Erthygl gan Sian Hughes, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
[caption id="attachment_6120" align="alignnone" width="682"] Llun: o Flickr. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]
Heddiw mae myfyrwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cael eu canlyniadau TGAU. Yn yr un modd â chanlyniadau Safon Uwch yr wythnos diwethaf, mae'r Cyd-gyngor Cymwysterau (sefydliad aelodaeth sy'n cynnwys saith darparwr cymwysterau mwyaf y DU) yn cyhoeddi crynodebau o'r canlyniadau [PDF 668KB]. Mae data'r Cyd-gyngor Cymwysterau yn dangos canlyniadau cyfunol y rhai a gofrestrodd gyda'r cyrff dyfarnu sy'n aelodau.
Mae’r canlyniadau hyn ar gyfer y dysgwyr hynny a safodd arholiadau ym mis Mehefin 2016. Mae newidiadau polisi yn Lloegr wedi golygu bod llai o ddysgwyr yn sefyll arholiadau cyn yr Haf. Er i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau blaenorol, Huw Lewis, fynegi pryder am y cynnydd y niferoedd y disgyblion a oedd yn sefyll eu harholiadau’n gynnar, ni fu newid yn y polisi hwn yng Nghymru.
Canlyniadau
Mae'r data yn y tablau isod yn cymharu'r canlyniadau ar gyfer 2015 a 2016. Mae'r gymhariaeth hon yn seiliedig ar y data a gyhoeddwyd gan y Cyd-gyngor Cymwysterau ar ddiwrnod canlyniadau 2015. Mae'r data yn rhai dros dro ac yn dangos y sefyllfa adeg cyhoeddi'r canlyniadau. Caiff y data eu gwirio cyn i'r data terfynol gael eu cyhoeddi ar lefel Cymru, ac ar lefel awdurdodau lleol ac ysgolion. Mae’r canlyniadau a gyhoeddwyd gan y Cyd-gyngor Cymwysterau yn ymwneud â nifer y ‘cofrestriadau’ ac nid yr ‘ymgeiswyr’. Felly, er enghraifft, gall y data ddangos bod perfformiad wedi gwella neu waethygu ar lefel TGAU neu o fewn graddau. Ni allant ddangos a oes mwy o fechgyn neu ferched wedi cael pum gradd A-C* neu fwy yn eu harholiadau TGAU. Mae’r data’n ymwneud â chanlyniadau y meysydd pwnc unigol ar gyfer pawb beth bynnag eu hoedran.
Cymharu 2015 a 2016
Bagloriaeth Cymru
Cafodd canlyniadau Diploma Canolradd a Diploma Sylfaen Bagloriaeth Cymru eu cyhoeddi heddiw hefyd. Ar y Lefel Sylfaen, dyfarnwyd y Dystysgrif Graidd i 92.5 y cant o'r ymgeiswyr, o'i gymharu ag 86.7 y cant yn 2015. Dyfarnwyd y Diploma i 90.3 y cant o'r ymgeiswyr o'i gymharu ag 85 y cant y llynedd.
Ar y Lefel Ganolradd, dyfarnwyd y Dystysgrif Graidd i 93.8 y cant o'r ymgeiswyr o'i gymharu ag 89.4 y cant yn 2015, a dyfarnwyd y Diploma i 82.6 y cant o'r ymgeiswyr o'i gymharu ag 82.2 y cant yn 2015.
- Yng Nghymru, mae nifer y bechgyn sy’n cael graddau A*-C wedi gostwng 0.5 pwynt canran tra bod canran y merched sy’n cael graddau A*-C wedi cynyddu 0.3 phwynt canran. Arhosodd canran yr holl ddysgwyr sy’n cael graddau A*-C yr un fath â 2015 ac mae bellach yr un fath â Lloegr .
- Gwelwyd cynnydd o 0.2 y cant yn y gyfradd lwyddo gyffredinol (A*-G) ymhlith merched. Gwelwyd gostyngiad o 0.1 y cant yn y gyfradd lwyddo gyffredinol ymhlith bechgyn. Mae’r gyfradd yr un fath â’r llynedd ar gyfer yr holl ddysgwyr;
- Gwelwyd cynnydd o 0.3 phwynt canran yn nifer y bechgyn a gyflawnodd raddau A*, a gostyngiad bach o 0.1 pwynt canran ymhlith y merched. Gwelwyd cynnydd o 0.1 pwynt canran yn y radd hon ar gyfer yr holl ddysgwyr;
- Eleni gwelwyd cynnydd o 0.1 pwynt canran ymysg y bechgyn a gyflawnodd raddau A*-A, cynnydd o 0.4 pwynt canran ymysg y merched a chynnydd o 0.2 y cant ar gyfer yr holl ddysgwyr;
- Yn Lloegr, gwelwyd gostyngiadau ar gyfer yr holl raddau. Ar gyfer graddau A*, gwelwyd gostyngiadau o 0.2 pwynt canran ar gyfer bechgyn, 0.1 pwynt canran ar gyfer merched a 0.2 pwynt canran ar gyfer yr holl ddysgwyr;
- Ar gyfer graddau A*-C, gwelwyd gostyngiadau o 2.4 pwynt canran ar gyfer bechgyn, 2 bwynt canran ar gyfer merched a 2.2 pwynt canran ar gyfer yr holl ddysgwyr.
- Mae merched yn parhau i gael canlyniadau gwell na bechgyn ar bob lefel yng Nghymru a Lloegr;
- Yng Nghymru, mae'r bwlch wedi lleihau ar gyfer y radd A* ond wedi ehangu ar gyfer pob gradd arall. Yn Lloegr, mae’r Bwlch wedi cynyddu ar gyfer pob gradd.