Diweddariad o’r farchnad lafur ym mis Hydref 2023

Cyhoeddwyd 18/10/2023   |   Amser darllen munudau

Gyda chostau byw a ffactorau economaidd eraill dan y chwyddwydr, mae gwybodaeth am gyflogaeth yn amhrisiadwy. Mae'r erthygl hon yn crynhoi ystod o ddata sydd wedi’u cyhoeddi ar y farchnad lafur yng Nghymru.

Beth y mae'r ffigyrau diweddaraf yn ei ddangos?

Mae’r prif dueddiadau yn y farchnad lafur fel a ganlyn:

  • Mae nifer y gweithwyr cyflogedig yng Nghymru yn dal i fod yn uwch na'r lefel cyn y pandemig, ond mae wedi gostwng ychydig yn ystod y misoedd diwethaf i 1.311 miliwn ym mis Medi 2023.
  • Ym mis Gorffennaf 2023, roedd yr enillion wythnosol cyfartalog 8.5 y cant yn uwch nag ar gyfer mis Gorffennaf 2022, tra bod chwyddiant y Mynegai Prisiau Defnyddwyr ar 6.7 y cant yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Awst 2023.
  • Roedd nifer y swyddi gwag yn y DU rhwng mis Gorffennaf a mis Medi yn 988,000, sef gostyngiad o 43,000 o'r chwarter blaenorol (mis Ebrill i fis Mehefin 2023).

Disgwylir i’r twf araf mewn cyflogau a'r gostyngiad mewn swyddi gwag annog Banc Lloegr i adael cyfraddau llog heb eu newid. Mae cyhoeddi rhywfaint o ddata'r farchnad lafur, gan gynnwys y gyfradd ddiweithdra, wedi'i ohirio tan 24 Hydref 2023.

Nifer y cyflogeion ar gyflogres

Mae’r SYG wedi bod yn gweithio gyda Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi i lunio amcangyfrifon amserol o gyflogeion sy’n cael eu talu drwy'r cynllun talu wrth ennill (TWE). Mae nifer y cyflogeion ar gyflogres yng Nghymru yn uwch na'r lefel cyn y pandemig ond mae wedi dechrau gostwng yn ystod y misoedd diwethaf.

Data TWE wedi'u haddasu'n dymhorol; pum mlynedd hyd at fis Medi 2023

Graff yn dangos gostyngiad mawr mewn gweithwyr cyflogres yn ystod y cyfnod rhwng Mawrth 2020 a Mawrth 2021 i lai nag 1.23 miliwn. Dilynwyd hyn gan gynnydd i 1.316 miliwn erbyn Mehefin 2023 a gostyngiad i 1.311 miliwn ym mis Medi 2023.

 

Ffynhonnell: ONS PAYE – seasonally adjusted

Enillion wythnosol cyfartalog

Mae’r cynnydd o flwyddyn i flwyddyn mewn enillion wythnosol cyfartalog ar draws y DU yn uwch na’r gyfradd chwyddiant. Cyhoeddir data enillion Cymru bob blwyddyn yn yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion. Ond nid yw'r gyfradd chwyddiant ar gyfer Cymru ar gael.

Newid o flwyddyn i flwyddyn yn enillion wythnosol cyfartalog a chwyddiant y DU

Graff yn dangos chwyddiant y DU yn uwch na'r enillion wythnosol cyfartalog (cyfartaledd 3 mis) yn 2022-23. Ym mis Gorffennaf 2023, roedd yr enillion wythnosol cyfartalog 8.5% yn uwch nag ar gyfer Gorffennaf 2022 tra bod chwyddiant Mynegai Prisiau Defnyddwyr ar 6.7% rhwng mis Mehefin a mis Awst 2023

 

Ffynhonnell:Earnings and working hours and inflation and price indices, SYG

Swyddi gwag

Ar gyfer y DU, mae'r SYG yn cyhoeddi amcangyfrif o nifer y swyddi gwag ar gyfer y tri mis blaenorol.

Mae'r amcangyfrifon hyn yn seiliedig ar yr Arolwg Swyddi Gwag lle y mae'r SYG yn arolygu cyflogwyr ar draws pob sector o'r economi. Rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2023 adroddwyd bod 988,000 o swyddi gwag yn y DU, gostyngiad 43,000 o’r ffigur rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2023. Gostyngodd nifer y swyddi gwag ar y chwarter am y 15fed cyfnod yn olynol rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2023, i lawr 4.2 y cant ers y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2023, gyda swyddi gwag yn gostwng mewn 14 o'r 18 sector diwydiant.

Nid yw data'r Arolwg Swyddi Gwag ar gael ar gyfer Cymru, ond mae'r SYG yn cyhoeddi mynegeion arbrofol o hysbysebion swyddi ar-lein. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am sawl miliwn o gofnodion hysbysebion swyddi bob mis o bob rhan o'r DU, wedi'u dadansoddi yn ôl categori swyddi a gwledydd y DU. Daeth yr ymchwydd mewn swyddi gwag ar ôl y pandemig i’r brig ym mis Chwefror 2022 ac mae wedi gostwng yn gyffredinol ers hynny.

Mynegai nifer amcangyfrifedig yr hysbysebion swyddi ar-lein a ddad-ddyblygwyd (Chwefror 2020 = 100)

Graff yn dangos bod y mynegai wedi gostwng o 100 ym mis Chwefror 2020 i 34 ym mis Mai 2020. Cynyddodd y mynegai i 134 erbyn mis Chwefror 2022 a gostwng i 102 erbyn mis Hydref 2023.

 

Ffynhonnell:Online job advert estimates - Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk)

Hawlwyr budd-daliadau

Wrth i fwy o bobl symud o fudd-daliadau gwaddol i Gredyd Cynhwysol, mae'r ffordd o fesur nifer yr hawlwyr a diweithdra wedi newid. Mae'r prif ddata arbrofol a gyhoeddir gan y SYG yn ymwneud â nifer y bobl sy'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, ynghyd â'r rhai sy'n hawlio Credyd Cynhwysol ac mae'n ofynnol er mwyn ceisio gwaith a bod ar gael i weithio.

Roedd y nifer sy'n hawlio budd-daliadau wedi dyblu a mwy ar ddechrau'r pandemig. Gostyngodd y niferoedd yn gyson rhwng mis Awst 2020 a mis Gorffennaf 2022. Ers mis Gorffennaf 2022 mae nifer y bobl sy’n hawlio budd-dal diweithdra wedi aros rhwng 60,000 a 64,000 ac mae nifer y bobl sy’n hawlio budd-dal diweithdra ym mis Awst 2023 5% yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig.

Nifer y rhai sy’n hawlio budd-daliadau ar gyfer Cymru; Pedair blynedd hyd at fis Awst 2023

Cynyddodd nifer y bobl sy’n hawlio budd-dal diweithdra o 58,130 ym mis Mawrth 2020 i 120,097 ym mis Awst 2020. Yna gostyngodd i 60,807 ym mis Awst 2023.

 

Ffynhonnell: NOMIS, ONS Claimant Count – seasonally adjusted

Nodiadau: O fis Mai 2013 ymlaen, ystyrir mai ystadegau arbrofol yw’r ffigurau hyn. Dan y cynllun Credyd Cynhwysol, mae'n ofynnol i rychwant ehangach o hawlwyr chwilio am waith na chynllun y Lwfans Ceisio Gwaith. Wrth i Wasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol gael ei gyflwyno mewn ardaloedd penodol, mae’n debygol y bydd cynnydd yn nifer y bobl y cofnodir eu bod yn ei hawlio.

Arolwg o'r llafurlu

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn gweithio i drawsnewid yr LFS i wella’r cyfraddau ymateb ac ansawdd amcangyfrifon drwy newid dyluniad yr arolwg, cynyddu maint y sampl a defnyddio dulliau casglu data newydd. Bydd ffigurau o’r LFS wedi’i drawsnewid yn cael eu cyhoeddi yn y gwanwyn. Mewn blog, mae Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at bryderon ynghylch defnyddio ffigurau presennol yr LFS:

Yn y cyfamser, fodd bynnag, mae ffigurau’r LFS yn parhau i fod yn gyfnewidiol i Gymru, gan roi golwg ansicr o’r farchnad lafur pan edrychir arnynt ar wahân. Felly, mae’n bwysig ystyried gwybodaeth o ystod o ffynonellau. Mae’r LFS yn cynrychioli’r brif ffynhonnell ddata, ond cyn y fersiwn wedi’i drawsnewid y gwanwyn nesaf, argymhellir y dylid rhoi mwy o ystyriaeth i’r tueddiadau a ddangosir gan ffynonellau eraill.


Erthygl gan Joe Wilkes, Helen Jones, Božo Lugonja a Ahmed Ahmed Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru