Mae’r cynlluniau i wahardd rasio milgwn yng Nghymru yn gymhleth ac yn ddadleuol, ac nid yw Pwyllgor Diwylliant y Senedd wedi gallu cytuno ar safbwynt pendant ar y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru).
Canfu’r Pwyllgor, sydd wedi bod yn craffu ar y Bil, fod llawer o'r dystiolaeth sydd wedi dod i law yn cael ei herio. Roedd yn feirniadol o’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu gwahardd rasio milgwn heb ddilyn dull trylwyr, seiliedig ar dystiolaeth, wrth ddatblygu'r Bil.
Mae'r erthygl hon yn nodi rhai o'r materion a godwyd wrth graffu ar y Bil yng Nghyfnod 1. Mae manylion pellach yn eu cylch wedi’u cynnwys yn adroddiad y Pwyllgor Diwylliant.
Camp sy’n tynnu tua’r terfyn?
Mae Cymru yn un o nifer fach o wledydd lle mae rasio milgwn masnachol yn parhau i ddigwydd; y lleill yw Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Gweriniaeth Iwerddon, Awstralia, Seland Newydd, Mecsico, Fietnam ac UDA. Fodd bynnag, mae gan sawl un o'r gwledydd hyn gynlluniau i ddiddymu'r gamp yn raddol.
Yn hanesyddol, mae rasio wedi digwydd ar draciau a elwir yn “draciau fflapio” – lleoliadau amatur lle cynhelir rasio o natur gymharol anffurfiol. Fodd bynnag, caiff rasio milgwn ym Mhrydain Fawr ei weithredu'n fasnachol yn bennaf, a hynny o dan drefniadau llywodraethu Bwrdd Milgwn Prydain Fawr (GBGB).
Mae bellach wedi dod yn gamp ymylol, ac yng Nghymru, dim ond un trac rasio milgwn sydd ar ôl, sef Stadiwm Milgwn Valley yn Ystrad Mynach, sydd wedi cael ei reoleiddio gan GBGB ers 2023.
Mwy o amddiffyniadau gan y Llywodraeth ar gyfer lles milgwn yn Lloegr
Yng Nghymru, nid oes deddfwriaeth benodol sy'n ymdrin â lles milgwn rasio. Mae eu lles yn cael ei ddiogelu o dan ddeddfwriaeth lles anifeiliaid ehangach. Mae Deddf Lles Anifeiliaid 2006 (Deddf 2006) yn cynnwys darpariaethau cyffredinol sy’n ymwneud â lles anifeiliaid, ac mae’n gymwys yng Nghymru a Lloegr. Mae’n caniatáu cymryd camau pan fo tystiolaeth ar gael sy’n ymwneud â chreulondeb neu fethiant i ddarparu ar gyfer anghenion lles anifail.
Mae adran 13 o Ddeddf 2006 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru a Gweinidogion y DU wneud rheoliadau er mwyn cyflwyno cynlluniau trwyddedu i hyrwyddo lles anifeiliaid. Er bod y pwerau hyn wedi cael eu defnyddio yn Lloegr i drwyddedu traciau rasio milgwn drwy Reoliadau Lles Milgwn Rasio 2010, nid ydynt wedi cael eu defnyddio at y diben hwn yng Nghymru.
Gwrthwynebwyr yn herio gwaharddiad ar sail foesegol ac ar sail diogelu lles anifeiliaid
Mae rhesymeg Llywodraeth Cymru ar gyfer gwahardd rasio milgwn wedi’i seilio ar ddadleuon moesegol a dadleuon sy’n ymwneud â lles anifeiliaid.
Mae'r Llywodraeth yn dadlau nad oes modd gwella safonau lles drwy reoleiddio/trwyddedu pellach, ac mai gwahardd rasio yw'r ffordd orau o amddiffyn milgwn.
Wrth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Diwylliant, nododd sefydliadau lles anifeiliaid eu pryderon ynghylch lles milgwn drwy gyfeirio at ddata GBGB mewn perthynas ag anafiadau, marwolaethau ac ymddeoliadau. Dywedodd clymblaid Cut the Chase:
GBGB’s own figures show that over 4,000 greyhounds died and over 35,000 injuries were recorded as a result of licensed greyhound racing between 2018 and 2024 [GB-wide data].
Roedd llawer yn dadlau na fyddai rheoleiddio yn atal anafiadau na marwolaethau, gan gyfeirio at beryglon cynhenid rasio. Cafodd y straen ffisiolegol a’r gwrthdrawiadau sy’n cael eu hachosi gan y troadau a welir mewn traciau hirgrwn eu nodi fel materion allweddol.
Pwysleisiodd grwpiau lles anifeiliaid fod eu pryderon yn ymestyn y tu hwnt i rasio, gan gwmpasu cylch bywyd cyfan milgwn, gan gynnwys y canlynol: ewthaneiddio cŵn y bernir nad ydynt mewn cyflwr i rasio, gorfridio, amodau diffygiol o ran cadw a chludo cŵn, a chanlyniadau gwael ar ôl iddynt ymddeol. Fodd bynnag pwysleisiodd Comisiwn Lles Anifeiliaid yr Alban (SAWC) fod y rhan fwyaf o dystiolaeth academaidd yn canolbwyntio ar les ar y trac, a bod prinder astudiaethau ynghylch materion lles ehangach.
Roedd gwrthwynebwyr y Bil yn cydnabod bod anafiadau'n digwydd, ond roeddent yn dadlau bod safonau lles o fewn y diwydiant wedi gwella'n sylweddol o dan oruchwyliaeth GBGB. Fel tystiolaeth o’r ymrwymiad i les milgwn, tynnodd GBGB sylw at fesurau fel gofal milfeddygol gwell, trefniadau adrodd gorfodol o ran anafiadau, a mentrau ailgartrefu.
Rhybuddiodd rhai y gallai’r rhesymeg foesegol sy’n sail i'r Bil gael ei hymestyn i weithgareddau eraill sy’n ymwneud ag anifeiliaid, fel rasio ceffylau. Roedd awgrym, felly, fod y cynnig yn adlewyrchu safbwynt ideolegol a gwleidyddol, yn hytrach na ffocws ar les anifeiliaid.
Gan nodi bod y gwaharddiad wedi'i gyfyngu i rasio yng Nghymru, tynnodd nifer o randdeiliaid sylw at y ffaith y byddai modd cadw cŵn yng Nghymru a’u cludo i Loegr i rasio, gan arwain at amseroedd teithio estynedig.
Mae'r Pwyllgor Diwylliant wedi dod i'r casgliad, o ystyried y dystiolaeth anghyflawn a dadleuol sydd wedi dod i law, y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi cynnal gwerthusiad trylwyr o faterion lles, a’r data, er mwyn sefydlu sail dystiolaeth gadarn cyn gwneud y penderfyniad i ddeddfu. Teimlai rhai Aelodau y dylid bod wedi cyflwyno rheoleiddio pellach cyn cyflwyno gwaharddiad, a hynny fel rhan o ddull gweithredu graddol.
Effeithiau diwylliannol ac economaidd heb eu harchwilio'n llawn
Cyflwynodd gwrthwynebwyr y Bil ddadleuon o blaid y manteision diwylliannol ac economaidd sy’n gysylltiedig â rasio milgwn.
Cyfeiriodd GBGB at y rôl hanesyddol y mae rasio milgwn wedi'i chwarae fel gweithgaredd gwledig mewn ardaloedd sydd, yn draddodiadol, wedi cael eu tanwasanaethu. Dywedodd GBGB fod 85 o unigolion yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol mewn cysylltiad â Stadiwm Milgwn y Valley.
O safbwynt Llywodraeth Cymru, dywedodd Huw Irranca-Davies AS, yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil, wrth y Pwyllgor Diwylliant: “…we are still not clear on the number of people who are actually employed at the track, as opposed to a headline figure.”
Nododd fod data Tŷ'r Cwmnïau yn dangos bod gan Stadiwm Milgwn y Valley un cyflogai.
Dywedodd Stadiwm Milgwn y Valley wrth y Pwyllgor Diwylliant ei fod wedi buddsoddi £2 miliwn mewn gwaith uwchraddio er mwyn dod yn drac GBGB rheoleiddiedig. Fodd bynnag, dywedodd Greyhound Rescue Wales nad oedd cyfrifon cyhoeddedig y Stadiwm yn cefnogi’r honiad hwn.
Yn ôl amcangyfrif ceidwadol gan Sports Information Services, gallai hawliau’r cyfryngau ddarparu £15 miliwn i Stadiwm Milgwn y Valley dros gyfnod o bum mlynedd, a dywedodd y cwmni y byddai'r rhan fwyaf o hyn o fudd i'r gymuned leol.
Mynegodd cynrychiolwyr o’r diwydiant bryder ynghylch y ffaith nad oedd yr effeithiau economaidd a diwylliannol wedi'u harchwilio'n llawn.
Nododd y Pwyllgor Diwylliant y diffyg gwaith dadansoddi hwn, gan argymell bod Llywodraeth Cymru yn cynnal asesiad cynhwysfawr o oblygiadau economaidd a chymdeithasol y Bil cyn iddo gael ei ddwyn i rym.
Beirniadaeth ynghylch y broses o ddatblygu polisi
Pwysleisiodd yr Aelod sy’n gyfrifol gefnogaeth y cyhoedd i'r gwaharddiad, gan awgrymu bod y gefnogaeth hon yn sail allweddol i'r cynnig. Roedd yr ymgynghoriad a gynhaliodd Llywodraeth Cymru yn 2023 mewn perthynas â thrwyddedu sefydliadau lles, gweithgareddau ac arddangosfeydd anifeiliaid yn cynnwys dau gwestiwn ar rasio milgwn, ymhlith nifer o faterion eraill o ran lles anifeiliaid. O'r 1,031 o ymatebion a ddaeth i law mewn ymateb i'r cwestiwn ar gyflwyno gwaharddiad graddol ar rasio, roedd 64.7% yn cefnogi gwaharddiad. Roedd y Pwyllgor Diwylliant yn pryderu nad oedd yr ymgynghoriad yn canolbwyntio'n bennaf ar y gwaharddiad arfaethedig, a'i fod yn dibynnu ar fethodoleg hunan-ddewis, a oedd yn agored i ragfarn. Cynhaliodd y Pwyllgor ei arolwg ymgysylltu ei hun er mwyn casglu safbwyntiau’r cyhoedd. Roedd y data’n dangos bod gwahaniaeth barn.
Roedd cytundeb cyllidebol Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror (a gafodd ei gyhoeddi ddau ddiwrnod ar ôl cyhoeddi’r bwriad i gyflwyno gwaharddiad) yn cynnwys camau i wahardd rasio milgwn yng Nghymru. Mae'r Pwyllgor Diwylliant yn honni bod y penderfyniad i flaenoriaethu'r Bil hwn wedi deillio o'r cytundeb cyllidebol, ac felly "wedi cwtogi ar y broses arferol o ddatblygu polisi", gan bwysleisio:
Dylai tystiolaeth ac ymgynghori ragflaenu deddfwriaeth, ond cyflwynwyd y Bil heb sail dystiolaeth y cytunwyd arni, nac asesiadau effaith cyflawn, nac ymgysylltu cynhwysfawr â'r cyhoedd, chwaith.
Nid oedd Pwyllgor Diwylliant y Senedd yn gallu cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol
Nid oedd modd i’r Pwyllgor Diwylliant gytuno ar safbwynt pendant ynghylch egwyddorion cyffredinol y Bil, ac yn hynny o beth, nododd y Pwyllgor ddiffyg sail dystiolaeth glir a chadarn.
Aelodau o'r Senedd fydd yn gyfrifol am drafod y dystiolaeth sydd ar gael ar gyfer y bleidlais a gynhelir ar 16 Rhagfyr, a’r bleidlais hon fydd yn penderfynu a yw’r Bil yn symud ymlaen at gyfnod nesaf y broses ddeddfwriaethol. Gwyliwch y ddadl yn fyw ar Senedd.tv.
Mae rhagor o adnoddau mewn perthynas â’r Bil ar gael ar wefan Ymchwil y Senedd.
Erthygl gan Dr Katy Orford, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru