Heddiw mae myfyrwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cael eu canlyniadau TGAU. Yn yr un modd â chanlyniadau Safon Uwch yr wythnos ddiwethaf, mae'r Cyd-gyngor Cymwysterau (sefydliad aelodaeth sy'n cynnwys saith darparwr cymwysterau'r DU) yn cyhoeddi crynodebau o'r canlyniadau. Mae data'r Cyd-gyngor Cymwysterau yn dangos canlyniadau cyfunol y rhai a gofrestrodd gyda'r cyrff dyfarnu sy'n aelodau.
Newidiadau i arholiadau TGAU yng Nghymru
Gwnaed newidiadau sylweddol i arholiadau TGAU mewn Cymraeg, Saesneg a Mathemateg a gyflwynwyd ym mis Medi 2015. Y canlyniadau hyn fydd y rhai cyntaf o'r cymwysterau diwygiedig. Gellir gweld manylion llawn y newidiadau ym mlog gwadd Cymwysterau Cymru. I grynhoi:
- Mae mathemateg wedi'i rannu'n ddau arholiad newydd - TGAU Mathemateg a TGAU Mathemateg Rhifedd. Mae gan ddisgyblion bellach dair haen mynediad - sylfaenol, canolradd ac uwch â phob un ohonynt â gwahanol setiau o raddau ar gael;
- Ym mhwnc Iaith Saesneg, mae 80 y cant o'r cymhwyster wedi'i seilio ar ddau bapur arholiad sy'n canolbwyntio ar ddarllen ac ysgrifennu. Mae'r asesiad siarad a gwrando yn cyfrannu'r 20 y cant sy'n weddill i'r radd derfynol. Mae'r gwaith cwrs ysgrifenedig a oedd gynt yn cyfrannu 20 y cant o'r radd derfynol wedi cael ei ddileu;
- Mae TGAU Iaith Gymraeg yn cynnwys dau asesiad siarad a gwrando, tasg grŵp a thasg unigol sy'n cyfrannu 30 y cant o'r radd derfynol. Mae'r 70 y cant sy'n weddill yn seiliedig ar ddau bapur arholiad sy'n canolbwyntio ar ddarllen ac ysgrifennu;
- Ym mhynciau Iaith Gymraeg ac Iaith Saesneg, nid oes haenau i'r asesiadau bellach (haen sylfaenol a haen uwch) ac mae'r holl ddisgyblion yn sefyll yr un papur arholiad. Mae'r cymwysterau newydd yn llinol, ac mae'n rhaid i'r disgyblion bellach sefyll eu holl arholiadau ar ddiwedd y cwrs;
- Mae pynciau Llenyddiaeth Gymraeg a Llenyddiaeth Saesneg yn dal i fod yn unedol a gall y disgyblion sefyll asesiadau ar gyfer unedau a'u hailsefyll yn ystod y cwrs.
Mynediad cynnar
Ym mis Gorffennaf, dywedodd Cymwysterau Cymru fod disgwyl i'r canlyniadau mewn Cymraeg, Saesneg a Mathemateg fod yn is na'r blynyddoedd diwethaf. Fel y dywedwyd yn y blog, gall gwahanol batrymau mynediad fod yn gyfrifol am y canlyniadau is. Er enghraifft, mae nifer sylweddol o'r disgyblion sydd wedi sefyll TGAU Iaith Saesneg yn dal i fod ym mlwyddyn 10. Gwnaeth tua 21,000 o ddisgyblion blwyddyn 10 sefyll yr arholiad ym mis Mehefin yng Nghymru, gan gynrychioli tua 65 y cant o ddisgyblion blwyddyn 10 yng Nghymru.
Dywedodd Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn ystod y Cyfarfod Llawn ym mis Gorffennaf:
Gwyddom hefyd ein bod wedi gweld mwy o fyfyrwyr yn cael eu cyflwyno’n gynnar i sefyll y gyfres hon o arholiadau nag erioed o’r blaen. Rwy’n bryderus iawn fod rhai ysgolion, am ba reswm bynnag, yn cyflwyno plant i sefyll arholiadau’n gynnar, ar ôl un flwyddyn yn unig o astudio cwrs a ddylai gael ei gyflwyno dros gyfnod o ddwy flynedd. A bydd y myfyrwyr hynny, sydd â’r potensial i gael A* efallai ar ôl dwy flynedd, yn cael C yr haf hwn, a bydd yr ysgolion yn setlo am yr C honno. Dyna pam y gofynnais i Cymwysterau Cymru lunio adroddiad ar gyflwyno cynnar, a byddaf yn cymryd y camau priodol i sicrhau nad yw cyflwyno cynnar yn amharu ar fy nod o sicrhau safonau uchel yn ein system addysg.
Dywedodd Steve Davies, Cyfarwyddwr Addysg Llywodraeth Cymru, wrth Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad ym mis Mai y byddai Cymwysterau Cymru yn cyhoeddi adroddiad ym mis Medi ac, yng ngoleuni'r adolygiad, byddai Llywodraeth Cymru yn cymryd camau gweithredu.
Mae erthygl ar flog Cymwysterau Cymru ynghylch TGAU y flwyddyn hon yn darparu gwybodaeth bellach ynghylch canlyniadau disgyblion 16 oed.
Newidiadau yn Lloegr
Fel yng Nghymru, mae cymwysterau TGAU yn cael eu diwygio yn Lloegr. Mae cymwysterau TGAU newydd mewn Iaith Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg a Mathemateg wedi cael eu haddysgu mewn ysgolion o 2015 a dyma'r canlyniadau cyntaf ar gyfer y cymwysterau diwygiedig. Roedd pynciau TGAU pellach i'w cyflwyno yn ystod y ddwy flynedd ddilynol. Mae'r newidiadau yn Lloegr yn cynnwys:
- Defnyddio graddfa newydd o 9 i 1 ar gyfer graddau: 9 yw'r radd uchaf;
- Asesir yn bennaf drwy arholiadau, gan ddefnyddio mathau eraill o asesiadau lle bo angen i brofi sgiliau hanfodol;
- Cynnwys sy'n newydd ac sy'n fwy heriol;
- Mae'r cyrsiau wedi'u dylunio i'w astudio am ddwy flynedd - ni fyddent bellach yn cael eu rhannu i wahanol fodiwlau a bydd y disgyblion yn sefyll eu holl arholiadau mewn un cyfnod ar ddiwedd y cwrs.
- Ni ellir ond rhannu arholiadau yn 'haen sylfaenol' a 'haen uwch' os yw un papur arholiad nad yw'n rhoi'r cyfle i bob disgybl ddangos eu gwybodaeth a'u gallu;
- Bydd cyfleoedd i ailsefyll ar gael bob mis Tachwedd yn unig, a hynny ar gyfer pynciau Saesneg a Mathemateg.
Bydd y raddfa rhwng 9 ac 1 yn cael ei defnyddio i raddio Iaith Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg a Mathemateg y flwyddyn hon, â'r rhan fwyaf o bynciau eraill yn defnyddio'r un system erbyn 2019. Nid yw'r graddau o 9 i 1 yn cyfateb yn uniongyrchol â llythrennau'r graddau blaenorol, felly ni fydd gradd 9 yn gallu cymharu'n uniongyrchol. Mae Ofqual wedi cyhoeddi ffeithlun sy'n dangos sut y bydd y rhifau a'r llythrennau'n cymharu.
Mae newidiadau polisi blaenorol yn Lloegr (sef ers 2013, dim ond mynediad cyntaf disgybl ar gyfer arholiad TGAU sy'n cyfrif yn nhablau perfformio'r ysgol), wedi golygu bod llai o ddisgyblion yn cael eu cofrestru ar gyfer arholiad yn gynharach na'r haf.
Canlyniadau
O ystyried nifer y disgyblion sy'n cael eu cofrestru ar gyfer arholiad yn fuan yng Nghymru, ynghyd â'r gwahaniaeth cynyddol rhwng polisi y ddwy wlad, mae'n anodd cymharu flwyddyn wrth flwyddyn, neu wlad wrth wlad a dylid ystyried unrhyw gymariaethau â gofal. Ni all y raddfa newydd ar gyfer graddau gael ei chymharu yn uniongyrchol â'r raddfa flaenorol, heblaw am wneud hynny ar sail A/7; C/4; a G/1. O'r herwydd, ni ellir ond gwneud cymariaethau ar draws y blynyddoedd - a hynny ar draws pynciau sydd wedi'u diwygio a phynciau sydd heb eu diwygio, ac ar draws awdurdodaethau - ar sail y graddau hyn.
Dim ond cyfres yr haf a gaiff eu cynnwys yn y canlyniadau'r Cyd-gyngor Cymwysterau. Nid ydynt yn cynnwys canlyniadau mynediad cynnar yn y gaeaf na chanlyniadau ailsefyll, a gall hyn amharu ar gymariaethau, yn enwedig pan gaiff disgyblion mwy abl eu cofrestru ar gyfer arholiad yn gynnar.
Mae'r data yn y tabl isod yn deillio o wybodaeth a gyhoeddwyd gan y Cyd-gyngor Cymwysterau heddiw a data a gyhoeddwyd gan y Cyd-gyngor Cymwysterau ynghylch diwrnod canlyniadau TGAU 2016. Mae'r data yn rhai dros dro ac yn dangos y sefyllfa adeg cyhoeddi'r canlyniadau. Mae angen i'r data gael eu gwirio cyn i'r data terfynol ar lefel Cymru, lefel awdurdod lleol a lefel yr ysgolion gael eu cyhoeddi. Mae'r canlyniadau a gyhoeddwyd gan y Cyd-gyngor Cymwysterau yn ymwneud â 'chofrestriadau' ac nid 'ymgeiswyr'. Felly, er enghraifft, gall y data ddangos bod lefel y perfformiad wedi cynyddu neu ostwng ar lefel TGAU neu o fewn y graddau. Ni all ddangos a oes mwy o fechgyn neu o ferched yn cael pump neu ragor o raddau TGAU rhwng A* ac C. Mae'r data yn ymwneud â chanlyniad y meysydd pwnc unigol ar gyfer pawb waeth beth yw eu hoedran.
O ystyried y newidiadau i system graddau Lloegr, â rhai pynciau yn cael eu dyfarnu ar sail A*-G ac eraill yn cael eu dyfarnu ar sail 9-1, ni wnaed unrhyw gymhariaeth â Lloegr.
I grynhoi:
- Bu cynnydd o 19,174 yn nifer y sawl a safodd yr arholiadau yn ystod 2016:
- Mae cyfanswm canran y dysgwyr a gafodd radd A* yn parhau yr un fath â'r llynedd, gyda gostyngiad o 0.1 pwynt canran ar gyfer bechgyn a chynnydd o 0.2 pwynt canran ar gyfer merched;
- Rhwng 2016 a 2017, mae nifer y graddau o A*-A wedi gostwng: 1.5 pwynt canran ymhlith bechgyn; 1.6 pwynt canran ymhlith merched, ac 1.6 pwynt canran ymhlith yr holl ddysgwyr;
- O ran graddau A*-C, rhwng 2016 a 2017, mae'r nifer wedi gostwng 3.6 pwynt canran ar gyfer bechgyn, 3.8 pwynt canran ar gyfer merched a 3.8 pwynt canran ar gyfer yr holl ddysgwyr;
- Mae'r nifer hefyd wedi gostwng rhwng 2016 a 2017 o ran graddau A*-G: 2.0 pwynt canran ar gyfer bechgyn; 1.7 pwynt canran ar gyfer merched ac 1.8 pwynt canran ar gyfer yr holl ddysgwyr;
- Mae merched yn parhau i berfformio'n well na bechgyn ar bob lefel.
Bagloriaeth Cymru
Yr haf hwn, caiff y Dystysgrif Her Sgiliau CA4 Bagloriaeth Cymru newydd ei dyfarnu am y tro cyntaf. Mae Tystysgrif Her Sgiliau CA4 yn cyfateb o ran maint a galw i gymhwyster TGAU. Caiff ei graddio ar A*-C am gyflawniad ar Lefel 2 a Llwyddiant* a Llwyddiant ar Lefel 1.
Erthygl gan Sian Hughes, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Ffynhonnell: Y Cyd-Gyngor Cymwysterau
Ffynhonnell: Cymwysterau Cymru
Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Diwrnod canlyniadau TGAU (PDF, 356KB)