydd yn erbyn yr amcanion a nodwyd yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Mae'n nodi, ar gyfer 2014-15: