|
Dyma erthygl wadd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Barn yr awdur a geir yma, nid barn Ymchwil y Senedd na’r Senedd ei hun. |
Heddiw (10 Rhagfyr), nodir Diwrnod Hawliau Dynol i gofio’r adeg pan wnaeth Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig fabwysiadu’r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol ym 1948. Bu cynnydd sylweddol tuag at warantu hawliau dynol dros y tua 80 mlynedd ddiwethaf. Ond barn yr awdur yw bod mwy o waith i’w wneud – yn enwedig wrth i ni barhau i weld dadleuon a heriau sy’n hollti barn fwyfwy ar gydraddoldeb a hawliau dynol ledled y byd.
Yn yr erthygl wadd hon, mae Elinor Puzey o’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol - corff statudol annibynnol a Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol o’r safon flaenaf - yn edrych ar hynt y gwaith sydd wedi’i wneud yng Nghymru i fodloni safonau hawliau dynol rhyngwladol.
Hawliau dynol yng Nghymru
Mae hawliau dynol yn perthyn i bawb ac yn amddiffyn pob un ohonom ni waeth pwy ydym ni. Maent yn aml yn cael eu hystyried yn gysyniadau haniaethol, ond maent yn gymwys i’n bywydau ni i gyd, bob dydd. Nid ydynt yn ‘rhoddion’ i ni oddi wrth lywodraethau ond maent yn gynhenid i ni i gyd. Fel y mae’r Cenhedloedd Unedig yn nodi:
They range from the most fundamental - the right to life - to those that make life worth living, such as the rights to food, education, work, health, and liberty.
Mae gan Lywodraeth Cymru rwymedigaeth i fodloni safonau rhyngwladol penodol o ran hawliau dynol, ac mae wedi cymryd nifer o gamau i gorffori’r rhain drwy bolisi a deddfwriaeth, gan gynnwys:
- Corffori rhan o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yng nghyfraith Cymru, drwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 (“y Mesur”), sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi ‘sylw dyledus’ i CCUHP wrth wneud penderfyniadau. Roedd gwaith ymchwil y Comisiwn ar y Mesur yn dangos bod cyflwyno’r ddyletswydd i roi sylw dyledus yn taflu goleuni ar hawliau plant. Mae’r ddyletswydd hefyd yn golygu y gall Aelodau a rhanddeiliaid eraill eirioli dros bolisïau sy’n gyson â’r erthyglau yn CCUHP.
- Gwnaed cynnydd pan gyflwynwyd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn unol â’r Confensiwn ar Hawliau Pobl ag Anableddau. Mae ei fesur sylw dyledus yn sicrhau bod yr hawl i fyw’n annibynnol yn cael ei hystyried, fel y mynegir yn y Confensiwn.
- Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn cynnwys nod penodol i gorffori hawliau dynol fel rhan o’i uchelgais i Gymru fod yn genedl wrth-hiliol.
- Mae’r Cynllun Gweithredu LHDTC+ yn cynnwys gweithredu i gryfhau dealltwriaeth o hawliau dynol i bobl LHDTC+.
- Yn 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Strategol ar gyfer 2025 – 2029, sy’n atgyfnerthu ei hymrwymiad i sicrhau hawliau dynol.
Fodd bynnag, er gwaethaf ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gorffori dau gytuniad hawliau dynol (y Confensiwn ar Ddileu Gwahaniaethu yn erbyn Menywod a’r Confensiwn ar Hawliau Pobl ag Anableddau) yng Nghymru, nid ydym wedi gweld fawr o gynnydd. Mae hyn yn parhau i fod yn hanfodol i fynd i’r afael â heriau parhaus ynghylch hawliau dynol yng Nghymru.
Mae CCUHP wedi codi pryderon am blant sy’n byw mewn tlodi, ansicrwydd bwyd a digartrefedd yng Nghymru.
Yn y cyfamser, mae casgliadau terfynol y Confensiwn Rhyngwladol ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol yn 2024 yn dangos cynnydd araf tuag at lety diwylliannol briodol ar gyfer Cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru.
Lansio adroddiad Adolygiad Cyfnodol Cyffredinol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Heddiw (10 Rhagfyr), mae adroddiad y Comisiwn ar gynnydd y DU yn erbyn argymhellion a wnaed yn ystod Adolygiad Cyfnodol Cyffredinol 2022 wedi’i lansio. Canfu’r Adolygiad (proses y Cenhedloedd Unedig o adolygu cofnod hawliau dynol pob aelod-wladwriaeth yn rheolaidd gan wladwriaethau eraill) fod angen gwella mynediad at wasanaethau iechyd i bobl anabl. Yn yr adroddiad, mae’r Comisiwn yn annog pob llywodraeth a chorff yn y DU, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, i ddefnyddio canfyddiadau’r adroddiad i wneud cynnydd pellach i amddiffyn, hyrwyddo a chyflawni hawliau dynol.
Monitro hawliau dynol yng Nghymru
Fel Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol, mae’r Comisiwn yn monitro cydymffurfiaeth y llywodraeth â chytuniadau hawliau dynol rhyngwladol. Un ffordd y gwneir hyn yw trwy Traciwr Hawliau Dynol - offeryn ar-lein sy’n asesu pa mor dda y mae llywodraethau Cymru a’r DU yn rhoi eu rhwymedigaethau hawliau dynol rhyngwladol ar waith. Mae’n cynnwys dros 70 o asesiadau o gamau gweithredu Llywodraeth Cymru yn unol ag argymhellion penodol y Cenhedloedd Unedig i wella cydymffurfiaeth â 7 cytuniad hawliau dynol ‘craidd’ y Cenhedloedd Unedig y mae’r DU wedi’u cadarnhau.

Ffynhonnell: Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Yn wahanol i rai gwledydd eraill, nid oes gan y DU Fecanwaith Cenedlaethol ffurfiol ar gyfer Gweithredu, Adrodd a Gwaith Dilynol (NMIRF), fel yr argymhellir gan y Cenhedloedd Unedig, i helpu i olrhain cynnydd y llywodraeth yn erbyn argymhellion y Cenhedloedd Unedig. Lansiodd y Comisiwn y Traciwr Hawliau Dynol yn 2019 i helpu i lenwi’r bwlch hwn. Adolygodd y Traciwr i ba raddau yr oedd llywodraethau Cymru a’r DU yn cyflawni eu rhwymedigaethau hawliau dynol rhyngwladol, a hyrwyddodd ddealltwriaeth o system monitro hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig ac ymgysylltiad â hi.
Ail-lansiwyd y Traciwr ym mis Ionawr 2025 gyda dull gweithredu newydd: asesu gweithrediad y llywodraeth yn unig ar argymhellion y Cenhedloedd Unedig. Mae hyn yn ei gwneud yn glir ble mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau tuag at ei rhwymedigaethau hawliau dynol, a ble nad yw wedi gwneud hynny.
Gall Aelodau’r Senedd a’r gymdeithas sifil wirio beth sydd wedi’i wneud ar draws gwahanol feysydd thematig sy’n effeithio ar fywydau pobl bob dydd. Gallant hefyd weld yr holl argymhellion a wnaed i’r DU yn ystod adolygiadau cytuniadau’r Cenhedloedd Unedig er 2016 – sydd ar gael yn Gymraeg hefyd – a darganfod sut i gyfrannu at brosesau adolygu yn y dyfodol.
Ychwanegwyd asesiadau Traciwr newydd
Ym mis Tachwedd 2025, ychwanegodd y Comisiwn asesiadau newydd o gamau llywodraethau Cymru a’r DU i weithredu’r argymhellion a wnaed gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol yn 2024.
Mae asesiadau’r Comisiwn yn awgrymu bod Llywodraeth Cymru, ar y cyfan, wedi gwneud rhywfaint o gynnydd. Mae’n nodi bod Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru wedi ailddatgan ei ymrwymiad i fod yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030.
Gwelodd y Comisiwn gamau sylweddol i wella amrywiaeth mewn bywyd cyhoeddus drwy ddiweddaru Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024, gan hyrwyddo amrywiaeth ymhlith y rhai sy’n ceisio swyddi cyhoeddus. Fodd bynnag, gwelodd gamau cyfyngedig i fynd i’r afael â bwlio hiliol mewn ysgolion, drwy beidio â chymryd camau i’w gwneud yn ofyniad statudol i ysgolion adrodd a chofnodi bwlio o’r fath.
Gwaith yn parhau i gyflawni hawliau dynol yng Nghymru
Mae Diwrnod Hawliau Dynol yn rhoi cyfle i edrych ar y cynnydd a wnaed tuag at ymrwymiadau hawliau dynol rhyngwladol. Rhaid i Lywodraeth Cymru, ynghyd â llywodraethau ledled y byd, barhau i gynnal ei rhwymedigaethau rhyngwladol, er mwyn sicrhau hawliau dynol pobl Cymru.
Mae’r Traciwr Hawliau Dynol yn un ffordd o fonitro pa mor dda y mae Llywodraeth Cymru yn gwneud hyn.
Os hoffech wybod rhagor am y Traciwr Hawliau Dynol, cysylltwch ag EHRCWales@equalityhumanrights.com
Erthygl gan Elinor Puzey, Uwch-swyddog Cyswllt, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol