Diweddariad o’r farchnad lafur ym mis Gorffennaf 2024

Cyhoeddwyd 05/08/2024   |   Amser darllen munudau

Gyda chostau byw a ffactorau economaidd eraill dan y chwyddwydr, mae gwybodaeth am gyflogaeth yn amhrisiadwy. Mae'r erthygl hon yn crynhoi ystod o ddata sydd wedi’u cyhoeddi ar y farchnad lafur yng Nghymru.

Beth y mae'r ffigyrau diweddaraf yn ei ddangos?

Mae’r prif dueddiadau yn y farchnad lafur fel a ganlyn:

  • Mae nifer y cyflogeion ar gyflogres yng Nghymru wedi parhau i gynyddu yn ystod y misoedd diwethaf, a’r nifer oedd 1.324 miliwn ym mis Mehefin 2024.
  • Ym mis Mai 2024, roedd yr enillion wythnosol cyfartalog 5.7 y cant yn uwch nag ar gyfer mis Mai 2023 tra bo chwyddiant y Mynegai Prisiau Defnyddwyr wedi gostwng i 2.0 y cant ym mis Mehefin 2024.
  • Arweiniodd y gostyngiad yn chwyddiant y Mynegai Prisiau Defnyddwyr i 2.0 y cant at Fanc Lloegr yn torri cyfraddau llog i 5.0 y cant.
  • Nifer y swyddi gwag yn y DU rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2024 oedd 889,000, sef gostyngiad 30,000 o'r chwarter blaenorol (Ionawr - Mawrth 2024).

Nifer y cyflogeion ar gyflogres

Mae’r SYG wedi bod yn gweithio gyda Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi i lunio amcangyfrifon amserol o gyflogeion sy’n cael eu talu drwy'r cynllun talu wrth ennill (TWE). Mae nifer y cyflogeion ar gyflogres yng Nghymru yn uwch na'r lefel cyn y pandemig, ac mae wedi arafu yn ystod y misoedd diwethaf.

Data TWE wedi'u haddasu'n dymhorol; pum mlynedd hyd at fis Mehefin 2024

Graff yn dangos gostyngiad mawr yn nifer y cyflogeion ar gyflogres yn ystod y cyfnod rhwng mis Mawrth 2020 a mis Mawrth 2021 i dan 1.23 miliwn. Cafwyd cynnydd wedi hyn i 1.324 miliwn erbyn mis Mehefin 2024.

 

Ffynhonnell: ONS PAYE – seasonally adjusted

Enillion wythnosol cyfartalog

Mae’r cynnydd o flwyddyn i flwyddyn mewn enillion wythnosol cyfartalog ar draws y DU yn uwch na’r gyfradd chwyddiant. Cyhoeddir data enillion Cymru bob blwyddyn yn yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion. Ond nid yw'r gyfradd chwyddiant ar gyfer Cymru ar gael.

Newid o flwyddyn i flwyddyn yn enillion wythnosol cyfartalog a chwyddiant y DU

Graff yn dangos chwyddiant y DU yn uwch na'r enillion wythnosol cyfartalog (cyfartaledd 3 mis) yn 2022-23. Ym mis Mai 2024, roedd yr enillion wythnosol cyfartalog 5.7% yn uwch nag ar gyfer Mai 2023 tra bod chwyddiant Mynegai Prisiau Defnyddwyr ar 2.0% rhwng mis Mehefin 2024

 

Ffynhonnell:Earnings and working hours and inflation and price indices, SYG

Swyddi gwag

Ar gyfer y DU, mae'r SYG yn cyhoeddi amcangyfrif o nifer y swyddi gwag ar gyfer y tri mis blaenorol. Mae'r amcangyfrifon hyn yn seiliedig ar yr Arolwg Swyddi Gwag lle y mae'r SYG yn arolygu cyflogwyr ar draws pob sector o'r economi. Rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2024, cofnodwyd bod 889,000 o swyddi gwag yn y DU, sef gostyngiad 30,000 o’r cyfnod rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2024. Gostyngodd niferoedd y swyddi gwag ar y chwarter am y 24ain cyfnod yn olynol rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2024, i lawr 3.3 y cant ers y cyfnod rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2024 gyda nifer y swyddi gwag yn gostwng mewn 14 o'r 18 sector diwydiant.

Nid yw data'r Arolwg Swyddi Gwag ar gael ar gyfer Cymru, ond mae'r SYG yn cyhoeddi mynegeion arbrofol o hysbysebion swyddi ar-lein. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am sawl miliwn o gofnodion hysbysebion swyddi bob mis o bob rhan o'r DU, wedi'u dadansoddi yn ôl categori swyddi a gwledydd y DU. Daeth yr ymchwydd mewn swyddi gwag ar ôl y pandemig i’r brig ym mis Chwefror 2022 ac mae wedi gostwng yn gyffredinol ers hynny.

Mynegai nifer amcangyfrifedig yr hysbysebion swyddi ar-lein a ddad-ddyblygwyd (Chwefror 2020 = 100)

Graff yn dangos y gostyngodd y mynegai o 100 ym mis Chwefror 2020 i 34 ym mis Mai 2020. Cynyddodd y mynegai i 134 erbyn mis Chwefror 2022 a gostyngodd i 80 erbyn mis Gorffennaf 2024.

 

Ffynhonnell:Online job advert estimates - Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk)

Hawlwyr budd-daliadau

Wrth i fwy o bobl symud o fudd-daliadau gwaddol i Gredyd Cynhwysol, mae'r ffordd o fesur nifer yr hawlwyr a diweithdra wedi newid. Mae'r prif ddata arbrofol a gyhoeddir gan y SYG yn ymwneud â nifer y bobl sy'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, ynghyd â'r rhai sy'n hawlio Credyd Cynhwysol ac mae'n ofynnol er mwyn ceisio gwaith a bod ar gael i weithio.

Roedd y nifer sy'n hawlio budd-daliadau wedi dyblu a mwy ar ddechrau'r pandemig. Gostyngodd y niferoedd yn gyson rhwng mis Awst 2020 a mis Gorffennaf 2022. Ers mis Gorffennaf 2022 mae nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau wedi aros rhwng 60,000 a 64,000 ac mae nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau ym mis Mehefin 2024 12 y cant yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig.

Nifer y rhai sy’n hawlio budd-daliadau ar gyfer Cymru; Pum mlynedd hyd at fis Mehefin 2024

Cynyddodd nifer y bobl sy’n hawlio budd-dal diweithdra o 58,130 ym mis Mawrth 2020 i 120,097 ym mis Awst 2020. Yna gostyngodd i 65,030 ym mis Mehefin 2024.

 

Ffynhonnell: NOMIS, ONS Claimant Count – seasonally adjusted

Nodiadau: O fis Mai 2013 ymlaen, ystyrir mai ystadegau arbrofol yw’r ffigurau hyn. Dan y cynllun Credyd Cynhwysol, mae'n ofynnol i rychwant ehangach o hawlwyr chwilio am waith na chynllun y Lwfans Ceisio Gwaith. Wrth i Wasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol gael ei gyflwyno mewn ardaloedd penodol, mae’n debygol y bydd cynnydd yn nifer y bobl y cofnodir eu bod yn ei hawlio.

Arolwg o'r llafurlu

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn gweithio i drawsnewid yr LFS i wella’r cyfraddau ymateb ac ansawdd amcangyfrifon drwy newid dyluniad yr arolwg, cynyddu maint y sampl a defnyddio dulliau casglu data newydd. Disgwylir i ffigurau'r Arolwg o’r Llafurlu (LFS) ar ei newydd wedd gael eu cyhoeddi yn yr hydref 2024. Mewn blog, mae Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at bryderon ynghylch defnyddio ffigurau presennol yr LFS:

Mae'r heriau parhaus o ran cyfraddau a lefelau ymateb, fodd bynnag, yn arwain at y caiff ystadegau'r farchnad lafur sy’n seiliedig ar yr arolwg eu galw’n ystadegau swyddogol sy'n cael eu datblygu nes bydd adolygiad pellach, ac rydym yn parhau i argymell pwyll wrth ddehongli newidiadau chwarterol. Byddem yn argymell defnyddio data’r LFS ochr yn ochr â'r tueddiadau a welir o ran dulliau eraill o fesur y farchnad lafur, yn enwedig Workforce Jobs (sef dull mesur swyddi yn chwarterol), nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau sy'n gysylltiedig â diweithdra a'r data Gwybodaeth Amser Real (RTI) gan Gyllid a Thollau ei Fawrhydi (sef nifer y gweithwyr ar gyflogres) i gael darlun cliriach o’r farchnad lafur yng Nghymru.


Erthygl gan Joe Wilkes, Helen Jones a Ahmed Ahmed Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru