Diweddariad mis Mawrth 2023 ar y farchnad lafur

Cyhoeddwyd 16/03/2023   |   Amser darllen munudau

Gyda chostau byw a ffactorau economaidd eraill dan y chwyddwydr, mae gwybodaeth am gyflogaeth yn amhrisiadwy. Mae'r erthygl hon yn crynhoi ystod o ddata sydd wedi’u cyhoeddi ar y farchnad lafur yng Nghymru.

Beth y mae'r ffigyrau diweddaraf yn ei ddangos?

Dyma’r tueddiadau allweddol yn y farchnad lafur:

  • Yn y DU, nifer y bobl ddi-waith fesul swydd wag oedd 1.1 rhwng mis Tachwedd 2022 a mis Ionawr 2023, sef cynnydd bach o gymharu â 1.0 yn y chwarter blaenorol (mis Awst i fis Hydref 2022).
  • Ledled y DU, Gogledd Iwerddon oedd â’r gyfradd anweithgarwch uchaf (26.4 y cant), ac yna Gogledd-ddwyrain Lloegr a Chymru (y ddau yn 24.9 y cant).
  • Yng Nghymru y gwelwyd y gostyngiad mwyaf yn y gyfradd cyflogaeth o gymharu â’r un cyfnod y llynedd (gostyngiad o 2.0 pwynt canran). Gogledd Iwerddon a Gogledd-ddwyrain Lloegr oedd â’r cyfraddau cyflogaeth isaf (71.8 y cant) ac yna Cymru (72.3 y cant)

Ar hyn o bryd, mae chwyddiant yn fwy na thwf cyflogau sy’n achosi i wir werth cyflogau ostwng. Mae arwyddion bod lefelau swyddi gwag yn dechrau gostwng a bydd disgwyl i hyn barhau gyda thwf economaidd yn aros yn ei unfan ac ansicrwydd ynghylch cyfraddau llog.

Nifer y cyflogeion ar gyflogres

Mae’r SYG wedi bod yn gweithio gyda Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi i lunio amcangyfrifon amserol o gyflogeion sy’n cael eu talu drwy'r cynllun talu wrth ennill (TWE). Mae nifer y cyflogeion ar gyflogres yng Nghymru yn uwch na'r lefel cyn y pandemig ac wedi parhau i gynyddu yn ystod y misoedd diwethaf.

Data TWE wedi'u haddasu'n dymhorol; pum mlynedd hyd at fis Chwefror 2023

Graff yn dangos gostyngiad mawr yn nifer y cyflogeion ar gyflogres yn ystod y cyfnod rhwng mis Mawrth 2020 a mis Mawrth 2021 i dan 1.23 miliwn. Cafwyd cynnydd wedi hyn i 1.307 miliwn erbyn mis Chwefror 2023.

 

Ffynhonnell:ONS PAYE – seasonally adjusted

Enillion wythnosol cyfartalog

Mae cynnydd o flwyddyn i flwyddyn mewn enillion wythnosol cyfartalog ar draws y DU yn is na’r gyfradd chwyddiant. Cyhoeddir data enillion Cymru bob blwyddyn yn yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion. Ond nid yw'r gyfradd chwyddiant ar gyfer Cymru ar gael.

Newid o flwyddyn i flwyddyn yn enillion wythnosol cyfartalog a chwyddiant y DU

Graff yn dangos chwyddiant y DU yn fwy na'r enillion wythnosol cyfartalog (cyfartaledd 3 mis) yn 2022-23. Ym mis Ionawr 2023, roedd yr enillion wythnosol cyfartalog 5.7 y cant yn uwch nag ar gyfer mis Ionawr 2022 tra bo chwyddiant y Mynegai Prisiau Defnyddwyr ar 10.1 y cant.

 

Ffynhonnell:Earnings and working hours and inflation and price indices, SYG

Swyddi gwag

Ar gyfer y DU, mae'r SYG yn cyhoeddi amcangyfrif o nifer y swyddi gwag ar gyfer y tri mis blaenorol. Mae'r amcangyfrifon hyn yn seiliedig ar yr Arolwg Swyddi Gwag lle y mae'r SYG yn arolygu cyflogwyr ar draws pob sector o'r economi. Rhwng mis Rhagfyr 2022 a mis Chwefror 2023, cofnodwyd bod 1,124,000 o swyddi gwag yn y DU, sef gostyngiad 51,000 o’r cyfnod rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2022. Rhwng mis Tachwedd 2022 a mis Ionawr 2023, nifer y bobl ddi-waith fesul swydd wag oedd 1.1, sef cynnydd bach o gymharu â’r chwarter blaenorol (mis Awst i fis Hydref 2022), sy’n arwydd o farchnad brin o lafur.

Nid yw data'r Arolwg Swyddi Gwag ar gael ar gyfer Cymru, ond mae'r SYG yn cyhoeddi mynegeion arbrofol o hysbysebion swyddi ar-lein. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am sawl miliwn o gofnodion hysbysebion swyddi bob mis o bob rhan o'r DU, wedi'u dadansoddi yn ôl categori swyddi a gwledydd y DU. Daeth yr ymchwydd mewn swyddi gwag ar ôl y pandemig i’r brig ym mis Tachwedd 2021 ac mae wedi gostwng yn gyffredinol ers hynny.

Mynegai nifer amcangyfrifedig yr hysbysebion swyddi ar-lein a ddad-ddyblygwyd (Chwefror 2020 = 100)

Graff yn dangos bod y mynegai wedi gostwng o 100 ym mis Chwefror 2020 i 34 ym mis Mai 2020. Cynyddodd y mynegai i 137 erbyn mis Tachwedd 2021 a gostyngodd i 116 erbyn mis Rhagfyr 2022.Graff yn dangos bod y mynegai wedi gostwng o 100 ym mis Chwefror 2020 i 34 ym mis Mai 2020. Cynyddodd y mynegai i 137 erbyn mis Tachwedd 2021 a gostyngodd i 116 erbyn mis Rhagfyr 2022.Graff yn dangos bod y mynegai wedi gostwng o 100 ym mis Chwefror 2020 i 34 ym mis Mai 2020. Cynyddodd y mynegai i 134 erbyn mis Chwefror 2022 a gostyngodd i 106 erbyn mis Mawrth 2023.

 

Ffynhonnell:Online job advert estimates - Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk)

Hawlwyr budd-daliadau

Wrth i fwy o bobl symud o fudd-daliadau gwaddol i Gredyd Cynhwysol, mae'r ffordd o fesur nifer yr hawlwyr a diweithdra wedi newid. Mae'r prif ddata arbrofol a gyhoeddir gan y SYG yn ymwneud â nifer y bobl sy'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, ynghyd â'r rhai sy'n hawlio Credyd Cynhwysol ac mae'n ofynnol er mwyn ceisio gwaith a bod ar gael i weithio.

Roedd y nifer sy'n hawlio budd-daliadau wedi dyblu a mwy ar ddechrau'r pandemig. Gostyngodd y niferoedd yn gyson rhwng mis Awst 2020 a mis Gorffennaf 2022. Ers mis Gorffennaf 2022 mae nifer y bobl sy’n hawlio budd-dal diweithdra wedi aros rhwng 60,000 a 64,000 ac mae nifer y bobl sy’n hawlio budd-dal diweithdra ym mis Chwefror 2023 3% yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig.

Nifer y rhai sy’n hawlio budd-daliadau ar gyfer Cymru; Tair blynedd hyd at fis Chwefror 2023

Cynyddodd nifer y bobl sy’n hawlio budd-dal diweithdra o 58,365 ym mis Mawrth 2020 i 119,865 ym mis Awst 2020. Yna gostyngodd i 60,303 ym mis Chwefror 2023.

 

Ffynhonnell: NOMIS, ONS Claimant Count – seasonally adjusted

Nodiadau: O fis Mai 2013 ymlaen, ystyrir mai ystadegau arbrofol yw’r ffigurau hyn. Dan y cynllun Credyd Cynhwysol, mae'n ofynnol i rychwant ehangach o hawlwyr chwilio am waith na chynllun y Lwfans Ceisio Gwaith. Wrth i Wasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol gael ei gyflwyno mewn ardaloedd penodol, mae’n debygol y bydd cynnydd yn nifer y bobl y cofnodir eu bod yn ei hawlio.

Arolwg o'r llafurlu

Mae'r arolwg o'r llafurlu yn arolwg aelwydydd chwarterol o tua 80,000 o oedolion. Mae'n gofyn ystod o gwestiynau ar gyflogaeth ac, yn draddodiadol, mae'r canlyniadau wedi’u defnyddio fel prif ddangosyddion y farchnad lafur.

Mae'r amcangyfrifon yn cyfeirio at y cyfnod tri mis blaenorol. Oherwydd yr oedi, mae datganiad diweddaraf y farchnad lafur a gyhoeddwyd ar 14 Mawrth 2023 yn rhoi gwybodaeth o fis Tachwedd 2022 i fis Ionawr 2023.

Ar gyfer y cyfnod rhwng mis Tachwedd 2022 a mis Ionawr 2023, 24.9 y cant oedd y gyfradd anweithgarwch economaidd i bobl rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru, sy’n is na 25.1 y cant yn y chwarter blaenorol (mis Awst i fis Hydref 2022). Mae hwn yn lleihad o 3,000 o bobl i 476,000.

Prif ystadegau’r arolwg o’r llafurlu ar gyfer Cymru, mis Tachwedd 2022 i fis Ionawr 2023

Mewn gwaith

16-64 oed:

72.3%

- - - - - - - - - - -

16+ oed:

1,442,000

▼ 6,000

 

Di-waith

16+ oed:

3.5%

- - - - - - - - - - -

16+ oed:

53,000

▼ 2,000

 

Anweithgarwch economaidd

16-64 oed:

24.9%

- - - - - - - - - - -

16-64 oed:

476,000

▼ 3,000

 

Mae'r newidiadau o'r chwarter blaenorol, sef mis Awst i fis Hydref 2022

Ffynhonnell: SYG, Regional labour market: Headline indicators for Wales

Mae’r arolwg o'r llafurlu yn dangos bod y lefelau diweithdra diweddar yng Nghymru yn agos at y lefelau cyn y pandemig. Mae hyn yn debyg i'r duedd ar gyfer y DU. O’i chymharu ar draws gwledydd y DU, mae'r gyfradd ddiweithdra yng Nghymru yn is na Lloegr ac yn uwch na Gogledd Iwerddon a'r Alban.

Canran y bobl 16 oed a hŷn sy'n ddi-waith, gwledydd y DU; pum mlynedd hyd at fis Tachwedd 2022- mis Ionawr 2023

Graff yn dangos gostyngiad cyffredinol yng nghyfradd ddiweithdra Cymru o dros 4.5 y cant yn 2017 i dan 3 y cant ddechrau 2020. Yn dilyn hyn, daeth i frig bron 5 y cant yn ystod y cyfnod rhwng mis Rhagfyr 2020 a mis Chwefror 2021. Dilynodd cyfradd ddiweithdra'r DU batrwm tebyg. Y ffigyrau ar gyfer y cyfnod diweddaraf (mis Tachwedd 2022 i fis Ionawr 2023) yw Gogledd Iwerddon 2.4 y cant, Yr Alban 3.1 y cant, Cymru 3.5 y cant, Lloegr 3.8 y cant a'r DU 3.7 y cant.

 

Ffynhonnell: SYG, Labour market in the regions of the UK: Mawrth 2023

Mae data o'r arolwg o’r llafurlu sydd ar gael yn dangos y gyfradd ddiweithdra yn ôl rhyw ac oedran ar gyfer y 12 mis hyd at fis Medi 2022. Oherwydd maint cyfyngedig y sampl, nid oes llawer o hyder ar y niferoedd hyn. Fodd bynnag, mae cyfraddau diweithdra yn sylweddol uwch ar gyfer dynion na menywod yn y grŵp oedran 16-24 oed.

Cyfradd ddiweithdra yn ôl oedran a rhyw yng Nghymru; 12 mis hyd at fis Medi 2022

16-24 oed: Gwrywod 11.2 y cant, benywod 5.3 y cant. 25-49 oed: Gwrywod 2.3 y cant, benywod 2.7 y cant. 50-64 oed: Gwrywod 2.6 y cant, benywod 1.9 y cant. Mae cyfryngau hyder ymhlith gwrywod a benywod yn gorgyffwrdd ym mhob grŵp oedran. Mae cyfyngau hyder gwrywaidd a benywaidd yn gorgyffwrdd yn y grwpiau oedran 25-49 a 50-64 oed.

 

Ffynhonnell:Nomis

Diffiniadau’r arolwg o'r llafurlu

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn esbonio ei bod wedi gwneud newidiadau i’r arolwg o’r llafurlu:

Mae’r ymatebion i’r arolwg o’r llafurlu wedi’u hailbwysoli i boblogaethau newydd sydd wedi’u deillio drwy ddefnyddio cyfraddau twf o Wybodaeth Amser Real Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (Cyllid a Thollau EF), i ganiatáu ar gyfer tueddiadau gwahanol yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). Bydd yr ailbwysoli’n rhoi amcangyfrifon gwell o'r cyfraddau a'r lefelau.

Mae nifer y bobl ddi-waith yn y DU yn cynnwys pobl sy'n bodloni'r diffiniad o ddiweithdra a nodir gan y Sefydliad Llafur Rhyngwladol. Mae'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol yn diffinio pobl ddi-waith fel a ganlyn:

  • y rhai heb swydd, sydd wedi bod wrthi'n chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf ac sydd ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf
  • y rhai di-waith, sydd wedi dod o hyd i swydd ac yn aros i'w dechrau yn y pythefnos nesaf

Mae cyflogaeth yn mesur nifer y bobl 16 oed neu’n hŷn sydd mewn gwaith am dâl. Y prif fesur o gyflogaeth ar gyfer y DU yw'r gyfradd gyflogaeth ar gyfer y rhai rhwng 16 a 64 oed.

Y prif fesur o anweithgarwch yn y DU yw cyfradd y rhai rhwng 16 a 64 oed heb swydd nad ydynt wedi chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf a/neu nad ydynt ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf.


Erthygl gan Joe Wilkes a Helen Jones, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru