Yn dilyn penderfyniad y Prif Weinidog ym mis Mehefin 2019 i beidio â bwrw ymlaen â ffordd liniaru’r M4, sefydlwyd Comisiwn Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru gan Lywodraeth Cymru. Ym mis Rhagfyr 2019, cyhoeddodd y Comisiwn ddiweddariad ar y cynnydd a wnaed ganddo, a hynny cyn cyhoeddi ei adroddiad interim yn y gwanwyn a'i adroddiad terfynol tua diwedd 2020.
Yn ein blog blaenorol, gwnaethom amlinellu cefndir y materion dan sylw. Gwnaethom hefyd gynnwys rhai ymatebion cychwynnol i'r penderfyniad i beidio ag adeiladu ffordd liniaru'r M4, a hynny cyn y ddadl a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru ar 25 Mehefin 2019.
Beth yw rôl y Comisiwn?
Ar 5 Mehefin, amlinellodd Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, gylch gwaith Comisiwn Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru:
Bydd y Comisiynydd yn edrych ar y gwaith helaeth y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud ar hyn, ar y syniadau amgen a gynigiwyd yn yr Ymchwiliad Cyhoeddus i Brosiect yr M4 a hefyd ar ffyrdd newydd o redeg ac ariannu ateb posibl. Bydd felly gofyn am ffyrdd newydd o weithio gyda phartneriaid lleol a strategol…i wella'r llif ar yr M4 ond gan osgoi effeithiau ar gymunedau lleol.
Yn ogystal, amlinellodd y Gweinidog y camau cychwynnol y byddai Llywodraeth Cymru yn eu cymryd ar unwaith, gan gynnwys defnyddio swyddogion traffig ychwanegol i leihau digwyddiadau ac osgoi cau lonydd.
Cyhoeddwyd cylch gorchwyl y Comisiwn hefyd ar 5 Mehefin. Ar 2 Hydref, cyhoeddodd y Gweinidog enwau’r saith Comisiynydd a oedd wedi’u penodi, gan nodi mai’r Arglwydd Terry Burns oedd Cadeirydd y Comisiwn.
Cyhoeddodd y Comisiwn y ddogfen 'Ein Dull o Weithio' ar 16 Hydref. Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r camau y mae'r Comisiwn yn ceisio eu cymryd wrth ddatblygu ei argymhellion i leihau tagfeydd. Cytunodd y Comisiwn ar wyth egwyddor i lywio ei waith, gan gynnwys:
- mynd i’r afael â’r broblem o’r newydd, gan ystyried yr hyn sydd wrth wraidd y tagfeydd;
- ystyried opsiynau sy’n cynnwys pob math o drafnidiaeth, gan gynnwys integreiddio rhyngddynt;
- peidio â chyfyngu ei hun i gasgliadau astudiaethau blaenorol o’r broblem; a
- chynnwys ystod amrywiol o bobl yn ei waith, gan gynnwys y rhai sy’n byw, yn gweithio neu’n cymudo yn yr ardal, neu sydd â diddordeb ynddi.
Mae’r ddogfen hefyd yn nodi bod un o'r Comisiynwyr, Beverly Owen, wedi'i chynnwys fel 'Cynrychiolydd Casnewydd', a hynny er mwyn ‘adlewyrchu’r effaith benodol y mae’r problemau’n ei chael ar ddinas Casnewydd'. Bydd ganddi fynediad at waith y Comisiwn, a bydd yn cymryd rhan mewn trafodaethau, ond ni fydd yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau.
Tair buddugoliaeth gyflym
Ar 17 Rhagfyr, cyhoeddodd y Comisiwn 'Ddiweddariad ar gynnydd', yn cynnwys mesurau brys yr oedd Llywodraeth Cymru wedi gofyn iddo eu darparu.
Mae'r adroddiad yn amlinellu canfyddiadau'r Comisiwn hyd yn hyn. Mae'n tynnu sylw at y materion a ganlyn:
[Mae’r] galw ar hyn o bryd ryw 1,000–1,500 o gerbydau [yr awr] dros y lefel sydd ei hangen ar gyfer siwrneiau dibynadwy. Mae hyn yn rhoi syniad inni o faint y newid a allai fod ei angen i leihau tagfeydd.
Yn yr adroddiad, mae'r Comisiwn yn nodi meysydd lle gallai wneud argymhellion yn y dyfodol. Mae'r rhain yn cynnwys gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus i roi rhagor o ddewis ar gyfer siwrneiau rhwng Caerdydd, Casnewydd a Bryste; gwelliannau i’r ffyrdd; polisïau ar ddefnyddio tir a chynllunio trafnidiaeth; ynghyd â chamau i integreiddio mathau gwahanol o drafnidiaeth at ddibenion cael teithiau mwy hyblyg.
Mae'r Comisiwn yn awgrymu tri mesur penodol y mae'n argymell y dylai Lywodraeth Cymru eu gweithredu ar frys fel pecyn, a hynny am gost gyfalaf o tua £1–2 miliwn:
- Cael gwared ar y terfyn cyflymder amrywiol rhwng Cyffordd 24 (Coldra) a Chyffordd 28 (Parc Tredegar) a chyflwyno system rheoli cyflymder cyfartalog o 50mya yn yr un mannau;
- Rhoi canllawiau ychwanegol ar y ffordd sy’n dynesu at dwneli Bryn-glas tua'r gorllewin, a defnyddio ymyriadau ffisegol i atal gyrwyr rhag newid lôn yn hwyr; a
- Gwella’r cymorth gan swyddogion traffig drwy ddefnyddio targedau amser ar gyfer ymateb, ac estyn y patrolau i gynnwys yr A48 a’r A4810 yng Nghasnewydd.
Mae'r Comisiwn yn ei gwneud yn glir nad yw'n 'awgrymu y bydd y mesurau hyn yn dileu tagfeydd yn gyfan gwbl'. Yn hytrach, y diben yw darparu argymhellion brys i wella llif y traffig ac amseroedd teithio yn y tymor byr. Mae'n dweud na ddylai'r argymhellion hyn rhagfarnu’r casgliadau terfynol na chael effaith negyddol arnynt. Mae'r Comisiwn yn tynnu sylw at y ffaith y cafodd yr adroddiad hwn ei gyhoeddi ychydig fisoedd ar ôl ei sefydlu. Mae'n pwysleisio, felly, fod yr adroddiad 'yn cynnwys ond canfyddiadau cyfyngedig ac argymhellion cychwynnol'.
System rheoli cyflymder 50mya
Ar hyn o bryd, defnyddir terfynau cyflymder 50mya ar y draffordd rhwng cyffordd 25 a chyffordd 26, gyda’r nod o wella ansawdd yr aer. Argymhellodd y Comisiwn y dylid ymestyn y terfynau hyn ymhellach ar hyd yr M4.
Mae dadansoddiad y Comisiwn yn awgrymu bod system rheoli cyflymder cyfartalog yn helpu i wella cysondeb llif y traffig drwy annog gyrwyr i deithio ar gyflymder mwy cyson. Mae'r dadansoddiad hefyd yn dangos mai 50mya yw'r cyflymder gorau posibl o ran amseroedd teithio ond hefyd o ran ansawdd aer a sŵn. Mae'n dweud y dylid gorfodi’r gyfundrefn hon drwy osod cyfres o gamerâu i sicrhau cydymffurfedd drwy gydol y rhan o’r ffordd sy’n cael ei rheoli.
Canllawiau ar lonydd
Canfu'r Comisiwn fod newid lôn yn hwyr yn un o’r pethau sy’n amharu ar lif traffig ar yr M4. Gwelir y problemau gwaethaf ar gyffordd 25A, ar y ffyrdd sy’n dynesu at dwneli Brynglas, lle mae'r draffordd yn culhau o dair lôn i ddwy.
Mae'r Comisiwn yn argymell y dylai'r marciau gwyn ar y lôn fod yn hwy, gan nodi y bydd y cam hwnnw, i bob pwrpas, yn gwneud y ffordd ymadael yn hwy ac yn ei symud i ffwrdd o’r twneli. Yn ogystal, hoffai weld bolardiau y gellir eu cwympo i gyfeirio gyrwyr at y lôn gywir yn gynt, a hynny er mwyn atal gyrwyr rhag newid lôn yn hwyr. Dylai rhifau'r ffyrdd hefyd gael eu marcio'n glir ar bob un o'r lonydd. Mae ffigurau 1 a 2 isod yn dangos y materion y mae’r adroddiad yn eu codi.
Ffigur 1: effaith grychdonni newid lôn yn hwyr
Ffynhonnell: Comisiwn Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru: ‘Diweddariad ar Gynnydd’
Ffigur 2: y mesurau a argymhellir gan y Comisiwn ar gyfer canllawiau ychwanegol ar y lonydd
Ffynhonnell: Comisiwn Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru: ‘Diweddariad ar Gynnydd’
Cymorth gan swyddogion traffig
Ar ôl i’r penderfyniad ar yr M4 gael ei wneud, cyflwynodd Llywodraeth Cymru fesurau traffig ychwanegol, gan gynnwys swyddogion traffig ychwanegol.
Mae'r Comisiwn yn argymell bod y Llywodraeth yn ategu’r cymorth hwn drwy gyflwyno targedau amser i swyddogion traffig gyrraedd digwyddiadau. Mae hefyd yn awgrymu y dylid adolygu’r offer a ddefnyddir gan swyddogion traffig er mwyn sicrhau bod y swyddogion yn cario'r offer gorau i ddatrys digwyddiadau.
Beth yw'r cam nesaf?
[Bydd y Comisiwn] yn cyflwyno eu camau gweithredu sydd ar gael yn fwyaf parod…Yn sicr, nid wyf i eisiau aros i'r syniadau hynny gael eu rhoi ar waith nes cael rhannau pellach yn y broses adrodd…ni fyddem yn dymuno atal dim y gallwn fwrw ymlaen ag ef mewn modd mor gyflym ag y gallwn.
Nod y Comisiwn yw cyhoeddi adroddiad interim yn y Gwanwyn, ac adroddiad terfynol erbyn diwedd 2020.
Bydd yr Arglwydd Burns, Cadeirydd y Comisiwn, yn darparu diweddariad i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn y Cynulliad ar 6 Chwefror, a bydd modd gweld y sesiwn honno ar SeneddTV.
Erthygl gan Lucy Morgan, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru