Mae ymddygiad a disgyblaeth disgyblion yn cael llawer o sylw ar hyn o bryd, gan gynnwys yn y Senedd. Mae hyn wedi bod yn arbennig o wir ers i ferch 14 oed gael dedfryd o 15 mlynedd yn y carchar am ymgais i lofruddio dau athro a disgybl mewn ysgol yn Sir Gaerfyrddin.
Mae digwyddiadau o'r raddfa honno'n brin, er bod undebau sy'n cynrychioli staff ysgolion wedi sôn am y broblem gynyddol o ymddygiad disgyblion, gan gynnwys ymddygiad ymosodol a thrais. Mae hyn yn adlewyrchu pryderon tebyg a godwyd yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae pobl ifanc eu hunain hefyd yn codi pryderon, gan gynnwys Pwyllgor Trosedd a Diogelwch Senedd Ieuenctid Cymru. Yn ddealladwy mae dadleuon ynghylch beth arall sydd angen ei wneud a chan bwy.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn cyhoeddi canllawiau a pholisïau gyda’r nod o helpu ysgolion i reoli ymddygiad yn effeithiol. Rhaid i ysgolion gael polisi ymddygiad ysgrifenedig ac mae'n ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion ymgynghori â'r pennaeth, y staff, y rhieni a gofalwyr, a disgyblion ynghylch egwyddorion y polisi.
Beth yw maint a natur y broblem?
Ym mis Mawrth 2025 nododd NASUWT fod yr argyfwng ymddygiad yng Nghymru yn gwaethygu wrth i athrawon dynnu sylw at drais gan ddisgyblion ac effaith negyddol hyn ar iechyd. Roedd canfyddiadau NASUWT yn cynnwys bod awdurdodau lleol wedi cael 6,446 o adroddiadau am ddigwyddiadau treisgar gan ysgolion yn 2023/24, o'i gymharu â 4,714 yn y flwyddyn flaenorol; a bod 35.5% o athrawon wedi wynebu cam-drin corfforol neu drais gan ddisgyblion yn y flwyddyn ddiwethaf, gyda 92% wedi profi cam-drin geiriol.
Yn 2022, tynnodd UNSAIN sylw hefyd at y broblem gynyddol o drais tuag at staff ysgolion, ac mae wedi cyhoeddi cyngor i'w aelodau.
Cafodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd dystiolaeth ysgrifenedig ar y pwnc hwn gan undebau athrawon a staff cymorth (NASUWT, NEU ac UNSAIN) yn ôl yn 2022. Roedd hyn yn deillio o'i ymchwiliad i aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, a oedd yn edrych ar a oedd hyn yn broblem a oedd hefyd yn effeithio ar athrawon. Roedd ymatebion yr undebau yn dangos eu bod yn pryderu am drais tuag at staff ysgolion yn fwy cyffredinol.
Yna ysgrifennodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a'r Gweinidog ar y pryd, Jeremy Miles AS. Gweler yma am yr ymatebion gan CLlLC a’r Gweinidog, a Sylwadau UNSAIN ar lythyr CLlLC.
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud?
Yn gynharach y mis hwn, cynhaliodd Llywodraeth Cymru gyfarfod “bord gron ar drais a diogelwch mewn ysgolion a cholegau”, dan gadeiryddiaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle AS. Yn dilyn hyn fydd “uwchgynhadledd genedlaethol ar ymddygiad”, a gynhelir yfory (dydd Iau 22 Mai), lle disgwylir clywed gan ysgolion a phenaethiaid am y materion ehangach y maent yn eu hwynebu y tu hwnt i drais.
Mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud “hoffwn ddweud yn glir nad yr uwchgynhadledd yw'r unig beth a wnawn”:
Roeddem eisoes yn gweithio ar becyn cymorth ymddygiad i gefnogi penaethiaid ac uwch arweinwyr mewn ysgolion i wneud penderfyniadau gwybodus am bolisïau ymddygiad, a hefyd i helpu gyda strategaethau i atal problemau ymddygiad ac i ymdrin â materion pan fyddant yn codi ac atal problemau rhag gwaethygu.
Ychwanegodd Lynne Neagle AS yn y ddadl yn y Senedd y mis diwethaf fod Llywodraeth Cymru yn:
- buddsoddi dros £13 miliwn yn flynyddol yn y “dull ysgol gyfan” ar gyfer iechyd meddwl, gyda dros £2 filiwn ar gyfer cwnsela mewn ysgolion;
- cefnogi lles staff, gan weithio gyda Cymorth Addysg i ddarparu cwnsela a gwasanaethau eraill sydd eu hangen arnynt;
- ymgorffori dull ysgol sy'n canolbwyntio ar y gymuned, gan gyhoeddi canllawiau ar weithio amlasiantaethol;
- ariannu swyddogion ymgysylltu teuluol mewn ysgolion ledled Cymru i helpu gyda materion fel absenoldeb disgyblion;
- cyhoeddi ymchwil a gomisiynwyd gan Brifysgol Bangor i ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth (a ddisgwylir yn ddiweddarach y mis hwn).
Rhoddodd Llywodraeth Cymru gyfrifoldeb hefyd i Estyn gynnal adolygiadau o ymddygiad mewn ysgolion uwchradd a cholegau, a gyhoeddwyd y mis hwn. Mae yna hefyd ymgynghoriad ar ganllawiau gwrth-fwlio diwygiedig ar hyn o bryd.
Beth oedd canfyddiadau Estyn?
Mae adroddiad Estyn ar ymddygiad mewn ysgolion uwchradd (Mai 2025) yn nodi bod arweinwyr a staff ysgolion wedi nodi dirywiad yn ymddygiad rhai o'u disgyblion ers y pandemig. Fodd bynnag, mae hefyd yn dweud ei bod yn parhau i fod yn anodd deall maint llawn y broblem gan nad oes system genedlaethol i gofnodi achosion o ymddygiad gwael mewn ysgolion.
Gwnaeth Estyn argymhellion i ysgolion, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru, sydd wedi derbyn yr argymhelliad i gynnal ymgyrch genedlaethol i hyrwyddo ac egluro pwysigrwydd ymddygiad da gyda rhieni/gofalwyr a disgyblion.
Cafodd ymddygiad disgyblion sylw hefyd yn adroddiad blynyddol diweddaraf Prif Arolygydd Estyn. Dywedodd ei fod yn un o'r "heriau yn y system sy'n atal cynnydd" a dywedodd wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ym mis Mawrth:
“the wave of anecdote I hear from everyone—from headteachers to teachers to caretakers to support staff—is that behaviour, particularly out of the classroom, has worsened”.
Materion cysylltiedig
Gwaharddiadau
Y cyfraddau diweddaraf a gyhoeddwyd (blwyddyn academaidd 2022/23) o ran gwahardd disgyblion o'r ysgol yw'r uchaf yn y cyfnod casglu data ers 2011/12. Mae tri chategori o waharddiadau yn ôl hyd a math y gwaharddiad: gwaharddiadau tymor penodol o 5 diwrnod neu lai, gwaharddiadau tymor penodol dros 5 diwrnod, a gwaharddiadau parhaol. Mae'r tabl isod yn cymharu'r sefyllfa ddiweddaraf â'r flwyddyn lawn ddiwethaf cyn y pandemig.
Tabl 1: Cyfraddau gwahardd mewn ysgolion cynradd ac uwchradd
Cyfradd o waharddiadau fesul 1,000 o ddisgyblion | ||||||
Gwaharddiadau tymor penodol (5 diwrnod neu lai) |
Gwaharddiadau tymor penodol (dros 5 diwrnod) |
Parhaol |
||||
Ysgolion cynradd | Ysgolion uwchradd | Ysgolion cynradd | Ysgolion uwchradd | Ysgolion cynradd | Ysgolion uwchradd | |
2018/19 | 12.4 | 75 | 0.5 | 3.3 | 0.1 | 1.3 |
2022/23 | 13.3 | 131.2 | 0.4 | 5.2 | 0.1 | 1.8 |
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Gwaharddiadau parhaol a chyfnod penodol o ysgolion: Medi 2022 i Awst 2023, Hydref 2024, Tabl 1
Presenoldeb
Er nad yw'n gysylltiedig yn uniongyrchol ag ymddygiad, mae cyfraddau presenoldeb yn yr ysgol yn arwain at bryderon ynghylch lefelau ymgysylltu disgyblion. Mae’r data diweddaraf fesul pythefnos a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru (28 Chwefror) yn dangos bod presenoldeb mewn ysgolion cynradd yn 92.8% a bod presenoldeb mewn ysgolion uwchradd yn 89.0% ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25. Mae lefelau wedi codi o'u pwynt isaf yn 2022/23 ond maent yn parhau i fod yn is na’r lefelau cyn y pandemig, sef 94.7% a 93.9% yn y drefn honno (2018/19).
Rydym wedi ysgrifennu’n flaenorol am y pryderon penodol ynghylch lefelau absenoldeb parhaus (a ddiffinnir fel disgybl sy’n colli mwy na 10% o’r ysgol) a phresenoldeb disgyblion difreintiedig, fel y’u mesurir gan y rhai sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim.
Ffonau symudol
Dangosodd adroddiad ymchwil gan Lywodraeth yr Alban yn 2023 ar ymddygiad disgyblion mai’r defnydd camdriniol o ffonau symudol a thechnolegau digidol yw un o'r ymddygiadau aflonyddgar difrifol yr oedd staff ysgolion uwchradd yn ei weld neu’n ei brofi amlaf.
Yn ddiweddar, trafododd y Senedd ddeiseb yn galw am wahardd ffonau clyfar ym mhob ysgol ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol. Er nad yw o blaid gwaharddiad llwyr, derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhelliad gan Bwyllgor Deisebau'r Senedd i ddatblygu fframwaith polisi cenedlaethol a chanllawiau cysylltiedig y gall pob ysgol yng Nghymru eu defnyddio i ddiwygio neu fireinio eu polisïau presennol ar gyfyngu ar y defnydd o ffonau a dyfeisiau clyfar eraill mewn ysgolion.
Llesiant
Yn ogystal â'r sylw cynyddol i ymddygiad disgyblion, mae ffocws hefyd ar eu llesiant. Gall hyn weithiau fod yn sail i rai problemau ymddygiad a gall godi pan fydd ymddygiad eraill yn cael effaith negyddol ar ddisgyblion. Yn 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fframwaith statudol ar ymgorffori dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol. Mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu £13.6 miliwn yn flynyddol i gefnogi’r gwaith o weithredu dull ysgol gyfan.
Y cyd-destun ehangach
Blaenoriaethau’r Ysgrifennydd Cabinet yw gwella cyrhaeddiad a chynyddu presenoldeb. Ystyrir bod mynd i'r afael ag effaith aflonyddgar a dinistriol ymddygiad gwael disgyblion yn elfen hollbwysig o’r agenda hon.
Yn ogystal ag effeithio'n uniongyrchol ar lesiant staff ysgolion (ffactor allweddol yn y tueddiadau heriol o ran recriwtio a chadw athrawon) a llesiant disgyblion, mae’n cael effaith sylweddol ar y gallu i gyflawni amcan Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru i “Barhau â’n rhaglen hirdymor o ddiwygio addysg, a sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod safonau’n codi”.
Erthygl gan Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru